Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
11 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGL WYDDI.-DYDD MAWRTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGL WYDDI.-DYDD MAWRTH. Galwodd Arglwydd Emlyn sylw at gynygiad Mr Stephens i symud 10,000 o deuluoedd tlodion i Canada. Atebodd Arglwydd Duly, mai'r unig feddyginiaeth i'r Iwerddon oedd ymfudiaeth. Cynllun Mr Stephens oedd, fod y Llywodraeth Brydeinig i roddi i'r Cwmpeini ddeng miliwn o bunau yn ddil6g am ddeng mlynedd. Yna y cymerent allan 10,000 o deuluoedd, ac y gosodent 160 erw o dir i bob teulu yn Canada. Fod y Llywodraeth wedi cydsynio åJ egwyddor y cyn- llun, ond eu bod am roddi yr arian i Lywodraeth Canada i wneyd y gwaith. Hyd yn hyn nid oedd Llywodraeth Canada wedi cydsynio, ond nid oedd y mater wedi ei ddropio.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Mr Healy, dywedodd Twrne Cyffredinol yr Iwerddon, nad oedd yr informer Walsh wedi derbyn ceiniog oddiwrth y Goron, ac nad oedd yn debyg y buasai angen am ei dystiol- neth yn mhellach. Cododd Mr Ashmead Bartlett ddadl for ond miniog yn nglyn a rheolaeth y Suez Canal. Wrth ateb Mr Healy, dywedodd Mr Fawcett, nad oedd llytbyr-gludwyr yn y wlad i gael cario dros 33 pwys o barseli. Mewn atebiad i Syr S. Cross, dywedodd Syr W. Ilarconrt, oi fod wedi derbyn telegram yn hysbysu fod James Carey wedi ei ladd. Hefyd, mynegodd Arglwydd Hartington ei fod newydd dderbyn telegram yn hysbysu fod sefyllfa iechyd y milwyr yu yr Aipbt yn well, ac nad oedd y cholera yn Cairo mor ddrwg. Yna aed yn mlaen gyda Mesur y Daliadau Amaethyddol (Ysgotland). Cynygiodd Mr Staveley Hill yn He Adran 5, Adran i'r perwyl, fod gan y deilad hawl i ad-daliad yn annibynol ar unrhyw gytundeb rhyngJdo a'r perchenog. Gwrthodwyd ef gan 255 yn erbyn 63. Yna cynyg- iodd Mr Dodson newid ychydig ar eiriad yr Adran. Cafwyd dros y cynygiad, 166. Yn erbyn, 76.
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCHER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCHER. Rhoddodd Arglwydd Claud Hamilton rybudd y buasai dranoeth yn cyflwyno cwestiwn i Mr Mundella yn nglyn a Phrifysgol Cymru. Wedi ychydig siarad ar adroddiad y pwyllgor ar Electric Lighting, darllenwyd y drydedd waith Fesur y Daliadau Amaethyddol Lloegr, ond nid cyn i Mr H. Beach gymeryd y cyfieusdra i'w feirniadu yn llym. Ar ol hyny aed i Bwyllgor ar Fesur y Daliadau Amaethyddol Ysgotland. Pasiwyd pob Adran or 23ain, yr adranau newyddion a'r Schedule. Y gwelliant diweddaf oedd eiddo Mr Balfour, i'r. perwyl fod y drainage a wnaed o fewn pum' mlynedd cyn y ddeddf newydd i gael ad- daliad. Yn erbyn, 141. Dros, 38. Darllenwyd y drydedd waith Fesur y Supreme Court of Judi- cature. Dygodd Dr Cameron fesur i mewn i ddi- wygio Mesur Addysg Ysgotland 1872, a Mr Gray fesur i atal lledaeniad clefydau heintus.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU. Derbyniodd amryw o fesurau gydsyniady Goron trwy ddirprwyaeth. Dygodd yr Arglwydd Gang- hellydd fesur i fewn i'r amcan o ddiwygio y gyf- raith bresenol yn nglyn a phrawfion gwallgofion am droseddau. Darllenwyd ef y waith gyntaf. Ceisiodd Esgob Rochester am gopi o gofnodion a •wnaed yn ddiweddar gan yr Ecclesiastical Com- missioners yn nglyn a thafarndai y maent yn berchenogion arnynt. Cydunwyd a'r cai3. Dyg- wyd i fyny Fesur Daliadau Amaethyddol Lloegr, a darllenwyd ef y waith gyntaf.