Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
34 erthygl ar y dudalen hon
HE1VNT CHINA.
HE1VNT CHINA. ARWYDDOï TELERAU. MIL 0 FOXERIAID WEDI EU LLADD. Adroddir o Pekin y cyfarwyddwyd y priI gemidon Chineaidd trwy'r telegraph nos Wener i anvyddo YT Yserif Heddwch, ac yr ufuddasant i'r gorchymynian nos Sadwrn. Ni dderbyniwyd dim. i gadarnhau hyn gan y Gweinidogion. Dy- wed telegram o Shanghai, ddydd Sul, fod Li Hang Chang wedi gwella yn iawn. Yn ol yr un genadwri, gwnaeth y Cynghreiriaid drefn- iaiau i fyned i mewn i Shansi. Adrftddir fod y ILvrsiaid wedi myned i'r Dwyrain o Shan-Hai- Kwan. gan adael ychydig o filwyr yn Pekin a Taku. Dyweuir fod 1000 o'r Boxeriaid wedi en gan nifer o filwyr Ffrengig mewn brwydr i'r garllewia o Paoting-Fu.
RHYFEL Y TRANSVAAL.
RHYFEL Y TRANSVAAL. AMRYW FAN FRWYDRAU. DE WET A'R CENADON HEDDWCH. Edrvid Arglwydd Kitchener y darfu i 1400 o Foeriaid groeai y llinell rhwng Elandsfontein Junction a Pretoria ac ymosod'asant ar orsafoedd Zuurfontein a Kaalfontein. Gyrywd hwy i'r dwyrain, ac ymlidiwyd hwy gan Frigad o Wyr Traed y Cadfr-dog Knox o Elandsfontein. Ym- osodwyd ar Zeerust. yn N gorllewin y Trans- vaal, ar y 7fed, ond gyrwyd y Boers i ffwrdd. Cafodd y Cymol Gordon a Chyrnol Plumer fan fiwydrau i'r gogledd o Krugersdorp, a chafodd y Ca.dfridog Boyes ymgyrch lwyddiannus gyda rhai o'r Boers yn Senekal, yn Xhalaeth Afon Orange, yn mh, un y lladdwyd un commandant, ac wyth o'r Boers. Ychwanega Arglwydd Kitchener y cymerwyd tri o gynnrychiolwyr y Pwyllgor Heddwch yn garcharorion ger Lind- lev, ar y lOfed. Filangelhvyd un Prydeiniwr a saethwyd ef, ac hefyd fflangellwyd dau arall, trwy orehymyn De Wet. Dywed manylion diweddarach fod rhyw yoh- ydig gyda chant o ddynion, heb ynau mawrion, wedi curo 800 o'r Boers, gyda dau wn. ar ol ymladd am awr, yn Kaalfonte'n. Dy- •we-cHr fod rhai o'r Boers yn gwi-sgo khaki. Lladdwyd 18 o geffylaua mulod y Prydeini-iid, ond dim un dyn. Yn y diwedd, daeth tren arfog o Pretoria i gynnorthwyo'r Prycle;niaid. Yn Zurerfontein, hefyd, yr oedd y Boers, meddir, wedi ymwisgo (mewn khaki, telly, llwyddasant i dwyllo'r gwylwyr. Dvwtdir fod y Boers yn rhno mil. Cant o tanner oedd nifer y gwarchodlxi. I Yn Beaufort West. yn Cape Colony, daliwyd swyddog a phedwar o filwy gan chweeit ugain ¡ o Foers, ond rhvddhtwya hwy yn n'hen 24 o onau. Bu ymladd ger Darkly East. ddydd Mawrth, rhwng Roeriaid o dan Myberg a nifer o Bry- deiniaid. Gyrwyd y Boers ar ffo, a dilynwyd hwy gan wyr meirch. Deattir fod y cynllun i sefydlu corph 'o blis- myn, a elwid "Plismyn Baden-Powell," wedi ei roi heibio. ac y bwriedir gofyn am rag-or o "wyr meirch Ymherodrol" yn eu lie. Nos Lan cyn y diweddaf, medd hysbysrwydd gaed ddoe, Hwyddodd r Boers i feddiannu Bel- fast, ac vmostyngodd y gwarchodlu. TRoedd mab y Commandant Viljoen yn mhlith y lladd- edigion. GALW MILISIA CAERNARFON ALLAN. Bore dvoo Sul. derbyniwyd brysneges o I Swyddfa Rhyf-e" yn Barracks, Caernarfon, i ofyn os gellid cael Milisia Caernarfon i fyned allan i Ddeheubarth Affrica, os gelwid arnynt. Aeth yr lagapien Barr air unwaith i wel'edi y Mil. Ev- ans, Broom. Hall, a deallwn ei fod ef wedi dyweyd y byddent yn barod os gelwid arnynt. Yn ystod y Sul. ac ar hyd ddydd LIun, bu y swyddogkwi yn y Barracks yn brysur barattod y papyrau angenrheidicl er galw y cartreflu i fyny heb goll amser mor gynted y derbynir archeb y Llyw- odraeth Creodd y newydd p-vftro dlirfawr yn y dref a'r amgylchooad, a dywedir c-s anfonir y cartreflu I allan. y bydd mwy o vrvr wedi eu hanfon « Mountain-street. Caernarfon, i'r rhyfel, nag o un ystryd arall yn y deynnas ar gyfartaledd ei. phoblogaeth. "W' r
STREIC YN Y DE.I
STREIC YN Y DE. I Ddydd Sadwrn, cynnaliwyd cyfarfod mawr o tua 3000 o fwnwyr pyllau glo Dyffryn Clydach, Cwm Rhondda, sydd heb wethio er dydd Mawrth diweddaf, a dywedwyd wrth y dynion, trwy Mabon, A.S., y buasai y rheolwyr yn y dyfodol yn talu iawn i'r gweithwyr am unrhyw golled mewn cyflog trwy fod rhy fychan o goed at eu gwasanaeth yn y pyllau. ond gwrthodasant roddi caniatad i chwilio y lleoedS ansicr honedig cyn i'r dynion ddechreu gweithio. Yna, pender- fynodd cynnrychiolwyr y dynion ofyn am ym- weled a'r cyfarwyddwyr.
MR m BURNS A'R RYFEL.
MR m BURNS A'R RYFEL. CYFARFOD BRWDFRYDIG. Mr John Burns eedd y prif siaraidwr mewn cyfarfod mawr a gynnaliwyd nos Sul, yn Battersea, Llundain. i dystio yn erbyn y llosgi ffermydd a'r rhyfei drygionus yn erbyn gwrag- edd a. phlant. a ddygir yn mlaen yn Neuheudiiv Affrica yn awr. Dvwedodd Mr Burns fod yn bresennol. nid unig vn Neheudir Affrica, ond yn Ngcrllewinbarth Affrcia a China, y creulon- deb mwyaf yn myn'd yn mlaen. yr hyna. barai iddo dros T- wlad a'r fyddin. Os rhai y rhyfel yn Ne Affrig, y huasai yn costio 40.000 a hnvy-dau, a 300,000,000p. ac yn sicv buasai yn peri i Brydain golli Deheiudir Affrica. YD v diVeacL Cariwyd gyda brwdfrydedd ben- cferfyniad yn protesio yn erbyn y rhyfel, ac yn galw ar cynnrg ammodau hedd- weh T gallai y Boeriaid yn anrhydeddus eu der- bvn, vn cynnwys annibyniaeth ydwJli Werin- iaeth.
_...-r.,. HEl YNT Y PENRHYN.
_r. HEl YNT Y PENRHYN. DIM (»WA:re. YN Y BORTHFA. Dydd Pidwr. r.rtci.liwyd nifer o lwythwyr al weitbiiwit Vll y sxirthfa yn MangorOiherwydd diffvc rwaith. Tvbir y bydd ereill yn myned i ffwrdd yr i b'os nesaf. Dioddofa — dosparfeb yn dT^'TTi attal pveithio yn y ehwarel. Bu Mr 1 ■ r ymweliad a'r chwarel yr wythnos .r a. dywsdir fod "Detective" Ellis a Mr 1 it Roberts wedi dychwel, ond nid y-w Mr yn yr u_dal hyd y gwyddis. Y niae'r hoii .J^yddi^on ereill, gydag eithriad neu ddaT, aurcl, Ni wiiaeth neb gais am waith ddydd Iaa—V claf i'r ehwarel fod yn at-ored. MaiÚ dynioj- sydd yn gweithio yn y De vn dod rnlaen yn dda, ac y mae lie i yn Rhayader.. M^e pwvllsor y gronfa yn trefnu i tpe-l am gymhorth, a threfnir hvnt v trail'craa Mr J. J. Griffith yn y Gog- ledd. a Mr i' W. Lloyd yn y De. Gwelir man- ylion mown calotn arall.
[No title]
Llwvctdwrd j ifaal o gasgeni o olew llin. "6 Ct ?a«*rcaai o :wirod. 200 ,oboteli gwirod a swin. ac amrrw gratia*' a phaciau. o'r "Prim- rose TTiQ." r H:J.n¡¡;¡>;n3ckdd:er Caeraybi. Bu suddedy'dd o Lfrpwl yn chwilirv sa-fie'r Hong- Mae meire rji-vr o ddwfr, ac wedi ei. ni- ■weiflTo'n arw. Credir t ^ellir ca-el rhagor o'r ljwvth -par di' w'n jywydd.
