Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL AM 1883. Cynelir yr Eisteddfod eleni, fel mae'n hysbys i'n darllenwyr, yn Nghaerdydd, ar y dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, a Iau, Awst 6ed, 7fed, 8fed, a'r 9fed, mewn pavilion digon eang, medd. ent, i gynwys 20,000 o bersonau, yr hwn yn garedig a roddwyd at wasanaetli y pwyllgor gan Gwmni y T.V.R. Cynelir cyfres o gyfarfodydd yn nglyn a'r Eisteddfod gan Gymdeithas y Cymrodorion, Llundain. Cynaliwyd y cyntaf prydnawn dydd Sadwrn diweddaf yn y Town Hall, pryd y darllenwyd papyr rhagorol ar Addysg Uwch. raddol yn Nghymru, gan Lewis Morris, Ysw., Llundain. Llywyddwyd gan y Maer, a chymer- wyd ran yn y cyfarfod gan Syr George Mac- farren, Cynddylan, Brinley .Richards, Mar- chant Wiliiams, ac ereill. Yn kerwydd prinder lie nis gallwn ond yn unig grybwyll enwau y buddugwyr ar y gwahanol destynau. DYDD LLUN oedd dydd cyntaf yr Eisteddfod. Cynaliwyd yr Orsedd am 10 o'r gloch, ac agorwyd yr Eis- teddfod am 11. Cymerwyd y gadair gan yr Anrhydeddus Ardalydd Bute, a chafwyd ganddo anerchiad rkagorol ar hanes boreuol y Cymry. Yna cafwyd anerchiadau barddonol i'r Eistedd. fod gan Nathan Dyfed, Gwilym Elian, Hywel Ddu, Dewi Haran, &c. Yna cafwyd can yr Eisteddfod, "Difyrwch Gwyr Harleck," gan Ap Herbert mewn ysbryd ardderchog. Yna awd yn mlaen i ddyfarnu y gwobrwyon yn ol rhaglen y dydd. Mr Marchant Williams yn darllen ei feirniad- aeth ar y traethodau ar "Hanes Llenyddiaeth y Cymry o'r flwyddyn 1300 i'r flwyddyn 1650. Gwobr, £100. Dywedai nad oedd ei gyd- feirniaid, Proff. Rhys a Mr Powell, golygydd y Cymrodor, wedi cael hamdden i ddarllcn yr oil o'r traetkodau—saitk mewn nifer; yr oedd ef wedi eu darllen yn fanwJ, ac ni phetrusai ddy- wedyd fod un ohonynt yn wir deilwng o'r wobr, ond nis gallesid ei chyflwyno kyd nes y buasai ei gydfeirniaid yn cael kamdden i edryck dros- tynt; felly nis gallesid chwaith wneyd yn hys- bys enw yr awdwr. Darllenodd y Parch John Williams (Glan- mar), ei feirniadaeth ar y pryddestau i "Lan- daf." Gwobr, dE21, a medal. Derbyniwyd 13 o gyfansoddiadau. Yr oedd rhyddid i gyfan- soddi yn Gymraeg neu Saesoneg. Barnwyd Cymro a Sais yn gyfartal; Mr James Mullins oedd y Sais. Nid oodd y Cymro yn bresenol i ateb i'w enw. Darllenwyd y feirniadaeth ar yr anthemau gan D. Emlyn Evans. Derbyniwyd 30 o gyf- ansoddiadau, a dywedai fod ei gyd-feirniaid, Mr Jenkins, Aberystwyth, a Mr Turpin, Llundain, yn hollol unfarn ag ef, mai dim ond tri oedd wedi cyrhaedd y dosbarth blaenaf, ond fod diffygion ncillduol yn y rhai hyny, fel nad oedd yr un ohonynt yn teilyngu y wobr, er nad oedd ond.e55s. Ceiriog a ddarllenodd y feirniadaetk ar y 15 bugeilgerdd. Dywedai fod ei gyd-feirniad, Elis Wyn o Wyrfai, yn hollol gytuno fig ef mai cyflredin iawn oodd y cyfansoddiadau. Y goreu oedd un yn dwyn yr enw Cynan Meiriadog." Gwobr, 95 5s. Nathan Dyfed ddarllenodd