Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
ABERTEIFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERTEIFI. Capel Mair. — Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod cenadol dydd Sul, Mehefin 24ain a'r nos Lun canlynol. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parchn M. Jenkins, Pentre, a Tawelfryn Thomas, Groeswen. Cafwyd pregethau doniol a grymus, cynulleidfaoedd lluosog, a chasgliadau da tuag at y Genadaeth. Y dclwy ÈJjengyles.- Y mae y ddwy chwaer yma, Miss Phillips a Miss Davies, yn cymeryd cylcb- daith drwy sir Aberteifi, hen sir y diwygiadau. Y maent erbyn hyn bron gorphen eu cylohdaith bregethwrol, ac y maent wedi cynal cyfarfodydd yn mhob tref a phentref braidd o fewn y sir. Yn Llechryd nos Sul, Gorphenaf 15ed, yr oedd y dyrfa gymaint nes gorfu iddynt dd'od allan o'r capel a phregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yno wrandawyr o bob parth, hyd yn nod o ben uchaf y sir. Yr oedd rhai, fel Zaccheus gynt, wedi dringo fyny i'r coed er mwyn cael gwell mantais i glywed y ddwy chwaer. Fe bregethodd Miss Phillips oddiwrth y geiriau yma:—" Canys felly y daw dydd yr Arglwydd, megys lleidr yn y nos." Yr oedd y difrifoldeb mwyaf yn meddianu yr holl gynulleidfa. Yna fe bregethodd Miss Davies oddiar y geiriau, "Gwaed ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Cafwyd preg- ethau nerthol a dylanwadol iawn. Mae yn ddi- amheu fod Duw yn bendithio llafur y ddwy chwaer. Mor hyfryd oedd yr olygfa ar ddiwedd yr oedfa, gweled 18 o ymofynwyr pryderus am y ffordd tua Seion. Y Duw ag sydd wedi llwyddo llafur y ddwy chwaer yn y gorphenol fyddo eto yn parhau yr un yn y dyfodol. S. D.
AMMANFORD (CROSS INN).
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMMANFORD (CROSS INN). Llivyddiant mewn Arholiad.-Da. genym hysbysu fod Mri J. Williams a B. Phillips, o'r Hope Academy, wedi dyfod allan yn llwyddianus yn y Matriculation Examination, London University, yn y 1st Division. Y mae en sefyllfa ar y list yn siarad yn uchel am alluoedd y dynion ieuainc hyn a medrusrwydd y meistri, Mr D. E. Williams a Watcyn Wyn. Credwn nad oes yr un ysgol yn Ngbymru wedi bod yn fwy llwyddianus mewn parotoi dynion ieuainc ar gyfer y gwahanol arholiadau a'r ysgol hon. Yn yr amser byr y mae wedi bod yma, y mae wedi Ilwyddo i basio tri drwy y matriculation yn y dosbarth cyntaf, heblaw y lluaws ddynion ieuainc sydd yn gweithio eu ffordd yn mlaen mor anrhydeddus yn y gwahanel golegau Saesoneg a Chymraeg. Dy- munwn i'r dyuion ieuainc hyn lwyddiant mawr i ddringo i fyny uchelderau gwybodaeth, a hir oes i'r meistri wasanaethu eu cenedl. AMICUS.
ABERGWAUN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERGWAUN. Suddiad y "Knight of the Bath.Pan ddaeth y Shipping Gazette i law dydd Sadwrn, Gorphenaf 21ain, a'r newydd fod y llong uchod wrth bob tebyg wedi suddo ar ei ffordd adref o Bombay, taenwyd prudd-der a thristwch trwm dros yr holl gymydogaeth, am mai un oddiyma-Cadben T. Williams—oedd ei chadben, a'i fod ef, ei frawd James, ac un W. Davies, yn ol pob tebygolrwydd, wedi eu colli. Yr oedd y tri wedi eu magu yn y lie, ac yn barchus iawn gan bawb ac yma mae eu rhieni a'u perthynasau y rhan amlaf. Mae y cadben wedi gadael gwraig a dau o blant bychain ar ei ol. Nid oedd ei frawd yn briod. Mae Davies wedi gadael gweddw ar ei ol, yn nghyda brodyr, rhieni, a pherthynasau ereill i alaru yn drwm am dano. Ergyd chwerw i Cadben William Williams (Lizzie Annie) a'i anwyl briod, sef rhieni y ddau