Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YMNEILLDUWYR BABILON.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YMNEILLDUWYR BABILON. Braslun o Bregeth a draddodwycl gan y Parch. S. Jones, Treoes, Gorph, 29, 1883. DANIEL iii. 12. Mae hanes holl gymeriadau y Beibl wedi ei fwriadu i fod yn addysg i ereill. Mae ynddo gy- meriadau i'w casau ac ereill i'w hoffi a'u hefelychu. Yn y benod hon ceir hanes Nebuchodonosor, yr hwn, oblegid ei falchder a'i hunanoldeb, a daflwyd i bori glaswellt gydag anifeiliaid y maes. Mae yr hanes yn y Beibl. Paham ? Am fod perygl i ninau fyned yn wreck ar yr un creigiau, ac y mae Duw am i ni gadw yn ddyogel rhagddynt. Felly hefyd am y tri cymeriad yn y testyn-Ymneilldu- wyr Babilon byddant yn addysg holl ddyddiau y ddaear, nid fel cymeriadau i'w casau, ond rhai i'w hoffi a'u hefelychu. Maent wedi gadael i ni esiampl fel y canlynem eu bol hwynt. Sylwn yn- 1. AR Y LLINELLAU SYDD YN EU CYMERIAD YN DEILWNG O'U HEFELYCHIAD FEL YMNEILLDUWYR. 1. Yr oeddynt yn ddynion o ymddiriedaeth.— Gwyr o Iuddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaeth Babilon." Dyma nod yn werth i bawb ei gyrhaedd. Beth sydd yn ofynol i hyny ? 1. Ufudd- (locl.- Wrth ufuddhau mown pethau bychain deuir i ymddiriedaeth mewn pethau sydd yn fwy ond os bydd balchder neu hunanoldeb yn Uethu ufudd- dod, bydd hyny yn sicr o ddinystrio y dyn fel cy- meriad y gellir ymddiried ynddo. 2. Geirwiredd. —Nis gall neb ymddiried yn y celwyddwr, ond dyn y gellir trustio i'w air-" yr hwn a dwng i'w niwed ei hun; dyna ddyn y teimlir y gellir ymddiried ynddo. 3. Sefydlogrwydd.-Tra mae y cyfnewid- iol a'r gwamal yn destyn chwerthin i ffyliaid ac yn wrthddrych tosturi y doethion, mae y sefydlog yn gymeriad mae cymdeithas yn gosod gwerth arno ac yn ei edmygu. 4. Cymeriad da.—Nid oedd yr elfenau blaenorol ond blodau, ond dyma y bywyd. Gofaler am yr elfenau hyn a bydd llwydd- iant yn sicr. Peidied neb gwangaloni yn wyneb rhwystrau a gwrthwynebiadau, bydd yr anrhyd- edd yn fwy pan gyrhaeddir y nod. Wele dri yn y testyn, yn rhinwedd eu cymeriadau, wedi dringo i fyny yn oruchwylwyr yn ngwlad eu gelynion. 2. Yr oeddynt yn barnu drostynt eu hunain.-Nid ufuddhau i orchymyn y brenin heb farnu ei deil- yngdod; nid cydffurflo a gweitbred y werin heb fwrw y draul i ba le yr oedd hyny yn arwain, ond barnent drostynt eu hunain. Dewisient uniondeb a gwrthodent anghyfiawnder. Mae Duw wedi rhoi gallu i ddyn i farnu rhwng pethau a phethau, a dylai pawb ei ddefnyddio. 