y feirniadaeth ar y pryddestau coffadwriaethol i'r diweddar Ar- dalydd Bute. Derbyniwyd tair. Y goreu oedd Dewi Wyn o Essyllt. Gwobr, £10 10s. Darllenwyd y feirniadaeth ar y double chant gan Emlyn Evans. Derbyniwyd 104 o gyfan- soddiadau. Y goreu oedd Bute," yn B flat, seE Mr D. Lewis, Hanrhystyd. Gwobr, 91 Is. Mr Titus Lewis, F.S.A., ddarllenodd y feirn. iadaeth ar y cyfansoddiadau Y moddion goreu i ddwyn yn mlaen ddifyrion iachus a rhesymol mewn lleoedd poblog tuallan i fwrdeisdrefi." Cystadleuodd wyth y goreu oedd y Parch D. B. Richards (B.), Abersyckan. Gwobr, £ 21. Ail oreu, Mr D. J.jRowlands, Brecon Old Bank, Merthyr. Gwobr, zelo 10s. Yn nesaf darllenodd Mr Titus Lewis y feirn- iadaeth ar "The old squire of Llankaran." Der- byniwyd tri traethawd; y goreu oedd Dewi Haran, Pontypridd. Gwobr, £10 10s. Ail oreu Air Daniel Owen, Llanharan. Gwobr, £ 5 5s. Derbyniwyd chwech o ganeuon i'r Wraig weddw." Gwobr, E3 3s. Dywedai Ceiriog fod y ddwy oreu yn gyfartal, felly rhanwyd y wobr rhwng Mrs Janes Davies (Llinos Glan Taf), Gyfeillion, Pontypridd, a Mrs Owen Pritchard (Buddug), Caergybi. Cystadleuaeth y string band oedd y peth nesaf gymerodd le. Daeth tri band yn mlaen, sef eiddo Caerdydd, Merthyr, a Treorci. Beirn- iad, Syr George Macfarren. Dyfarnwyd Caer- dydd yn oreu; arweinydd, Mr Edward Roberts. Gwobr, £25. Ail oreu, Merthyr; arweinydd, Mr William Scott, tad y berdones enwog, Miss Meta Scott. Gwobr, £10. Mr Lile 0 Gasnewydd enillodd y wobr flaenaf o R5 5s., a Miss Maloney, Caerdydd, yr ail wobr, E2 2s., am chwareu ar y berdoneg. Tom Felix a'i gyfeillion o Gwm Ithondda gafodd y wobr o £ 4 4s., a South Walians yr ail wobr 0 92 2s., am ganu pedwarawd. Saith parti yn cystadlu. Darllenodd y Llywydd feirniadaetk Proff. Rhys ar y traethodau (saith mown nifer) ar y testyn Enwau Cymreig Celtaidd manau a bar- heir hyd heddyw mewn rhanau 0 Brydain a boblogir gan y Saxoniaid." Y goreu oedd y Parch Jacob Jones (A.), Mynyddislwyn. Gwobr £21. Ail oreu, Mr E. J. Newell, Caerdydd Gwobr, £10 10s. Darllen beirniadaeth y traethodau (tri mewn nifer) ar Hanes Gweithfeydd Henafol Ponty. pool." Gwobr, £ 5 5s. Goreu, Mr D. Griffiths, Pontypool. Derbyniwyd 6 0 draethodau ar Cysylltiad darganfyddiadau diweddar mewn gwyddorau a datguddiad." Dywedai y beirniad, y Parch Chancellor Phillips mai y goreu o ddigon oedd eiddo Anti-Darwin," sef y Parch J. R. Tho- mas (A.), Bethesda, Llandysilio, Narberth. Gwobr, JEIO 10s. Derbyniwyd tri 0 gyfansoddiadau, y rhai a bwysent saith pwys, ar Y diarebion Cymreig, eu hanes a'u nodweddion." Gwobr, £10 10s. Y goreu oedd Mr Robert John Price, Caergybi. Diweddwyd cyfarfod y boreu gyda chystadl- euaeth ganu anthem. Gwobr, B15 i'r goreu, a £ 5 i'r ail. Yr oedd pump cor wedi anfou eu honwau i mewn, ond dau yn unig ddarfu gys- tadlu, sef cor Wesleyaid Seisonig, Tredegar, a chor y Wern, capel yr