Bwrdd Dwfr Cowlyd.ij
Bwrdd Dwfr Cowlyd. ij DYDD GWENER.—Y Cadeirydd (Maer Conwy) yn llywyddu.—Adrodiles y Clerc fod yn awr yn agos i 8000p o ddiffyg yn y banc, ond di.-gwylid lOOOp yn fuan oddiwrth blwyf Llys- faen. fel y gallai y bwrdd obeithio dechreu y tiwyadyn yn E brill gyda diffyg o 7000p, o'i gyferbynu a diffyg o yn agos i 32,000p yn nech- reu y tlwydclyn arianol bresennol. Yr oedd in- cwm y bwidd tua 5000p. a'r treulion yn cyn- nwys y sinking fund 3000p, fel y gallent mewn tair neu bedair blynedd fod yn rhydd oddiwrth eu dyryswch.
Cynghor Dosparth Gwyrfai.
Cynghor Dosparth Gwyrfai. Y RHEILFFYRDD A'R TRYDAN. DYDD SADWRN.—Mr J. M. Williams yn llywyddu. Y FREOH WEN.—Derbyniwyd bil o 135p dddiwrth Gynghor Trefol Caernarfon am gad- wraeth, meiJdyginiaeth, a nyrsio tri pherson a anfonw o Lanberis i'r yspytty hsintus, a dar- llenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth LeoJ. yn dvweyd ei bod yn ddyledswydd ar y gwarcheidwaid i roddi cymhorth i bersnri.in, yn diodidef dan glefydau heintus, a os yn angen- rheidiol, roddi aroheb am d'derbyniad y claf i'r yspytty. Nid oedd hyn, o angenrheidrydd, yn dibynu ar fod y claf yn derbyn cymhorth plwyf- ol ar y pryd efallai y bvddiai y claf yn analluog i geisio, ar ei gost ei hiin. y cymhorth meddygol angenrheidiol, y nyrsio a'r lie cyfaddas i drin yr "afiechyd yn briodol.—Credai v pwyllgor fod y personau aanfonwyd i'r yspytty yn angenus yn ngoleu y cyfarwyddyd, a phenderfynwyd fed bil i gael ei drosglwyddo i'r gwarcheidwaid, gan fod y costau yn syrthio ar yr undeb yn grffredinol. YR YSPYTTY.—Darllenwyd llythyr .oddi- wrth Captain Stewart, yn dyweyd fod Mr As- sheton-Smith yn barod i werthu rhydd-ddaliad y ddwy acer a chwarter angenrheidiol yn nglyn a Yspytty Glan'rafon 360p.—Derbyniwyd y gnnyg. YSTAFELtL' CWAKFOD. Penderfynwyd ar un o'r vstafelloedd yn hen Yspytty Caernar- fon i gyfarfod o hyn allan, ac fod ycynghor i dalu 20p y flwyddyn am hyny, gan y byddai yr ystafell yn bwrpasol i gynna] cyfarfodydd pwyllgorau vr undeb ynddi. RHEILFFYRDD A TBRYDAN. — Bu y pwyllgor yn ystyried y mater rhyiLgddynt hwy a Mr Peterson, yn nglyn a. chvflenwi Llanfairis- gaer a d'wfr o Gwmdwythwch, gwneyd' rheil- ffyrdd ysgeifn i Ebenezer a Dinas Dinlle, a chyf- lenwi yr ardal a. goleu trydanol. Anfonwyd llythyr gan y pwyllgor at Mr Peterson i ddy- weld fod ei ddistawrwydd o berthynas i'r ma- tenon yma yn peri anesmwythder yn meddyliau y cynghorwyr i'r fath raddau fel y byddai iddynt wrthwynebu y Provisional Order, os na dderbynid gwvbodaeth foddhaol cyn y Sadwrn. Mewn atebiad ihyn, derbyni*fvjd llythyr maith oddiwrth Mr Peterson, yn dyweyd ei fod wedi deall ar y fynyd ddiweddaf nasgallai Mr Asshe- ton-Smith roddi hawl iddo yn nwfr Cwmdwyth- wch. gan ei fod wedi trosglwyddo yr hawl i Gwmni Rheilffordd y Wyddfa. Gwnai hyn hi yn anmhosibl i ddwyn v mater gerbron y Senedd eleni; ond gan na thybiai fod rhwystrau mawr ar y ffordd, credlai y gallai ddwyn y mater ger- bron y Senedd yn Nhachwedd, y flwyddyn bre- sennol Nid oedd am foment yn meddwl gadael i'r cyn llun syrthio drwodd. Dywedai ei iod wedi'ceisio am hawl Toleuo yr ardal a thrydan, ond nid oedd yn bosibl iddo, nes cael yr yma. wneyd oais am hawl i jario yn mlaen y rheilffordd i Ddinas Dinlle. Byddai iddo fjnea yn mlaen gyda'r gwaith yma cyn gynted ag y caffai yr hawl i oleuoa thuydan, ond yr oedd Cynghor Trefol Caernarfon wedi codi llawer o rwystrau trwy !benderfynu ei wrthw/neba. Ni chredai y cymerid llawer o sylw o'c gwrth- wynebiad gan Fwrdd Masnach. Os gwrthwvn- ebai Cynehor Gwyrfai hefyd, byddai notynol iddo ef (Mr Peterson) ail-ystyr:ed ei sefyTfa. Gyda golwg ar y rheilffordd i Ebenezsr, JT oedd efe wi gadael y mater yn nwy'aw Mr ton-Smith a Chapten Stewart v i.enderfyuu pa ffordd y byddai i'r rheilffordd re -I.e. — Wedi ychydig siarad, £ enderfynodd y cyngho: bedio gwrthwynebu cais Mr Peterson (gan eu bf-d n credu fod yn ei fwriad fyned yn mlaen gyda'r gwaith dwfr a'r rheilffordd). ar yr ammod ei fod ef yn anfon iddynt ddvdi Llvn lytovr yn c'y- weyd ei fod yn cytuno i csod adrar yo. yr order y bvddai- ei hawl yn myned yn ddirym oni fydd- ai iddo ddechreu t-i- y gwaiih yn mhen blynedd.
Cynghor Gwledig DolgeMati,
Cynghor Gwledig DolgeMati, DYDD SADWRN.—O dan lywyddiaeth Mr John Evans, Abermaw. DWFR I LLWYNGWRIL.—Hysbyswvd fod y pwyllgor yn cynnyg rhoddi y cynllun i gael dwfr i Lwyngwril o'r neilldu. Yr oedd y pwyllgor wedi bod yn ngolwg y Wainaer ac yr oedd y dadan sod dydd yn rhoddi adroddiad lied ffafriol am v dwfr hwn.—Dywedai Dr Jones fod vr adroddiad yn llawer mwy ffafriol nag yr oedd J ef yn ei ddisgwyl. Credai Mr Cadwaladr Ro- berts ei bod yn hen bryd i symud, a chael y cyn- llun yn ddioed, fel y gelid cael dwfr i'r lie erbyn vr haf nesaf.—Pasiwyd i ofyn i'r Mri Gilliart i I baratoi cynllun, a hefyd fod adroddiad llawnach i'w ga.el gan v dadansoddydd. DWFR BONTDDU. — Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Wright, arolvgydd gwaith y Bont- ddu yn dvweyd fod y lie wedi ei glirio, fel yr oedd yn ddigon hawdd myn d 1 r ffynnon. Dy- wedai rhai o'r aelodau fod yn anmhriodol myned i'r ffynnon pan y mae y dwfr yn uchel yn yr afon. I —Pasiwyd i anfon i alw amynt wneyd lie 1 fyned i'r ffynnon bob adeg. DWFR Y DYFFRYN.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Gynghor Plwyf Llanenddwyn, yn dy- weyd eu bod wedi cychwyn gyda chynllun newydd yno hefyd i gael dwfr i'r Dyffryn, a bod cyfarfod'i gael ei alw o'r plwyfolion i ystyried y mater. ESGEIRIAU.—Hysbyswyd fod y ty uchod yn cael ei ail-adeiladu. a phasiwyd fod y wys yn erbvn Mr C. E. J. Owen, y perchenog, i'w thynu yn ol, ar daliad y costau.
Liys Sirol Banqor.
