Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Cyfarfodydd, &e. -----------.---

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfodydd, &e. CONNAH'S QUAY.—Cynal odd yr eglwys Anni- bynol yn y He uchod ei ehyfarfod blynyddol nos Sad- wrn a thrwy y Sul, Gorphenaf 7fcd a'r 8fed. Y gwa- hoddedigion eleni oeddynt y Parchn J. Thomas, di- weddar o Lansilin a W. Humphreys, Penuel. Cafwyd cynulliadau da, a chasgliadau mwy nag arferoi, a diau yr hir gofir am y pregethau nerthol. B ALA.Perfformiad godidog o'r Prince of Wales Cantata,"—Nos Lun, y 16ag cyrfisol, cynaliwyd math o gyngerdd mawreddog yn Ysgoldy y Bwrdd yn y Bala, yn yr hwn y datganwyd yr hyn sydd yn gynwys- edig yn y Cantawd cyfciriedig gan gor, yn nghydag amryw foneddigion u. boneddigesau o Ffestiniog. Rhaid addef nad oedd y cyngerdd yr hyn oeddem wedi. oys- gwyl iddo fod, ond hwyrach fod ein dysgwyliad yn rhy uchel. Dylaswn gofio mai canvyr y gelfyddyd oedd- ent, ac nid proffeswyr. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr Hugh Evans, Ffestiniog. Llwyddiant ddilyno G6r Ffestiniog a'i gymdeithion. SOUTH BANK, YORKSHIRE. — Cynaliodd yr ejlwys Annibynol nchod ei chyfarfodydd blynyddol, Sabboih, Gorphenaf 15ed, pan y gweinyddwyd gan y Parchn L. Williams, y gweinidog, a P. P. James, Queen's-terrace, Midd Iesborou,,b. Cynaliwyd dau o'r cyfarfodydd yn Saesoneg, ac un yn Gymraeg. Cynal- iwyd y cyfarfodydd hefyd yn fath o gyfarfodydd agor- iadol y capel ar ol y cyfnewidiad mae yr eglwys wedi ei wneuthur ar y capel mewn Iliwio, paentio, aglanhau, a cbasglwyd yn y cyfarfodydd ddigon i dalu yr holl draul aeth yr eglwys iddo gyda'r capel, a thipyn dros ben. Hefyd casglodd un o'r chwiorydd ddigon o arian i gael dau Feibl hardd ar y pwlpud, un Cymraeg a'r llall yn Saesoneg, ar gyfer y cyfarfodydd. Sic baodd brawd o'r eglwys gopi cyflawn o lyfr hymnau hardd Stephen a Jones, at wasanaeth y pwlpud anrhegwyd yr eglwys hefyd a dau flwch casglu prydierth gan un o'r gwrandawyr. Nid yw yr eglwys hon ond ieuanc, ond y mae yn llawn gweithgarweh, bywyd, a chryf ei hyder am ddyfodol Ilwyddianns. BETHEL, CAERGWRLE, GER WREXHAM. -Dydd Linn, Gorpbenaf 16eg, cyfarfn athrawon ac ysgolheigion yr Ysgol Sabbothol yn ng-Iyn a'r achos uchod, yn rhifo oddentu 130 i gael ei gwledd flynyddol o de a bara britb. Daethpwyd yn nghyd at y capel erbyn 4 o'r gloch y prydnawn, ac yn fuan dechreuwyd ar y wledd a ddarparwyd iddynt gan bwyllgor cynwys- cdig o chwiorydd yr eglwys, dan lywyddiaeth Mrs Morgan Jones. Yr oedd yn gwasanaethu wrth y byrddau, Miss Humphrey, Miss Jones, Miss Robeits, Mrs R. Jones, Mrs J. Jones, Mrs M. Jones, Mrs Jenkins (Liverpool), yr hon a'i theulu sydd ar ymweliad a'r gymydogaeth. Wedi i bawb gael ei gwala, aeth pwyd i gae yn ymyl, yr hwn, trwy garedigrwydd Mrs Brathwaite, a roddwyd at ein gwasanaeth am y pryd- nawn, lie y buont yn difyru eu gilydd a chwareuon diniwed, hyd nes y dechreuodd y gwlaw ddisgyn, pan yr aeth pob un i'w gartref wedi ei lwyr foddhau. Y mae yr achos yma mewn sefyllfa flodeuog ac addawol iawn, o dan weinidogaeth y Parch J. M. Jones Yr ydym yn teimlo ein hunain yn ddyledus i Mr a Mrs Michael am en gofal a'u llafur diflino yn ngiyn a'r achos yn y lie hwn, y maent bob amser yn siriol ac yn barod i wneyd yr hyn a aIlant.