Annibynwyr, Ystalyfera. Dywedai Macfarren nad oedd dim un ohonynt wedi dyfod i fyny i'r safon. Cor y Wern oedd y goreu, a dyfarnent £10 o wobr iddo, a gorfod. id hwy i atal yr ail wobr oherwydd dim teilyng. dod digonol. CYFARFOD YR HWYR. Cynaliwyd cyngherdd yn gymysgedig a chys. tadlu. Yn absenoldeb Syr E. J. Reed, A.S., cymerwyd y gadair eto gan Ardalydd Bute, yr hwn a alwodd ar Ap Herbert i ganu "Our Jack's come home to-day." Derbyniwyd ef gyda banllefau o gymeradwyaeth. Cymerwyd rhan hefyd yn y gyngherdd gan Miss Spencer Jones, Signor Foli, Brinley Richards, Mr John Thomas, Mr E. H. Turpin. Ond yn sicr hufen y cyfarfod liwyrol oedd cauu swynol y Blue Ribbon Choir, Caerdydd, o dan arweiniad Mr Jacob Davies. Mae bwn wedi gwneyd enw iddo ei kun er's amser bellaeh, nid yn unig yn Caerdydd, ond yn y brif-ddinas kefyd cipiodd yno y brif wobr mown eystadleuaeth bwysig yn y Crystal Palace ychydig wythnosau yn ol, ac yr oedd ei ganu nos Lun yn ardderchog. Yr oedd 18 0 foneddigesau ieuainc, pupils Dr Frost, yn chwareu accompaniment i'r cor gyda cu telynau, yr hyn oedd yn yckwanegu llawer at ddyddordeb y canu. Yr oedd boneddigesau ieuainc y cor hefyd wedi gwisgo oil mewn dull- wedd Gymreig hollol, fel rhwng y naill beth a'r llall hwy oeddfavourites y noson. Cymerodd y cystadleuon canlynolle yn ystod y cyngherdd:— Yn y gystadleuaeth ar yr organ barnwyd Mr Thomas Davies, Caerfyrddin, a Mr Meyrick Roberts, St Asaph, yn gyfartal, a chawsant 95 5s. yr un. Cystadleuaeth y brass band. Gwobr, zC25 i'r goreu, a £10 10s. i'r ail. Tri yn cystadlu, a neb yn deilwng o'r wobr flaenaf. 1st Glamorgan Artillery yn deilwng o r ail. Mr Herbert o Gaerdydd enillodd y wobr Mr Herbert o Gaerdydd enillodd y wobr flaenaf, zC4, 4s., a Mr Cooper o'r un lie enillodd yr ail wobr, £11s., am chwareu solo ar y crwth, a chafodd y beirniad ei foddloni gymaint yn chwareu Mr Willie Evans, Abertawy, fel y gwobrwywyd ef a Ll Is. Master David Thomas, bachgenyn 10 oed, o Dowlais enillodd y wobr 0 zC2 2s. am chwareu ton ar yr harmonium. Mr Maloney 0 Gaerdydd a'i gyfeillion gafodd y wobr El 4s. am chwareu pedwarawd gydag offerynau. Dygodd hyn weithrediadau yj dydd cyntaf i derfyn drwy i'r Blue Ribbon Choir ganu yr Anthem Genedlaethol. DYDD MAWRTH—YR AIL DDYDD. Cyfarfu Cymdeithas y Cymrodorion am 9 o'r gloch yn y Town Hall, o dan lywyddiaeth F. Son- ley Johnstone, Ysw., Golygydd y South Wales Daily News. Darllenwyd Papyr gan Mr Marchant Williams o eiddo Miss E. P. Hughes, Cheltenham, ar Addysg ddyfodol Cymru, gyda chyfeiriad neill- duol at addysg y merched." Dilynwyd hyn gyda Phapyr galluog gan Mrs Hoggan ar Addysg gorphenol ac addysg ddyfodol y merched." Am 11 or gloch agorwyd yr Eisteddfod trwy i Lywydd y dydd gymeryd y gadair, sef Akglwtdd ABERDAR, a chafwyd ganddo anerchiad penigamp ar "Fnddioldeb Eisteddfodau," &c., ac Addysg Cymru. Ar 81 cael can gan Miss Spencer Jones, ac eng- lynion byrfyfyr gan y beirdd, awd rhag blaen i ddarllen y beirniadaetbau ac i ranu y gwobrwyon. Traethawd ar "Fywyd a Uafur y diweddar Syr Hugh Owen." Gwobr, .