Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

ETHOLIAD ARFON YM METHESDA

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETHOLIAD ARFON YM METHESDA (AT OLYGYDD YR "HERALD CYMBALS Syr,-Bellach mae'r cynnwrf etholiadol wedi darfod, a barn mwyafrif Rhyddfrydwyr Arfon wedi dewis Mr Caradoc Rees i lanw'r sedd waghawyd trwy farwolaetb Mr William Jones. Fel mewn ardaloedd eraill, cafwyd rnwy na dwy farn ym Methesda, ac er fod rhyddid gan bob dyn i'w farn, ceisiodd rhai o arweinwyr honediig yr ardal hon wyro barn y mwyafrif i'w mympwyon eu hunain. Test- yn gofid ydoedd gweled un blaid, ac os myn- ner y gwir, un enwa.d. yn ceisio rhwystro barn i fuddugoliaeth. Cyfeiriwn at y cynllun gymerwyd i geisio gwthio Mr, Caradoc Rees allan o fod yn ffafrddyn Bethesda. Amlwg ydoedd mai efe bleidleisiodd fwyaf, er i'r "clic" y cyfeiriodd un atynt lwyddo drwy ffordd a rib eg i gael mwyafrif o ddau yn erbyn Mr Rees ar y trydydd ballot. Pwv ond ael- odau y "clic" yma fuasai yn meddwl am roddi yr ymgeisydd uchaf yn erbyn y trydydd wedi iddo guro yn y ddwy gyntaf? Wedi'r holl vstumiau, erys y ffigyrau yn Jbrawf di- vmwad o farn derfynol afdalwyr lietbesda. Dyma hwy. Cafodd Mr Rees yn y bleidlais gyntaf 91, yn yr ail 114, y drydedd 110, cyf- anrif 315. Dyma y ffigyrau uchaf yn y tair bleidlais yr ochr arall: Y bleidlais gyntai. 59; ail, 107; y di-vdecid, 112; cyfanrif 278. F'elly. er mai i Mr E. W. Roberts y pleid- leisiodd v 18 yng Nghonwy, gwelir fod i Mr Rees fwyafrif o 37 hyd yn oed ym Methes- da. Yr hyn y cwyTnir o'i herwydd, fodd bvn- nag, ydyw fod dynion ymffrostient yn rhod- resgar yn eu hymlyniad diwyro wrth egwydd- orion. ac wrth y blaid Ryddfrydig wedi dar- ostwng eu hunain i gynnyg y pençlerfyniadau ar V diwedd. Gwelsant nad oedd obaitih v dewisid eu he-ilun hwy, fellv penderfvnasant wneud a allent 0 r-wystr i Mr Rees. Qwydd- om hefyd pwy fu yn cynllunio yr ail bender- fvniad, ond trueni i neb wneud ei hun. yn bawen cath i'r cyfryw geisio cripio ei weli. Gall Mr Caradoc'Rees fod yn sicr fod iddo lu o gyfeillion calon ym Methesda na phi asant eu glinau i Baal, ac v caiff groeso teil- wn" ohono ei hun pan ddaw ynia fel Aelod Seneddol anrhydeddus y rhanbarth. Hir oes iddo i wasanaethu ei wlad a'i genedl, uwch- law pob dim eiddoch, etc.. ETHOLWR RHYDDFRYDIG.

"0 Enciliad y Rwsiaid

DIWEDDARAF

MESUR COFRESTRU

COLLEDION Y GELYNI .

DAMWAIN MEWN CHWAREL

HYN A'R LLALL AM 1 Y RHVFEL

GWElTHWYR Y CYNGOR SIR

CYMDEITHAS MAMAETHOD GOGLEDD…

CYNGOR DINESIG BETHESDA

HWYLAHELYNT YNYS MON

Cwyn y Chwarelwyr

Derbyn y Wys f

TAFARNAU ARFON -0

LLYTHYR AGORED At Mr. C. Rees,…

0 BWYS I AMAETHWYR ...

Advertising

MARCHNADOEDD.

ANNIBYNWYR MON'

i"-PARIS, EBRILL, 1915.

CVNGOR DOSBARTH gvvykfai .

jEISTEDDFOD BANGOR

Family Notices