Liys Sirol Banqor. GWYSIO'R PARCH J. WILLIAMS, (BRYSIENCYN.) DDYDD LLUN.—Gerbron ei Anrhydedd Syr Horatio Llovd.. ARIAN BENTHYG. —Gwrondawyd yr aehos gohiriedig yn mha un yr hawliai Mr John Evans, Dafam Newydd, ger Bangor, y swm o 42p 5s oddiar Mary Helen Jones, gweddw y diweddar William Jones, morwr, i'r hwn yr honai yr achwynydd v rhoddodd efe fenthvg yr arian ar sicrwVdd polisi yswiriol, ond ni throsglwydd- wvd v polisi iddo ar v pryd, a. bu v morwr farw gan adael ei boll eiddo i'r weddw ieuanc.—Ym- ddano-osai Mr Evans Jones dros yr achwynydd, a Mr H. Llovd Carter dros y ddiffynvddes, yr hon a ddvwedai nad oedd gan yr achwynydd I' brawf ei fod wedi rhoddi benthyg yr arian.- Gohiriodd y Barnwr ei ddvfarniad. CAIS AM RYDDHAD.—Gwnaed cais am rvddhad o fethdaliad gan Robert B. Clark, a fu vn cadw v Foryd Hotel, hyd ei fethdaliad yn Awst, 1897.—Gwrthwynebid gan y Derbynydd Swyddogol. yr hwn a ddywedai nad oedd y dy- ledwr wedi talu 10s yn y bunt o'i ddyledion. nad oedd wedi cadw llyfrau priodol, ei fod wedi myned yn mlaen gyda'i fusnes pan y gwyddai ei' fod yn fethdalwr, Dywedai yr hawlydd ei fod wedi cael cam ar law y benthyewyr arian. a'i fod wedi gorfod talu cannoedd o bunnau o ddy- ledion ei fam.—Rhoddwyd dvfarniad o blaid ei rvddhau yn mhen dwy flynedd. GWYSIO Y PARCH JOHN WILLIAMS (BRYNSIENCYN).—Gwysid y Parch John Williams, Lerpwl, gan Miss Henrietta Wynne Jones i roddi i fyny dy yn Mount-pleasant. Brvnsiencvn, yr hwn a honai oedd yn eiddo iddi hi.—Ymddangosai Mr S. R. Dew dros yr achwynyddes, a Mr Huw Rowland dros y di- ffvnydd, tra y gwyliai Mr R. O. Roberts yr achos dros denant v drws nesaf. -Dvwedodd^ Mr Dew fod y brydles wedi ei rhoddi yn 1846 i un John Thomas, ar fywydau tri o'i blant, ac yr oedd vr ieuengaf, v prvd hwnw, yn 10 mlwydd ned. 'Aeth y tri phlentyn i'r America, a. byddai vr ieuengaf ohonynt, os yn fyw. yn awr yn 64 mlwvdd oed, ond gan nas gellid cael prawf eu bod Vn fvw. hawliai vr achwynyddes yr eiddo vn ol. Yr cedd y diffynydd wedi talu rhent y brydles mor ddiweddar ag 1893, ac yr oedd wedi prynu v brydles qèm v North and South Wales Bank-Yr'oedd'Mr'R. 0. Roberts yn barod i roddi tvstiolaeth dros v diffynydd. ond trefnwycl pi fod i wneyd ymchwiliad gyda chyfreithwyr yn yr Unol Daleithau. a gohiriwyd yr acbos.
■Ynadlys Blaenau Ffestiniog.
Ynadlys Blaenau Ffestiniog. DYDD IAU—Gerbron J. Parry Jones, Ysw., ac vnadon ereill. CYDYMDEIMLO.—Ar gynnvgiad y Cadeir- dd. cydymdeimlwyd a theulu y C diwedddar Mr j Jones, Ynysfor. "It r_ MEDDW AC AFREOLUS.—Cospwyd y rhai j a. ganlyn am y trosedd uchod :—Robert Henry Jones, 28, Park-square, wythnos o garchar; John Davies, Cwmorthin-road Tanygrisiau, 2s 6c, a 10s o gostau; Thomas Williams, Owm- orthin-road, Tanygrisiau, Is, a 10s o gostau; Hugh Morris Hughes. Summerhill-terrace, 5s, ac 11s o gostau; Robert Roberts, Talywaenydd, 2s 6c, a.c lis o gostau. RHEGI.—Cyhuddwyd John Smith Jones, 1, Trefeini-terra.ce, o'r trosedd uchod.—Dirwy o Is ac lis o gostau. ADDYSG EU PLANT.—Gwysid Robert Stoddart, Church-street, am esgeuluso addysg ei eneth. Dirwy o 5s.—Dirwywyd Samuel Ed- wards, crydd, Glynllifon-street, a Thomas Hughes, crydd, 17, Park-square, i 5s vr un. TADOG1AD.—Margaret Parry, Ty'rmynydd, Maentwrog, a gafodd archeb o 2s vr wythnos vn erbyn Edward Jones. Tyllwyd-terrace, Traws- fynydd.—Mr J. E. Humphreys dros yr hawl- yddes, a Mr R. 0. Davies dros y diffynydd. CYFNEWIDIADAU MEWN GWESTY — Ar gais Mr R. L. Davies cvdsyniodd y Fainc i ganiatau gwneyd y cvfnewidiadau ddangosid ar y plan yn y Cross Foxes Hotel, Trawsfynycld.
Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.
Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon. DYDD LLUN. — Gerbron W. J. Williams, Ysw. (maer), ac ynadon ereill. MEDDWDOD.—Dirwywyd Laura Salisbury, Henwaliai, i 2s 6c a'r costau am feddwdod, a William Pritchard. Haijod Gomnwy, 10s a'r costau; Owen Thomas, Allt Goch, Cwmyglo i costauac Edward J. Thomas, Caernar- fon, i 2s costau am feddwdod.—Dirwy- wyd Hannah Dart, Brynsiencyn, i gorori a'r costau am fodlyn feddw mewn ty tafarn. CREULONDEB HONEDIG. — Cyhuddwyd Hugh Jones, Waenfawr, o fod yn greulawn tu- agat gaseg yn Nghaernarfon. — Tystiodd yr heddgeidwad ddarfod iddo weled y diffynydd vn y Maes yn gweithio y gaseg tra. yr oedd hi yn gloff iawn.—Rhoddwyd tystiolaeth bellach gan yr Arolygydd' Kennedy, a dywedodd fod y gaseg yn hen, choes ol yn chwyddedig iawn.—-Dy- wedodd y diffynydd na fu y gaseg erioed yn gloff, ond yr oedd efe wedi ei chacfw yn yr ystabl oddiar y gwnaed cwynion. Tystiodd John Oldfield fod y gaseg wedi bod yn eiddo idd'o ef wyth mis yn ol. Gwelodd hi hythef- nos yn ol, ac nid oedd yn gloff y pryd hyny.— Taflwyd yr achos allan ar daliad v costau. YMOSOD AR iHEDiDGEIDWAID. — Cv- huddwyd Hugh Williams, jockey, Caernarfon, o fod yn feddw ia.c afreolus, ac o ymosod ar yr heddgeidwaid. Tystiodd yr heddgeidwad ddarfod iddo weled y diffynydd yn myned i lawr tuag ardal Balaclava yn feddw iawn. Gan fod y dyn mor feddfw a'r lie mor beryglus, rhwys'tfrodd iT ef i 'fyn'd y ffordd yno, a throdd ynta.u at y swyddog gan ei gicio a'i frathu a. rhwygo ei ddillad. Gorfu cael cymhorth swyddogion ereill i gvmeryd y diffynydd i'r ddalfa.—Dywedodd y diffynydd ei fod yn feddw iawn, ondl ni wyddai beth oedd wedi digwydd.—Yr oedd y diffynydd wedi ei gospi 29 o weithiau yn flaenorol. a dirwywyd ef yn awr i 15s a'r costau, heblaw talu chwe' swllt am v niwed a wnaeth i lodrau'r hedd- geidwad.
! Ynadlys Colwyn Bay,
Ynadlys Colwyn Bay, DYDD SADWRN.—Gerbron H. Kneeshaw, Ysw., ac vnadon ereill. ESGEULUSO'R YrSG0L.—Mewn aehos yn mha un y cyhuddai Bwrdd Ysgol Colwyn Bay wraig, o'r enw Dossett, o esgeuluso anfon ei phlentyn yn gyson i'r ysgol, dywedwyd, er fod y bachgen yn 11 mlwydd oed, ac yn iach, nad oedd ond yn nosbarth y babanod. Cynghorwyd y swyddog presennoldeb gan y Fainc i ofyn yn y llvs nesaf am archeb i anfon y bachgen i'r hyffordd-long y "Clio." lYMOSODIADAU HONEDIG. — Cyhuddai i hen wr o'r enw Isaac Roberts, gweithiwr ar ) fferm, yn Llanelian. ddau ddyn ieuane, sef David Jones, Ty Ddol, a David Jones, Glyn, o ym- osod amo Taflwyd yr achos jillan yn erbyn David Jones, Ty Ddol, a dirwywyd y diffynydd arall i 10s a'r costau.—Cyhuddai Henry Frank- fort, Iuddew, a drigai yn Ngholwyn Bay, Ro- bert Roberts, barman, yn y Central Hotel, a Matthew Darlington, trwyddedwr yr un gwesty, o ymosod arno a'i guro ar Ragfyr 31ain. —Taflwyd yr achosion allan. NIWEIDIO COEDEN.—Cyhuddwyd John Wood, gweithiwr, gan Mr J. M. Porter, gor- ¡ uchwyliwr Cwmni Ystad Colwyn Bay, 01 niweidio coeden gelyn yn Nghoad Pwll y Crochan.—Dirwy 1p a'r costau, 2p 8s 6c i gyd. HEB OLEU.—Dirwywyd John Jones, Moor- lands, Colwyn Bay, i 2s 6c a'r costau am yru cerbyd heb oleu ar y llain cvfisol.
