Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TRAHAUSDER EGLWTSIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRAHAUSDER EGLWTSIG. YR ydym wedi bod yn chwilio am air Cymraeg i osod allan y meddwl a gyfleir trwy y gair Saesoneg, intolerance, ond wedi methu boddhau ein hunain. Mae y geiriau anoddefedd," ac anghydoddefedd," ac "anoddefgarwch," a'r cyffelyb a geir yn ein geiriaduron, yn mhell o gyfleu yr ystyr i'r gair Saesoneg, intolerance, pan gysylltir ef a gormes Eglwysig; ac fel y goreu y gallem feddwl am dano, cymerwn ein rhyddid i ^ddefnyddio y gair trahausder." Yn ein rhifyn diweddaf gallwasom sylw ein darllenwyr at ryddfrydigrwydd Eglwysig, fel yr amlygid ef yn llythyr RECTOR Mer- thyr ond y mae Rector GRIFFITH yn hyn, fel mewn llawer o bethau ereill, yn eithriad i'w frodyr clerigol yn gyffredinol. Mae trahausder Eglwysig Mr BOUCHER, Llywydd Coleg Athrawol Caernarfon, yn hysbys i'n holl ddarlenwyr, oblegyd yr ydym yn fwy nag unwaith wedi cyfeirio ato; ond yr wythnos cyn y ddiweddaf, yn unol a'r rhybudd a roddasai, galwodd ein cydwlad- wr effro a llygadgraff, Mr HENRY RICHARD, sylw y Senedd at y peth, ac eglurodd yr holl achos. Pan ddygodd Mr MUNDELLA, Is-lywydd Cyngor Addysg, ei amcan- gyfrifon ger bron y Ty, ac a gofynai am y swm o < £ 2,938,930 er cyfarfod treuliau addysg y flwyddyn nesaf; cynigiodd Mr RICHARD fod J22,000 i gael ei tynu allan o'r swm a ofynid, sef y swm blynyddol sydd wedi ei roddi hyd yma i Goleg Athrawol Eglwysig Caernarfon. Barnai ef na ddyl- asai y rhodd hono gael ei pharhau yn h\vy i ddarparuj ysgolfeistriaid Eglwysig mewn gwlad lie y mae tair rhan o bedair o'r bobl yn Ymneillduwyr ac yn enwedig wedi yr ysbryd cul, rhagfarnllyd, a thrahaus a am- lygodd Mr BOUCHER, Llywydd y Coleg hwn, tuag at yr Anghydffurfwyr mewn amgylch- iad diweddar, at yr hwn y cyfeiriodd Mr RICHARD, ac i fanylion yr hwn yr aetb i mewn yn llawn. Mae nodwedd enwadol y colegau atbrawol, at yr hwn y cyfeiriodd Mr RICHARD, yn deilwng o sylw. Allan o 39 o golegau athrawol, tuag at adeiladu y rhai, ac er mwyn eu cynal, y mae y Llywod- raeth yn cyfranu y rhan fwyaf 0 lawer, nid oes ond pump ohonynt yn anenwadol; ac y mae rhai ohonynt yn nodedig am ei culni enwadol a'u trahausder Eglwysig; a dygodd Goleg Caernarfon yn mlaeu fel eugraifft arbenig. Yn ddiweddar gwnaeth gur ieuanc gais am dderbyniad i'r coleg hwn. Yr oedd wedi ei ddwyn i fynu mewn ysgol genhedlaethol, wedi ei gonffirmio gan yr Esgob, ac yn gymunwr yn yr Eglwys ond gan ei fod wedi hanu o deulu Ymneillduol yr oedd wedi ei fedyddio gan weinidog Anghydffurfiol; ac yr oedd hyny, yn ol barn Llywydd y Coleg, yn ei anghymhwyso i gael derbyniad. Dyma ei eiriau, mewn atebiad i'r ymgeisydd, Gan mai Coleg Eglwysig yw hwn, nis gall neb ond Eglwys- wyr gael eu derbyn feI myfyrwyr. Yn awr, fel y gallaf gasglu oddiwrth eich papyrau
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
TTNIVERSITY COLLEGE OF SOUTH WALES AND MONMOUTHSHIRE. The COUNCIL invites STUDENTS to COMPETE for the following SCHOLARSHIPS in ARTS and SCIENCE 1 of .£10 per annum 2 of j625 „ 8 of X20 „ 33 Exhibitions The Exhibitions will clear those who win them of Matriculation and all Class Fees. All the Scholarships and Exhibitions will be tenable for three years. Examinations for these Scholarships will be held on or about the 12th September at Cardiff, Swansea, Newport, Carmarthen, Haverfordwest, Merthyr, Brecon, Presteigne, Lampeter, Aberystwyth, &c. All Scholarships and Exhibitions are open to both sexes. For further particulars apply to the Registrar, Town-hall, Cardiff. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. CYNELIR Cyfarfodydd Blynyddol nesaf yr Undeb yn Ffestiniog, ar ddyddiau Mawrth, Mercher, a Iau, Awst 21ain, 22ain, a'r 23ain, 1883. TREFN Y CYFARFODYDD. Cyferfydd Pwyllgor yr Undeb dydd Mawrtb, am 3 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, o dan lywyddiaoth y Parch D. Jones, B.A., Abertawy. Nos Fawrtb, yn nghapel Jerusalem, traddodir preg- ethau yr Undeb gan y Parchn R. Rowlands, Tieflys, ac E. A. Jones, Castellnewydd-Emlyn. Dydd Mercher, am 7 o'r gloch y boreu, cynelir Cyfeillach yn nghapel Salem, Rhiw, o dan lywyddiaeth y Parch J. Davies, Taihirion, pryd y darllenir Papyr gan y Parch E. Owen, Clydach, ar Y pwys o fynychu moddion crefyddol boreu'r Sabboth." An- erchir y Cyfarfod gan y Parch J. Silin Jones, Llau- idloes Mr H. Thomas, Llanelli, ac ereill. Am 9.30 yn nghapel Jerusalem, traddodir Anerchiad y Cadeirydd, y Parch W. Edwards, Aberdar; ac ar ei ol darllenir Papyr gan y Parch T. Roberts, Wyddgrug, ar lawn fagwraeth crefyddwyr Ieuainc yr Eglwysi." Cynygir Penderfyniad arno gan E. H. James, Ysw, Y.H., Pontygafel, ac eilir ef gan y Parch W. Vulcan Davies, Moelfro. Am 2 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, darllenir Papyr gan y Parch L. Jones, Tynycoed, ar Y Beibl ac addysg orfodol yn ngoleuni Ymneillduaeth." Cynygir Penderfyniad arno gan R. Martin, Ysw, Abertawy, ac eillr ef gan y Parch J. Charles, Croesoswallt. Am 6.30, cynelir Cyfarfod Cyhoeddus yn yr Assembly Rooms, dan lywyddiaeth Mr W. J. Parry, Maes- ygrops, pryd y traddodir areithiau gan y Parch J. P. Williams Llanelli, ar Gartref y Gweithiwr." Y Parch W. Gibbon, Llanymddyfri, ar "Y ddyled- swydd o fyw yn weddus i'r sefyJlfa." Y Parch D. Silyn Evans, ar Eirwiredd." A'r Parch D. Roberts, Wrexham, ar Beryglon yr Ieuenctyd oddiwrth Bleserdeithiau." Dydd Iau, am 7 y boreu, cyneiir Cynadlcdd yn nghapel Jerusalem, o dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Cadeirydd y Pwyllgor. Yr un adeg pregothir yn nghapel Brynbowydd, a thrachefn am 10, 2, a 6 o'r gloch. L. WILLIAMS,") R. THOMAS, [-YSGN. J. B. PARRY, ) DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR A. JVI 1884. DAN OLYGIAETH Y PARCHN B. WILLIAMS, CANAAN, AC K. W. GRIFFITH, BETHEL. Pris Is. 6c., gyda rhwymiad hardd a llogellau; a 6c. mewn llian. BYDD, megys arfer, yn cynwys yr holl !) gyfnewidiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneyd yn gywir a chyflawn. Cofier ein rheolau sylfaenol-l. Ni roddir enwau gweinidogion nac eglwysi newydd i fewn heb gymeradwyaeth Ysgrifenydd y Cyfundeb y perthyna y cyfryw iddo. 2. Ni roddir enwau pregethwyr cynorthwyol newydd i fewn beb gymeradwyaeth gweinidog yr eglwys mae yn aelod ohoni; ac os na fydd gweinidog yno, bydd yn ofynol cael cymeradwyaeth diaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o'r dechreuad, ac wedi dwys ystyriaetb, yr ydym wedi penderfynu glynu wrthynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev B. Williams, Kilvey-terrace, Swansea, erbyn Medi 27ain, 1883 a phob archebion i Mr William Hughes, Printer, Dolgelly. Cyfundeb Lleyn ae Eifionydd. CYXELTIi Oyfarlod Chwarterol nesaf y Cyfundeb ucliod yn J Llaniestyn ar y dyddiau lUercher a fan, Awst 15fed a'r lGeff. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Bydd cerbydau yn cyfarfod y tren 11.13 a.m. yn Pwllheli. I'enygi'oes. J. C. JO-NES, Ysgrifenydd.
j Curiwiisiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Curiwiisiad. I Hysbysiadan 1, 2 Ymylon y Ffordd 3 Y Seneid Ymherodrol 4 Yr Eisteddfod Genedlaethol am 1883 5 Cyflwyno Tysteb i'r Farch W. Edwards, Aberdar. 6 Cymanfa Abertawy—Maesteg. 7 Yr Wythnos—Trahausder Eglwysig 8 Marwolaeth a Chladdedigaeth y Parch G. Jones, gyntoGefncribwr 9 Llythyr o Tanganyika 10 Cyfarforlycld-Marwolaethau, &c. 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol 12 ITysbysiadau 13, 14, 15, 19
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY JLJ' 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff.
I YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I YR WYTHNOS. Ar brydnawn ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, aeth y gair ar led trwy Naples fel tail gwyllt fod Proffeswr Palmieri, cyfar- wyddwr y Vesuvius Observatory, ar ol ym- chwiliad manwl i sefyllfa y mynydd tanllyd, wedi dyfod i'r casgliad fod llyfrithiad (eruption) ofnadwy ar dori allan. Yr oedd y cyffro a'r dychryn yn mysg y trigolion, yn neillduol y werin, yn annesgrifiadwy. Treul- iodd miloedd ohonynt y nos yn yr awyr agored yn hytrach nag aros yn eu tai i gael eu claddu, fel y tybient, yn y dadfeilion, a'r rhai a lechasant yn eu tai, ni cbawsant bun i'w hamrantau na chwsg i'w llygaid, ond treuliasant y nos mewn pryder angerddol, gan ddysgwyl bob myuyd y tryebineb ofn- adwy. Gwelid lluoedd o'r holl bethau gwerthfawr cludadwy a feddent wedi eu casglu yn barod i ddianc ar yr arwydd lleiaf o fudiad anghyffredin yn y mynydd. Cyn llonyddu meddwl y cyhoedd dranootb, bu raid i'r awdurdodau gael telegram oddiwrtk Proffeswr Palmieri, yn dyweyd nad oedd dim gair o wirionedd yn y chwedl. Mae y daeargryn erchyll a'i ganlyniadau ofnadwy yn Ischia wedi effeitbio mor ddwys ar fedd- yliau y trigolion, fel y mae y peth lleiaf yn ddigon i gynyrchu. panic cyffredinol trwy'r ddinas a'r wlad. Nid oes derfyn ar ddyfais a beiddgarweh dyn ar y ddaear, dan y ddaear, ar y mor, a than y mor, ac hyd yn nod yn yr awyr uwch ben. Gosododd Mr Simmons a Syr Claude de Crespigny eu bryd ar groesi y German Ocean mewn awyren. Wedi cael pob petli yn barod, cychwynasant am 11 o'r gloch un boreu yn ddiweddar, gan ymsaethu yn unionsyth i a thrwy y cymylau uwchben lie o'r enw Maldon. Yn fuan cawsant eu hunain mewn hinsawdd llawer oerach nag a adawsant ar y ddaear tra yr oeddynt dros dair milltir i fyny yn yr awyr. Am 7 o'r 1 gloch, disgynasant yn Flushing, Holland, wedi awyrdaith a fwynasant yn ddirfawr, heb anffawd o un math wedi dygwydd iddynt hwy na'i cerbyd awyrol. Cynaliwyd cyfarfod dydd Llun diweddaf yn Trafalgar Square i wrthdystio yn erbyn y Ty Cyffredin yn cau Mr Bradlaugh allan o'i sedd. Bernir fod 30,000 yn bresenol. Ar gynygiad Mr Bradlaugh, pasiwyd pen- derfyniad yn galw ar y wlad i fynu gollyng- iad y Ty Cyffredin presenol. Mae cop'iau o'r penderfyniad i'w hanfon i'r Frenines, y Prif Weinidog, a'r Llefarydd. n
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Prcsioylyild 11 Gareg.—Cafodd arall y blaen anioch y waitli hon. Diolch i cliwi er hyny. S3T Mae meithdcr y Dysteb a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi eadw amryw ysgrifau dyddorol allan yr wytbnos I1011 ond hyderwn y ceir lie iddynt yr wythnos nesaf. Mewn llaw.—Cydweli—Agoriad capel newydd Llanbedrog- Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb CeredlglOn-Cwm Rhondcla- Marwolaeth a chladdcc'.igaeth y Parch W. R Williams, Llan illtyd—Aberteili—Llansawel—B. R Cyfarfod Chwarterol Dosbarth Uchaf Sir Gaerfyrdd4 &c., &c.