Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
D: Y MISOLYN RHATAF YN YR ENWAD. Y CEN AD HEDD, Pris DWY GEINIOG yn y Mis. Dan Olygiaeth y Parch W. NICHOLSON, Liverpool. CYNWYSIAD RHIFYN AWST. Os Myni, Ti a Elli, gan y Parch B. Davies, Treorci Adgofion am Lanuwchlyn, gan y Parch E. T. Davies, Abergele Enwau Cymrei-, Lleoedd, gan Eclectic Meddyleg, nett Athroniaeth y Meddwl, gan y Parch T. P. Edwards (Caerwyson), Caerwys Cylchoedd Eglwysig, gan y Parch D. Morgan, Melincwrt 0 Fis i Fis, gan W. N.- Awstralia yn lacbau Pawb Ysbryd Antariaethus Dygwyddiad Hynod Adolygiad y Wasg Amrywiaethau Y Golofn Farddonol— Dymuniad y Bardd i Geraint Goronwy Gwawlarluniaeth "Llw" Llinellau ar ol Fred Gwilym, baban Mr a Mrs Williams, Caerlleon Mary Dovey Y Wers Sabbothol, gan y Prtrch T. Roberts, Wyddgrug. Yr elw arferol i Ddosbarthwyr. Pob archebion am dano i'w gyru i'r C yhoeddwr— JOSEPH WILLIAMS, Swyddfa'r TYST A'R DTDD, Merthyr. TTNIVERSITY COLLEGE OF SOUTH VJ WALES AND MONMOUTHSHIRE. 0 FOUNDATION SCHOLARSHIPS. The COUNCIL invites STUDENTS to COMPETE for THIRTY-THREE ENTRANCE SCHOLAR- SHIPS in ARTS and SCIENCE, tenable for three years. These Scholarships will clear those who win them of Matriculation and all Class Fees. Competition is also invited for Two "Ware" Scholarships of .£25 each. Other Scholarships of various values will be duly advertised. Examinations for these Scholarships will be held on or about the 12th September at Cardiff, Swansea,, Newport, Carmarthen, Havelfordwest, Merthyr, Brecon, Presteigne, Lampeter, Aberystwyth, &c. All Scholarships are open to both sexes. For further particulars apply to the Registrar Town-hall, Cardiff. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. CYNELIR Cyfarfodydd Blynyddol nesaf yr Undeb lk-J yn Ffestiniog, ar ddyddian Mawrth, Mercher, a lau, Awst 21ain, 22ain, a'r 23ain, 1883. TREFN Y CYFARFODYDD. Cyferfydd Pwylljjor yr Undeb dydd Mawrth, am 3 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, 0 dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Abertawy. Nos Fawrth, yn nghapel Jerusalem, traddodir preg- etbau yr Undeb gan y Parchn R. Rowlands, Treflys, ac E. A. Jones, Castellnewydd-Emlyn. Dydd Mercher, am 7 o'r gloch y boreu, cynelir Cjfeillach yn nghapel Salem, Rhiw, 0 dan lywyddiaeth y Parch J. Davies, Taihirion, pryd y darllenir Papyr gan y Parch E. Owen, Clydach, ar Y pwys 0 fynychu moddion crefyddol boreu'r Sabboth." An- erchir y Cyfarfod gan y Parch J. Silin Jones, Llan- idloes Mr H. Thomas, Llanelli, ac ereil'. Am 9.30 yn nghapyl Jerusalem, traddodir Anerchiad y Cadeirydd, y Parch W. Edwards, Abordar; ac ar ei ol darllenir Papyr gan y Parch T. Roberts, Wyddgrug, ar lawn fagwraeth crefyddwyr Ieuainc yr Eglwysi." Cynygir Penderfyniad arno gan E. H. James, Ysw, Y.H., Pontygafel, ac eilir ef gan y Parch W. Vulcan Davies, Moelfro. Am 2 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, darllenir Papyr gan y Parch L. Jones, Tynycoed, ar Y Reibl ac addysg orfodol yn ngolenni Ymneilldnaeth." Cynygir Penderfyniad arno gan R. Martin, Ysw, Abertawy, ac eilir ef gan y Parch J. Charles, Croesoswallt. Am 6 30, cynelir Cyfarfod Cyhoeddus ynyr Assembly Rooms, dan lywyddiaeth Mr W. J. Parry, Maes- ygroes, pryd y traddodir areithian gan y Parch J. P. William*, Llanelli, ar Gartref y Gweithiwr." Y Parch W. Gibbon, Llanymddyfri, ar Y ddyled- swydd o fyw yn weddus i'r sefyllfa." Y Parch D. Silyn Evans, ar Eirwiredd." A'r Parch D. Roberts, Wrexham, ar Beryglon yr Ieuenctyd oddiwrth Bleserdeithiau." Dydd Iau, am 7 y boreu, cynelir Cynadledd yn nghapel Jerusalem, o dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Cadeirydd y Pwyllgor. Yr un adeg pregethir yn nghapel Brynbowydd, a thrachefn am 10, 2, a 6 o'r gloch. L. WILLIAMS, ■) R. THOMAS, >YsaN. J. B. PARRY, )
Cynwysiad.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. Hysbysiadan 1, 2 Y tnylon y Ffordd—Gem an o'r Oracl 3 Y Senedd Ymherodrol 4 Caerfyrddin-Barddoniaeth .„. 5 Aberteifi—Ammanford—Abergwaun 6 Newyddion Cyffredinol, &o 7 Yr Wythnos 8 I Dadgysylltiad i Gymru 9 Cyfarfodydd 10 Ma.rwoliaetham,&c.II Y Wers Rbyngwladwriaethol 12 Hysbysiadau 13, 14, 15, 19
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY I 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff.