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Arglwydd Claud Hamilton, dy- wedodd Mr Mundella fod cofebau wedi eu derbyn o amrywiol fanau yn ffafr Coleg Aberystwyth. Y byddai yn ddyledswydd orphwysedig arno ef ac Arglwydd Carlingford i roddi ystyriaeth briodol i hawliau Aberystwyth cyn penderfynu ar leoliad y Coleg. Mewn atebiad i Mr Leighton, dywedodd Mr Brand, fod y Byrddau Ysgolion wedi bentbyca £ 12,800,000, a'i fod ar gynydd. Cafwyd mynegiad gan Mr Gladstone o gwrs y gwaith sydd eto i'w gyfliwni. Rhoddodd Mr Richard rybudd y bydd- ai iddo mor fuan ag y cawsai gyfleusdra yn y Senedd-dymhor nesaf gynyg y penderfyniad a ganlyn:—"Fod yr Eglwys Sefydledig gan y gyf- raith yn gosod dyledswydd ar y Senedd nas gall y Senedd ei chyflawni yn effeithiol, yn amddifadu yr Eglwys o'r gallu i reoli ei hamgylchiadau ei hun, yn gwneyd anghyfiawnder a rhan helaeth o'r genedl, yn niweidiol i fuddianau crefyddol a gwleidiadol y genedl, ac na ddylai gael ei dal i fyny yn hwy." Rhoddodd Col. Makins rybudd y byddai iddo gyfarfod y penderfyniad a gwelliant nacaol. Mewn atebiad i Mr Gray, mynegodd Mr Chamberlain fwriad y Llywodraeth i estyn Mesur Methdaliad i'r Iwerddon. Tynodd hyny wrthwy- nebiad oddiwrth Mr Gray, Mr Callan, a Mr Healy. Yna aed i bwyllgor cyflenwad.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER. Darllenwyd yr ail waith nifer o fesurau mewn cysylltiad ag Electric Lighting. Mewn atebiad i larll De la Warr, dywedodd Iarll Granville fod yr holl bapyrau yn nglyn ag achos y Suez Canal wedi eu cyhoeddi. Darllenwyd yr ail waith Fesur y Petroleum. Galwodd Iarll Shaftsbury sylw at weithrediad deddf 1879 mewnperthynas i osod plant i gyflawni campau peryglus, a rhoddodd enghreifftiau o arddangosiadau yn y rhai y gosodir plant i beryglu eu heinioes. Addawodd Iarll Dalhousie y cawsai y mater sylw y Llywodr- aeth mor fuan ag y byddai yn bosibl.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Rhoddodd Mr Henry Richard rybudd y byddai iddo ddydd Llun nesaf ofyn i'r Ysgrifenydd Clr- trefol, os yn wyneb yr anhawsderau a deimlai awdurdodau lleol i ddarparu cemeteries y byddai iddo y Senedd-dymhor nesaf ddwyn mesur i mewn i ddiwygio y deddfau claddu presenol. Mewn atebiad i Mr Arnold, nis gallasai Mr Dodson ym- yraeth a'r gyfraith yn nghylch symudiad anifeil- iaid o wledydd a chlefydau heintus ynddynt. Nis gallasai Mr Courtney, mewn atebiad i Mr 0' Brien roddi un gobaith am ychwanegiad yn y grant i pauper lunatics ya yr Iwerddon. Mewn atebiad i Mr Brinton, dywedodd Syr C. Dilke fod gorchym- yn wedi ei anfon allan i disinfecto cadachau, a phob math o bethau a ddygid o'r Dwyrain allas- ent ddwyn ynddynt hadau cholera. Wrth ateb Syr S. Northcote, dywedodd Mr Gladstone, nad oedd Cetewayo wedi ei gyfyngu i nifer penodol o filwyr, yn unig nad oedd i adsefydlu ei hen gyfun- drefn filwrol. Ar y cynygiad o ail ddarlleniad Mesur y Bwrdd Llywodraeth Leol Ysgotland, cynygiodd Mr Dalrymple welliant, nad oedd i gael ei ddarllen am dri mis. Cafwyd dadl faith ar hyny. Yr oedd Mr Warton yn siarad yn erbyn y Mesur am ddeng mynyd i saith o'r glocb, pan, yn ol y rheol, yr oedd yn rhaid gohirio y ddndl. Pan gyfarfyddwyd am 9 o'r gloch, cyfrifwyd y Ty allan cyn gwneyd dim.