flaenaf, oedd clywed fod eu dau fab anwyl wedi myned mor annysgwyliadwy. Maent w.edi magu pump o fechgyn sydd yn anrhydedd iddynt hwy fel eu rhieni, ac yn glod i'r ardal lie y magwyd hwynt. Yr oedd pedwar o'r pump wedi eu dyrchafu i fod yn gadbeniaid ar longau mawrion a chyfrifol, ac nid y lleiaf oedd yr ager- long uchod, Knight of the Bath. Yr oedd y crew i gyd yn rhifo tua 34. Nid oes bellach ond tri ar ol o'r meibion, pa rai sydd ar y mor. Dymunwn ddyddanwch yr Arglwydd yn fawr i'r gweddwon a'r plant amddifaid, yr hen bobl, ac ereill o'r perthynasau sydd mewn galar. Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu." Givjl Ysgol y Tabernacl.—Cynaliwyd yr wyl llchod dydd Mawrth, Gorphenaf 24ain. Am dri, ffurfiwyd yn orymdaith o'r capel, ac aed trwy y prif heolydd dan ganu, ac i lawr i'r Cwm i ymweled a plas y boneddwr Mr J. Worthington, Y.H., yr hwn sydd yn byw yn Clynymel, hen balasdy yr hanesydd enwog Ffenton. Cafwyd dcrbyniad caredig gan y boneddwr, a rhodd mewn aur i'r ysgol. Wedi rhodio trwy y walks oddi amgylch, dychwelwyd trwy y gerddi prydferth perthynol i Clynymel, a thrwy y greenhouses sydd yno. Yna aed i ben y quay, ac yn ol i'r Town Hall i fwynhau o'r danteithion melus oedd yno. Y bwriad gwreiddiol oedd cael te ar y traeth, a threulio y prydnawn yno i ymddifyru yn ddiniwed; ond oblegid fod amryw yno perthynol i'r ysgol mewn galar oherwydd colli anwyliaid yn ddiweddar trwy suddiad y Knight of the Bath, newidiwyd y trefniadau. Yr ydys yn arfer cynal cyfarfod yn yr hwyr, ond gan ein bod wedi cael cyfarfod mor ddiweddar yn nglyn a'r Ysgol Sul, ni chynaliwyd un y tro yma. Treuliwyd gweddill y dydd yn ddifyr ar ben y Slade, yn ngolwg y mor gwyrddlas ac annerfynol, a'r creigiau rhamantus sydd yn ganfyddadwy o'r lle. Cambrian Archaeological Society.-Bydd aelodau o'r gymdeithas uchod yn talu ymweliad a'r lie a'r gymydogaeth yma yn fuan gyda'r bwriad i wneyd ymchwiliad o'r hen bethau rhyfedd sydd yn y cymydogaethau hyn yn nglyn a'r oesau gynt. Byddant yn cyfeirio hefyd tua Thyddewi, Tref- draeth, Maenclochog, a manau ereill oddiyma, gan wneyd y lie hwn yn fan canolog am yr wythnos, a chynal cyfarfodydd i ymddyddan a thraethu ar hynafiaethau y cylch a'u rhyfeddodau. Mae amryw bwyllgorau wedi eu cynal i wneyd y trefniadau rhagddarparol, a bwriedir cyfansoddi museum o bethau hynod yn nglyn ag hanes y lie ar gyfer yr amgylchiad. Taer ddymunir ar i bob un a allo i gyfranu at y museum, a gofelir dy- chwelyd y pethau yn ol yn brydlon a dyogel. M-s.
CAERPHILI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERPHILI. Y Feibl Gymdeithas.—rCynaliwyd cyfarfod y Feibl Gymdeithas yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd y lie uchod, nos Fercher diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch D. Richards. Darllen- wyd y cyfrifon arianol gan Mr Richards, yn abseiloldeb Mr Henry Anthony. Derbyniwyd y swm anrhydeddus o X18 17s. Nc. at y gymdeithas mewn tanysgrifiadau, casgliadau, &c., oddiwrth gyfeillion a chynulleidfaoedd y lie. Darllenwyd cyfrifon y Beiblau a'r Testamentau a werthwyd gan Mr J. Williams, grocer, Bridge House. Traddodwyd araeth rymus ar y Feibl Gymdeithas gan y Parch W. D. Lewis, M.A. Cafwyd cyfarfod rhagorol. Rheilffordd Caerphili a Phontypridd.—Y mae hiraeth mawr am weled y reilffordd hon wedi ei dwyn i orpheniad, a holir yn ami pa bryd y cymer hyny Ie. Clywsom rai yn dyweyd y bydd yn barod o hyn i ddiwedd y flwyddyn. Teimlir gan bawb mai da iawn fyddai y peth. GOHEBYDD CAERPHILI.