Ynadlys Dolgellau.¡
Ynadlys Dolgellau. DYDD MAWRTH.—Gerbron y Parch E. T. Watts ac ereill. MEDDWDOD.—Dirwywyd Richard Ellis, William Ellis. a John Richards i 5s yr un a'r costau am feddwdod. t IAITH ANWEDDUS.—Dirwywyd W. Evan; Owen i lis 6c yn cynnwys y costau am arfer iaith anweddus. AMRYWION.—Rhwymwyd tri brawd, sef I William, Evan, ac Isaac Jones i gadw yr heddwch am chwe' mis. Yr oeddynt wedi bod yn ymladd gilydd y Nadolig. Bu raid i'r tri dalu 8s 6c o gostau bob un.—Dirwywyd J. Morgan Jones, Rnydymain, i 10s a'r costau am fyned i Ie na, ddylasai i hela.—Rhwymwyd Richard Ellis i gadw yr heddwch tuagat Thomas Rowlands am chwe' mis o amser. GWENAN VILLA.— Gwnaeth Mr J. E. Fox gais am drwvdded i'r lie uchod o dan adran 14 o'r Ale House Act. 1828. Dywedai ei fod wedi rhoddi rhybuddion yn ol gofynion y ddeddf. Er pan y gwnaeth gais o'r blaen yr oedd wedi gwario llawer ar y lie, ac yr oedd y prif-gwnstabl wedi ei foddhau yn y lie.—Ceisiodd Mr E. W. Evans am i'r achos gael ei ohirio fel y gallo trigolion yr ardal ddod i'r llys i roddi tystiolaeth.—Cania- tawyd y drwvdded yn unfrvdol gan y Fainc. I
Ynadlys Porthmadog. (
Ynadlys Porthmadog. DYDD GWENER. — Gerbron Jonathan I Davies, Ysw., ac ynadon ereill. j MEDDW YNTE CYNHYRFUS ?—Yr Uwch- I arolygydd Jones a gyhuddai Charles Humphreys, neu Doctor Humphreys," o fod yn feddw ac afreolus yr 22ain o Ragfyr.—Amddiffynid gan Mr J. T. Roberts, Caernarfon.—Tystiai yr Hedd- was Jones fod y diffynydd yn feddw ac yn arfer iaith anweddus iawn. Wedi ateb i groesholiad, dywedodd nad oedd ef wedi taro y cyhuddedig. Yr oedd yn ddyn cynhyrfus dan ddylanwad diod ond yn garedig pan yn sobr.—George Jones, Garn, a. roddodd dystiolaeth gadarnhaol. Ni chyffyrddodd yr Heddwas a'r diffynydd o gwbl. —Tystiai Robert Jones, Cross Pipes, Garn, y bu Humphreys yn ei dy y noson hono, ond galwodd Mrs Humphreys i ofyn am y "Doctor" (Charles Humphreys) ddod allan yn fuan. ac a.eth allan. Dychwelodd yn ol, ond gwrthododd ef ei gyf- lenwi a diod. Yr oedd y dyn yn dra chyn- hyrfus.—Yn ateb i Mr Roberts: Nis gallai ef ddyweyd ei fod yn feddw, ond yr oedd yn dra chynhyrfus.—Mr Roberts, dros yr amddiffyniad, a honai nad oedd achos wedi ei ddangos. Cafodd y diffynydd yn ystod y dydd ei boeni yn fawr gan nifer o blant, a chan nad oedd yr Heddwas gartref, anfonodd at y Rhingyll Jones i'r Port am ddod yno i'w amddiffyn. Gan na welai ei fod yn dod, yr oedd vn naturiol iddo gynhyrfu a myn'd i holi yn nghylch y telegram, a dyma beth a wnai pan y cyfarfu heddwas y Garn.— Tystiai R. P. Williams, Cambrian-terrace, Garn, cynnorthwywr yn y Llythyrdy, y cofiai Hum- phreys yn dod i anfon telegram. Cyffrous iawn y gwelai ef y diffynydd. Nid ai ar ei lw a oedd yn feddw ai nad oedd.—Tystiai Thomas Wil- liams, ceidwad helwraieth yn y Wern,. y gwel- odd ef Humphreys chwarter wedi pump yn y Dolbenmaen Castle a'i fod yn berffaith sobr.— Tystiodd Charles Humphreys ei hun fod o 12 i 14 o blant, a rhai mwy, yn aflonyddu arno, a'i alw yntau wrth bob enw, "Cwac Doctor." &c. (chwerthin). Nis gwyddai paham. Cafodd lasiad o gwrw yn y Cross Pipes, ond yr un diferyn ar ol hyny hyd wyth o'r gloch, pan y gwelodd yr heddwas. Yr oedd yn gynhyrfus pan yr ai at y Llythyrdy. Yr oedd yn ffaith fod yr heddwas wedi ei daro, a bygythiai wneyd hvnv drachefn.—Dirwywyd ef i 10s a'r costau. MEDDW AC AFREOLUS.—Cyhuddid W. Jones, Criccieth, o fod yn feddw ac afreolus yr 21ain o Ragfyr. Gofynwyd pa'm na ddaethai i'r llvs diweddaf.—-Dywedai fod y tywydd yn fawr a'r ffordd yn bell (chwerthin).—Dirwy, 5s a'r costau. neu saith niwrnod o garchar. Rhoed amser i dalu. v
Ynadlys Rhuthyn.
Ynadlys Rhuthyn. DYDD LLUN.—Doeth achos gohiriedig taf- nrndy y RovilI Oak, LIanarmon. gerbr.m.— Yn y llvs trwyddedol. a gvnnvliwyd yn mis diweddaf: adnewyddwv3 trwvdded v b yn enw un Matthew Parrv. Ar y 15fed o Hvdref, trcs- glwvddwyd hi dros dymhor i John Bro-rks Ar y 29ain o Hydref. gwnaed .cais am ti glwvddo vn derfvnol i Brooks. Gwrthododd vr ynadon y cais, er fod Brooks wedi byw yn y rv am rai wythnosau. Yna. ar y 26ain o Dach- wedd, gwnMth Mr J. B. Marston, cyfreithiwr, '"f Wyddgrug, gais arall am awdurdod i werthu diod dros~dymhor, yr hyn a ganiatawyd. Yr oedd yr awdurdod hwn mewn 'grym hyd! y 24ain o Ragfyr; a'r diwrnod hwnw, ymddang- osodd Mr Marston eilwaith gerbron yr ynadon, gan ofyn y waith hon am drwydded lawn.—Y pryd hwn, codwyd cwestiwn gan Mr Lumley, —a fyddai yr ynadon yn gweithredu yn gyf- reitWawn wrth ganiatau trwydded i Brooks, a hwvthau, mewn llys .rheolaidd, wedi gwrthod gwneyd hyny yn flaenorol.—Daliai Mr Marston y gallent wneyd hyny, ond yr oedd gan yr yn- adon a'u clerc (Mr Edward Roberts) amheu- aeth .gref yn ngljylch y mater; ac er mwyn gwneyd ychwaneg o ymchwil iddo, gohiriwyd yr achos liyd ddydd Llun diweddaf.—Bu llawer o siarad arno y tro hwn, hefyd. Barnai y Clerc y gallai yr ynadon ail-wran&aw yr ,a.chos os dy- munent, ond nad oedd un gallu allai eu gorfodi i wneyd hyny.—Wedi llawer o ymddadleu, pen- derfynwyd: gwrandaw y cais, a. wnaed mewn dull ffumolgan Mr Marston.—Wedi ymneill- duo dros enyd, penderfynodd yr ynadon gania- tau y drwydded.
Ynadlys y Valley.
Ynadlys y Valley. DYDD LLUN. Gerbron y Parch John Richards, ac ynadon ereill. — Cyhuddid John Williams, Millbank, ThomaS 4J$nes, Porthdaf- arch-road, o Ia,drata casgen o Sf('Jftt, gwerth 14s, ar fwrdd y llestr "Irene." Erlynai Mr Fenna dros y cwmni. Taflwyd yr achos allan. — Ar gais Mr T. R. Evans, rhoed trwydded ystordy ffrwydron ar Fynydd "Caergybi i'r Mri Wild a'i Gwmni.—Cyhuddwyd hed Smith, Quay Cot- tage, ac Ann Jones, 22. Llewelyn-street, Aber- ffraw, og-aniatau i'w mulod grwydro. Taflwyd yr achosion allan gyda. rhybudd.—'Roedd aw- durdodau'r Cyllid wedi gwysio dyn am ladrata 12 pwys o dybaoo perthynol i'r Hong golledig, "Primrose Hill." Methodd y plismyn roi'r"wys iddo, gan ei fod wedi gadael yr ardal, ac nid awd yn mlaen gyda/r achos.
ABERMAW.
