Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

TRETHU AUR CYMRU,I

i STREIC YN Y DE. I

PENAF ARGLWYDD Y TRANSVAAL.…

PRYDAIN A'R ALMAEN. — I

HELYNT Y PENRHYN, t -

.CLADDEDIGAETH Y PARCH J.I…

[No title]

UNDEB DIRWEST MERCHED! CYMRU

RHEILFFORDD YSGAFN LLEYN.

[No title]

IGLOWYR Y DE,

RHYFEL Y TRANSVAAL.

[No title]

I I PROFIAD CRIW Y -1 MOEL…

HANNER AWR MEWN SlOP.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANNER AWR MEWN SlOP. BENYW LWYDDIANNUS MEWN MASNACH. Er mor berffaith ydyw y stock gedwir gan y Co-operative Civil Service, ac ystordai ereill- lie gellir cael bron unrhyw beth o nodwydd i fyny i angor—eto gwerthir nifer mawr o angen- rheidiau bychain y werin mewn siopau b rchain cyffredin nid siop y pobydd, y grocer, y llyfr- wertbydd, na siop y teganau, ond cymysgedd o'r rbai hyn oil. Siop felly yw un Mrs Young, yn 64, Queen-street, Peterhead, y dref fwyaf ddwyreiniol yn Ysgotland-tref yn cael ei ham- gylchu dair ochr gan ddwfr, yn enwog un adeg fel porthladd am forfilod, ac y mae yn bresennol yn adnabyddus fel un o ganolfanau mawr pysgodfa Ysgotland. Treuliodd gohebydd (medd y "Peterhead Sentinel") hanner awr yn siop Mrs Young y dydd o'r blaen, a synodd yn fawr at y ffordd ddianwadal o gwsmeriaid, amrywiol gymeriadau eu harchebion, a'r parodrwydd anghyfeiliornus gyda'r hwn y cyfarfyddai y foneddiges tucefn i'r bwrdd ag archebion brith- rywiog y cwsmeriaid. Fel yr oedd Mrs Young yn siarad a'r goheb- ydd ac yn estyn allan deganau, ymbortb, melus- ion, a pbethau bychain ereill, yn Y.11odd mwyaf bywiog, a chyfarwydd, adgofiai un am y rhan fawr o fasnach gerir yc mlaen yn Hwyddiannus gan foneddigesau y dyddiau hyn. Y mae y cyfrwys a'r hoenus Mrs Young yn un o'r gwrag- edd gweithwyr hyny, yn awr fwy o rifedi nag erioed, gant allan fod ganddynt fwy o yni nag y medrant ddefnyddio at ddyledswyddau y ty, er caleted a thraffertbus y mae llawer un o'i rhyw yn cael y gwaith hwn. Fel y symudai oddiam- gylch, yn siarad a gweini ar ei chwsmeriaid yr un pryd, yr oedd yn anhawdd canfod oddiwrthi ei bod wedi bod yn llesg, clunhecian, a dioddef cymaint ag i'w hanaUuogi i ddilyn ei masnach. Ond, yn ol ei stori, dyna oedd ei chyflwr ychydig fisoedd yn ol. ',Yn hydref 1899," meddai, "aethum allan un diwrnod mewn cerbvd evda fv ,c-, o. -rVioi 0'; -J "0' .("W.. o'm cyfeillion. Trodd allan i wlawio, a gwlych- ais drwodd, a chefais anwyd. Chwyddodd fy nhraed a'm dwylaw gan wynegon, collais fy ar- chwaeth, ac yr oedd genyf beswch caled. Yr oedd fy nwylaw mor ohwyddedig a dirym fel y collais bob defnydd ohonynt am beth amser; gaUem eu suddo mewn dwfr poeth a theimlo dim. Am fisoedd llusgwn fy hun oddiamgylch, yn teimlo yn Uuddedig, digymhorth, a digalon, ac yn ymofyn eistedd i lawr a chysgu beunydd. O'r diwedd gorfu i mi aros yn fy ngwely. Oddiar Rhagfyr diweddaf hyd Chwefror y flwyddyn hon bu rhaid i mi gael benyw i fewn i ofalu am y ty a'r siop; oblegid