Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

39 erthygl ar y dudalen hon

Pwyllgor Heddlu Mon

Pysgodfeydd Mor y Gorllewin.

Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.

Ynadlys Llandudno.'

Ynadlys Llangefni.

ABERDYFI.

ABERGEL'E. j

ABERMAW.

ABERYSTWYTH.

gor arianol. BANGOR.

BARMOUTH JUNCTION.

BETHEL, ARFON. J

BETHFJSDA A'R CYLCB. !

CAERNARFON.

CAERGYBI. ;

.CLWTYBONT.

CORRIS.

CRICCIETH

CROESOR.

DINBYCH,

DOLBENMAEN.

DOLGELLAU.

; DYFFRYN ARDUDWY

"EBENEZER,

' GWALCHMAI. ^ "

GWRECSAM.

HARLECH.

LLANBERIS A'R UYLCH.

LLANERCHYMF DD.

LLANGEFNI

MACHYNLLETH.

NANTLLE A'R CYLCH

NEFYN

PENRHYNDEUDRAETH.

RHCS A'R CYLCH. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHCS A'R CYLCH. "CRISTIONOGAETH A'R OES."—Ar y i testyn a nodwyd caed anerehiad gan y Parch J. Charles, Dinbych, vn nghyfarfod Cvmdeithas Ddiwylliadol Bethlehem (Rhos). a Salem (Ponciau), nos Sadwrn. Cadeirydd, y Parch R. Roberts. "Y PEDWAR ENWAD YN NGHYMRU. Testyn papyr dyddorol a ddarllenodd Mr J. T. Prydderch, yn nghyfarfod' Cymdeithas Len- yddol Wesleyaid y Rhos, nos Sadwrn. Siarad- wyd hefyd gan y Llywydd (Parch J. R. Jones), ac ereill. LLENWI Y DIFFYG.—Dylasai enw Mr E. Jones (Iorwerth). pregethwr yn Seion, Ponciau, fod yn mhlith yr anerchwyr yn "nghwrdd hebrwng" Mr R. Griffiths, a gynnaliwyd yr wythnos ddiweddaf. Yn anfwriadol hollol y gadawyd ef allan. PWYLLGOR YR "OFFERYNAU."—Sonir am gael organ i addolfa newydd Seion, Ponciau, i'w gosod yn uchaf yr oriel. Mae y cwestiwn wedi ei roddi i bwyllgor o'r eglwys. ac i gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidebau yr aelodau un o'r dyddiau nesaf. Y FORD GRON.—Terfynwyd y ddadl ar "A fuasai Mab Duw yn ymgnawdoli yn anni- bynol ar y cwymp ?" gan y gymdeithas hon, nos Wener. Agorwyd y ddadl bythefnos yn ol, a dygwy hi yn mlaen yn yr yspryd goreu, o dan lywyddiaeth y Parch R. Jones. DAL I GYHOEDDI.—Parhau i gynnal oed- faon adfywiadol wna y Wesleyaid yn Acerfair. Y Sul diweddaf, efengylwyd yn felus odiaeth gan Miss C. Roberts. Llanfecha-in, a phregethid y nosau dilynol gan y Mri Roberts (Acerfair), J. Parry, a Fred. Roberts, Strvt Isaf. CYMDEITHAS NEWYDD.—Enw y gym- deithas hon yw "The Athenian Literary and Recreative Society," a'i llywydd yw y Meddyg J. C. Davies, U.H. Cynnelir ei chyfarfodydd yn y Neuadd Gyhoeddus (Rhos). Mae rhif yr aelodau yn bared, yn agos i gant. AR Y BLAEN.—Pentre bychan yn min mynydd yw Tainant, ac achos cymharol wan yno. gan y M.C. Er hyny, mae plant yr Ysgol Sul yno wedi casglu y swm hardd o 9p 13s tuagat y Genadaeth Dramor, efelly ar y blaen i holl blant Cyfarfod Misol swydd Fflint. MEDDWI AR Y SUL.—Yn Ynadlys Rhiw- abon, yr wythnos ddiweddaf, dirwywyd Thomas Bell is, Heolau y Cariadon, Ponciau Thomas Owens, Plasbennion; Charles Edwards, Ffordd y Graig, Rhosymedre; a John Powell, Heol Victoria, Rhos, i 5s a'r costau bob un am feddwi a.r v Sul. YR ATHRAWES A'I DOSPARTH—Rhifa dosparth Mrs Roberts, Llythyrfa, Ponciau, yn Ysgol Sul Seion, 12 o ferched ieuainc. Yn ol ei charedigrwydd arferol, gwahoddodd y dos- parth i dreulio nawn Mercher diweddaf gyda hi yn ei phreswylfod, ac i gydfwynhau gwledd o de a danteithfwyd. COR UNDEBOL.