ABERMAW. Y COMIN.—Ddydd Gwener. ymddangosodd cyfreithiwT Mr Solomon Andrews (Mr Guthrie jones) o flaen y cynghor dinesig i geisio dyfod i ddealltwriaeth yn nglvn a'r comin Gofynodd Mr Jones i'r cynghor*a oedd ganddynt unrhyw gynnvgiad i'w roddi o flaen Mr Andrews, ac a oedd gan v cvnghor hawl i siarad dros y Com- moners. Atebodd y Clerc nad allai y cynghor yn bresennol gweithredu dros y Common- ers. ac, felly, nad allent gynnyg unrhyw delerau. —Dywedodd Mr Jones vn mhellach mai amcan Mr Andrews fyddai gwella y dref.—Y diwedd fu i'r aelodau addaw rhoddi y peth o flaen y Commoners, er mwyn cael gwybod a oeddynt yn barod i gynnyg unrhyw delerau, neu, os oedd- ynt, pa beth a. fyddent. Hefyd, fod croesaw i Mr Andrews i fod mewn gohebiaeth gyda'r cynghor.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. TAN.—Dydd Mercher, torodd tan allan yn y Belle Vue Hotel, a phan ddarganfuwyd ef, yr oedd wedi caeil gafael da. Deffrowyd staff yr hotel, ac mewn. ychydig fynydau, yr oedd y tan ddiffoddwyr yno. Ar ol awr o weithio caled diffoddwyd ef, ond nid heb ddinystrio y cynnwysiad gwerthfawr, a'r ystafell wely oreu, yn cyninwyst yr arian a'r d;a,rluniau. Bemir fod y golled yn gannoedd o bunnau.
BALA.
BALA. GWLEDD. — Nos Iau, gwahoddwyd holl swyddogion y G.W. Railway yn nosparth y Bala. i wledd a baratowyd iddynt yn Ngwesty y Plas Coch, drwy garedigrwydd Col. a Mrs Burton, Eryl Aran. Llywyddwyd gan Dr Williams, fel meddyg y staff, a chrynnrychiolid y rhoddwyr caredig gan y Cynghorwr Edward Jones, goruchwyliwr yr ystad. YR YSGOL GENEDLAETHOL. — Dydd Gwener, yn yr Ysgol Genedlaethol, yr oedd Christmas tree, o faintioli anghvffredin, yn llawn o anrhegion wedi ei darparu gan Mrs Dean, Fronfeuno, a chafodd pob plentyn sydd yn perthyn i'r ysgol anrheg. Rhoddwyd gwobrwyon i'r rhai goreu. am ysgrifenu traeth- odau, cyfieithii, etc. Rhoed te i'r plant gan Miss Jones, Frondderw, a threuliwyd g^veddill y dydd drwy gynnal cyfarfod adloniadol.
CORRIS.
CORRIS. MEWN wyth ar brawf allan o ddeg mae Olew Morris Evans, Ffestiniog, wedi llwyddo i we In y Darfodedigaeth," Tuberculosis" ar anifeil- iaid Telerau neiiUuol am ychwaneg o sr. brawfion.—Advfc. CYFARFOD YSGOLION.—Cynnaliwyd vr uchod, perthynol i M.C. y cylch, yn Rehobotii, ddydd Sul. Llywydd, Mr R. Owen. Holwydd- onvyd gan Mri Henry Jones (Llefeni), D. G. Davies, Esgairgeiliog, a'r Parch R. W. Jones, Towyn.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. RHODD.—Dydd Iau, yn y Neuadd Sirol, cyn- naliwyd cyfarfod i gyflwyno llestri arian, gwerth tua 140p, i Mr T. P. Jones-Parry, cyn-arolyg- vdd y North and South Wales Bank. Gwnaed Scyflwyniad gan Mr C. R. Williams, Dolmelyn- Ilvn. CYNGHOR DINESIG.—Nos Fawrth, dan lvwyddiaeth Mr E. Wynne Williams.—Daeth mater y bont dros yr Aran o flaen y cynghor unwaith eto. Dywedid nad oedd pawb o'r rhai oedd yn yr achos wedi datgan eu parodrwydd i wneyd y bont.—Pasiwyd fod yr arolygydd i baratoi plan, a bod perchenogion y tir o'r ochr ddwyreiniol yr afon i osod y ffvrdd, &c., mewn sefyllfa foddhaol.—Pasiwyd i dderbyn tender Mr John Williams am gario cerig o'r orsaf yn ol 8e y dunell.—Galwodd Mr Edward Williams sylw at y diffyg oedd yn y mynedfeydd i'r gorsafoedd. Yr oedd yno Ie difrifol noson yr Eisteddfod. Cyn- iiygiai eu bed yn anfon at y cwmni i ofyn iddynt ystyried pa beth ellid wneyd.—Ar gefnog- iad Mr John Edwards, pasiwyd yn unfrydol.— Galwodd Mr E. W. Evans sylw at sefyllfa resynus y Ddarllenfa.—Nodwyd pedwar o ber- sonau i dynu allan gynllun newydd i gario yn mlaen y ddarllenfa, a bod cyfarfod cyffredinol i'w alw o'r pwyllgor.
HARLECH.
HARLECH. COGYDDIAETH. — Trwy ymdrechion a threfniad Mrs R. T. Jones a Miss Griffith mae dosparth cogyddol i'w gynnal yma, Miss Winnie Ellis, chwaer y diweddar Mr T. E. Ellis, A.S., i fod vn athrawes. BWRDD YSGOL.—Nos Iau, pan y llywyddai Mjr E. Griffith, cydsyniwyd a chais y prifatnraw, a gwelliant a gymhellai yn ysgol y babanod.— Ar gynnygiad Mr Samuel Williams, a chefnog- iad Mr Richard Davies, pasiwyd vchwanegu Lladin ae algebra at lafur elfenol yr ysgol..— Dewiswyd Mrs Ellen Williams, Grogen-terrace, j i lanhau yr ysgol am 5p y flwyddyn.—Ar gyn- nygiad v Parch D. Davies pasiwyd fod cyflogau yr athrawon i'w talu yn flsol ac nid bojb chwarter blwyddyn vn y dyfodol.—Dewiswyd y cadeirydd a'r Parch 1). Davies yn ymwelwyr am y mis, a chyda y prifathraw i drefnu y gwobr- wyon, &c., am y presennoldeb goreu yn yr vsgolion. CYMDEITHAS Y GWEINYDDESAU. — Cynnaliwyd y cyfarfod blynvddiol yr wythnos ddiweddaf, dan lywyddiaeth y Parch D. C. Ed- wards, M.A., Hafodybryn. Caed manylicJp ,n yr ysgrifenyddes lafurus, Mrs Balwyn Lloyd. Y weddm mewn llaw oedd. 58p ar gyfer 68p dechreu y flwyddyn. Yr oedd y cvfraniadau yn 55p, neu fwy o lip na'r llynedd." Caed an- e.rchiadau dilynol gan Mrs Holland, Mr Thomas, T i'samau; a Dr R. T. Jones. Rhioddidl can- iRoliaeth mawr i jraith v Nurse Lewis. Swydd- ogion dyfodol: Llywyddess, Mrs iHolland; is- lvv.vddion, Mrs D. C. Edwards, a Mrs More; çsgrifenyddess. Mrs B. Lloyd; trysoryddion, Mjt D. A. Jones, a Miss C. Jones. Bontddu.
TOWYN.
TOWYN. ADDYSG.—Mae yr Eglwyswyr yn casglu arian at helaethu ae adgyweirio yr Ysgol Genedl- aethol yn y lie. YR HAF.—Mae'r hawl i berfformdo ar lan v :nos vn yr haf wedi ei roddi i Mr Frank Weir, un o'r cwmpeini fu ymai yr haf diweddaf. -VRLUNYDD.—Deallwn fod arlunydd ca.mpus (fr Piemne) yn yr ardal yn bresenn/ol, yn paentio feyddJ y gymydogaeth, ac yn eu hanfon i Lundain. CYNGHERDD.—Nos Wener, cynnaliwyd cyngherdd yn yr Armoury gan "F" Company Gwirfoddolwvr (South Wales Borders). LIvw- yddwyd gan Mr W. Rowland, Beacon View, vn absennoldeb Capten Wadsworth. Drefnewydd. Rhanwyd gwobrwyon i'r rhai buddugol yn ystod y flwyddyn am saethu. ac felly yn mlaen. Gwnaed yn hysbys fod y Gwirfoddolwyr wedi enill y Regimental Cup ddwywaith yn oiynol, ac ns v llwyddant i'w henill eto y deuai vn eiddo i'r dref. Gwnawd cyfeiriadau at Capten Kirkby, Llanfendigaid, yr hwn fu yn Neheudir Affrica, ag a anafwyd. a chydymdeimlwyd ag ef. Hefyd i longyfarch ei frawd, Lieut. Harold Kirkby, ar dderbyniad comsnisiwn yn y Fyddin.
Advertising
I. Competition is the life of trade, and adver- tising is tie motive power that keeps it going.
- Y BEL DROED. j
Y BEL DROED. j Wele ganlyniadau ymrysonau dydd Sadwrn ASSOCIATION. Croesoswallt, 2 Chirk, 1. Gwrecsam, 3; Buckley Victoria, 1. Rhyl, 3 Warrington, 1. Bangor, 4 "Colleges," 2. Carnarvon Celts, 3; Bangor Normal College, 1. Y.M.C.A. (Caernarfon), 7; Foundry (Caer-' narfon), 2. Portmadoc, 10; Llanberis,l. RUGBY. Abertawe, 1 cynnyg; Devonport, 1. Bristol, 0; Casnewydd, 0. Llanelli, 2 gael 1 cynnyg Aberafon, 7 pwynt. Caerdydd, 3 chael 6 cynnyg; Penarth, 1 cynnyg. Maesteg, 1 cynnyg; Neath, 1 cynnyg.