nis gallwn wisgo na dadwisgo heb gynnorthwy, heb son am weithio. O'r diwedd dechreuodd fy ngolwg ballu. Gwelwn bobpeth yn frycheulyd a chy- mysg, mor wan a dyryelyd yr oeddwn wedi myned. Yr oeddwn wedi darllen yn fynych am Dr Williams' pink pills for pale people a'r iech- ydon oeddent wedi gyflawni, a pharheais i ddy- weyd wrth fy ngwr, I Duncan, mae genyf awydd mawr i dreio blychaid ohonynt.' Wei, treiweh hwynt, ynte,' ebe efe o'r diwedd. Pwr- cesais ychydig flychau. Cymerais hwynt yn ol y cyfarwyddiadau,, ac ar ol cymeryd yr ail flych- aid teimlem fy nerth yn dychwelyd. Cymerais bedwar blychald i gyd, a theimlem yn well o lawer ar ol gorphen y diweddaf. Yr wyf lawer cryfach a gwell fy iechyd yn awr nag wyf wedi bod er ys dwy flynedd, ac yr wyf yn eithaf sicr mai y pills a'm hiachaodd." A oeddech chwi'n cymeryd unrhyw feddyg- iniaeth arall, neu yn myned o dan unrhvw drin- iaeth a allasai fod yn help i'ch iachau ? Na, dim ond y pills. Bu meddyg gyda mi, ond talais ef i fyny ar ddiwedd y term, a meddyl- iais nad aUai y meddyg wneyd unrhyw beth i'r gwynegon. Pan gefais y tro drwg yn Rhagfyr, 1899, braidd oedd genyf ffydd mewn unrhyw driniaeth gyffredin. Oddiar pan ddechreuais gymeryd y pills ymddangosem fel yn raddol wella; ac yn awr, fel y dywedaf wrthych, nid wyf wedi teimlo cystal er's dwy flynedd." A ydych chwi'n cymeryd y pills yn awr ? "Na, nid oes eu hangen yn awr. Pedwar blychaid yn unig a gvmerais." Mewn atebiad i'r cwestiwn olaf yn nghyJch a oedd rhywun i gadarnhau ei stori, dywedodd Mrs Young: Oes; gaU fy ngwr, neu Mrs Henderson, y fenyw ddaeth i ofalu am y ty a'r siop i mi yn awr ao yn y man o Rhagfyr i Chwefror." Hyfforddwr ydyw gwr Mrs Young mewn pobdy yn Peterhead, ac mae yr uchod yn cynnrychioli yr hanes eglur, diduedd ddywedwyd gan y fon- eddiges ei hun, yr hon nad yw yn edrych fel yn debyg o roddi ffordd i hudoliaeth mewn perth- ynas i fater mor syml eto mor bwysig a chyflwr ei hiechyd. Lie mae afiechydon mor ddychryn. liyd a hwn yn cael gwellhad llwyr a hollol, nid yw yn un sail i synu y dylai Dr Williams, pine pills gael eu defnyddis mor gyffredinol a llwydd- iannus yn yr afiechydon bychain mewn bywyd at haint ddisymwth o wynegon neu ddiffyg treuliad, at mynych ddioddeftadau menywod ac at wendid a blinder oyffredinol yr hyn a ddengys fod angen tonic. Y pills cywir yn unig sydd yn iachau: ni iachaodd dirprwyaethau ddim erioed, ac i oohelyd yr olaf y mae yn angenrheidiol edrych mai pills Dr Williams yn unig gvmerir, yn dwyn ei enw a'r teitl cofrestredig, Dr Wil- liams' pmk pills for pale people. Gellir cael chwe' blwch am dri ar ddeg swllt a naw ceiniog (neu un blwch am ddau a naw) oddiwrth y gwn- euthurwyr awdurdodedig, Dr Williams' medicine company, Holborn Viaduct, London. Y mae y parlys, gwynegon, geri, diffyg treuliad, anaemia, darfodedigaeth, St. Vitus' dance, yn mhlith afiechydon ereill wedi eu hiachau ganddynt.

[No title]

Advertising