Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

DADGYSYLLTIAD I GYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DADGYSYLLTIAD I GYMRU. MAE y mater yma yn dechreu cynbyrfu y Dywysogaeth, ac yn ol argoelion presenol bydd y wlad drwyddi wedi deffroi cyn pen chwe' mis. Pasiwyd penderfyniadau ffafriol i gynygiad Mr DILLWYN mewn amryw o gymanfaoedd y gwahanol enwadau yn ystod y misoedd diweddaf, ac y mae cynadleddau yn uniongyrchol yn nglyn a'r mater i'w cynal yn Abertawy a Chaernarfon yn misoedd Hydref a Tachwedd. Bydd yn dibynu i raddau mawr ar y cynadleddau hyny pa fodd y try pethau allan. Os ceir cynulliadau Iluosog, dylanwadol, ac unol, byddant yn sicr o daflu ysbryd a bywyd trwy yr holl wlad ond os ychydig ddaw yn ngbyd, a'r rhai a ddaw heb gael eu cydnabod yn ar- weinwyr y bobl, ac os oer a diysbryd fydd y cyfryw, bydd yn ofer meddwl am ysgwyd yr holl wlad; ac onid ysgydwir yr holl wlad, gwaeth nag ofer oedd i Mr DILLWYN roddi rhybudd o'i gynygiad. Gellid, a cbredwn y dylid, dwyn cynygiad ger bron ein Senedd, flwyddyn ar ol blwvddyn, yn gofyn am ddad- gysylltiad cyffredinol ar y tir fod y cysylltiad yn un anheg ac anghyfiawn, ac er gwybod na cheir ef ar unwaith, dylid ei hawlio fel pwynt o iawnder. Ond y rheswm arbenig dros hawlio Dadgysylltiad i Gymru ar wahan a Lloegr ydyw, fod Cymru yn addfetach iddo, a'r bobl yn unol yn gofyn am byny ond os na ofyna y bobl am dano mewn dull nad yw yn bosibl ei gamsynied, cymerir y tir o dan ein traed. Ein pwnc cyntaf ni, gan byny, ddylai fod, dangos ein bod yn galw am dano, ac yn benderfynol o'i fynu. Anfonwyd i ni banes cyfarfod brwdfrydig iawn a gynaliwyd yn ddiweddar yn Aber- gynolwyn, yn sir Feirionydd; ond gan fod yr hanes wedi ei gyhoeddi yn barod, nis gallwn ei roddi yn llawn yn ein colofnau. Ymddengys fod y lie er's tro wedi bod yn faes brwydr ar y mater, a bod cyfarfodydd o'r ddau tu wedi eu cynal. Mae Mr C. R. JONES, Llanfyllin, wedi bod beibio fwy nag unwaith yn bwrw tan ar y ddaear. Galwodd Cymdeitlras Amddiffyniad yr Eglwys gyf- arfod, lie y bwriwyd torn a llaid ar yr Ym- neillduwyr. Nos Fercher, Gorphenaf 18fed, ymwelodd Mr. JONES a'r lie drachefn, a chafwyd yno gyfarfod a hir gofir. Yr oedd Mr JONES wedi ysgrifenu at Rector Mer- tbyr i'w wahodd i'r cyfarfod, ac oni allai ddyfod yn bersonol, yn erfyn arno ysgrifenu llythyr i'w ddarllen ynddo, yr hyn a wnaetb, a darllenodd Mr JONES ei lythyr. Gan nad yw yn debyg fod ond ycbydig o'n darllen- wyr wedi ei weled, rhoddwn ef i mewn yma:— RECTORY, MERTHYR, Gorphenaf 14eg, 1883. Anwyl Syr, Diolch yn fawr i chwi am eich llythyr caredig, a'ch gwahoddiad i mi ddyfod i'r cyfarfod yn Abergynolwyn nos Fercher. Yr wyf eisoes wedi ysgrifemi i ddyweyd ei bod yn anmhosibl i mi fod yno. Dydd Mercher nesaf y mae genyf bwyllgor yn Nghaerdydd, i'r hwn yr wyf yn