Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

43 erthygl ar y dudalen hon

Llys Methdaliadol Gwrecsam.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llys Methdaliadol Gwrecsam. DDYDD MAWRTH. Holwyd Thomas Benjamin Gwilliama, chwegnwyddwr a gwerth- wr ymborth, o'r Emporium, Acerfair, ger Rhiwabon. Yr oedd ei ddyled yn 116p Is 1e, aT diffyg yn 64p. Priodolai ei fethiant i fasnach ddrwg, dyledion drwg, a chostau mawr. Dywedai y dyledwr ei fod yn 24 mlwydd oed. Dwy flynedd yn ol dechreuodd fusnes yn Acerfair, pan y darfu i'w fam-yn-nghyfraith stocio y shop iddo i ddechreu ac yn chwanegol at hyny, aeth i ffirm gyfanwerthol o chwegnwyddwyr am y swm o 30p. Cafodd 92p wedi hyny, o dan ewyllys perthynas iddo. Rhoes. ei fam-yn- nghyfraith hefyd i'w wraig yr holl ddodrefn, &c. Oafodd allan ei fod yn golledwr tua deu- ddeng mis yn ol ac yr oedd wedi myned i ddyled newydd er yr adeg hono, gan dybio y bnasai y busnes yn gwella. Yr oedd wedi colli 114p er Ebrill, 1899. Cauwyd yr arholiad.— Holwyd Edward Roberts, ffermwr, Fronlwyd, Glandyfrdwy, ger y Waen. Dywedodd ei fod yn 30 oed, ac mai chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth; ac hyd o fewn rhyw 12 mis yn ol arterai fasnachu mewn cynnyrch fferm, hefyd, y rhai yr oedd yn eu dwyn i farchnad Gwrecsam. Am y dendcleng mis diweddaf yr oedd yn tain 40p yn y flwyddyn. I ddechreu ffermio yn y lie hwn darfu iddo fenthyca y swm o 25p ar wystl ei ddodrefn. Yr oedd mewn anhawsderau er's tua thair blynedd. Priodolai ei fethiant i afiechyd a marwolaethau yn y teulu, diffyg cyfalaf i ddechreu, a cholled ddiweddar o agos i 20p ar geffyl.—Cauwyd yr ymchwil.

Llys Sirol Caernarfon.

Llys Sirol Llanrwst.

Ynadlys Bangor.

i Ynadlys Caergybi

Ynadlys Sirol Caernarfon,

Ynadlys Pwllheli,

BANGOR.

BEDDGELERT.

BETHEL, CAERNARFON,

BETHESDA A'R CYLCB.

! CRICCIETH !

DINBYCH.

DOLBENMAEN.. j

FFESTINIOG A'R CYLCH.|

FFLINT. !

GWRECSAM. :

LLANBERIS UYLOH.j

LL A NDDANIELFAB.

LLANEDWEN. I

:LLANRWST A'R ClfLCH. !

MINFFORDD.

INANTLLE A'R CYLCH

PORTDINORWIC.

PENRHYNDEUDRAETH.

PORTHMADOG.

PRESTATYN.

RHOS A'R OYLOR.

SEION, LLANDDEINIOLEN.

| WAENFAWR.

jWYDDGRUG.

SYMUDIADAU LLONGAU. I-

[No title]

Llys Sirol Llandudno,.

Llys Sirol Porthaethwy.

, Ynadlys Bwrdeisiol Caernarfon.

Ynadlys Bwrdeisiol Pwllheli.I

CAERNARFON.

PWLLHELI.

j TREFFYNNON.

[No title]

I GVffLIAUIR SULGWYN.

.Cynghor Dinesig Criccieth.