Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

CARMEL, LLANSADWRN.

Advertising

TRAHAUSDER EGLWTSIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

nid ydych yn aelod o Eglwys Crist o gwbl, ond yn unig o Gymdeithas Gynnulleidfaol, i'r hon y'ch derbyniwyd gan Mr JOHN ROBERTS, yn ol ei addefiad ef, Chwefror 10, 1868. Cyn y gallaf roddi eich enw ar restr yr ymgeiswyr i'r Coleg, bydd yn ofynol cael tyst-ysgrif eich bedydd oddiwrth offeiriad y plwyf, yn ol fel y darperir gan y Llyfr Gweddi Cyffredin, mewn achosion o'r fath." Cyffrodd y Parch Mr REES, Ficer Conwy, o dan aden yr hwn a dygwyd y gwr ieuanc i fyny, a'r hwn a'i cymeradwyodd i'r Coleg, ac ysgrifenodd at Mr BOUCHEK, i wrthdystio yn erbyn ei drahausder, ac i'w adgofio fod hyd yn nod bedydd gan leygwr wedi ei gydnabod yn safadwy. Ysgrifenodd Llyw- ydd y Coleg yn ol, ei fod yn glynu wrth ei benderfyniad, ac nad oedd gweinidogion Ymneillduol yn lleygwyr Eglwysig, ac ychwanegodd, "Nid yw yr amrywiol Gymdeithasau Ymneillduol yr Eglwysi ond clybiau. Nid oes gan weinidogion Ymneillduol awdurdod i weinyddu yr ordin- hadau, ond sydd yn codi o'u hymon- iad hwy eu hunain i urddas offeiriadol, fel yn amgylchiad CORA, DATHAN, ac ABIRAM." Mewn gobebiaeth, dywedai," Nid yw gwein- idogion Ymneillduol yn ddim ond tapiau gas neu ddwfr, a'r cysylltiad rhyngddynt a'r brif bibell wedi ei dori. Nis gall fod mwy o werth yn eu gweinyddiadau hwy nag sydd mewn gras heb fwyd, mewn plisgyn heb y cnewyllyn, neu gyllell heb y llafn." Yr oedd chwerthiniad trwy y Ty pan ddarllenai Mr RICHARD y dyfyniadau, ac ni chynygiodd neb ei amddiffyn, ac yr oedd rhai Eglwyswyr a Cheidwadwyr yn con- demnio ei ymddygiad yn y modd cryfaf; ac eto dyma Brif Athraw Coleg Norm'alaidd Caernarfon, sydd wedi ei godi mewn rhan ar draul y wlad, ac yn derbyn £2,000 yn flyn- yddol o drysorfa y Llywodraeth, a phleid- leisiwyd hwy eleni eto er y dynoethiad a wnaed. Nid oedd Mr RICHARD yn dysgwyl y gallasai atal y bleidlais, ond yr oedd am godi y peth i sylw; a dylasai nifer o'r Aelodau Cymreig ddal ei freichiau i fyny, ond ni ddywedodd yr un .ohonynt air. Gadawyd ef i yrnladd y frwydr ei bun. Ni ddylasai hyn fod, ac nid oes esgus i'w roddi dros eu dystawrwydd. Ni ddylid gadael i un cyfle i fyned heibio heb ddynoethi culni a gormes Eglwysig; ac y mae Mr RICHARD yn haeddu diolchgarwch yr holl genedl am yr hyn a wnaeth. Gyda'r holl gynhwrf a wneir am addysg uwchraddol, a'r Colegau a sefydlir, rhaid edrych yn ddyfal na syrthio yr awdurdod, trwy esgeulustra a meddalwch Ymneillduwyr, i ddwylaw Eglwyswyr. Nid ydym heb ofni hyny gyda'r Colegau a sefydl- ir yn y De a'r Gogledd. Ni ddylid cymeryd dynion wrth eu gwenau a'u geiriau teg, ond rhaid eu barnu wrth eu hanes. Ofnwn fod dynion yn nghynghorau ein sefydliadau ydynt mor llawn o drahausder eglwysig ag ydyw Athraw Coleg Caernarfon, ac yn chwerthin yn eu llewys am yr hyn a wna ond fod eu cyfrwysedd yn eu dysgu mai nid dyna y ffordd oreu iddynt i gyrhaedd eu hamcanion. Darparant rwyd i'n traed, ac eto ceisiant ei chadw o'r golwg, nes ein cael yn sier ynddi ond y mae Mr BOUCHER wedi dangos ei bun yn ei wir gymeriad, ac nid oes perygl i neb ei gamgymeryd. Pa ryfedd fod sefydliad sydd o dan nawdd y fath un wedi myned yn fethiant hollol ? Ac eto dyma y sefydliad sydd yn ddl-byn £2,000 yn flynyddol o arian y cyhoedd, o dan y broffes o ddarparu athrawon cymhwys i'r genedl. Nis gall y fath sefyllfa ar bethau barhau yn hir, ac fel y dywedai Mr RICHARD, y mae yr ystorm eisoes yn ymgasglu, yr hon gan ei nerth a ysguba ymaith sefydliadau pwdr o'r fath.