Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
I CYNNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I CYNNWYSIAD. CrynodQb yr Wythnos 1 Dyddiau'r Cawl "The Hearald of Peace." 2 Y Lleuad; Llythyr y Meudwy. 3 Y Senedd 4 Y Gwrthryfel yn Paris 5 Newyddion Cymreig; Manchester 6, 7 PRIF ERTHYGLAU- Mesur y Trwyddedau Ein Byddinoedd a'n Ham- ddiffynfeydd Gwaeth neu Well? 8, 9 Gohebiaethau 10 Lloffion; Barddoniaeth 11 Hyshysiadau 12, 13, 14, 15, 16,
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. Yr oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod o lawenydd, ond cymerodd damwain Ie, yr hyn a drodd y llawenydd yn alar. Taniodd y pylor a ddefnyddid M' yr achlysur, anafwyd tri dyn yn fawr, ac ofnir y bydd i'r niwed a gafodd un o honynt derfynu yn angeuol. t, Ar yr an dydd aeth gweithfa wlan Mr. Samuel Berry, Newhey, yn agos i Rochdale, ardan. Bwrir y golled yn 7000p. Torodd y tan allan yn yr ystafell lie yr oedd y peir- ianau yn gweithio. Yr oedd yr adeilad a'r holl ciddo wedi eu hyswirio. Bydd cystadleuaeth am y sedd a wnaed yn wag yn East Norfolk trwy farwolaeth Mr. Howes. Syr Robert Baxton ydyw ym- geisydd y blaid Doriaidd, a Mr. R. T. Gardon ydyw ymgeisydd y blaid Ryddfrydig. Bern- ir y bydd y gystadleuaeth yn un o'r rhai poethaf a fu yn y lie erys blynyddoedd. Mae y ddwy blaid yn edrych yn y blaen ar yr etholiad gyda phryder mawr. Mae pobl Germani yn brysur gyda y gwaith o drefnu eu hamgylchiadau cartrefol. Dydd Sadwrn bu dadl yn eu Senedd gyda golwg ar ffurf-lywodraeth yr Ymerodraeth, a chytun- wyd ar yr adran gyntaf. Cynygiwyd gan un o'r Seneddwyr nad oedd y rhanau hyny o Poland sydd yn cael eu meddianu gan Prwssia, i fod yn rhan o Ymerodraeth Ger- mani, ond gwrthodwyd ei gynygiad arddiwedd y ddadl. Y mae teulu brenhinol Sweden wedi dyoddef llawer trwy afiechyd yh ystod y tri mis diweddar. Yn gyntaf cymerwyd y Bren- hin yn glaf iawn. Yn fuan wedi iddo ef gael tro. ar ei ddolur, syrthiodd y Frenhines i dwymyn, yr hwn a derfynodd yn angeuol. Yn awr y mae y Frenhines waddolog yn glaf, yr hyn, fel y tybir a achoswyd gan alar trwm ar ol y Frenhines. Dydd Sadwrn, bu ymryson rhwyfo badau ar afon Thames cydrhwng rhwyfwyr penaf prifysgolion Rhydy chain a Chaergrawnt. Enillodd myfyrwyr Caergrawnt. Rhwyfent o Putney i Mortlake-pedair milldir o bellder. Parhaodd yr ymryson am ugain mynud. Dadleua rhai fod nerth corfforol yn anwahan- 01 gysylltiedig a rhagoriaeth meddyliol, tra y mae eraill yn ymwrthod yn hollol a'r athraw- iaeth hon. Modd bynag, y mae yr ymrysonau hyn yn nodedig o boblog gyda dosbarth mawr o bobl yn Lloegr. Cododd miloedd o bobl yn foreu dydd Sadwrn, ac arosasant yn nanedd y gwynt oer am oriau fel y gallent gael cip- olwg am foment ar feibion Rhydychain a Chaergrawnt yn rhwyfo am y goreu; a thal- wyd y symiau o 50p. am dy, a lOp. am fFenestr mewn lleoedd cyfleus i edrych ar yr olygfa. Bernir fod pobl Lloegr yn addoli nerth corfforol yn fwy nag un genedl wareidd- iedig yn yr holl fyd. Mae y FreemarHs Journal wedi cael ar ddeall mai sych a ffurfiol ydyw yr adroddiad sydd wedi ei barotoi gan y Pwyllgor a ethol- wyd gan y Senedd i wneud ymchwiliad i'r achosion o'r terfysgoedd a'r llofruddiaethau yn West-meath. Y mae yr adroddiad yn dechreu trwy ddywedyd i'r Pwyllgor, yn ol y cyfarwyddiadau a gafodd i ymchwilio i'r achosion o'r ami droseddau yn y rhan hono o'r Iwerddon, ac i'r Pwyllgor holi nifer neill- duol o dystion, y rhai a roddasant eu tystiol- aethau gyda golwg ar sefyllfa y wlad. Y mae' yr adroddiad hefyd yn coffau gwahanol ddeddfau seneddol y rhai a wnaed ar wahanol amserau er darostwng troseddau a thrawsder, a'r moddion a arferwyd gan yr awdurdodau lleol yn yr Iwerddon er gosod y cyfreithiau hyny mewn grym. Nid ydyw y Pwyllgor wedi ymgymeryd a'r cyfrifoldeb o awgrymu pa beth fyddai