ysgrifenydd, a bydd yn rhaid i mi fod yn bresenol; ond yr wyf yn cydsynio gyda phleser rnawr gyda'ck cais ckwi, i ysgrifenu llythyr y gallwch ei ddarllen i'r cyfarfod, a bydded hwn y cyfryw. Wrth gwrs, rhaid i fy mhwynt cychwynol i Ddadgysyiltiad i fod yn bur wahanol i'r eiddo Ymneillduwr. Yr wyf yn caru yn fy nghalon yr Eglwys yr wyf yn perthyn iddi; yr wyf yn credu pe byddai iddi gael ei diwygio, a'i llygredigaeth gael ei ysgubo allan ohoni, y byddai yn oreu o'r Eglwysi. Yr wyf er's 40 mlynedd bellaeh, fel y dengys fy llafur eyhoeddus, wedi ymdrechu fy ngoreu i'w diwygio. Yr wyf wedi dilyn Johnes yn ei Causes of Dissent in Wales" yn mhell cyn i'r un diwygiwr Eglwysig arall gael clywed am dano; gallaf apelio at ysgrifau a anfonais am dri mis i'r John Bull" yn y flwyddyn 1846 a '47, a chofnodion ereill cyn hyny, ac nid wyf yn petruso dywedyd pa ddiwygiad bynag sydd wedi cymeryd lie yn yr Eglwys yn Nghymru, mai myfi a'i cychwynodd; ie, cyn i Ddeon Bangor fod allan o'i fratiau. Ond yr wyf yn argyhoeddedig er's blynyddau nad oes dim ond Dadgysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth a all ddiwygio yr Eglwys yn Nghymru (uchel gymer- adwyaeth). Wedi ymwcliad ar draws ac ar hyd yr Iwerddon, y rhan fwyaf ohoni, yn y flwyddyn 1878, a chyferbynu yr hyn a welais y pryd hyny gyda'r hyn a wyddwn trwy brofiad gweladwy am yr hyn ydoedd yr Eglwys yn yr Iwerddon yn 1858, mi a ddaethum ar unwaith yn Ddad- gysylltwr (cym.) Cyhoeddais fy ngolygiadau yn y Western Mail, y rhai yr wyf yn credu sydd yn berffaith adnabyddus. Yr wyf wedi ysgrif- enu llawer er hyny ar y pwnc hwn, Ilawer gormod i mi fyned trwyddo mewn llythyr; digon yw dyweyd: Gadewch i wawdwyr chwer- thin os mynant, yr wyf fi yn credu yn onest y bydd i Ddadgysyiltiad ddiweddu er Ilesad Cymru—llesad ysbrydol Cymru yn mhlith yr holl enwadau crefyddol. Duw a wyr, y mae arnom fawr angen hyn, ac y mae yn rhaid i chwithau, fel Ymneillduwyr, gydnabod hyn. Hefyd y mae yn rhaid i mi gyfaddef fod sefyllfa pethau yn anfoddhaol iawn -yn Hawn eymaint felly, os nid yn fwy, nag oeddynt yn yr Iwerddon, mewn perthynas i eiddo yr Eglwys yn Nghymru. Paham y bydd i ni y bonedd- igion, a'r rhai sydd yn dibynu arnom,fonopoleiso yr oil ohono ? oblegid, yn wir, nid oes ond yehydig o Eglwyswyr yn Nghymru am y rhai y gellir dyweyd eu bod yn ddim amgen na'r bon- eddigion a'u canlynwyr. Yr ydych yn gwybod yn dda fod Iluaws mawr o'n Heglwyswyr heb gael eu geni yn Eglwyswyr-meibion a merched Ymneillduwyr, da allan yn y byd ydynt, y rhai a anfonwyd i ysgolion Eglwysig boneddigaidd, lie y cawsant eu blino i farwolaeth, druain bach, gan eu cyd-ysgolheigion Eglwysig nes y daeth- ant hwythau o'r diwedd o rifedi yr Eglwyswyr boneddigaidd hyn. Y mae yn ymddangos i mi yn anghyfiawnder mawr fod dau o bob deg o'r bobl yn cael yr holl arian at