TY YR ARGLWYDDL—DIDD LLUN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDL—DIDD LLUN. Galwodd Arglwydd Stratheden a Campbell sylw at y Suez Canal, a gofynodd am gopiau o'r oheb- iaeth wreiddiol rhwng y Llywodraeth a M. de Lesseps. Atebodd Iarll Granville fod y Papyrau eisioes wedi eu cyhoeddi. Cynygiodd Arglwydd Thurlow ail ddarlleniad Mesur y Railway Passen- gers Duty. Darllenwyd ef yr ail waitb.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Mewn cydsyniad i gais Mr Henry Richard, cyd- unwyd i gael adroddiad o'r nifer o bersonau a gosbwyd am feddwdod yn Nghymru yn mis Mehefin, 1882, ac yn yr un mis yn 1883. Mewn atebiad i Mr Talbot, addefodd Mr Mundella fod y Charity Commissioners wedi mynegi eu hofnau y buasai i'r Ysgolion Gwaddoledig gael eu heffeithio gan yr Ysgolion Elusenol Uwchraddol. Dywed- odd Mr Fawcett mewn atebiad i Syr E. Wilmott, yn y lleoedd gwledig hyny lie nad oes llytbyrdy rheolaidd, dim ond pillars, &c., fod yn rhaid cy- meryd y parseli i'r llytbyrdy agosaf. Mewn ateb- iad i Mr Gray a Mr Healy, dywedodd Mr Cham- berlain fod y Llywodraeth yn bwriadu cymhwyso Mesur Methdaliad at yr Iwerddon. Galwodd Mr John Morley sylw at arosiad maith y milwyr Prydeinig yn yr Aipht. ina aed i Bwyllgor Cyflenwad.
YR ANFADWAITH YN SIR FRYCHEINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ANFADWAITH YN SIR FRYCHEINIOG. PRAWF Y BRODYR HARRIES. £ 1,000 0 IAWN. Diau fod darllenwyr y TYST A'R DYDD yn cofio am yr anfadwaith lIohod a gymerodd le dechreu y flwyddyn bresenol. Yn fyr, mae y ffeithiau fel y canlyn :-Mae hen wr o amaethwr o'r enw Jenkin Morgan yn byw yn Ifermdy bychan a elwir Taicwpla, yn nghymydogaeth Pendevyn, Brych- einiog. Rbyw filldir neu ddwy o Taicwpla saif palasdy Bodwigiad, trigfan dau frawd o'r enwau Tom a John Harries, pa rai a berchenogant amryw dyddynod yn nghymydogaeth Penderyn, a llawer iawn o ffermdai a thir yn nghymydogaeth Llan- trisant, ac o dan rhai ohonyut y mae cryn lawer o lo, fel rhwng y naill a'r llall, y maent yn bercben. ogion llawer iawn o gyfoeth. Perchenogant y tyddyn lle mae'r hen wr Jenkin Morgan yn byw. Hefyd, mae ganddynt balasdy o'r enw Treferig yn agos i Lantrisant, ac y maent yn byw o'r naill i'r llall. Mae'r ddau yn ddibriod, ac o dan 30 mlwydd ced. Yr wythnos olaf yn y flwyddyn ddiweddaf, bu Jenkin Morgan yn lladd mochyn, a phrydnawn Sadwrn yn yr un wythnos eyfeiriodd ei gamrau i Bodwigiad gyda darn o sparerib yn rhodd i'w feistri ieuainc. Ar ol cyrhaedd y lie, ac i'r forwyn hysbysu ei bresenoldeb iddynt, yn mhen rhyw gymaint o amser cafodd ei wahodd i'r dining-room lie yr oedd y brodyr yn mwynhau eu hunain ar ol ciniaw. Cafodd dderbyniad croesawgar. Rhodd- asant iddo wydriad o wisci a dwfr, ac yno y eadwasant ef i siarad am y naill beth a'r llall, ac yfed wisci nes iddo golli pob ymwybyddiaeth ohono ei hun a'r cof cyntaf ganddo ar ol bod yn y dining-room nos Sadwrn ydoedd cael ei hunan boreu dranoeth mewn ystafell ar y llofft yn gorwedd ar ei gefn mewn poenau dirfawr. Yn ystod y nos, ar ol ei feddwi i ystad o annheimlad- rwydd, eyflawnwyd y gweithredoedd mwyaf ysgeler ar gorff yr hen wr. Yr oedd ei wallt wedi ei gymeryd i ffwrdd i gyd, ei gernflew ac aelau ei lygaid wedi eu heillio, rhauau o'i ddillad wedi eu diosg, a'i gorff wedi ei serio ag haiarn poeth mewn amryw fanau. Gyda llawer o anhawsder, ym- lusgodd i lawr i'r gegin yn ystod y dydd at y tan, ac