-Aelod. CLYDACH, DYFFRYN TAWY. — Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cynaliodd Eglwys Gynulleidfaol Hebron ei gwyl de blynyddol allan yn yr awyr agored. Rhoddodd Mr Davies, un o gwmpeini gwaith alcan Glanyrafon, yn ol ei garedigrwydd arferol, fentbyg cac cyfleus, yr hwn sydd yn ymyl station Clyoach, at en gwasanaeth. Bu yr bin yn lied fygythiot yn y boreu, ymgasglai cymylau duon yn y ffurfafen, clywid swn ambell i daran, a disgynai y gwlaw yn bistylloedd ar y ddaear, nes gyru pawb ag oedd yn teimlo rhyw gymaint o interest yn ngwaith y dydd i anobaith. Ond tua chanol dydd peidiodd y gwJaw, gwasgarodd y cymylau, cliriodd yr awyr, a daeth yn brydnawn braf, cystal ag a ellid ei ddymuno. Yfodd tua 1,000 o bobl de wrth y byrddau. Yr oedd esgynlawr eang wedi ei chodi ar ganol y cae, ac oddiarni chwareuodd y Clydach String Band a'r Hebron Drum and Fife Band, amryw ddarn- an pwrpasol iawn er mwyn difyru yr ymwelwyr weddill y dydd. Cyn iddi fyned yn rhy dywyll, ymwasgarodd pawb tua eu cartrefi, wedi mwynhan eu hunain tu hwnt i'w dysgwyliadau. Prydnawn Sadwrn diweddaf bu Cdr Hebron, yr hwn sydd o dan arweiniad Mr David Alexander, yn fuddugol ar y prif ddarri, sef ary" Don o flaen Gwyntoedd," mewn Eisteddfod gdrawl a gynal- jwyd yn Gland"r, ger Abertawy. Yr oedd danger arall yn cydymgais, sef C6r Bethel, Llansamlet, a Chor Soar, Abertawy, ond dyfarnodd y beirniad, sef Mr Rees Evans, Aberdar, y wobr o X12 i Gor Hebron, Clydach, a chadair hardd i'r arweinydd. TABERNACL, MA.ENCLOCHOG. — Cynafiwyd cyfarfodydd pregethu yn y lie uchod ar y Sabboth a nos Lun, Gorphenaf 22ain a'r 23ain, pryd y gweinydd- wyd gyda nerth a dylanwad mawr gan y Parchn 0. R. Owen, Glandwr; a J. Thomas, D.D., Liverpool. Yr oedd Mr Owen yn adnabyddus iawn yn yr ardal o'r blaen, fel un o'n cymydogion agosaf, ac er mor uchel y safai yn marn y wlad yn flaenorol, yr ydym yn sier y bydd raddau lawer yn uwch yn eu golwg ar ol ei wasan- aeth gwerthfawr yn y cyfarfodydd hyn. Er fod enw yr Hybarch Ddoctor yn anwyl a pharchus yn yr ardal, nid oedd ond ychydig o'r genedlaeth bresenol wedi c-iel y fraint o'i weled na'i glywed. Ond bydd adgofion hyfryd a dymunol yn yr ardal am yr ymweliad hwn o'i ciddo cyhyd ag yr erys y genedlaeth hon. Gorchwyl rby anhawdd yn ddiau fydd iddynt aDghofio dylanwad ei bregethau grymus, yn neillduol ei brege:h ar y breuddwydion siomcdig. Yr oedd yr ymadrodd yn disgyn fel gwlithwiaw ar irwellt, ac fel cafodydd ar laswellt. Pan yn ei wrando teimlem awydd diolch i Dduw am ei gadw mor gryf a bywiog ei ysbryd am gyfnod mpr faith i sefyll drosto ar uchel fanau y macs, a boed ei fwa yn gryf eto am lawer o flynyddoedd. Rhoddodd cynulleidfa yr Hen Gapel ei gwasanaeth i fyny trwy y dydd, a daethant yn gryno i uno a phobl y Tabernacl ar ddydd eu huchelwyl, yr hyn a amlygai deimlad canmoladwy, ac ysbryd teilwng o Efengyl ei Fab cf. Cafwyd cynulleidfaoedd hynod o luosog, canu cryf a soniarus, ac arwyddion amlwg o bresenoldeb Preswylydd v berth. Bydded i'r Arglwydd fendithio yn helaeth yr had da a hauwyd gyda'r fath fedrus- rwydd, or adeiladaeth yr eglwysi, ac er dwyn llawer o'r newydd i adnabyddiaeth o'r gwirionedd. Siomir ni yn fawr os im welir arwyddion amlwg er daioni ar ol y cyfarfodydd hyfryd a bendigedig hyn.—Ardalwr. CAERPHIL T. — Gwyl flynycldol Ysgol Sabbothol Bethel.