YR WYTHNOS.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. Boreu y Sabboth diweddaf, yn Bridge- water, o gwmpas dau o'r gloch y boreu, torodd tan allan yn swyddfa y Mercury, eiddo Mr Dunsford. Pan ddeffrodd y teulu yr oedd rhanau isaf y t £ yn meddiant y tan, a bu raid iddynt esgyn i'r llofft uchaf. Yno mygodd tri o'r plant, ac yn ei dychryn ym- daflodd Mrs Dunsford allan drwy y ffenestr, ac wrth ddisgyn ar y palmant derbyniodd y fath niwed, fel nad oes ond gobaith gwan am ei heinioes. Truenus oedd gweled Mr Dunsford yn hongian wrth silff y ffenestr am ysbaid maith o amser, am nad oedd y fire-escape i'w chael. O'r diwedd llwydd- wyd i gael ysgol,ar hyd yr hon y disgynodd yn ddyogel. Yr oedd ei eneth fach, ei unig blentyn byw, yn y ffenestr mewn enbyd- rwydd mawr, ond yn ffodus llwyddwyd i'w chyrhaedd ac i'w gwaredu rhag yr elfen ddinystriol. Diangodd y forwyn i nen y t £ ac yno arosodd nes dyfod y fire-escape, a chafwyd hithau yn ddiangol a dianaf. Dydd Sadwrn diweddaf, talodd Syr S. Northcote ymweliad a Chlwb Ceidwadol Maidstone a Mid-Kent, ac anrhegodd yr aelodau ag araetb, baich yr hon oedd, Mesur y Llygredigaethau Etholiadol sydd yn awr o flaen y Cyffredin. Addefai ei fod yn cyflym ddynesu at fod yn gyfraitb, ac yn herwydd hyny dymunai eu rhybuddio o'r canlyniadau. Gan fod y Mesur yn cyfyngu ar oruchwylwyr cyflogedig, y bydd- ai yn rhaid cario yr etholiadau yn mlaen drwy lafur gwirfoddol, ac am hyny ei bod yn bryd iddynt osod eu hunain mewn trefn. Nid oedd yn dysgwyl y cawsid Etholiad Cy- ffredinol yn fuan, ond y buasai yn rhaid ei gael o fewn blwyddyn neu ddwy 0 bellaf, a goreu pa gyntaf y gosodent eu hunain mewn trefn i gyfarfod y frwydr pan ddeuai. Peth anghyfleus i'r ymgeiswyr Tor'iaidd yw Ilafur gwirfoddol. Nid oes ganddynt serch ato, nac ymddiriedaeth ynddo, oblegid nid oes ganddynt brofiad o ddynion yn gweithio drostynt heb eu talu yn dda am hyny. I'w llogellau dyfnion y maent hwy gan amlaf yn ddyledus am eu llwyddiaiit etholiadol, ac nid i lafurus gariad eu cefnogwyr am eubod yn credu yn ddiysgog yn egwyddorion Ceid- wadaeth. Gair yn ei bryd oedd ei gynghor am iddynt geisio ymarfer eu hunain i lafur gwirfoddol, oblegid y mae yn beth dyeithr iddynt. Nid oes cymaint o angen am ei gynghor ar yr etholwyr Rhyddfrydig y maent yn gyfarwydd a gweitbio heb eu llwgrwobrwyo, ond da y gwnant hwythau ymbarotoi i'r frwydr erbyn y del. Pwy, drwy yr holl fyd gwareiddiedig, sydd heb glywed am Cadben Webb, y nofiwr enwog, ond nid di-ail, a'i fod wedi boddi ar y 24ain o'r mis diweddaf yn ei ymgais i nofio yn groes yr afon drocbionog islaw y Niagara Falls ? Ni fuasem yn rhoddi lie mor amlwg i'r amgylchiad, ond ar gyfrif ei fod yn eglurhad diamheuol a chynhyrfus ar egwyddor y mae llawer o fywydau wedi eu haberthu ganddi, ond nid mewn ffordd mor eglur i bawb ei gweled a bywyd Cadben Webb. Yr egwyddor hono yw, ucbelgais aflywodraethus. Yr oedd yn fab i feddyg parchus yn Shropshire; ond yn bur ieuanc daetb: ei dueddfryd at y mor i'r golwg, ac mewn amser cyrhaeddodd y safle o gadben mewn Hong farsiandiol. Yr oedd ei fedr nodedig fel nofiwr a'i ysbryd gwrol wedi ei alluogi i achub amryw fywydau rhag dyfrllyd fedd, ac efe oedd y cyntaf erioed