Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Gorphenaf 28ain. CYFEIRIAIS wythnos i heno at Gadair Coleg y Bedyddwyr yn Llangollen, ac etholiad Llywydd iddi; ac erbyn hyn y mae hyny wedi ei benderfynu, a'i benderfynu, fel yr wyf yn gobeithio, yn foddhaol i gorff yr enwad. Mae. Proff. Gethin Davies wedi gwasanaethu ei swydd fel athraw clasurol yn dda am llynyddau lawer, ac wedi gweithio ei hun yn fawr i serch y myfyrwyr, yr hyn oedd yn bwysig i athraw allu ei wneyd. Nid oedd dim yn fwy natwriol na bod teimlad cryf yn mysg cynalwyr y coleg dros ddyrchafu Mr Davies i'r Gadair Dduwinyddol, gan ei fod wedi profi ei hun yn athraw clasurol mor ragorol. Diau y gwnaethai Dr Roberts, Pontypridd, neu Mr Parry, Abertawy, yn ardderchog i'r swydd, ac y buasai cysylltiad un o'u safle a'u dylanwad bwy a'r coleg yn gaffaeliad gwerthfawr ond gan fod Mr Dalies yn y lie eisoes, yr oedd yn naturiol fod teimlad y mwyafrif drosto. Ymddygodd Mr Parry a Dr Roberts yn aurbydeddus, wedi gweled mai Proff. Davies gafodd y mwyafrif yn y balot, trwy i'r naill gynyg ac i'r llall gefnogi ei ddewisiad, er gwneyd yr etholiad yn hollol unol. Nid oes dim yn fwy gwrthun na bod dynion yn sori ac yn tramgwyddo os na chaent hwy eu ffordd yn ngtyn ag achosion cyhoeddus. Yr oedd yn rhaid i rywrai golli mewn amgylchiad o'r fath, ac nid yw colli yn deg yn un gwaradwydd. Prawf o fawredd ydyw fod un yn cydweithio yn ddiddig ar ol colli. Caiff y rhai ysgrif. enodd bethau angharedig amser i ystyried yr hyn a wnaethant. Dymunaf i enwad parchus y Bedyddwyr heddwch mawr ar ol hyn, ac i Proff. Davies oes hir i eistedd yn nghadair lywyddol Coleg Llangollen. Nid yn ami y byddaf yn cyfeirio at wragedd rhinweddol, er fod lluaws ohonynt, ond rhaid i mi heno gael cyfeirio at MRS MORGANS, SAMMAH, yr hon oedd yn fam yn Israel, ac yn adnabyddus iawn trwy yr holl Enwad. Nid oedd par a bercbid yn fwy gan bawb na Mr a. Mrs Morgans, Sammah. Gwnaeth- ant y goreu o'r ddau fyd, a chydnebydd pawb na buasai Mr Morgans o'r fath wasanaeth ag y bu oni buasai am yr help a gafodd gan Mrs Morgans. Sonia Paul yn ami am y gwragedd sanctaidd gynt, y rhai a fuont o lawer o gymhorth iddo, ac a gymerasant lawer o boen erddo ac y mae Mrs Morgans yn deilwng o gael ei rhestri yn mysg y rhai goreu ohonynt yn ei mawr ofal calon am achos yr Arglwydd. Yr oedd wedi hanu o hen gyff da—yn ferch i'r Hybarch William Hughes, o'r Dinas, gwr oedd yn nodedig am ei dduwioldeb; ac yr oedd hithau yn ofni yr Arglwydd o'i hieuenctyd. Cafodd ei gadael yn amddifad o dad a mam pan yn lied ieuanc, ond bu Rhagluniaeth yn dda iawn wrthi, am yr hyn bob amser y teimlai yn ddiolchgar. Wedi priodi a Mr Morgans, dechreuodd fasnachu mewn llin a gwlan, yr hyn a fu yn ffynonell o gryn dipyn o elw iddynt. Galluogodd hwy i wneyd bywoliaeth gysurus, a chadw drws agored i'r rhai a ddelai heibio, ac arnynt hwy, am dymhor hir, yr oedd pen trymaf baich yr achos yn Sammah. Trwy ei medrusrwydd, ei gofal, a'i chynildeb hi yn benaf, o dan fendith yr Arglwydd, yr hon bob amser a gydnabyddai, llwyddasant mewn ychydig gydag ugain mlynedd i gasglu digon i ymddeol oddiwrtb fasnach, ac am yr ugain mlynedd