3. Bod yn "loyal" hyd nes gwrthdarawyd yn erbyn matcr cydwybod-ymyru a'u crefydd. Ath- rawiaeth eglur yn yr Ysgrythyr ydyw fod yn ddy- ledswydd i bawb ufuddhau i'r awdurdodau gwlad- ol. Ond os bydd cyfraith yn gwrthdaraw yn erbyn cyfiawnder dylid ei gwrthwynebu; ond rhaid gwneyd hyny yn unol a'r Beibl. Nid cyfiawni llofruddiaethau a drygioni i ddwyn yr amcan fel y gwna y Gwyddelod, ond gwrthdystio yn erbyn yr anghyfiawnder nes argyhoeddi y werin i hawlio cyfnewidiad yn y gyfraith. Da gcnym feddwl am deyrngarwch ein cenedl, a gobeitbiwn yr erys yr ysbryd hwn i'n llywodraethu tra dyfroedd yn llifo llifo yn ein hafonydd a'r haul yn tywynu ar ein gwlad. 4. Yr oeddynt yn ffyddlawn i argyhoeddiad eu barn a'u proffes.—Un o'r pethau mwyaf annyodd- efol mewn dynion ydyw diffyg ffyddlondeb i'r eg- wyddorion a broffesant. Unwaith darfu i fyddin o Roegiaid farw, bob un, wrth ymladd yn erbyn eu gelynion, oeddynt lawer mwy lluosog; ond mae oesau wedi bod yn edrych gydag edmygedd ar eu gwroldeb a'u ffyddlondeb-yn marw i am- ddiffyn hawliau eu gwlad. Y mae genym, fel Ym- neillduwyr, ein hegwyddorion. Yr ydytn yn proffesu sefyll o blaid rhyddid; ac er i ni golli ambell frwydr, bydd yn anrhydedd os glynwn yn ffyddlawn yn ein proffes. Ond os bydd i ni gefnu ar ein hegwyddorion yn boethder y frwydr, bydd rhai yn edrych arnom gyda dirmyg cyfiawn, fel rhai wedi bradychu eu hegwyddorion proffesedig. II. Y RHWYSTRAU OEDD AR EU FFORDD I GARIO ALLAN EU HEGWYDDORION. 1. Gorchymyn y brenin.- Y r oedd peidio addoli y ddelw aur yn drosedd yn erbyn y llywodraeth. Bu amser pan oedd Ymneillduaeth yn y wlad hon yn cael ei hystyried yn drosedd yn erbyn y gyf- raith; ond erbyn heddyw mae pethau wedi newid no Ymneillduaeth yn cael ei goddef. Ond os bu ein tadau Ymneillduol mor ffyddlon, a glynu wrth eu hegwyddorion er colli eu meddianau, a rhai o honynt eu gwaed drostynt, nid gormod i ninau fod yn ffyddlon i'n proffes. Os bnont hwy yn arloesi y tir ac yn planu yr had yn nyfnder y gauaf gerwin, nid gormod i ninau ddadwreiddio y chwyn a mwynhau y ffrwythau yn fisoedd yr hif. Gan fod yr etifeddiaetb wedi disgyn i ni, gostiodd gymaint iddynt hwy, dylem beidio dilyn esiampl ddrwg y mab afradlon," a gwario yr estate mewn diffrwythdra. Os bu ein tadau yn ifyddlawn pan oedd y gyfraith yn eu berbyn, dylem ninau fod felly pan mae y gyfraith o'n plaid. Os ydyw yn werth proffesu Ymneillduaeth, mae yn werth gweithredu yn unol a'n proffes. 2. Barn y lluaws,—Yr oedd public opinion yn eu herbyn. Mae llawer wedi eu cario ymaith oddi- wrth argyhoeddiad eu barn dan ddylanwad y lluaws. Hyny andwyodd Pilat. Ond yr oedd y tri llanc yn glynu wrth eu hegwyddorion er fod y bobloedd a'r cyfoethogion yn ymgrymu i'r ddelw. Dyma benderfyniad yn werth ei gadw mewn coff- adwriaeth holl ddyddiau y ddaear. O na byddai pawb a broffesant Ymneillduaeth o'r un stamp a'r cewri hyn, yna buan iawn ceid cydraddoldeb cref- yddol trwy yr holl fyd. 3. Bygythiad o gosbedigaeth. A pbwy bynag ni syrthio ac ni addolo a fwrir i ganol ffwrn o dan poeth." Nid bygwth drygu amgylcbiadau, ond dinystrio y bywyd. A mwy na byny, fe geisiwyd