£31 10s. 3 yn cystadlu, ond neb yn deilwng; y testyn yn cael ei ohirio hyd y flwyddyn nesaf. Galarnad ar ol y diweddar Dr Ollivant. Gwobr .£10 10s. 19 wedi ysgrifenu; goreu y Parch D. C. Harris (Caeronwy). Darllen y feirniadaeth ar y ganig pedwar Ilais, Gwobr, Y,5 5s. 280 gyfansoddiadau goreu, Mr Miles Foster, Llundain. Cystadleuaeth gorawl y bugeilgan a'r rhangan, "Come again, sweet love" a "Winter Days." Gwobr, .£25 i'r blaenaf, a .£10 i'r ail. 5 0 gorau yn cystadlu, a'r goreu oedd Morlais Choral Society, Dowlais; ail oreu, Welsh Vocalists, Hirwaun; a chafodd cor Abersychan trydydd wobr 0 .£10. Derbyniwyd 6 pryddest i'r diweddar Syr Hugh Owen. Gwobr, .£21 a medal. Goreu, Dewi Wyn o Essyllt. Derbyniwyd 11 0 chwedlau Seisonig sylfaenedig ar fywyd cymdeithasol Cymreig. Gwobrau, £20, .£10, a £ 5. Goreu, Mr Beriah Evans, Llangadog; I ail oreu, Mr D. C. Williams Melinwaun, Llandilo; nid atebodd y trydydd i'w enw. Darllen y feirniadaeth ar y chwedlau Cymreig byrion sylfaenedig ar fywyd cymdeithasol Cymreig. Gwobrau, .£5, .£3, a .£2. Goreu, Mr Isaac Hughes, Quaker's Yard ail oreu, Mr William Williams, Clydach Vale; nid atebodd y trydydd. Cystadleuaeth offerynol-unawd, pawb at ei ryddid i ddewis ei offeryn. Saith yn cystadlu unrhyw oed. Gwobr, £ 3 3s a .£1 Is. Y goreu, Master Fred Griffiths, Mansel-street, Abertawy, yr un a fa yn fuddugol yn Eisteddfod ddiweddaf Merthyr. Y piccolo oedd yr offeryn a chwareuai. Ail oreu, Mr Foxhall, Casnewydd, yr hwn a chwareuai y trombone; a chafodd Mr W. Berry, Merthyr, drydydd wobr 0 gini, yr hwn a chwareuai y comet. Llinos Rhondda a Tom Felix gafodd y wobr flaenaf o X2 2s, ac Evan Thomas a D. Davies, Treorci, gafodd yr ail wobr o .£1 Is, am ganu unrhyw ddeuawd. Darllen y feirniadaeth ar y traethodau ar "Adnoddau Deheudir Cymru," &c. Gwobr, sElS 15s. Goreu, Mr John Williams, Newton, Mor- ganwg. Dyfarnu y wobr am y traethawd hanesiol ar Gychwyniad, sefyllfa bresenol, a rhagolygon dyfodol y fasnach lo yn y Deheudir a sir Fynwy." Gwobr, < £ 10 10s. Tri yn cystadlu; goreu, Mr David Edwards, Caerdydd. Carnelian gipiodd y wobr o C3 3s am y 12 penill i'r Glo, allan o 12 o gystadleuwyr. Y gystadleuaeth gorawl—canu'r anthem, In that day." Gwobrau, .£25 a £ 10. Saith cor yn cystadlu; goreu, Morlais Choral Society, Dowlais, a rhanwyd yr ail wobr rhwng Corau Tredegar ac Abergafeni. Dygodd hyn weitbrediadau y boreu i derfyniad. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngerdd, yr hwn a drodd allan yn hollol lwyddianus. Gan ein bod yn myn'd i'r wasg boren Mercher, rhaid gadael y gweddill byd yr wythnos nesaf. Mae y ddau ddiwrnod cyntaf wedi troi allan yn 1 hollol lwyddianus Bernir fod dros 10,000 yn bresenol dyddiau Llun a Mawrth.