yno y bn trwy y dydd, heb gymeryd sylw braidd o ddim gan ei boenau, ac yn methu deall ei sefyllfa o gwbl. Gwelodd y forwyn amryw droion yn ystod y dydd, ond ni siaradodd nemawr air 11 hi; ac ni chynygiwyd lluniaeth iddo o gwbl yn ystod y dydd. Iihwng- 6 a 7 o'r gloch yn yr hwyr, daeth y brodyr i mewn i'r gcgin, a cheisient berswadio yr hen wr mai wedi cwympo ar y tan ydoedd ond yr oedd pobpeth o gylch ei gorff yn profi yn wahanol i hyny, a dyma hwy eto yn gorfodi yr hen wr i gymeryd tii glasied o wisci a dwfr y naill ar ol y llall, nes ei wneyd eto yn feddw a dideimlad. Yn y sefyllfa hono, cynorth- wyasant ef i'r llofft i'r un ystafell a'r noson flacuorol, a gosodasant ef i orwedd ar y planciau, ac yno y gadawsant ef am y nos. Rhywbryd tua'r boreu, dechreuodd dd'od ato ei hun, a gwnaeth ei ffordd allan o'r ty cyn fod y brodyr allan o'u gwelyan; a tbrwy lawer o anhawsderau cyrhaeddodd gartref, a braidd yr oedd ei wraig a'i forwyn yn alluog i'w adnabod. Ar ol adrodd yr helynt wrthynt goreu y medrai, dechreuasant wneyd pobpeth a allasent er ceisio ei wella, ond gwaeth yr oedd yn myned bob dydd, fel y gorfuwyd o'r diwedd anfon am feddyg. Bu dan ofal Dr Jones, Hirwaun, am bedwar mis, ac ofnai y meddyg lawer gwaith y buasai ei fywyd yn myned yn aberth i'r driniaeth a gafodd; ond llwyddwyd i adferu ei iechyd i raddau helaetb. Yn y cyfamser, daeth y ffeithiau yn adnabyddus i'r heddgeidwaid, a phenderfynasant ddwyn yr achos o flaen yr ynadon; felly, gwysiwyd y ddau Harries i ymddangos o flaen y faine yn Cefncoed- ycymer. Gobiriwyd yr achos dair neu bedair gwaith, ond y diwedd fu iddynt gael eu traddodi i sefyll eu prawf yn mhrawdlys ddiweddaf Aber- honddu ar y cyhuddiad o niweidio Jenkin Morgan yn ei gorff, a gosod ei fywyd mewn perygl. Gan fod y brodyr mor gyfoethog, dygwyd y dalent oreu fedrai arian wneyd er ceisio eu rhyddhau cyn iddynt gael eu traddodi. Dydd y prawf ddaeth, ond methodd y rbeithwyr gytuno ar y reithfarn, felly gohiriwyd yr achos byd y frawdlys nesaf. Drwg genym grybwyll mai dim ond un o'r brodyr a alluogwyd i fod yn bresenol i sefyll ei brawf. Mae yr achos wedi effeithio ar synwyrau y llall i'r fath raddau, fel y gorfuwyd ei gymeryd i wallgofdy, ac yno y mae yn bresenol. Yn mhrawdlys Abertawy, dydd Ian diweddaf, daeth yr achos yn mlaen mewn gwedd arall, sef Jenkin Morgan yn gofyn ac yn hawlio iawn arianol oddiwrth Mri Harries am y niwed a'r boen oedd wedi dyoddef. Dadleuwyd yr achos yn dalentog dros ac yn erbyn gan bump o far- gyfreithwyr enwog—Mr Justice Field yn eistedd yn y gadair farnol, a deuddeg o reithwyr deallus yn gwrando. Gosododd y barnydd yr aehos yn oleu oii blaed, ar ol i'r bargyfreithwyr orphen; yna ymneillduodd y rheithwyr, a buont yn absenol am awr. Ar eu dychweliad, dywedodd yr arweinydd fod eu dedfryd o blaid yr achwynydd, a'u bod yn dyfarnu iddo ^61,000 o iawn am y triniaethau ysgeler a dderbyniodd. Mae y dyfarniad yn uchel, ond nid yn rhy uchel i gyfateb haeddiant y troseddwyr. Diau y bydd llawer o ddyfalu bellach beth fydd diwedd y criminal action. Ceir gweled heb fod yn hir.
YMTLON Y FFORDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
goreu; ond nid oes yr un cyfarfod mor agored i gael ei gamddefnyddio a'i droi yn ddifudd, ac unrhyw weinidog a all wneyd y gyfeillach yn adeiladol a deniadol i dd'od iddi, y mae gweinidogaetb y cyfryw yn sier o fod yn llwyddiant. LLADMERYDD.