eu llwgrwobrwyo—cynygiodd y breninfribeiddynt am wadu eu hegwyddorion. Os byddwch ch wi barod i syrthio ac i addoli y ddelw a wneutbum, da." Dyma beth oedd bribe yn werth cael gafael arni-addewid o ddaioni gan frenin mawr Babilon, yr hwn oedd a'r ymherodraeth gyfoethocaf ar y ddaear ond gwell oedd ganddynt oddef adfyd gyda phobl Dduw na chael mwyniant pechod dros amser, oblegid yr oeddynt yn edrych ar daledigaeth y gwobrwy. III. CANLYNIADAU EU FFYDDLONDE13 I'W IlEG- WYDDOEION. 1. Daeth Duw allan i'w hamddi.ffyn.-Er mor dywyll oedd y ffurfafen, ac er i orchymyn y brenin gael ei osod mewn gweithrediad, eto gofalodd Duw am eu hamddiffyn. Mae y brenin yn edrych i ganol y tan, ac yn gweled pedwar o wyr yn rhodio yn rhyddion, heb niwed arnynt, a dull y pedwer- ydd yn debyg i Fab Duw. Nid oes eisieu ofni sefyll dros gyfiawnder; .mae y Duw a agorodd y nefoedd i Stephan ac a waredodd y Tri LIane yn barod i'n hamddiffyn yn mhob cyfyngder. 2. Cijfiawnder gariodd y dydct- Y r oedd y gelyn- ion yn lluosog a'r rhwystrau yn fawrion, ond fe ofalodd Duw osod y fuddugoliaeth o blaid cyfiawn- der. Ar gyfiawnder a barn mae ei orsedd of yn sylfaenedig, ac am hyny mae cyfiawnder i fuddug- oliaethu ac megys yr argyhoeddwyd y gelyn yn Babilon ac y cyhoeddwyd gorchymyn i bawb i addoli Duw Sadracb, Meaach, ac Abednego, felly hefyd gwelir y dydd yn gwawrio yn y man pan fyddo holl elynion rhyddid wedi eu hargyhoeddi, a phawb yn diolch am gydraddoldeb crefyddol. 3. Cawsant eu dyrchafu am eu goncstrwydd.— Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mcsach, ac Abednego o fewn talaeth Babilon." Gwelodd yn eu cymeriad rywbeth yn fwy gwerthfawr nag aur —penderfyniad i lynu wrth uniondcb yn wyneb I pob rhwystr. Dyma y peth mwyaf gwerthfawr ar y ddaear, ydyw cymeriad wedi ei brofi mewn ys- tormydd. Hyn oedd yn gosod gwerth ar fywyd Job. Os ydym am ddringo grisiau anrhydedd, gofalwn fod yn ffyddlon i uniondeb, ac fe ofala Duw am y canlyniadau. ADDYSGIADAU. 1. Dylem ymddwyn yn unol <Vr egwyddorion a broffeswn.-Mae yn fwy na tbebyg na fydd dim eisieu i ni beryglu ein bywyd o blaid ein Hym- neillduaeth ond datfr eisieu i ni sefyll o blaid ein proffes. Mae yr adeg yn ymyl pan fydd galw arnom i gefnogi y Dadgysylltiad, a gobeithio na fydd neb sydd yn cymeryd arno i fod yn Ymncill- duwr mor wael a signo petition o blaid yr Eg-lwys. Hefyd yn ein hetlioliadau, gofalwn bleidleisio o blaid ein hegwyddorion. Trueni gweled meibion Ephraim, yn arfog ac yn saethu a bwa, yn troi eu cefnau yn nydd y frwydr. 2. Peidiwn gwangaloni yn ivyneb anhaivsdcrau.— Mae rhai wedi bod mewn rhwystrau cryfach o'n blaen, ac wedi dyfod allan ohonynt yn fwy na choncwerwyr. 3. Ymddiriedwn am amddiffynfa yn Arghvydd.— Y mae efe yn 11 gymhorth hawdd ei gael mewn cyfyngder."

Advertising

CENADAETH TANGANYIKA.