CYFARFOD YMADAWOL A CHYF-LWYNIAD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD YMADAWOL A CHYF- LWYNIAD TYSTEB I'R PARCH J. HENRY, FELINDRE. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). Yn nesaf, aetupwyd at y gorchwyl o gvflwyno i Mr Henry bwrs ac anr ynddo, ac yn gerfiedig arno— Presented by the Velindre Congregation to the Rev J. Henry, July 12th, 1883." Cyflwynwyd y rhodd gan Mr Rees Rice, y diacon bynaf yn Felindre, yr hwn sydd yn 86 mlwydd oed. Dywedai Mr Rice ei fod yn cyflwyno y rhodd i Mr Henry fel arwydd o deimlad da yr eglwys a'r gymydogaeth tuag ato. Fod yn flin iawn ganddo ei fod yn ymadael. Yr oedd wedi credu y buasai yn aros am ei dymhor byr ef. Da oedd gand !o glywed y gweinidogion a'r dyeithriaid yn canmol Mr Henry, ond medrai ef d lyweyd trwy brofiad iddo fod yn was da i lesu Grist cyhyd ag- y bu yn en plith. Ei fod wedi profi Mr Henry yn ymdrechgar i fyw fel yr oedd wedi dywedyd a chynghori—yn ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith-byth yn esgenlnso gwnaeth ei oreu i'w gael yno, a gwnaeth ei oren i'w gadw. Yr oe-ld yn flin iawn ganddo ar ei ol. Doniol oedd gweled yr hen frawd, mewn teiniladau tyner, yn methu rhoddi i fyny. Dywedai, os byddai byw i weled olynydd i Mr Henry, nad oedd yn dysgwyi byth gael gwell, ond y buasai yn berffaith foddlawn ar ei gystal. Yna diolchodd Mr Henry am yr anrheg. Dywedai ei fod yn credu nad oddefai ei deimladau iddo siarad llawer o dan yr amgylchiadau. Ei fod yn ddiolchgar iawn am y parch yr oeddent fel eglwys ae ardal yn ei osod arno. Pe na buasai dim yn y pwrs y bnasai yn parchu eu teimlad da trwy y pwrs yn unig. Wrth edrych yn ol, gwelai mai ychydig oedd wedi wneyd i'r hyn ddymunai. Credai fod yr Arglwydd wedi ei lwyddo ni chelodd ddim o'r gwirionedd—ni feddyl- iodd eriocdd am bcidio pregethu holl gynghor Dnw." Nid oedd wedi bod yn berffaith mwy nag ereill, ond beth bynag am y gwendidiu a'r beiau, dymunai faddenant Duw arnynt. Yr oedd yn anhawdd ymadael—Felindre a Phantycrwys oeddent yr eglwysi cyntaf elai hyny byth yn anghof arno. Yr oedd wedi gweled caredigrwydd mawr; er yn byw yn nghanol enwad crefyddol arall, yr oedd yn anwyl ganddynt, ac wedi byw ar good terms. Byddai ganddo hiraeth ar ol llawer o gyfeillion, ac ar ol gweinidogion parchus y Cyfundeb-wedi en gweled bob amser yn siriol, parod, a chroesawgar. Dymnnai wenan Duw i'r eglwys ac iddo ei hun yn ei faes newydd. Yna darllenodd Mr John Hopkins yr anerchiad a ganlyn, a ddanfonwyd gan y Parch D. C. Harris (Caeronwy), yr hwn oedd yn flin ganddo nad allai fod yn bresenol. Cyflivyniad Tysteb y Parch J. Henry. Anrheg deilyngodd Henry-am ei ddysg, Am ei ddawn i'r Cymry Onest frawd, esgynaist fry—yn wr tal I em o ardal elwir y Maerdy. Wron teg, ade? hudol-ydyw hon, Cwd o anr addnrnol Ddaeth i'th ran-man dymunol; A dyma'r iaith-dim ar ol. Mae calon y Felindre, 0 fewn y dysteb hon, Yn curo mewn modd anwyl— Ti yw en eyfaill lion Gweiniilog o gu nodwedd, A llawn o deimlad dwys, A fuost yma, gyfaill, Ac esgob Pantycrwys. Paham y troaist ymaith I'r Maerdy nis gwyr neb O'th ol mae llawer dwyrudd Yn awr i'w gwel'd yn wleb Rhagluniaeth wnaeth dy symnd, Yn ddiau, ac nid dyn Yn ddedwydd byddost yno, Dy garn wna pob un. A ddaw yn agos atat Dy briod fwyn a'th blant, A font yn chwareu bennydd Ar dyner ddedwydd dant; Dy borth a dy gynorthwy A fyddo Iôr y nen, A'i angel ef f'on hedfan Bob amser nwch dy ben. CAERONWY. Ar ol hyn, cafwyd gair neu ddau gan Mr Mathew