DRYLLIAD Y "PRIMROSE HILL."…
DRYLLIAD Y "PRIMROSE HILL." i CAEL RHAGOR 0 GYRPH. Cynnaliodd Dr Clay, dirprwy-grwner sir Fon, drengholiad ddydd Sadwrn, yn y Llys, ar gyrph dau dybid oeddynt yn perthyn i griw y llong "Primrose Hill." Apwyntiwyd Mr Bauch, Church-terrace, yn flaenor y rheithwyr. Dan- gosai'^dystiolaeth y caed hyd i'r cyrph wrth ymyl y long ddrylliedig foreu Gwener. Yr oeddynt wedi eu baeddu gymaint fel nas gellid eu hadnabod, ond tybid mai dau o'r prentisiaid oeddynt.—Daethpwyd a rheithfarn o Gafwyd wedi boddi." Mewn cyfarfod o'r bwrdd claddu, ddydd Mercher, penderfynwyd yn unfryd ddiolch i Mr John N. Thomas, Trefignath, a Mr Parry, Carreg Fawr, am y dull y darfu iddynt fel over- seers gario trefniadau claddu'r criw allan. Cynnaliwyd cyfarfod o gefnogwyr symudiad i gael careg goffa i'r rhai foddwyd, yn y Neuadd Drefol, nos Sadwrn, o dan lywyddiaeth Mr John Nathaniel Thomas. Hysbyswyd fod 80p mewn llaw.
FFRWYDRIAD GER TREFFYNNON.
FFRWYDRIAD GER TREFFYNNON. NIWEIDIO CHWECH 0 DDYNION, Ddydd Gwener, bu ffrwydriad yn nhwnel Treffynnon a Helygen, yr ydys yn ei wneuthur o Fagillt,i Waith Mwn y Milwr, ger Helygen. Yr oedd chwe' dyn yn gwneyd ergydion yn y ffordd arferol, pan yn sydyn y ffrwydrodd un ohonynt, gan ei clwyto oil yn ddifrifol. Wele enwau y rhai a niweidiwyd Henry Price, Calcot, briwiau ar ei wyneb a'i lygaid; Edward Wil- liams, Calcot, briwiau ar ei wddf; Edward Parry, Milwr, briw ar y pen Robert Ankers, Bagillt (contractor y twnel), briw ar y gwddf; John Edward Parry, Milwr, briw ar yr ochr a'r cefn. Awd ar clywfedigion allan rhagblaen, a gweinyddwyd arnynt gan y Doctoriaid Cole- man, Morris, a Nesbitt. Yr oedd Mr H. A. Cope, cadeirydd y pwyllgor gweithiol, a. Mr J. Phillip Jones, ysgrifenydd y cwmni, yn bre- j sennol yn fuan, a, gwnaethant yr oil a allent i'r: clwyfedigion, a ddygwyd gartref mewn cerbydau cauedig. Cafodd y dynion ddiangfa wyrthiol. Ffrwydr- odd y gelatine, a ddodwyd ar wyneb y graig, yn eu canol. Y rhai a glwyfwyd fwyaf oedd Tho- mas, Calcot; Edward Williams, ei dad; a Henry Price, Calcot. Yr oedd Thomas Wil- liams ar fin myn'd i'w briodi. Tad a mab yw Edward Parry a John Parry, hefyd a glwyfwyd. Anafwyd y diweddaf yn boenus yn y cefn, ac y mae'n fyddar o ganlyniad i'r ffrwydriad. Mae Thomas Williams yn awr yn Yspytty Caer.
MARWOLAETH MR J. JONES, YNYSFOR.…
MARWOLAETH MR J. JONES, YNYSFOR. Fore Mercher, bu farw Mr J. Jones, Ynysfor. wedi cyrhaedd ohono 72 mlwydd oed. Yr oedd yn wael er's rhai misoedd. Bu farw yn Ynys- for, yn nghanol ei deulu lluosog, ond y mae ei fab hynaf, Mr E. Biowen Jones, U.H., yn gwas- anaethu yn awr yn Affrica gyda'i fyddlin. Nis gwyddom am Qdidi neù a lanwai y cymer- iad o wl-adwr cywiraidd! a thirfeddiannydd yn fwy bodklhaol a theg na'r diwedd'ar Mr Jones. Yr oedd iddo gylch eang o deniantiaid yn ArfOOl ai Meirion, a theimlanti yn ohwith ar ei ol. Deallai amaethyddiaeth yn ymarferol, a gweithredai yn ddicfuedd mewn pob achosi yn ol ei fam. Yr un modd mewn cylchoedd y dyrchafwvd ef iddt- yut. Bu yn ynad yn y dd'wy sir am ran faith o'i oes. Yr oedd hefyd yn ddirprwy-raglaw Meirionydld, a. bu am gyfnod maith o flynydsd- oedd yn olynu'r diweddar Mr David Williams, A.S., fel cadeirydd Ynadlys y Penrhyn. Bu'n gadeirydd Gwarcheidwaid) Undeb Ffestiniog, er Ebrill y 18fed, 1876, fel olynydd diweddar Mr Holland, A.S. Cyn hyny, b-a axa. flynyddoeddl yn gweithredu fei gwarcheidwad. Mewn cy'lch- oeddl chwarelydd'ol, teimlai ddyddordeb mawr. Ami flynyddloiedd, bu fel un o gyfranddalwyr Chwarel Croesor, ac yn airbenisr fu felly yn ei gvsylltiad a chwmni Cymreig Chwarel y Rhos- ydd hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd, nid yn unig yn gyfranddalwr pwysig, ond yn gyfarwyddwr er y flwyddyn 1874. 0 ran ei syniadau igwleid- vddol, Ceidwadw-r oedd Mr Jones. Pan yn an- t'erbh nerth ac iechyd, yr oedd yn hioff iawn o hela, a bu llawer cyfeiriad at lwyddi y cwmni o Ynysfor yn y wedld ymta yn y newyddiauron. Cyflwynwyd iddo ar derfyn ei 25 mlynedd o lywyddu Bwrdd v Gwarcheidwaid; set o lestri ariain, fel awydd o deimladau da. ei gyd-aelodau. Pan y ffurfiwvd Cynghor Sirtol Meirionydd, dewiswyd ef yn un o'r aelodau a bu yn gadeir- vdd v pwyllgor ariamol. Prtiododd Mr Jones yn 1866, a Lydia, merch a chydaeres Mr John Jones, Oaklands, Dinbych. Gweinyddwydl ar y trancedig yn ei waeledd yn ofalus gan Dr S. Griffith, Porthmadog, a bu ymigynghoriad rhyngddo a Dr Glynn, Lerpwl. YR ANGLADD. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn, yn mynwent plwyf Llanfrothen. Yma yr ydoedd yn agored a chyhoeddus, ond o'r Palasdy i'r fynwent yr ydoedd o nodwedd gyfyngedig ac angbyhoedcl i gylch bychan o'r teulu, perthyn- asau, tenantiaid, a gwasanaethyddion. Gan fod Mr E. Boweti Jones, y mab hynaf, yn Affrica, nid oedd ond Master John Jones o'r teulu yn yr angladd. Gwneir y gweddill i fyny o Mrs Jones ac wyth o ferched. Yn wahoddedig yr oedd Mri T. L. W. Lloyd, Fron, Caernarfon (mab-yn- nghyfraith) John Savin, Bodegroes, Pwllheli y Milriad 0. Lloyd Evans, Broom Hall; Mr J. I G. Jones, U.H., Llwynffynnon, Pwllheli; Dr Samuel Griffith, Porthmadog, meddyg y teulu; a Mr Thomas Jones (Cynhaiarn), cyfreithiwr y teulu, Porthmadog. Yr oedd yn bresennol o 15 i 20 o'r tenantiaid a gweinidogion, gyda saith neu wyth o gerbydau i'w cludo. Gorchuddid yr arch a thorchau heirdd o flodau. Darllenodd 1 y Parch R. T. Jones, offeiriad Glanogwen, y gwasanaeth yn Gymraeg. Yn mysg y rhai oedd yn bresennol yn y Fynwent a'r Eglwys, sylwasom ar y rhai a ganlyn Y Mri R. M. Greaves, U.H., Wern; Caton Haigh, Aberia; W. Davies, U.H., R. Walker Davies, Cae'rblaidd; ac Owen Jones, Erwfair, o Ffestiniog; Randel Casson, Robert Jones, Thomas Roberts, John Humphreys, J. Tobias, cyfreithwvr; W. Jones, o Ariandy Gog- ledd a Deheudir Cvmru; R. Isaac, Henry Ro- berts, 0. Price, a Capten Rogers, oil o Borth- madog R. J. Morris, U.H., ^cerig Dr Jones, U.H., a Mrs Jones, o Harlech y Mri J. P. Ro- berts, J. Bennett Jones, Mr a Mrs Owen, o'r Penrhyn; John Stoddard, Talsarnau; S. J. Owen, Croesor; Parch W. R. Jones, Silvan; Mr J. Jones, Ysgol y Bwrdd; a nifer mawr o Lan- frothen; E. W. Roberts, Pentrefelin; Mrs Wil- liams, Saracen's Head, Beddgelert; Miss Jones, Madoc Arms, Tremadog; Miss Roberts, Tanner House, Tremadog, &c., Y gofalydd oedd Mr Mr R. McLean, Porthmadog. Gwnethurwr yr arch, Mr Lloyd, High-street, Porthmadog. Nid oes wasanaeth ond ar adegau o briodi a chladdu yn hen Eglwys Llanfrothen. Yn awr cynnelir gwasanaeth yn y capel eglwysig yn y Gar eg, mewn lie mwy canolog. Y mae yn yr hen Eglwys amrvw feini cof o ddyddordeb teuluaidd i Ynysfor. Ar un, gwelem y bu farw Mr Evan Jones, Ynysfor, tad Mr Jones, Gorphenaf laf, 1853, yn 60 mlwydd oed, tra yr oedd ei fam, Jane Jones, wedi marw Mehefin, 1836, yn 40 oed. Yr oedd o'r briodas uchod bedwar o blant. Ar faen arall, ceir y rhoddwyd Iiwnw i fyny gan y chwaer hynaf "Jane," er cof am ei chwaer ieuengaf, "Elizabeth," a fu farw yn gynnarol ieuanc. Ceir amryw feini ereill <> ddyddordeb plwyfol. Mae beddau gwyr o nod yn yr hen fynwent, yn eu mysg, y Parch Richard dores, Wem.