amcanion crefyddol a fwriadwyd ar y cyntaf, pan eu rhoddwyd, i'r oil o'r deg (uchel gym.) Y mae hwnyna yn bwnc pwysig, ond nid haner mor bwysig a llawer pwnc arall nas gallaf helaethu arno mewn llythyr. A pheth arall, pe byddem wedi ein Dadgy- sylltu a'r Wladwriaeth, byddem yn alluog i lywodraethu ein Heglwysi ein hunain yn ol y benod gyntaf o Actau yr Apostolion. Byddai genym weinidogion yn gweithio yn ein mysg ag y byddai ganddynt amcan gwahanol mewn golwg, heblaw cael bywioliaethau da, ac apwynt- iadau Eglwysig da (good Church appointments) ac unwaith y caem hyn, yr wyf yn rhagweled pa un a ydych chwi yn ei hoffi, ai nad ydych, fel Ymneillduwr, y byddai i bobl Cymru i raddau mawr ddyfod yn Eglwyswyr. Oblegid yna byddai i'r Eglwys ddyfod yn gorff crefyddol mewn gwirionedd-yn ysbrydol grefyddol—yn grefydd cymydogion a chydraddolwyr, ac nid yn grefydd yr yswain yn unig, a'r rhai y dewiso efe eu noddi. A phwy a all ddyweyd na bydd i'r agosrwydd yma atoch chwi a'ch ffyrdd ryw ddiwrnod ddwyn yr Eglwys ac Ymneillduaeth yn un (cym.) Drachefn, edrychwch ar y pell- der sydd cydrhwng clerigwyr Eglwysig a'r gweinidogion Ymneillduol. Yr I wyf fi yn rhwym o wneyd cyfiawnder a gweinidogion Ymneillduol-yr wyf wedi eu cael bob amser yn barod i gyfarfod a'r clerigwr Eglwysig, ac i roddi iddo y flaenoriaeth, ac i ddangos pob parch iddo ond a ddarfu i'r clerigwyr eu cyfar. fod hwy felly ? A fedr rhywun ddyweyd fod ymddygiad y clerigwyr tuag at eu brodyr Ym, neillduol yn rhywbeth amgen i'r trahausder a'r elyniaeth fwyaf? A thra mai dyma ydyw y ffaith, a allwn ni byth obeithio am unrhyw gyd- ysbrydolrwydd ? Ai onid yw yn ffaith fod yn llawer gwell gan glerigwyr Cymreig ysgwyd llaw gydag offeiriad Pabaidd na chyda brawd Ymneillduol yn y weinidogaeth ? Ac onid yw y teimlad yma yn cynyddu mewn graddau rhifyddol yn awr, pan y mae clerigwyr wedi myned yn ddefodwyr ? Yr wyf yn datgan nad oes dim yn fy nghadarnhau i gymaint yn fy ngolygiadau dros Ddadgysylltiad a'r gwyriad ofnadwy yna at Babyddiaeth sydd mor uchel ei fri yn mhlith clerigwyr Cymreig. Ac yr wyf yn cyfaddef nad wyf fi yn gallu gweled unrhyw ffordd i roddi atalfa arno ond trwy Ddadgy- sylltiad (uchel gymeradwyaeth a churiad dwy- law). Unwaith y rhodder i ni hyny, ni a glir- iwn y wlad yn bur fuan o ddefodaeth, ac a'i hysgubwn yn lan oddiwrthynt oil (clywch, ciywch). Yn olaf oil, byddwch ddyfal yn yr hyn yr ydych yn ei wneyd. Peidiwch a chy- meryd eich troi heibio gan ddim. Os methwn ni a chael Dadgysylltiad yn awr, neu o leiaf ymofyniad i sefyllfa yr Eglwys yn Nghymru o barthed i'w hanaddasrwydd i anianawd y Cymry yna ni wel y genedlaeth bresenol Ddadgysyllt. iad o gwbl. Yr oedd Mr Henry Richard yn condemnio Mr Dillwyn am ddwyn y cwestiwn o flaen y Senedd ar hyn o bryd, mai penderfyniad ansier.ydoedd, ac am i ni aros