Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Annibynwyr Dyffryn Maelor.

Bwrdd Undeb Conwy.

Bwrdd Undeb Llanrwsi

Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Dolgellau, dvddiau Mawrtb a Mercher, dan lywyddiaeth y Parch W. R. Jones, Llanfrothen. Yr ysgrifenydd ydyw y Parch Hugh Ellis, Maentwrog. Cyfarfu amryw bwyllgorau dydd a nos Lun, yn Bethel. Foreu Mawrth cyfarfu y pregethwyr a'r blaenoriaid ar wahan. Yn eisteddiad cyntaf y Cyfarfod M.isol, yn Salem, holwyd v blaenoriaid gan y Parch Samuel Owen. Cafwyd" hanes yr achos yn Salem gan Mr E. Griffith, U.H. Pendref, Mr R. C. Evans; Saesneg, Mr E. W. Evans; Bethtl, Mr R. Mills; a'r Penmaen gan Mr W. R. Williams. Cafwyd gair hefyd gan y Parch John Williams, B.A. Yr oedd yr adroddiad yn dangos^fod yr achos mewn sefyllfa galonogol iawn.—Nodwyd y Parch John Williams, B.A.. ar bwyllgor y llyfrau; y Parch R. Roberts, Penrhyn, ar bwyllgor y genadaeth gartrefol; yn archwylwyr cyflrtfon y trysorydd, penodwyd Mr D. E. Hughes, Dolgellau, a'r Parch David Evans, M.A., Abermaw. Pasiwyd i anfon cylchlythyr i'r oil o'r eglwvsi i ofyn iddynt emvi v rhai oeddis am eu hordeinio eleni. Cadarnhawyd rhoddion fel y canlyn :-Ystradgwyn, 5p; Gwynfryn, lOp; Rhiwspardyn, 5p; Carmel, 5p; Siloh, 5p; Hermon, 5p; Llanellyd, 5p. Pasiwyd hefyd i roddi 25p tuagat yr achos Saeeneg newydd yn y Friog, a bod apel i'w gwneyd at gyfeisteddfod yr achosion Seisnig yn gofyn iddynt ail ystyried achos y Friog, ac os bydd modd, ychwanegu eu cynnorthwy. Yr oedd y pwyllgor benodid i ystyried beth i'w wneyd er coffa am y diweddar 'ysgrifenydd. y Parch R. Owen, M.A., Pennal, yn anog fod 250p o'r axian a addawyd, i'w buddsoddi, a bod llogau 50p i'w talu yn flynyddol am fathodyn aur i'w roddi yn wobr i'r goreu yn yr arholiad. J dirol, a bod gwerth 12s 6c o lyfrau i'w rhoddi i J bob pregethwr ieuanc ar ei dderbyniad i'r C.M. j Hefyd fod oofnodiad i'w rhoddi ar fedd Mir Owen.—Cynnygiodd Mr John Morgan, Bryn- crug, welliant, sef fod gwerth v bathodyn aur i'w ychwanegu at y wobr mewn arian. Cefnog- ) wyd hyn gan v Parch David Evans. M.A., ond oariwyd adroddiad y pwyllgor, a. bod bathodyn i'r goreu.—Hysbyswyd fod capel newydd i'w godi yn MaenofEeren. a gvst yn agoe i 5500p. Nid oedd eglwys wedi ei sefydlu yno, ond dy- wedid fod yr ysgol vno yn rhifo dros 200. Nodwyd rhai i arwyddo papyr am arian at godi'r capel.—Anfonwyd cais o Lanelltyd am gael myned yn daith Sabbathol gyda Bethel, yn ol i gyfarfod dosparth Dolgellau.—Enwvd yn gynnrychiolwrr y Cymdeithasfaoedd Chwar- t..erol :-Ebrill: Mr J. Parry Jones, U.H., a'r Parch J. Gwynoro D-avies. Mehefin: Mr G. Williams, Minffordd, a'r Parch E. J. Evans. Medi: Mr J. Wynne, Arthog, a'r Parch T. R. Jones, Talsarnau. Hydref: Mr R. Williams, Fronfair, a'r Parch J. Davies, Bontddu. Y Gymanfa GvfEredinol: Mri Morris Thomas, Comis J. R. Jones. Dyifrvn Hugh Jones, Engedi; PaTchn. R. R. Morris, Tabe-rnacl; W. M. Griffith, M.A., Dvffryn; ac R. J. Williams, Bc,w-ydd -Penodwyd Mr D. G. Williams, U.H., yn lie Mr Bennett Jones, Talsarnau; a'r Parch Thomas Lloy., Engedi, yn lie y Parch J. R. Jones, Peniel, i fyned i vmweled a'r eglwysi.— Darllenwvd cyfrifon yr Ysgol Sul. Dangosent fod cynnydd yn nhreulia.u y pwyllgor, yn benaf oherwydd fod gwobr ychwanegol wedi ei rhoddi y llynedd.