—Da genym ddeall fod cor undebol i gael ei sefydlu yn y Rhos a'r cylch. Eisoes y mae pwyllgor gweithiol wedi ei ffurfio, gyda'r Mri A Bellis yn llywydd; H. Ellis (Asaph Glanffrwd), yn arweinydd; Car. Ro-. berts, F.R.C.O., yn gyfeilydd; R. Davies, yn drysorydd; a S. Rowley, yn ysgrifenydd. "CEIRIOG HUGHES." Dyna y gwrth- ddrych y bu Mr LL Bowyer, o Goleg Bala-, Bangor, yn ei bortreiadu o flaen aelodau Cym- deithas Ddiwylliadol Mynydd Seion, Ponciau, nos Wener. Difyrus oedd y sylwadau dilynol gan y Parch Daniel Davies, Ponciau; Mr C. Morgan (Morgan o Wylfa), ac ereill. Y Parch; O. J. Owen oedd yn y gadair. CYFARFOD YSGOLION.-Cynnaliodd Ysgol- iOlD. Sul y M.C. Dosparth Gwrecsam a'r Rhos, eu cyfarfod yn Siloh, Tref loan, y Sul, o dan lywyddiaeth Mir T. S. Thomas, Gwrecsam. Pwnc ymdriniaeth y cynnrychiolwyr oedd Perthynas yr Ysgol Sul a'r eglwys." Holwyd v plant a'r rhai mewn oed gan y Parch W. H. Lewis, foreu a nawn y dydd, a phregethodd yn yr hwyr. j AGOR ADDOLFA NEWYDD.—Ar achlvsur agor addolfa newydd a sefydlu achos Bedyddiol yn Nhref loan y Sul diweddaf, a'r nosweithiau dilynol pregethodd y Parchn. E. Williams, Rhos; E. Mitchell a. J. W. Hmmphreys, Pone- iau; D. Eden Davies, Harlech, ac ereill. Enw yr addolfa yw "Noddfa." Costiodd y tir a'r adeiladwaith oddeutu 800p. Deil 200. Mae yn adeilad cadarn a thlws. Yr adeiladydd oedd Mr Watcvn Jones, Ponciau. ETHOLFRAINT I FERCHED. — Dadl ryfeddol o rymus oedd yr un ddygwyd yn mlaen yn Nghvmdeithas Ddiwylliadol Siloh, Tref loan, nos Lun, ar "A ddylid ætyn yr etholfraint i ferched?" Agorwyd yr ochr gadarnhaol gan Miss Jones, Brynderw, a'r nacaol gan Mr Wil- liams, masnachwr, Heol Maelor. Ategwyd y ddwy blaid gan y Parch W. H. Lewis, a'r Mri J. Edwards, J. Jenkins, J. T. Jones, J. Arthur Jones, D. Roberts, a T. Edwin Jones,—yr oil o Dref loan. Yr ochr gadarnhaol a orfu. Y: Cadeirydd oedd Mr R. Jones (llywydd y gym- deithas). Y CYNGHOR DIRWESTOL.—Mae pumed mynegiad blynyddoi Cynghor Dirwestol cylch Rhiwabon, newydd ddyfod i law. Llwyddodd y cynghor yn 1899 i gau un dafarn yn hollol, i gau un ar y Sul, i rwystro un i gael trwydded i werthu gwinoedd. Y mae eto 106 o dai trwydd- edig yn y cylch, heblaw nifer o "Glybiau Diod." Dengys y fantolen mai lip Is 8c oedd cyfanswm yr arian a dderbyniwyd oddiwrth eglwysi y cylch tuagat hyrwyddo gwaith y cynghor yn ystod v flwyddyn. Eglwys y Bedyddwyr Alban- aidd, Ponciau, sydd uchaf ei chyfran. Mae 15 o'r eglwysi heb gyfranu un ddimai tuagat y "gwaith da." PRAWF-GYNGHERDD.—Yn Neuadd Gy- hoeddus, Penvcae, y cynnaliwyd hwn nos Lun, o dan lywyddiaeth Mr J. O. Jones, G. and L. Y Parch R. Williams, Rhos, vdoedd yr arweinydd. ac efe, gyda Mr H. Abon Davies, Cefn Mawr. a ddyfarnasant Miss L. Jenkins, Tref loan, a W. Edwards, Delph, yn gydradd oreu o ddeg o ym- geiswyr ar adrodd "Damwain mewn chwarel." Dyfarnodd y cerdd-ynad, Mr G. W. Hughes. G and L., 'Cefn, Mr Hartley Davies, Rhos, y goreu o ddeuddeg am ganu unawd tenor; Miss Carrie Thomas, Cefn, yn oreu o naw ar ganu unawd soprano; a Mr Joseph Edwards, Cefn. y goreu o ddeuddeg ar unawd bariton. Cyfeiliwyd gan Miss Nellie Ellis, Groes, a Mri Emlyn Da- vies, a Joseph Dodd, Rhos. CYMDEITHAS Y G WEINIDOGION — Cyfarfu 11 allan o 167 o aelodau y gymdeithas uchod (Rhos a'r cylch), yn ysgolfa y Mynydd Hyfryd nawn Gwener. Darllenodd