olaf o'u hoes mwynhaent eu hunain ar ffrwyth eu llafur. Elent i Dowyn, a Llanwrtyd, ac i Liverpool bob blwyddyn, lie y trig yr unig un o'r teulu sydd eto yn aros. Byddai yn gyson yn Nghymanfaoedd Sir Drefaldwyn, a chwith fydd gweled ei lie yn wag. JTeimlai ei hun yn unig iawn y blynyddoedd di- weddaf ar ol colli Hugh Morgans," fel y galwai ef yn wastad. Yr oedd yn wraig grefyddol iawn, yn cymeryd dyddordeb mawr yn achos yr Arglwydd. ac yn hoff o ddarllen llyfrau defosiynol. Y tro cyntaf y daeth i Liverpool ar ol claddu Mr Morgans, wrth siarad a fy anwyl frawd y Parch W. Roberts, yr hwn o'i febyd oedd yn gyf- arwydd iawn a hi, cwynai ei cholled yn fawr, ac eto canmolai yr Arglwydd, mor dda yr oedd wedi bod iddi. Adawyd neb," meddai, "yn fwy amddifad na mi pan gollis i fy nhad. 'Doedd gin i neb. 'Roedd gan Betty, fy chwaer, gariad, ond 'doedd gin yr un." Yna torai i wylo mewn I diolchgarwch i'r Arglwydd oblegid iddi ei gael ef yn ffyddlon. Dydd y farn yn unig ddengys faint o wasanaeth a wnaeth llawer gwraig dros achos yr Arglwydd, ac y mae yn sicr nas gallasai Hugh Morgans, Sammah, wneyd y gwasanaeth a wnaeth i grefydd oni buasai am yr help mawr a gafodd gan ei wraig Rebecah. Tra yr ydwyf yn son am wragedd rhinweddol, goddefer i mi grvbwyll enw gwraig rinweddol arall, yr hon, er nad adwaenwn hi yn bersonol, y mae genyf barch mawr i'w choffadwriaeth, ar gyfrif y meibion a fagodd- MRS OLIVER, LLANFYNYDD. Nid yn ami y rhoddwyd i fam yr anrhydedd a roddwyd iddi hi o fagu pedwar o feibion y rhai a gyrhaeddasant safleoedd uchel yn ein Henwad mewn talent, dysgeidiaeth, a phobl- ogrwydd. Mr H. Oliver, B.A., oedd yr hynaf o'r meibion, ac efe felly a ddaeth yn adnabyddus gyntaf. Bu Mr John Oliver farw yn ieuanc—pan newydd gymhwyso ei hun trwy addysg dda i'r weinidogaeth-ac y mae y cyfansoddiadau a adawodd ar ol yn profi nad oedd yn ol mewa athrylith i neb o'r teulu. Mae Mr D. Oliver a Proff. W. Oliver, M.A., eto yn aros, a gobeithio fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yn ol iddynt. Clywais lawer o ganmoliaeth i Mrs Oliver gan rai a'i badwaenai yn dda. Gwraig synwyrol a deallgar ydoedd. Hi a agorai ei genau yn ddoeth, a chyfraith trugaredd oedd ar ei thafod hi." I'r Methodistiaid y perthynai hi, er i'w meibion .oil trwy ryw gysylltiadau ddechreu eu bywyd crefyddol gyda'r Annibynwyr. Mor ddyledus yw yr eglwys am famau rhinwedd- ol. Anaml y clywir am blant a dim nodedig ynddynt oni bydd rhyw ragoriaeth yn y fam. Y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo." Mae mamau anghyhoedd mewn conglau dinod wedi magu becbgyn i ysgwyd y byd. Am Mrs Oliver, gellir dyweyd ei bod "yn dda ei gair am weith- redoedd da os dygodd hi blant i fyny, os bu Iletygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da;" ac y mae tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai oreu yn sicrhau fod y rhinweddau yna yn addurno ei chymeriad. Nid oeddwn yn meddwl myned i'r:cyfeir- iad yr aethum heno wrth ddechreu ysgrifenu, ond daeth y ddwy wraig dda yna sydd newydd eu cymeryd ymaith i ymyl fy llwybr, ac nis gallaswn fyned heibio heb dalu fy nheyrnged iddynt. Lladmeeydd.

GEMAU O'R ORACL.