i dderbyn medal aur gan yr Humane Society. Meithrinodd y syniad uchelgeisiol o fod yn brif nofiedydd y byd; ac mewn trefn i gyrhaedd hyny, ymgymerodd a nofio yn groes i'r culfor rhwng Lloegr a Ffrainc. Awst 12fed, 1875, cychwynodd o Dover gyda chwch yn ei ganlyn; ond ar baner y ffordd, rhoddodd i fyny, a chodwyd ef i'r cwch. Yn mhen deuddeg niwrnod, cychwynodd drachefn, ac wedi bod yn y dwfr am 21f o oriau, cyrhaeddodd Ffrainc 2 yn ymyl Calais, wedi cyfiawni gorchest digyffelyb yn haues y byd ond gwnaed yr un peth gan arall ar ei ol, ac mewn llai o amser. Ar ol hyny, curwyd ef fel nofiwr gan Proffeswr Beckwith yn yr Aquarium, Llundain. Cafodd ei uchelgais archoll ddofn, ond ni fynai ildio. Yna daeth i'r penderfyniad, os na allasai fod yn flaenaf fel nofiedydd, y mynasai fod yn flaenaf yn ei feiddgarwch yn y dwfr-yn flaenaf mewn uchelgais rhyfygus—neu farw yn yr ymdrech. Cafodd gan Gwmpeini Rheilffyrdd America i addaw iddo 10,000 o ddoleri os llwyddai i groesi islaw y Niagara Falls. Treiwyd ei ddarbwyllo i beidio cynyg peth mor ryfygus, ond ni fynai--aeth ei uchelgais yn drech na'i farn. Dydd Mercher cyn y diweddaf, aeth i'r dyfroedd enynog heb neb yn ei gymhell, ac yno collodd ei fywyd mewn modd dim amgen na hunanladdiad, gan adael gwraig a dau o blant bychain ar ei ol. Mae uchelgais yn symbylydd gwerthfawr yn mhob cylch, ond ei chadw o dan rheolaeth rheswm a barn ond pan ollyngir y ffrwyn ar ei gwar, ni pheidia yn ei rhyfyg nes lladd ei pherchenog. Nid fel nofiedydd enwog y bu farw Cadben Webb, i'n tyb ni, ond fel y dyn mwyaf rbyfygus yn ei oes. Cafwyd o hyd i'w gorff, dydd Sadwrn diweddaf, yn yr afon Niagara, tua saith milldir islaw y Falls. Yr oedd archoll ddwfn ar ei ben.
JAMES CAREY WEDI EI SAETHU…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JAMES CAREY WEDI EI SAETHU I FARWOLAETH. Mae telegram wedi cyrhaedd Llundain yn hys. bysu fod Jame8 Carey, yr Informer, wedi ei saethu i farwolaeth gan gyd-deithiwr o'r enw O'Donnell, dydd Sul diweddaf, ar fwrdd y Melrose, pan ar for- daith i Port Natal. Ychydig o gydymdeimlad aydd gan neb a'r adyn truenus, ac nid oes neb yn teimlo yn synedig iawn ei fod wedi ei lofruddio. Nid yw y manylion wedi dyfod i law eto, ond credir mai un o'i frodyr Gwyddelig yw y llofrudd, a ejiysylltir ei enw fel un fu & llaw yn ceisio chwythu fyny y Mansion House yn Llundain; a. bernir ei fod wedi dyfod 0 hyd i Carey trwy ddilyn symudiadau y teulu. Trefnwyd fod y wraig a'r plant, saith mewn nifer, i gychwyn 0 Lundain am Port Elizabeth, ar fwrdd y Kinfauns Castle, a chy- merwyd Carey ar y bwrdd yn ddirgelaidd yn Dart- mouth, a dywedir i O'Donnell gymeryd berth ar yr un llestr ddiwrnod neu ddau cyn iddi gychwyn o Lundain, gan ddyweyd ei fod yn myn'd allan i South Affrica. Ar ol tnordaith o dair wythnos, cyrhaeddwyd Cape Town, ac yno yr oedd yn rhaid cyfnewid 0 un Hong i un a! all, a chredir mai wrth symud o un llestr i'r Hall y gwelodd O'Donnell Carey gyntaf, ac ar ol cyrhaedd bwrdd y Melrose, methodd ei eiddigedd ddill ond am ychydig fyn- ydau, ac yn ngwydd ei wraig a'i blant saethwyd ef yn farwol, Caled yw ffordd troseddwr. Cymer- wyd O'Donnell yn garcharor, a chafwyd yn ei feddiant un o'r infernal machines.