-Cynaliwyd yr wyl uchod dydd Mercher, Gor- phenaf 18fed. Gan' fod y dydd yn deg a dymunol, gorymdeithiodd yr Ysgol trwy ran o'r dref i fyny i Cefn On, ryw ddwy filltir a haner allan o'r lie y plant lleiaf yn cad ea cario mewn wagen fawr yn eael ei tbynu gan ddau getryl a gwas i'w gyru, a roddwyd gan yr hyr.aws a'r caredig Mr T. JeDkins, Gwcrndomen Farm. Yn mhen rhyw awr wedi cyrhaedd pen y myn- ydd, eisteddodd rhyw 400 i lawr yn rhesau treftms i fwynhau pryd gwerthfawr odea bara brith, &c., dar- paredig ar gyfer yr amsylchiad. Rhoddodd Mr Cogp.ins, grocer, foddlonrwydd mawr yn yr oil ddar- pariaeth. Daagosodd Mrs Williams, Ccfn On Farm, bob groesaw a pharch i'r Ysaol yn mhob modd yn y ty ac ar y green oddiallan. Wedi i bawb gael eu llwyr ddiwallu cynaliwyd cyfarfod adrodd a chanu ar y green hardd, cyfleus, dan lywyddiaeth y Parch D. IJichards, pryd yr awd drwy raglen byr o adroddiadau a chaoiad- au. Canwyd amryw ddarnau tlysion gan gor y plant, dan arweiniad Mr E. Bush. Canwyd hefyd amryw unawdan, ac un deuawd, gan aelodau c6r y plant, a chanwyd canig rhagorol Dr Parry 41 Codwn Hwyl," gan barti o fechgyn, dan arweiniad S. Williams. Ter- fynwyd y rhaglen trwy ganu hen don ar y geiriau- Marchog Iesu yn llwyddianns, Gwisg dy gleddyf ar dy glin Nis gall daear dy wrtbsefyll, Chwaith nag uffern fawr ei hun." Dygwyd yr holl drefniadau yn mlaen yn ddeheuig o'r dechreu i'r diwedd gan Mri S. E. Evans, Jonathan Lewis, E. Bush, a T. Lewis, i ba rai, yn nghyda'r holl foneddigesau fu yn gweini yn ffyddlon, hefyd Mrs Williams, Cefn On Farm, a Mr Jenkins, y talwyd y dio!chiadau gwrcsoeaf, ac i'r Brenin mawr am hin werthfawr, a'i ofal yn ei Haglunheth yn dyogelu pawb rhag unrhyw niwed. Siaradwyd yn fyr ar hyn gan y C;>deirydd, yn nghyda Mr H. Anthony. Yna cafwyd yr amiygia t yn y dull arforol gan yr holl dorf o fodd- lonrwydd llwyr i'r holl weithrediadau. Cadd y plant a'r ieuenctyd hefyd fyned drwy gwrs o ymarferion ad- loniadol ar y gwastadeddau llyfnion ar y mynydd pryd. ferth am y gyfran o amser oedd ganddynt yn weddill. Yr oedd y golygfeydd o bob tu i'r mynydd y tlysaf a welsom erioed. Gan fod yr awyr yn glir yr oeddem yn gallu gweled Banau Brycheiniog i'r tu Gogleddol, ac yn gallu gweled Caerdydd a'r Bristol Channel, a Gwlad yr Haf i'r tu dehenol i'r mynydd a chan fod yr haul yn rnachlud heb gwmwl, ychwanegai hyn yn fawr at brydferthweh yr olygfa, fel yr oeddem mewn hwyl i ganu gyda'r Salmydd, ''Arglwydd ein lot-ni, mor ar- dderchog yw dy enw ar yr holl ddacar.-Gohebydd. TREIIAFOD. — Yn nghapel yr Annibynwyr, nos Fawrtb, Gorpbenaf 24ain, traddododd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ddarlith nas gall y rhai a'i clywodd ei hanghofio yn fuan ar y fasnach ofnadwy y mae Llywodraeth Lloegr yn ei chario yn mlaen mewn modd gorfodol yn China mewn Opium. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. Williams. Pasiwyd peisderfyn- iad ar y diwedd yn condemnio y fasoach. MORIA, RHYMNI. — Nos Fercher, Gorphenaf 25ain, ymwelodd y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, a'r lie hwn, a tbraddododd ddarlith synfawr ei fieithiau ar y fasnach orfodol mown opium a gerir yn mlaen gan Lywodraeth Lloegr yn China, di wy yr hon y mae miliynau yn cael eu lladd bob blwyddyn. Llenwid y gadair gan Mr J. Williams, Mechanic. Pasiwyd pan- derfyuiad cryf ar y diwedd yn erbyn ymddygiad an- nghyfiawn a chreulawn Lloegr- BETHANIA, TREORCI.-Traddodwyd darlith yn V capel nchod nos Lun, Gorphenaf 23tin, gan y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, ar "Lloegr, China, ac Opium." Cafwyd gwledd yn wir. Cynvgiwyd gan y Parch J. S. Edwards, ac ciliwyd gan Mr D. Fisher Jones, a piiasiwyd yn unfrydol benderfyniad yn con- demnio y fasnach, i'w anfon i'r Llywodraeth. Pasiwyd hefyd bleidlais o ddiolchgarweh gwresog i Mr Jones. am ei ddarlith. Yn sicr, ni welsom gynulleidfa wedi ei gweithio gan ddarlith i uwch teimlad erioed. — 0

Advertising

Family Notices