Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

39 erthygl ar y dudalen hon

Pwyllgor Heddlu Mon

Pysgodfeydd Mor y Gorllewin.

Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.

Ynadlys Llandudno.'

Ynadlys Llangefni.

ABERDYFI.

ABERGEL'E. j

ABERMAW.

ABERYSTWYTH.

gor arianol. BANGOR.

BARMOUTH JUNCTION.

BETHEL, ARFON. J

BETHFJSDA A'R CYLCB. !

CAERNARFON.

CAERGYBI. ;

.CLWTYBONT.

CORRIS.

CRICCIETH

CROESOR.

DINBYCH,

DOLBENMAEN.

DOLGELLAU.

; DYFFRYN ARDUDWY

"EBENEZER,

' GWALCHMAI. ^ "

GWRECSAM.

HARLECH.

LLANBERIS A'R UYLCH.

LLANERCHYMF DD.

LLANGEFNI

MACHYNLLETH.

NANTLLE A'R CYLCH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NANTLLE A'R CYLCH Gwisgwch Hetian ffelt ystwyth eymfforddus Bradleys 3s 9c, gwertb 48 6c; hefyd am Is lie, 2s 6c, 2s lie, &c.—Turf Square. Caernarfon.— Advt. MAE'R Mona Cycle Works wedi newid dwy- law. Prynwyd y stoc a'r gwaith gan y Mri E Jones a'i Fab, Castle-square a Bangor-street.— Advt. I DIRWEST.—Nos lau, yn Seion, addoldy An- I nibynwyr Talysarn, bu y Parch Keinion Tho- mas yn traddodi darlith ddirwestol ragorol. Cafwyd cynnulliad lluosog. WYTHNOS 0 BREGETHU.—Yn Mheny. groes mae yr enwadau wedi ymuno i gael pre- geth bob nos gan wahanol weinidogion, sef y Parchn Cadfan Davies, J. W. Nicholson, Porth- madog; J. D. Evans, Brynaerau; Morris Wil- liams, Baladeulyn. YR WYTHNOS WEDDIO.—Cynnaliwyd' cyfarfodydd gweddio yr wythnos ddiweddaf yn yr oil addoldai Ymneillduol, a dywedir fod y cynnulliadau yn hynod o luosog. Yr oedd y Methodistiaid yn gwneyd casgliadau bob nos at y Symudiad Ymosodol. DA-RLITH.—Nos Fa.wrth, traddodwyd dar- lith ddyddorol i aelodau Cymdeithas Lenyddol Ebenezer, Llanllyfni, gan y Parch Lewis, Nefyn, ar "Feirdd Cymru." Da yw canfod fod chwaeth at ddarlithoedd da ar destynau dydd- orol, yn ymeangu yn mysg ein pobl ieuanc. CYMDEITHAS LENYDDOL LLAN- LLYFNI.—Nos lau, cafwyd papyr dyddorol gan y Parch G. Ceidiog Roberts, ar "Helyntion yr Amseroedd." Hefyd. dadl dda ar "A ellir cyf- reithloni basarau at amcanion crefyddol?" Agor- wyd gan Mri J. H. Morris ac Edwin Griffiths. TY COFFI TALSARN.—Mae y gwesty dir- westol uchod wedi ei agor i'r cyhoedd, ac mae pob arwyddion y bydd yn llwyddiant sicr. Mae y tanysgrihvyr blynyddoi eisoes yn rhifo dros hanner cant. Mae yn adeilad hardd, helaeth, a chyfleus, yn mhob modd, a bydd yn lie cyfleus i'r lluaws ieuenctyd i gael darllen llyfrau a newyddiaduron, ac i gael difyrion. ADFERIAD HOLLOL. — Tystiolaeth Capt Evan Owen, Edeyrn:—" Wedi dioddef poenau dirdynol Camdreuliad y Bwyd am flynyddoedd, a threio pob math o feddyginiaethau yn gwbl ofer; ond cyn gorphen y botelaid gyntaf o'r "Ffisigora." yr oeddwn yn ddyn newydd hollol iach." Gwerthir "Ffisigora yn mhob man mewn potelan Illi a 2/9, neu drwy y post am 1/3 a 3/- oddiwrth y gwneuthnrwr, Owen Jones, M.P.S., Abergele.—Advt. CHWARELWYR BETHESDA. —Nos Fawrth, yn Mhenygroes, bu Cor Meibion Chwarel y Penrhyn, yn cynnal cyngherdd er budd y drysorfa gynnorthwyol. Troes y cyng- herdd allan yn llwyddiant mawr yn mhob ystyr. Yr oedd y neuadd wedi ei gorlenwi yn mhell cyn amser dechreu, ac yr oedd ugeiniau yn gorfod bod allan o ddiffyg lie, ond yn dangos eu cyd- ymdeimlad drwy brynu tocynau swllt, er yn gwybod nas gallent fyned i mewn. Llywydd- wyd gan Mr Prydderch, B.A., prif athraw yr Ysgol Sirol. Agorwyd y cyngherdd gan Sein- dorf Arian Nantlle. Canodd bechgyn Bethesda nes gwefreiddio y gynnulleidfa fawr. Canwyd "Milwyr y Groes" yn fwy effeithiol nag y clywsom erioed o'r blaen. Cafwyd anerehiad grymus a hynod o effeithiol ar sefyllfa pethau yn Methesda, gan y Parch W. W. Lloyd, Bryn- teg. Yr oedd mor effeithiol nes oedd yno ddegau yn wylo. Dilynwyd ef gan Cyrus, yr hwn a ddywedodd bethau grymus am anghymhwysder Saeson dibrofiad i reoli chwarelau Cymru. Diolchodd un o aelodau y cor mewn geiriau teimladwy am v derbyniad cynhes oeddynt wedi ei gael yn Nyffiyn Nantlle, yr hyn oedd wedi eu caionogi yn fawr i fyned yn mlaen ar eu taith. Buasai yn llawer gwell ganddynt. fod gyda'u gwaith, ond yr oedd y telerau a gynnygid iddynt yn gyfryw nas gallai pobl wareiddiedig a goleuedig en derbyn; a'u cais oedd am gyn- northwy gan y wlad i ymladd am yr hyn oedd gyfiawn a theg.

NEFYN

PENRHYNDEUDRAETH.

RHCS A'R CYLCH. !

WAENFAWR.

[No title]

Advertising

Cynghor Sirol Trefaldwyn.