[No title]
Adroddai Mr Osmond Williams, A.S., mewn cyngherdd a lywydidai yn Mhenrhyndeudraeth, nos Sadwrn. am y derbyniad croesawsrar a roes Rhvddfrydwyr a Chymmrodorion y Rhondda iddo ddechreu yr wythnos, am y tro cyntaf erioed y bu yno. Ar v diwedd, ymholai tvbed a oedd yno neb o'r Gogledd yn y dyrfa, fawr oedd o'i'flaen. pryd lar unwaith y dylifai tua 15 neu 20 o wahanol ranalu y dorf i ysgwyd llaw yn galonog ag ef.
---AGOR GWE8TY DIRWESTOL.J
AGOR GWE8TY DIRWESTOL. J RHODD ANRHYDEDDUS GAN YR I, ARGLWYDDES READE, GAREGLWYI). í Dydd Mercher, yn Modedern, Mon, agorwyd j yn ffurfiol y "Trygarn-Griflith Coffee House" a adeiladwyd ac a roed yn anrheg i'r plwyf gan yr Arglwyddes Reade, Careglwyd. Daethai cyn- nulliad luosog yn nghyd, a llywyddid y gweith- rediadau gan Dr E. P. Edwards, U.H., yr hwn sydd wedi cymeryd rhan flaenllaw yn nglyn a'r gwaith. Eglurodd y bwriedid i'r lie fod yn rhydd ac hollol anenwadol, a hyderai y caffai ddylanwad er daioni yn y gymydogaeth. Yr oedd yr Arglwyddes Reade wedi ceisio fwy nag unwaith am le i adeiladu yno, ac o'r diwedd llwyddodd i gael tir am 320p. Yr oedd yr holl draul o 1100p i 1200p yr hyn oedd yn rhodd anrhydeddus a gwerthfawr iawn.—Mr J. Lewis, U.H., Llanllibio, a ddywedai mai y rheswm fod yr Arglwyddes Reade wedi galw y He yn "Trygarn-Griflith Coffee House" ydoedd oblegid awgrymiad o'i eiddo ef iddi, yr arferai ei thad ddilyn y llysoedd ynadol, y rhai a gynnelid y pryd hyny yn Modedern, ac er cof am dano galwodd y lie ar yr enw a nodwyd. Cynnygiai ef "Ein bod yn llawenychu yn fawr fod y Coffee House hardd ac eang hwn wedi ei adeiladu er mwyn hwylusdod i drigolion yr ardal, ac er budd y cyhoedd; ein bod yn ystyried fod sefydliadau o fath hwn yn fendith i r cyhoedd yn gyffredinol, a'u bod yn rhwym o ddylanwadu er daioni yn ystod y ganrif newydd hon ein bod yn cyflwyno ein diolch mwvaf cywir a chalonog i'r Ar- glwyddes Reade, Careglwyd, am ei haelioni, ac am y dyddordeb a gymer yn yr achos diswestol ac achosion ereill ag sydd yn tueddu i ddyrchafu cymdeithas."—Eiliwyd y cynnygiad gan Mr Hugh Jones, Einion Chwith; ac ategwyd ef gan yParch Mr Price, rheithor y plwyf.—Sylwodd Mr William Jones. A.S., mai nid hwn oedd yr unig adeilad o'r fath a godwyd gan Lady Reade. Yr oedd wedi anrhegu Llanfaethlu a lie cyffelyb, a chofiai ef yn dda adeg agoriad hwnw. Yr oedd dwy ffordd o wrthweithio dylanwad y dafarn. Un ydoedd cadw y ddiod a.'r tafarndai oddiwrth y bobl, a'r Hall ydoedd cadw y bobl oddiwrth y ddiod. Nid oedd pawb o'r un feddwl gyda golwg ar hyn, ond nid oedd angen iddynt wahaniaethu y diwrnod yna. Yr oedd personau, fel efe, ag oedd wedi bod yn llwyr- ymwrthodwyr eu holl fywyd yn credu mewn ilwyrymwrthodiad, ond nis gallent wneyd pawb yn llwyrymwrthodwyr, ac ar gyfer y rhai hyn er gwrthweithio atdyniad y dafarn, cyfodid lleoedd cvfleus fel yr un presennol i drin masnach ac i roddi adloniant. Yr oedd Mon wedi gwneyd cymaint yn y cyfeiriad fel ag y soniai ef am dani yn Llundain. Yr oedd yn y sir naw o blwyfi yn terfynu ar eu gilydd heb dafarn o'u mewn. Cofiai ef yr adeg pan yr oedd ceidwad y carchar yn Beaumaris yn gorfod rhoddi ei swydd i fyny yn 30 mlwydd oed gan nad oedd carcharorion yn v sir. Nid oedd ond un hen wraig wedi bod yno yn ystod y chwe' mis blaenorol, ac enw hono oedd Murphy. Yr oedd y Coffee House yn sefydliad rhagorol. Annogai ffermwyr a mas- nachwyr cyfrifol a pharchus i fynychu y lie ar ddiwrnod flair fel ag i roddi esiampl dda i'r cyhoedd.—Sylwai y Parch D. Lloyd, Caergybi, fod 17 o blwyfi yn y sir heb dafarndy o'u mewn. —Anerchwyd y cyfarfod yn mhellach gan y Parchn. John Jones (Hebron), Robert Jones (Bodewryd), Robert Hughes (Llanfaethlu), David Rees, U.H. (Capel Mawr), James Donne (Llan- gefni), a Mr R. Williams (Gronant). Terfyn- wyd gyda diolchiadau i'r cadeirydd a'r siarad- wyr, yn cael eu cynnyg gan Mr R. Gardner, U.H., a'i eilio gan Mr S. Prytherch.—Yn yr hwyr cynnaliwyd cyfarfod dirwestol o dan lywyddiaeth Mr J. Lewis, U.H., ac anerchwyd ef gan Mr William Jones, A.S., ac ereill.
[No title]
Mewn cyfarfod o gyfranddalwyr y London and Globe Finance Corporation, i ystyried sefyllfa y cwmni, llywyddai Ardalydd Dufferin, yr hwn a d'ynodd yn ol ei ymddiswyddiad, pan ddeallodd am sefyllfa anfoddhaol y cwmni. Dy- wedodd iddo gael ei dynu i mewn drwv ddy- lanwad y diweddlair ArglwyxldLoch a'r diwedd- ar Syr William Robinson. Carifu, modd bynag, fod buddiant y cwmni yn fwy dyrys ac eang nag y tybiai, ac na allai neb oedd heb ei ddwyn i fyny i'r busnes obeithio meistroli y dyrysni. Dywedodd) Arglwy'dd Dufferin y byddai efe ei hun yn gymaint dioddefydd aneb drwy yr hyn gymeroddi le. Hysbysodd un o'r .swyddogion y collasai y cwmni drwy eu hymgais am reoleidd- iad y Lake View Mine 500,000p. Gobeithiai y cyfarwyddwyr allu diwyn gerbron y cyfranddal- wyr gynllun i ail-sefydlu y cwmni ar raddfa 'gadarnach nag y bu erioed.
