Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

TRAHAUSDER EGLWTSIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAHAUSDER EGLWTSIG. YR ydym wedi bod yn chwilio am air Cymraeg i osod allan y meddwl a gyfleir trwy y gair Saesoneg, intolerance, ond wedi methu boddhau ein hunain. Mae y geiriau anoddefedd," ac anghydoddefedd," ac "anoddefgarwch," a'r cyffelyb a geir yn ein geiriaduron, yn mhell o gyfleu yr ystyr i'r gair Saesoneg, intolerance, pan gysylltir ef a gormes Eglwysig; ac fel y goreu y gallem feddwl am dano, cymerwn ein rhyddid i ^ddefnyddio y gair trahausder." Yn ein rhifyn diweddaf gallwasom sylw ein darllenwyr at ryddfrydigrwydd Eglwysig, fel yr amlygid ef yn llythyr RECTOR Mer- thyr ond y mae Rector GRIFFITH yn hyn, fel mewn llawer o bethau ereill, yn eithriad i'w frodyr clerigol yn gyffredinol. Mae trahausder Eglwysig Mr BOUCHER, Llywydd Coleg Athrawol Caernarfon, yn hysbys i'n holl ddarlenwyr, oblegyd yr ydym yn fwy nag unwaith wedi cyfeirio ato; ond yr wythnos cyn y ddiweddaf, yn unol a'r rhybudd a roddasai, galwodd ein cydwlad- wr effro a llygadgraff, Mr HENRY RICHARD, sylw y Senedd at y peth, ac eglurodd yr holl achos. Pan ddygodd Mr MUNDELLA, Is-lywydd Cyngor Addysg, ei amcan- gyfrifon ger bron y Ty, ac a gofynai am y swm o < £ 2,938,930 er cyfarfod treuliau addysg y flwyddyn nesaf; cynigiodd Mr RICHARD fod J22,000 i gael ei tynu allan o'r swm a ofynid, sef y swm blynyddol sydd wedi ei roddi hyd yma i Goleg Athrawol Eglwysig Caernarfon. Barnai ef na ddyl- asai y rhodd hono gael ei pharhau yn h\vy i ddarparuj ysgolfeistriaid Eglwysig mewn gwlad lie y mae tair rhan o bedair o'r bobl yn Ymneillduwyr ac yn enwedig wedi yr ysbryd cul, rhagfarnllyd, a thrahaus a am- lygodd Mr BOUCHER, Llywydd y Coleg hwn, tuag at yr Anghydffurfwyr mewn amgylch- iad diweddar, at yr hwn y cyfeiriodd Mr RICHARD, ac i fanylion yr hwn yr aetb i mewn yn llawn. Mae nodwedd enwadol y colegau atbrawol, at yr hwn y cyfeiriodd Mr RICHARD, yn deilwng o sylw. Allan o 39 o golegau athrawol, tuag at adeiladu y rhai, ac er mwyn eu cynal, y mae y Llywod- raeth yn cyfranu y rhan fwyaf 0 lawer, nid oes ond pump ohonynt yn anenwadol; ac y mae rhai ohonynt yn nodedig am ei culni enwadol a'u trahausder Eglwysig; a dygodd Goleg Caernarfon yn mlaeu fel eugraifft arbenig. Yn ddiweddar gwnaeth gur ieuanc gais am dderbyniad i'r coleg hwn. Yr oedd wedi ei ddwyn i fynu mewn ysgol genhedlaethol, wedi ei gonffirmio gan yr Esgob, ac yn gymunwr yn yr Eglwys ond gan ei fod wedi hanu o deulu Ymneillduol yr oedd wedi ei fedyddio gan weinidog Anghydffurfiol; ac yr oedd hyny, yn ol barn Llywydd y Coleg, yn ei anghymhwyso i gael derbyniad. Dyma ei eiriau, mewn atebiad i'r ymgeisydd, Gan mai Coleg Eglwysig yw hwn, nis gall neb ond Eglwys- wyr gael eu derbyn feI myfyrwyr. Yn awr, fel y gallaf gasglu oddiwrth eich papyrau

Advertising

j Curiwiisiad. I

Advertising

I YR WYTHNOS.

Advertising