Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH J. THOMAS, FOREST,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH J. THOMAS, FOREST, GER WHIT LAND. Mae yr enw Forest yn enwog ac anwyl gan la o bererinion Seion trwy Dde a Gogledd Cymru, yn nghydag i luaws mewn rhanan ereill o'r byd nid yn gymaint oherwydd prydferthwch y lie, ond yn hytrach fel cartrefle fforddolion Seion, pan ar eu llysnegeseuau oddiwrth y teyrn Dwyfol at wrthryfelwyr y byd. Lie ydyw sydd wedi ei hynodi gan ddynion Duw yn byw ynddo am genedlaethau bellach, ac yn ddios nid yw y genedlaeth bresenol yn ol yn hyn i'r un o'r rhai blaen- orol. Tua thair blynedd yn ol bu y brawd anwyl Mr Thomas yn wael iawn, ac yr oeddem oil fel ardalwyr yn ofni fod adeg ei ymadawiad yn agoshau ond gwelodd yr Arglwydd yn dda i'w adferu y pryd hwnw, er cysur i'w denIn, yn nghyda lies yr eglwys. Yr oedd wedi gwella ar ol yr afiechyd y pryd hwnw, nes yr oeddym yn gobeithio fod iddo flynyddan lawer yn y byd hwn, er ei fod braidd fel yn addfedu yn gyflym yn ei deim- lad a'i brofiad crefyddol i fod ar y llawr yn hir. Tua pythefnos yn ol cymerwyd ef yn glaf, ond yr oedd yn graddol wella, fel yr oedd pob hyder genym am ei ad- feriad, a bu allan ddydd Sadwrn, Gorphenaf 14eg, tranoeth yr oedd yn troi yn mhlith y teulu, a pher- swadiodd ei anwyl briod i fyned i'r capel yn y boreu, Aethant i orphwys y noson hono fel arfer, ond tua thri o'r gloch boreu dydd Llun, Gorpbenaf 16eg, deallodd Mrs Thomas fod yna gyfnewidiad pwysig wo,ii cymeryd lie, or na feddyliodd y pryd hwnw fod yna berygl mawr iawn. Danfonodd am y meddyg, yr hwn a ddaeth yn fuan, ac a gafodd nad oedd gan ein gorhoffus frawd ond rhyw ychydig iawn o amser i fyw; felly tua naw o'r gloch y boren hwnw ehedodd ei wreichionen fywiol i'r wlad y siaradodd gymaint am dani, i gartrefu gyda'r Arglwydd Yn ngwlad lonydd yr aur delynau," yn nghymdeithas y gwaredigol In, yn mhresenoldeb ei Geidwad anwyl. Pan gyrhaeddodd y newydd am farwolaeth ein hanwyl frawd y tuallan i'r teulu, yr oedd yn ymdaenu gyda chyflymdra anarferol, ac yn cario rhyw ddylanwad parlysiol trwy yr boll wlad, ac hawdd oedd gwybod, hyd yn nod i ddyeithrddyn a fuasai yn teithio trwy gymydogaeth Whitland, fod rhywbeth rhyfedd wedi dygwydd. Braidd y gaJlem gredu fod y peth yn wir. Paralysis neu apoplexy, oedd y gonad a ddefnyddiwyd i ddatod yr undeb rhwng y corff a'r enaid. Y dydd Iau canlynol ymgasglodd toif lnosog iawn yn nghyd er hebrwng yr hyn oedd farwol O'H hanwyl frawd i dy ei hir gartref yn myn- went Soar. Cyn cycbwyn o'r ty- darllenwyd rhauauo'r Gair Dwyfol, ac offrymwyd gweddïau gan y Parch S. Evans, Hebron. Wedi cyrhaedd Soar, dechreuwyd y gwasanaeth yn Saesoneg gan y Parch L James, Bryn- banc, a phregethwyd gan y Parch W. Thomas, Whit- land, oddiar loan xiii. 7, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon; eithr ti a gei wybod ar ol hyn." Sylwodd— 1. Yr hyn sydd yn ddealladwy i ni yn ngwneuthur. iadau penarglwy ddiaethol Duw. 2. Yr hyn sydd yn annealladwy i ni yn ngwneu- ihuriadau penarglwyddiaethol Duw. 3. Y dadguddiad sicrhgir ar y dirgelion hyn- Y n rhanol yn y byd hwn, ac yn gyflawn yn y dyfodol. Yr oedd y sylwadau yn bwrpasol iawn, ac yr oedd y lie yn foddfa o ddagrau tua diwodd y bregeth pan wnaeth Mr Thomas sylwadan ar ffyddlondeb yr ym- adawedi?, yn nghyda'r golled gyffredinol deimlir ar ei ot yn yr eglwys, yn ei gynghorion a'i weddiau, yn nghyda'i weithgarwch. Terfynwyd v gwasanaeth yn y capel trwy weddi gan y Parch J. H. Miles (B.), Whitland. Ar Ian y bedd anerchwyd y dorf gan y Parch R. Morgan, St. Clears, yn Saesoneg, a'r Parch D. C. Jones, Caerfyrddin, yn Gymraeg, yr hwn hefyd a we !d'iodd. Yna yr oedd yn rhaid troi eineefnau ar ein hanwyl frawd dros en yd, mewn gwir a dyogel obaith y daw yn rhydd o garchar y'bedd yn y dydd hwnw pan y Bydd dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd." Ar ganad yr arch yr oedd a ganlyn John Thomas, born March 10th, 1841, died July 16th, 1883." Felly yr oedd yn 42 mlwydd oed, ac wedi bod yn aelod diar- gyhoedd am 26 mlynedd, ac yn ddiacon am 10 mlyn- edd, yn nghydag ysgrifenydd yr eglwys. Heblaw y gweinidogion a enwyd, gwelsom hefyd y Parchn J. Williams, Carfan D. R. Davies, Rhydy- ceisiaid; D. E. Williams, Henllan; W. A. Griffiths, Narberth D. G. Davies (M.C.), a Richards (M.C.), Whitland; E. Rowlands (E.), Whitland; a T. Davies (E.), Llangan. Gwelsom hefyd Mr J. Beynon, Y.H., Trewern, yn yr angladd. Methodd y Parch Proff. Morgan, Caerfyrddin, a'r Parch E. Lewis, Brynberian, ddyfod, y naill oddicartref, a't Hall yn afiach. Y mae cydymdeimlad cyffredinol yn cael ei ddangos i Mrs Thomas a'i phedwar plentyn, o'r palas i'r bwthyn. Derbyniodd ddydd yr angladd lythyr o gydymdeimlad oddiwrth Mr W. R. H. Powell, A.S., yr hwn sydd yn y Brifddinas, onide yn ddiau buasai yn hebrwng gwedd- illion marwol ei gyfaill hoff i'r bedd. Bydd yn golled fawr i eglwys y TabernacI, yn nghydag i Ysgol Sab- bothol Soar. Gobeithio y bydd marwolaeth y gwr mawr hwn yn Israel symbyln torf ohonom i fod yn fwy ymdrechgar yn y dyfodol, gan gofio fod Y nos yn dyfod pan na ddichon neb weithio." Gobeithiwn weled cofiant o'n hanwyl frawd yn un o'r misolion yn fnan. Gyfeillion anwyl, Na wylwch fel rhai heb obaith," ond ymdrechwch fyw fel y caffoch oil eto gael cyd- gwrdd â'r rhai sydd wedi blaenu yn nhy ein Tad, heb ymadael mwy. Chwythed yr awel yn dyner dros feddroi gwr Duw, ac na sathrei troed yr anystyriol ar y Ilecyn lie y llecha hyd y boreu hwnw pan ddaw i'r lan ar ddysgiaer wedd ei Brynwr. W. S. «

Y DIWEDDAR MRS. SARAH OLIVER,…

Family Notices