y Parch Huw Parri, Rhosymedre, bapyr bucldio] ar "Hawliau v ganrif newydd ar y pwlpud yn Nghymru. Siaradwyd yn mhellach ar brif bwyntiau y papyr o-an y Parchn. M. O. Evans, Gwrecsam; J. W. Humphreys, Ponciau; J. Roger Jones, Rhos: W. H. Lewis. Tref loan; a O. J. Owen, Talwrn. Diolchwyd am y papyr ar gynnygiad ac eiliad y Parchn. R: Jones. Rhos, a Isfryn Williams. Trefnwyd i gynnal gwasanaeth crefyddol i'r gweithwyr ar reilJfordd newydd Gwrecsam a'r Rhos. Gwahoddwyd y presennolion oil i gydfwynhau dysglaid o de rhagorol gan y Parch J. W. Humphreys, a diolchwyd iddo ef, ei fam, a'i chwaer, am y wledd, gan y llywydd (Parch R. Williams, I Heol y Bryn), &c. | TROSODD DRACHEFN.—Mynodd aelodwt Cymdeithas Lenyddol Stryt Isaf* glywed dar- lith y Parch J. Roger Jones ar "i wvd yn y llotty, nos Wener. i r wythnos ddiweddaf y traddododd hi am y waith gyntaf, yn y Rhoe j' ac yr oedd yn "inyn'd" yn iawn y ddau dro. JVIARWOLAETHAU.—Yn nhy ei dad Mr Josiah Dodd (un o aelodau hynaf y Capel Mawr), Pentredwr, Rhos, y bu farw Mr William Dodd, boreu y 14eg cyfisol, yn 45 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod ufudd a ffyddlon oi febyd yn y Capfel Mawr, hefyd, o'r Ford Gron, er ei sef- ydliad cyntaf; a bu yn gwasanaethu fel ysgrif- enydd yn "Ngwaith y Copy" (Rhos), am 26 mlynedd, ac yr oedd yn anwylyn gan y meistr a'r gweithwyr. Dygwyd rhan helaeth, os nad yr oil o dreulion ei gladdedigaeth lluosog (o wir barch iddo) yn Mynwent y Rhos, nawn Mercher, gan ei gydweithwyr. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn R. Jones, ac Isfryn Williams. — Bu farw Mrs Sarah Ann Bellas, Heolyr Eglwys, Rhos, nos y 15fed cyfisol, yn 33 mlwydd oed. Gadawodd briod a pump o blant, mewn hiraeth a cholled fawr. fr oedd yn aelod yn Mhenuel (Rhos). Dod wyd ei gweddillion marwol i orwedd yn Nghladdfa y Wern, nawn Gwener, gan dyrfa luosog, a gwein- yddwyd ar yr achlvsur gan ei gweinidog, y Parch E. Williams. GWRDD YSGOL CYLCH RHIWABON.— Cyfarfu y bwrdd hwn yn Nhref loan nawn lau, y Parch W. B. Jones a Mr Simpson yn absen- nol. Cymerwyd y gadair gan Mr Hooson, U.H. Yr oedd pump yn cynnyg am wneyd unwedd-wisgoedd i'r ddau swyddog presennol- deb :—Mr H. Ellis, am 7p 9s; Mri T. J. Davies a'i Fab, 7p 13s; Mr W. E. Jones, 5p 14s, a 6p 7s 6c; Mr G. Becket (Rhiwabon), lOp Is; Mr D. L. Price, 6p 10s. Ar ol cryn edrych a. theimlo, a chymharu y patrtymau, derbyniwyd cynnyg Mr Price.—Yn mysg y lluaws ceisiadau am wasanaeth rhai o'r vsgolion 1 gynnal gwahanol gyfarfodydd a ddarllenodd yr ysgrifen- ydd (Mr Denbigh Jones), yr oedd un o Cefn Mawr, am fenthyg yr ysgol yno i gynnal dawnsfa.—Cynnygiodd y Parcli James Davies (ficer), Penycae, fod y cais yn cael ei ganiatau. —Eiliwyd ga,n M'r Cooke (Rhosymedre).— Cynnygiodd y Cadteirydd, ac eiliodd Mr C. Jones fod y cais yn cael ei wrthod.—Pleidebodd tri yn erbyn a dau o blaid Mr Davies.—Anfon- odd Miss Scholfield, o Ysgolion Acerfair, ei hymddiswyddiad i'r bwrdd, a derbyniwyd ef. —Penodwyd Miss Ba-ines yn athrawes gyn- northwyol i Acerfair, a Miss S. A. Williams yn lie Miss Scholfield.—Pen^erfvnwyd cydnabod Mr J. Jones (Rhos) a Mr D. W. Jones (Pono- iau) yn athrawon cynnorthwyol, ac i'w talu fat y cyiryw.

WAENFAWR.

[No title]

Advertising

Cynghor Sirol Trefaldwyn.