—Pasiwyd, ar gynnygiad v Parch J. Williams, fod y pwyllgor i drefnu i gael tocynau rhad i bawb i fyned i'r Cyfarfod Misol.—Dar- llenwyd llvthyr cvflwyniad i'r Parch W. H. Roberts. Utica, sydd ar ymweliad a'r wlad hon. Rhoed derbyniad sirioi a charedig iddo i'r C.M. ao hefyd anfon cofion at yr enwad yn America gyda £ ef.—Rhoed llythyr cyflwyniad i'r Parch R. W. Jones, TOWVTI, ar «i ymadawiad i gy- mervd gofal eglwysi Golau a'r Cwm, yn Lleyn meryd gofal eglwysi Golau a'r Cwm, yn Lleyn ac Eifionvdd, a phenodwyd y Parch J. Gwynoro Davies a Mr R. Davies i fyned yno i gyfarfod ei sefvdlu. —Darllenwyd ystadegau y Cyfarfod Misol. Gwrandawyr 15093, leihad o 227; cvmunwyr 8874, lleihad o 84; plant yr eglwysi 4280, lleihad o 21; aelodau yr Yagol Sul 10916, lleihad o 98. Casglwyd at y wemidogaeth 5575p, cynnydd o 37p. Talwyd o ddyled capel- au, 3462p. Ca-,tghid v oenadaethau 573p, llei- had o 88p. Cvfanswm yr holl gasgliadau 12.912p, cvnnvdd o 533p. Dyled bresennol y capelau, 16,46bp. Dewiswyd Mr J. Meynck Jones, Dolgellau, a'r Parch J. J. Evans, Aber- llefeni, yn llywyddion am 1901.—Ar gynnygiad y Parch R. Morris, M.A., B.D., a chefnogiad y Parch David Evans, M.A., pasiwyd pender- fvniad yn datgan y golled fawr a gafodd y deyrnas trwy farwolaeth y Frenhines, ac yn I diolch i Dduw am ei chadw i fod yn nodded i rinwedd, &c.. yn cydymdeimlo a'r Teulu Bren- hinol vn eu galar, ac yn llawenha.u oherwydd dTrchafiad Ionverth VII. i'r Orsedd, yn datgan tftvmorarwch iddo, ac yn hvderu y byddai i DdOi wnevd vn ddvlanwa-d er daioni.-Cania- tawyd i eglwysi Engedi a Phemel, mewn undeb a'u gilydd, adeilad vsgoldy yn Mhantllwvd. Hysbyswyd fod Mr J. Parry Jones wedi rhoddi tir i'w godi arno. Diolchwyd iddo am ei rodd. —-Penodwyd y Parch John Davies, Bont Ddu, a Mr Evan Jones, Arthog, i fyned i Salem. Dol- gellau, i gvmeryd fiais yr eglwys gvda golwg ar alw bugail, yn ngHydag i gynnorkwyo mewn dewis rhagor o swyddogion yno.—Dewiswyd y Parch D. James, Llanegryn, a Mr William Jones, Aberdyfi, i fyned i'r Towyn hefyd i gyn- northwyo yn newisiad swyddogion.—Cafwyd rhan o Vyf^f arianol v C.M."gan y trysorydd— Mr E. Griffith—ond dywedai nad oedd yn cyn- nwys pob peth.—Yn unol a rhybudd, galwodd y Parch John Davies, Bont Ddu, sylw at y pwys fod v casgliadau at y genadaeth dramor i'w wnevd ar ei ben ei hun, ac nid ei gysylltu a'r genadaeth gartrefol. Cefoogwvd gan y Parch genadaeth gartrefol. Cefnogwyd gan y Parch J. Gwvnoro Davies.—Gofynodd Mr E. Griffith i Mr Davies ohirio ei gynnygiad am flwyddyn. —Cefnoo-wvd gan v Parch R. Roberts, Penrhyn. Cariwvd T gwelliant.—Cydymdeimlwyd ag amrvw mewn trallod ac afiechyd.—-Enwyd i_bre- gethu :-Y Parchn. R- R. Williams, M.A., Towvn O. E. Williams. Pennal; Samuel Owen, Tanvsrisiau; T. LLovd. Engedi; J. J. Evans, Aberllefeni: D. Jones. Gareg Ddu; T. R. Jones, Talsarnau; a John Williams, Lerpwl.

Cynghor Gwledig Conwy.

Llys Sirol Dinbych,

Ynadlys Bangor,

Ynadlys Llanerchymedd.

Ynadlys Penrhyndeudraeth.

Ynadlys PwllheliI

Ynadlys Rhyl,

CAERGYBI.I

DINBYCH.

FFYNNONGROEW.

GWRECSAM.

LLANDWROG.

LLANGOLLEN.I

-TREFFYNNON.

WYDDGRUG.

AM GYM RY AR WASGAR

ACHOS Y PARCH W. 0. JONES.

[No title]

Advertising

LLANDUDNO.