yn oreu ei wneud yn sefyllfa bresenol yr ardaloedd terfysglyd. Dywed y Pwyllgor ei fod wedi gwneud pob peth fel y gorchymynwyd gan y Senedd. Hyd yma, a dim yn mhellach, yr aeth y Pwyllgor, ac y mae yn ymattal rhag rhoddi unrhyw gyngor- ion i'r Llywodraeth gyda golwg ar y pethau a ddylid eu gwneud. Bydd raid i'r Weinydd- iaeth ar ei chyfrifoldeb ei hun gynyg y mesur- au angenrheidiol i sylw y Senedd. Dywed Gohebydd un o Newyddiaduron Llundain, yr hwn a ysgrifenai o Florence, fod llawer yn barnu yn awr y buasai yn well peidio cymeryd meddiant o Rhufain pan y gwnaed. Mae y wyneb a ddangoswyd i'r Pab er cymodi Pabyddion Ewrop, wedi llwyr anfoddloni y blaid eithafol, tra nad ydyw mewn un modd wedi llwyddo i gymodi y blaid arall. Ac yn awr y mae yr amser wedi dyfod i dalu y treuliau. Rhydd hyn brawf ar ddidwylldra y rhai a gefnogent y symud- iad, sef, cymeryd meddiant o Rhufain. Os byddant yn barod fel dynion i wneud yr aberthau a ofynir ganddynt, da fydd iddynt os na byddant, gall ystorm ymgodi yr hon a all ysgubo ymaith y Frenhiniaeth, a gwneud lie i'r werin-lywodraeth, neu rwystro uniad I tali. Y gohebydd a nodasom eisoes sydd yn gyfrifol am yr adroddiad hwn. Yr ydym yn gobeithio er mwyn Itali, a chrefydd, a rhydd- id gwladol a chrefyddol, a heddwch teyrnas- oedd Ewrop, nad oes seiliau digonol i'r hyn a fygythir ganddo. r Nos Lun, cafodd ysgrif y Ballot ei darllen yr ail waith yn jNThy y CyfFredin. Ar ol y Pasc y bydd y mesur yn cael ei ddadleu. Ar ol hyny, eglurodd Mr. Bruce egwyddorion Mesur y llywodraeth gyda golwg ar drwydd- edu tafarndai. Yn ol y Mesur hwn, bydd y wlad yn cael ei rhanu yn ddosbarthiadau, a rhoddir awdurdod i'r ynadon i benderfynu y nifer a fydd yn angenrheidiol o dafarndai yn mhob dosbarth. Os bydd y trethdalwyr yn anfoddlawn i farn yr ynadon, rhoddir awdur- dod i fwyafrif penodol o honynt i ddirymu penderfyniad yr ynadon, oddieithr mewn dos- barth newydd lie nad oes tafarndai. Ar ol penderfynu y nifer o drwyddedau mewn dos- barth, y mae y mesur yn trefnu iddynt gael eu gwerthu i'r neb a rydd fwyaf am danynt, a'r cynnyrch i fyned i drysorfa y llywodraeth. Mae y trwyddedau i gael eu caniatau am ddeng mlynedd, a'r neb a fyddo wedi cael trwydded at ei ryddid i gadw tafarndy lie y myno yn y dosbarth. Bydd amser y trwydd- edau yn dyfod i fyny yn mhen deng mlynedd, pan y byddant yn cael eu hail-ddosbarthu. Bydd y tafarndai yn cael eu cau yn Llundain am hanner nos; yn y trefi eraill am 11 o'r gloch ac yn yr ardaloedd gwledig am 10 o'r gloch. Ar y Sabbath, caniateir i'r tafarndai gael eu hagor o 12 hyd 3, ac yn yr hwyr o 7 hyd 9. ,Y mae pob dirwy i gael ei gofnodi ar y drwydded, a phan fydd y dirwyon wedi cyrhaedd nifer penodol, bydd y drwydded yn cael ei fforffedu. Prydnawn dydd Llun, cynnaliwyd cyfarfod o brif Ymneillduwyr Liverpool, er dadgan anghymhdradwyaeth i adran y seithfed yn neddfau lleol y Bwrdd Addysg. Mae yr adran hono yn awdurdodi y Bwrdd i dalu am addysg y plant tlodion mewn ysgolion enwad- ol. Os caiff yr adran yma aros, bydd y baich yn drymach ar y trethdalwyr bydd pleidiau neillduol yn alluog i gynnal a pharhau ysgol- ion enwadol heb i'r enwadau gyfranu dim atynt, bydd Protestaniaid yn cael eu trethu i ddysgu Pabyddiaeth, a Phabyddion yn cael eu trethu i ddysgu Protestaniaeth, a phob trethdalwr yn cael ei orfodi i dalu am ddysgu credoau a gondemnir gan ei farn a'i gydwy- bod. Mae helbulon Ffrainc yn parhau i dynu sylw Ewrop a'r byd. Y mae y chwyldroad presehol o angenrheidrwydd yn dynesu at ryw bwynt pwysig yn hanes y wlad hbno. Teimla y llyw- odraeth yn Versailles ei bod bellach yn ddigon cryfiymosodar y pwyllgor yn Paris o ddau gyfeiriad—y gorllewin a'r de. Mae milwyr y ddwy blaid eisoes wedi cyfnewid ergydion ar y ffin sydd rhyngddynt, ac y maint yn parhaus wylio eu gilydd. i.:)