Morgan, yr hwn a, ddywedai ei fod yn credo na chafodd y Felindre well gweinidogaeth erioed—pnrach, cyflawnach, na ffyddlonach. Fod Mr Henry wedi bod ar ei oren. Llwyddiant iddo ef a'i deala yn eu lie newydd. Mr Thomas Clement, Twyn, diacon parchus o eglwys Carmel (B), a ddywedai ei fod yn teimlo serch mawr at Mr Henry. Yr oeddent hwy fel Bedyddwyr yn hoff iawn oliono, ac nis gwyddai paham, os nad oeddent yn meddwl cynyg gwneyd Bedyddiwr ohono. Llwyddiant a'i dilyno ef a'i deolu anwyl. Mr Evan Rice, Ysgrifenydd yr eglwys, a ddywedai ei fod yn edrych ar dysteb, nid fel ambell un, yn help i'w gyflog. Mae yr eglwys i ofalu am ei dalu bob mis, ond y mae yr anrbeg yn cael ei gyflwyno yn benaf am ei ymdrech, ei ffyddiondeb, a'i ddefnyddioldeb—am good conduct; a thyna oedd ei syniad ef am y dysteb hon. Ond buasai yn well ganddo ef, fel ereill, gael ei gadw yn en plith. Yroeddynddaganddoddyweyd i Mr Henry ddyfod i Felindre a chymeria.d glan ganddo, a'i fod yn ymadael a'i gymeriad yn berffaith loew. Cydnnai yntau i ddymnno yn dda iddo ef a'i denln. Yna gwnaeth y Cadeirydd ychydig nodiadau. Dywed- ai fod yn llawen iawn ganddo fod naws mor hyfryd ar y cyfarfod. Credai mai ychydig iawn oedd yma o'r peth a gawn yn ami mewn cyfarfodydd fel hyn a elwir soft soap. Credai fod pawb we^i siarad eu teimlad yn ddiragrith. ac nad oedd neb wedi dyweyd gormod. Yr oedd yn dda ganddo ddeall fod Mr Henry mor anwyl gan y gymydogaetb. Fod yn flin ganddo ef a'i frodyr yn y weinidogaeth ei golli o'r Cyfundeb, a bod yn dda ganddynt bob amser ei weled, ac hefyd ei glywed yn pregetha-ei fod wedi ei siomi t:f i'r ochr oreu pan yn ei glywed gyntaf yn pregethu, os oedd yn traddodi iddynt yn ami yr hyn a glywai ganddo; nad oedd modd achwyn ar y bwyd. Peth pwysig ydoedd cymeriad—dim gan ddyn fel ei gymeriad, a chymeriad pur yn hanfodol i weioidog yr Efengyl. Gobeithiai y cofiai yr eglwysi y cynghorion a roddwyd gan rai o'i frolyr-siarad yn barchus am Mr Henry, a phob gweinidog arall, yn y teulu ac yn nghlyw y plant. Fod rhai, wrth siarad jn isel, a rhedeg i lawr weinid- ogion yn nghlyw y plant, wedi dysgu eu plant i anmharchu y weinidogaeth a phwy a wyddai na allai peth felly fagu anfiyddwyr i'r oes neaaf ? Rhoddodd Mr Jones gynghorion gwerthfawr cyn terfynn, a therfynodd trwy weddi. Wedi canu penill, ymadawodd pawb, wedi treulio nn o'r cyfarfodydd na fn ei fath erioed yn Felindre. W. J. E. O,Y.-Dymnna nn o'r casglyddion gydcabod yn ddiolchgar y personan hyny a fuont mor garedig a chyfranu iddo at y dysteb o wahanol eglwysi y Cyfan- deb. Cyfaill o bell yn well na brawd yn agos." 0
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
"ROUGH ON RATS."—Y peth y dymunid dm dano wedi ei gael. Gofynwch i'r Druggists a'r Grocers am "Rough on Rats," yr hwn a gliria allan lygod mawrion a bychain, chwilenod, roaches, gwybed, bugs gwely trychfilod, a tyrchod daear. Blychau, 7tc. a Is. SING WELL SPEAK WELL — Doughty's Voice Lozenge has been gratefully appreciated by thousands of clerical, musical, and other eelebrities for nearly 40 years. It imparts to the voice clearness ol" sound and brilliancy of tone. JENNY LIND.—" I have much pleasure in confirming-, as far as my experience extends, the testimony already so general in favour of the Lozenges prepared by you (Miles Doughty). Cd, Is. 2s (id, 5s, and lis—post free, 7d, Is 2d, &c Ask your Chemist for them.—F. NEWliKRV and SONS, 1, King Edward. street, London, E.C. Established A.D, 1746.