Family Notices
BEN', PRIODI, A MARW. Y pria am gyhcedfik OcnedlgaetfcfliEf., P?fodaB»i7, Ii; Marwoiaefeau yzt y golofil bon yfiyw 1 iii yr ttJ) (blaeudali nen He So Rf goet GENEDIGAETHA U. HUGHES-lonawr 4 yn Gora Bach, Cwm- yglo. priod Mr Richard Owen S. Hughes, ar ferch. KELLY—Ion&wr 13. yn 21, Eleanor-sfcrpet, Caernarfon, priod Mr Dennia Kel!y, ar ferch. ROBERTS—1< nawr 2, priod Mr R. Roberts, 52. Manod-road, Blaenau Ffestiniog, ar fab. WILLIAMS-Iona-.r 11. m Gwynfryn, Llan- rug, priod Mr Richard R. Williams ar ferch. PRIODASAU, HUGHEG-DAVIES Ionawr 4, yn rwyddfalr oofrestcydd Bangor, gan Mr Lewis Morris, Mr William Hughej, Pen'rallt Llanddona, a Mise Margaret Davies, Bryn Cogail, Llan- j ietyn. JONES—HUGHES—Ionawr 9, yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Princes-road, Ler pwl, W. R. Jonea. Caergvbi, a Rebecca, merch ieuengaf Mr Samuel Hughes, Bodednyfed, j Awlwch.- JONES—HUGHES—Ionawr 2. yn Nghapel ] Salem, Pwllheli, gan y Parch David Roberts, Abererch, yn mhresermoldab Mr Rees T. Prit- chard c >fresfc'-ydd; Mr W. Jones, Penrhyn, Afonwen, a Miss Hughes, Penychain, Pwll- heli. JONES—LEWIS- Ionawr 1, yn Nghapel Tabernacle, Pwllheli, Ran y Parch D. Ja,meil, Mr T O. Jones, North street (ynawr adeilad- ydd yn Manchester), a Miss Annie Lewis, nnig ferch Capten O. Lewis, Sand-street, Pwllheli. JONES-MORRIS--Ionswr 2, yn swyddfa'r cofrestrydd, Portbmadog gan Mr Richard Jones cofrestrydd, Mr John Jones, 124, Manofl rca3, Blaenau Ffestiniog, a Miss Mary Morris, 1. Loiidon-terra''e, Tanygrisiau. JONEB—WILLIAMS—Ionawr 3, yn swyddfa'r cofrestrydd, Baugor, gan Mr Lewis Morris, Mr Henry iones, Cichle, Llanfaes, a Miss Maggie Williams, Chauntry House, Beau- maris. OWEN WILLIAMS-Ionawr 5, yn swydd- fal,, cofrestrydd, Bangor, gan Mr Lewis Morris, Rowland Owen, Gadlys Cottage Llan- sadwrn, a Mrs Sarah Will ams, Park, Pen- mon. ROBERTS—ELIAS—Icnawr 2, yn Nglnpel Engedi, Caernarfon, gun y Parch E. J. Jones, M.A., yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch D. Williams, Cwmyglo, Mr Thomas E. Roberts, Cwmyglo, » Mrs Ellen Elias, gweddw y i.,i. Capten Elias, Caernarfon. MAEWOiiATSTHAU. BIBBY—Ionawr 10, yn 8 mis oed babac Mr a Mrs S. J. Bibby. 12. Palace-rtreet, Oaernar?on, OAWSEY- Ionawr 7, yn 30, Williams. street, Caernarfon, yn 25 mlwydd ood, Walter, mab hynaf Colour-Sergeant Cawsey. JONES Ionawr 1,1901, ar ol hir gystudd, Mrs Inigo Jones, Gwynllys. Grc-ealon. MoDUNALD-Dydd Oalan, yn 55 mhvydl oi;, Donald MoDonald, Gerlan Feibe3da. Diodd- (Jfodd drwm gyatudd yn dawel gan bwyso ar ei Wared wr. Gedy weddw a dau o feibion i alaro. ar ei ot. Dymunir ar i'r papjrau Amerioanaidd gofnodi yr achod. OWEN-lonswr 4, yn 42, Pool Hill, Caeroar fon. yn 8 mlwydd a 3 mis oed, Matia Blod- wen, anwyl ferch Mr a Mrs Owen Owen. PARRY-yn diisymwth, prydnawn Sul, Ion- awr 6ed, 1901, yn nhy Owen Williamd. cig- ydd, Glmadcla. John Parry, o 2, Tan-y-Vron, I Bangor, yn 60 mlwydd oed. Yr osidd yn ddiacon gweithgar yn eglwys Salem. Cladd- wyd ef y dydd Merober canlynol yn M yn. went Glan Ogwen, Bothesda, lie y gorwedda i ei briod er's 10 mlynedd. Gadawa un ferch i alaru ar ei ol.- WEEDEN—Ionawr 8 yn 10, Fde*r or street,: Caernarfon, Phillip, baban Mr a Mrs F. Weeden, yn 5 wythuos oed.
Advertising
MONTFMENTS LAUGX STOCK BSFOKli BUYING CALL AT HUGH JONES, MARBLE WORKS, CARNARVON, j All kinds of Budio and Plain Crosses on hand* GtUAF A GW&HWYH.. EU PERYGLON A'U HANWYLDERAU. Y FEDDYGINIAETB. OREU RHAODDYNT YW BITTERS CWILfS EVANS. Yn ystod misoedd oer a llaith y tymhor 0 r flwyddyn dioddefa llawer gan yr Anwyawst, Bronchitis, a e amryw ANHWYLDERAU GAUAFOL erell, ond tystia lIaaws yn y wlad hon II- gwledydd ereill y gellir cael ymwared llwyt oddiwrthynt, neu os gofelir mewn pryd era hosgoi yn hollol trwy ddefnydd priodol o QUININE BITTERS GWILYM EVANS. A chyduebydd pawb sydd wedi rhoddi prawf teg arno mai dyma FE DD YGrl NT AETH OREU'R OES. at bob anhwyldeb ganafol, ac yn arbenig at holl auhwylderau y Cylla. Canmolir gan filoedd a wellhawyd o amryw Glefydau pan oedd POB MEDDYGINIAETH ABALL YN METHU. Os cymerir defnydd prydlon o'r Quinine Bitters, cydnabyddir gan filoedd nad oes dim cyffelyb i BITTEKS GWILYM EVA MS er attal ymosodiadou afiechyd, ac adfer nerth ac yni i rai sydd yn dihoeci mewn gwendid ar ol nnrhyw afiechyd nen dwymyn Bitters Gwilym Evans, Bitters Gwilym Kvans. Bitters Gwilym Evans. I Bitters Hwilym Evans. MEDDYGINIAETH BUR, SICR, DDYOGEL, LLWYDDIANNUS, AO EFFEITHIOL YDYW Bitters Gwil ym Evans Bitters Gwilym Evans. Bitters Gwilym Evans- Bitters Gwilym lvanso. TYSTIOLAETHAU. Elmsgrove, Queen's F'erry. Mawrth 20fad, 1897. Foneddieion, — Cffais Bitters Gwilym, Evans yn Feddyginiaeth rhagorol. 3-wnaeth les mawr i mi. Dioddefwn Beswch trwm a. Diffyg srchwaeth. Biinid fi hefyd gan wen. did mawr, yn cael ei achosi, yn ddiamheu. gan or lafnr ac astudio gormod. Pallodd fy iechyd, a gorfu i mi roddi fyuy i gweithio. Annogwyd f: i roddi prawf ar Bitters Gwilym Evans, ac yn fnan cefais ymwared oddiwrth y pesweh poenus, a theimlwn fy hun yn cryfhaa. Erbyn hyn, yr wyf wyf wedi cwbl adfer. Quinine Bitters yw y physig goreu a gefais erioed. Nis gallaf lai na'i ganmawl wrth bawb. WILLIAM GEORGE. BiTTERS GWILYM EVANS. iM Penzance, Ebrill 7fed, 1897. Foceddigion,—Yr wyf yn amgau yr arian gofynol am dair pctelaid fawr o Quinine Bitters Gwilym Evans. Y maent wedi profr mor werthfawr, ac wedi gwneyd cymaint o les i mi, iel y teimlaf na ddylwn fod un anaser heb eu cadw wrth law. Yr eiddoch yn ffyddlawn. T. DAVY WHITE. BITTEES GWILYM EVANS. _e.h- Blakehey Nook, near Oldham, Chwefror 24ain. Auwyl Syr,—Byddaf vn cldiotchgar os an- fonwch i mi botelaid 48 6c o Qninine Bitters Gwilym Evans. Da genyf eich hysbysu fod fod y botelaid ddi weddaf gefais wedi gwneyd lies mawr i mi. Yr wyf wedi gwella mwy ar ol cymeryd eich Bitters nag ydwyf er's chwe' mis ar ol treio llawer c ddoctoriaid yma, yn swydd York, ac yn Liverpool. Yr wyf yn rhoddi y clod yn benaf i'ch Quinine Bitters chwi, a gallaf ddyweyd ei fod yn well na'r un feddyginiaeth wyf wedi dreio erioed. —Yr eiddoch, &c., JAMES ROBERTS. 1_ BITTERS GWILYM EVANS. Hm- EHTBDDO. Gocbelwch Dwyllwyr. Edrychweh fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir ef mewn poteli, 213 9" a 4a 6e ys pu blychan yv aynnwyst^cr potel 48 6oam 12 6ö.-I\v yu mhcb man, neu dan- fonir 1 wy yr rhad am y jjdsiau uchcS yn ddyogel drwy y post, oddiwrth y perchenogion:—. QUJK1NE BFi'TERS MANUFACTURING- COMPANY LIMITS D, LLANKLI/ SOUTH WALKS. Prif Oruchwylhn rn Amexrica!—Mr K. D" WILLIAMS, P. yjxiontb, Pens. y29E W R -.V"F- Argraph'wyd a Chyhoftddwyd drrotl j Peieheotee gam^DANIEL REES, yn Swyddfa'r "EimMJ* DYDD MAWRTH, IONAWR 15, 1901.