ychydig yn hwy. Dyna freuddwyd John Bright yn llawn. Yr wyf fi yn dyweyd, nac arosivch am ddiwrnod (cymeradwyaeth). Chwi ellwch, os dewiswch, droi allan hyd yn nod Syr Watcyn dda, a dychwelyd i'r Senedd bob aelod a fedd Cymru fel Rhyddfrydwr; gwnewch hyn, ac yna ni a symudwn y "grand old man," hyd yn nod Gladstone-ni a'i hargyhoeddwn ef na bydd i "poor little Wales" bob amser gymeryd ei sathru dan draed (clywch, clywch). Ac os bydd etholiad cyffredinol, yr hyn nid yw yn annhebyg o hyn i'r haf nesaf, gofalwch chwi na byddo ond un cri etholiadol (electioneering cry), ac y rhaid i bob ymgeisydd wneyd addewid ffyddlon ar esgynlawr yr etholiad cyn ei ddychweliad, y bydd iddo fyned dros Ddadgysylltiad, neu ynte cymerwch ofal na bydd iddo gael ei ddychwel- yd. Yr ydym ni, y Cymry, wedi goddef yr iau Seisonig yn rhy hir mewn materion fel hyn; gadewch i ni eu hysgwyd ymaith yn awr, a dywedwn wrth y Senedd yn glir na fynwn yr un Eglwys ond o'n gwneuthuriad ein hunain, fel y mae yn y Testament Newydd (uchel gymerad- wyaeth). Ni fynwn ni daflu ein gwragedd, a'n plant, a'n pobl ddiniwed yn mhob man i freich- iau offeiriaid haner Pabyddol (clywch, clywch). Yn ddiweddaf oil, nid yw yr Eglwys yn Nghymru yn ein gweddu ni, oblegid y mae wedi peidio a bod (1.) Yn Eglwys ysbrydol. ,(2.) Y mae yn Eglwys ddefodol, yn Eglwys haner Pab- yddol. (3.) Y mae yn Eglwys rhy fawreddog (too grand) nid yw yn Eglwys i gymydogion a chydradd. Mae y dyn tlawd wedi troi ei gefn arni gan' mlynedd yn ol, ac y mae yn cynal eglwys fawr o'r eiddo ei hun er traul o £ 400,000 yn flynyddol, os nad mwy na hyny, ac wedi adeiladu yn agos i bedair mil o eglwysi (adeil- adau). (4) Mae yn bechod ar unrhyw Lywod. raeth i ganiatau y fath bethau i barhau. Yr eiddoch, yn wir, JOHN GRIFFITH. C. R. Jones, Ysw. Parodd darlleniad y llythyr fel y gwelir, gynhwrf mawr, ac yr oedd yr.,a.ra.eth a dra- ddododd Mr JONES ar ol hyny ar feddianau yr Eglwys, yn disgyn fel olew berwedig ar y clerigwyr oedd yn bresenol. Yr ydym yn cyfeirio at hyn yn awr, er mwyn cael cyfle i ddyweyd, os ydyw cynyg- iad Mr DILLWYN i fod yn rhy wbeth i bwr- pas, rhaid i bob ardal trwy Gymru gael ei chynbyrfu yn gyffelyb. Nis gallwn argy- hoeddi ein Seneddwyr ein bod o ddifrif heb hyny ac nid ydym yn meddwl fod pawb o'n haelodau Seneddol yn awyddus am wtbio y peth yn mlaen, er eu bod yn credu mewn Dadgysylltiad o ran egwyddor y peth, eto gwell fyddai ganddynt ei oedi, ac nid ydynt yn hoffi y eyffroad fydd o angenrheidrwydd yn nglyn ag ef; ac nid oes ond dirwasgiad arnynt gan y bobl oddiallan a bar iddynt ddyfod i'r amlwg. Yr ydym yn teimlo'yn bryderus am lwyddiant y Cynadleddau a fwriedir gynal, a dylai y rbai y mae gofal y trefniadau arnynt edrych allan na byddo dim yn cael ei adael beb ei wneyd, a ellir ei wneyd, er eu cael yn llwyddiant perffaith.