Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

TALYBONT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TALYBONT. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Ceredigion, yr hwn hefyd oedd yn gyfarfod urddiad Mr D. G. Davies yn y lie uchod, ar y Mercher a'r Iau, Awst laf a'r 2il. Yn herwydd cyfnewidiad yn amser y gerbydres, a'r urddiad yn Llanbadarn ar y dydd, ni ddaeth ond nifer fechan iawn i'r Gynadledd. Etholwyd Proff. Jones, M.A., Caerfyrddin, i'r gadair. Pender- fynwyd- 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Horeb yn Tachwedd. 2. Ein bod yn cymeradwyo i sylw caredig yr eglwysi gais y cyfeillion yn Barrett's Grove am gymhorth at dalu dyled Capel Coffadwriaethol y Gohebydd." 3. Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo y Memorial o blaid Prifysgol Aberystwyth. 4. Fod adroddiad o weitbrediadau y Gymdeithas Sirol i gael ei gyhoeddi. 5. Ein bod yn dymuno ar y brodyr Thomas, Salem; Davies, Clarach; Jones, Cilcenin; a Morris, Aberteifi, i ddwyn achos y gymdeithas ger bron eglwysi y sir. Pregethwyd am 7 o'r gloch gan Mri Jones. Gwernllwyn, Dowlais, a Penry Evans, Pontar- dulais. Dranoeth oedd dydd yr urddiad. Sylwyd ar Natur yr Eglwys gan Proff. Jones, 'v I M.A., Caerfyrddin holwyd y gofyniadau gan Mr Miles, Aberystwyth gweddïwyd am fendith ar yr undeb gan Mr Jones, Llwyncelyn; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuanc gan Mr Penry Evans; ac i'r eglwys gan Mr Adams, B.A., Hawen. Pregethwyd am 2 gan Mri Thomas, Llanbedr, a Jones, Pencader a phregethwyd am G gan Mri Miles, Aberystwyth, a Davies, Bangor. Hyderwn y bydd yr undeb yn un dedwydd a pharhaus. J. M. P.

NODIADAU 0 GAERLLEON A'R CYFFINIAU.

CIFAEFOFT CHWARTEROL CYFUNDEB…