Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA ABERTAWY. ■■■

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA ABERTAWY. ■ Gorphenaf 28ain, 29ain, 30ain. Mae yn arferiad bellach er's un flynedd ar ddeg gan eglwysi Cymreig y cylch hwn i gynal cymanfa flynyddol, ac nid oes un ddadl nad yw wedi bod yn foddion i wneuthur daioni mawr. Gwahoddir nifer o weinidogion o Dde a Gogledd Cymru—dau i bob capel fyddo yn uno, a phregethant ar gylch, fel mae pob eglwys gan atnlaf yn cael clywed yr oil. Trefnir fod y ddau a wahoddir gan eglwys i bregethu yn y lie hwnw nos Sabboth a nos Lun, a diau fod yn y cynllun hwn fantais i'r eglwysi a'r pregethwyr. Edrychir ar hon yn wledd ddan- teitbiol, ac y mae y Cristionogion hyny a hoffant yr Efengyl, a'r pregethiad ohoni, yn cael ea dwyn trwyddi i feddiant o fendithion nas gallant osod pris arnynt. Gwrandawsom bregethau y tro hwn oeddynt yn tueddu yn uniongyrcbol i loni a gwr- oli meddyliau y saint yn wyneb rhwystrau ac aflwyddiant, ac yr oedd ereill yn dangos y gwir- ionedd mewn agweddion mor newydd a pbriodol nes cynbyrfu ynom gariad dyfnach aphurach tuag at y gwirionedd ei hun. Cawsom ni y fraint o wrando deg o bregethau o nos Sadwrn hyd nos Lun, ac erioed ni wrandawsom yr Efengyl yn cael 0 11 ei pbregethu gyda mwy o eglurder a dylanwad. Mewn sobrwydd yr oedd rhai o'r oedfaon yn hollol orchfygol fel Ilifeiriant gwlaw taranau, yn ysgubo pob peth o'u blaen. Ni gawn weled eto wrth chwilio am y ffrwyth a argyhoeddwyd pecbadar- iaid ond yr ydym yn sier fod y saint wedi cael gwleddoedd ysbrydol i'w heneidiau nad angbof- iant hwynt yn fuan. Pared yr Arglwydd fod yma lawer o wrandawyr celyd yn cael eu dychwelyd trwy y Gymanfa hon. Y gweinidogion a bregetbasant eleni oedd y canlynol: — Parchn B. Davies, Treorci; D. Thomas, Cymer R. P. Williams, Ebenezer O. R. Owen, Glandwr 0. Jones, Pwllbeli; H. Jones, Birkenhead; J. P. Williams, Llanelli; a D. M. Jenkins, Liverpool. Mae enwau y boneddigion hyn yn ddigon o warantiad o bregethu sylweddol, efengylaidd, o ran mater a defnyddiau, hyawdl ac effeitbiolo ran y traddodiad, a gallwn ychwanegu eu bod oil, yn y dylanwad a gynyrchai eu pregeth- au, yn dwyn profion eu b,)d yn amlwg- iawn dan ddylanwad Ysbryd yr Arglwydd. Am haner awr wedi dau dydd Vun, cynaliwyd cyfeillach gyffrediuol yn Ebenezer, fel y lle mwyaf canolog a chyfleus. Daeth lluaws yn nghyd, ond eleni nid oedd y cynulliad mor lluosog ag y gwel- wyd ef, am i'r tywydd droi yn wlyb a chwerw. Eto yr oedd yno gynulliadau rhagorol, a llawer wedi dyfod i fewn o'r cyrau pellaf gan fawredd eu sel a'u hawydd i fwynhau y wledd arferol. Cy- merwyd y gadair gan y Parch B. Williams, Canaan, oblegid fe ymddengys mai ei dro ef oedd llywyddu y flwyddyn hon. Dechrenwyd trwy ddarilen a gweddio yn hynod effeithiol gan y Parch J. Davies, Cendl, ac yr oedd dechreuad y gyfeillach wedi codi ysbryd pawb ohonom i ys- bryd dymunol iawn, a'n cwbl addasu i fwynhau y wledd oedd i ganlyn. Wedi i'r Cadeirydd wneyd rhai sylwadau priodol i'r amgylchiad, gan gyfeirio at y tangnefedd a'r cydweithrediad oedd yn ffynu yn yr eglwysi, a rhoddi rheswm am absenoldeb Dr Rees, trwy ei fod wedi gorfod myned i weinyddu yn angladd y diweddar Barch Griffith Jones, Cefncribwr, galwodd ar y gweinidogion i lefaru. Yr oedd dau fater wedi cael eu nodi iddynt, sef 1. Dylanwad crefydd i ragflaenn gorbryder yn ngbylch amgylcbiadau bywyd. Siaradwyd yn nodedig o effeithiol ar y mater hwn gaa Williams, Llanelli; Williams, Ebenezer; Jones, Pwllheli a Davies, Treorci. 2. Dylanwad crefydd i gysuro yn wyneb trallodion bywyd. Siaradwyd ar hwn drachefn gan Jones, Birkenhead Owen, Glandwr; Jen- kins, Liverpool; a Thomas, Cymer. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch J. Thomas, Bryn. Cafwyd cyfeillacb fendigedig-yr oedd y cwb] yn ddystaw fel y gwlith boreuol, ond yr oedd dylan- wadau ysbrydol yn cael eu teimlo iror drwyadl, nes oedd pob calon yn toddi, ac yn barod i folianu Duw am ei wenau. Tystiai pawb yn ddieithriad, mai da iawn oedd bod yno, canys yn ddiau fod yr Arglwydd ya ein plith. Da. iawn oedd genym weled amryw o weinidogion ac aelodau o eglwysi yr enwadau ereill yn bresenol, ac yr oedd hyny yn brawf o frawdgarwch a tbeimladau da. Megys arfer, gwahoddodd Mr Harris y gweinidogion a'r diaconiaid oedd yn bresenol i'r ysgoldy i gael cwpanaid o de, am yr hyn y diolchwyd yn gynes. Mae Mr Harris wedi gwneutbur hyn o'r dechreu- ad, ac y mae yn garedigrwydd neillduol. Pregeth- wyd y noson hono yn y gwahanol gapeli, ac yr oedd y gymanfa yn terfynu yn nCdedig o dda. Barna pawb fod hon yn un o'r cymanfaoedd goreu gafwyd, ac yr ydym yn dra byderus y gwelir ffrwyth dymunol yn cael ei gasglu. C YMANFA WR.

MAESTEG.

Advertising

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…