Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD MAWRTH.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.-DYDD MERCIIER.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Mr Stanley Leighton, dywedodd Mr Mundella fod lleihad graddol wedi bod yn nifer plant tlodion y deyrnas hon-eu bod yn 393,000 yn 1871, ond nad oeddynt ond 270,000 yn 1882. Yr oedd yn wir fod nifer plant tlodion gwallgof wedi cynyddu yn ystod yr un amser o 962 i 1,332, ond nad oedd a fyno hyny a threfn- iant addysg—mai anghymedroldeb oedd yr achos o hyny. Dywedodd Mr Gladstone, mewn atebiad i Syr J. Lubbock, y bwriedid cymeryd i fyny Mesur Methdaliad boren Sadwrn ac wrth ateb Syr W. Barttelot, dywedodd y boneddwr anrhydeddus ei fod yn credu oddiwrth y gohebiaethau a dderbyn- iwyd yn ddiweddar o Madagascar y gellir cyfarfod yn foddhaus a'r amgylchiad a gymerodd le yn Tamatave gan ysbryd cyfeillgar y ddwy wlad. Dywedodd Mr Ashley mewn atebiad i gwestiwn gan Mr Yorke, fod hysbysiad wedi cyrhaedd y prydnawn hwnw cddiwrth Syr Henry Bulwer, yn dyweyd fod tystion credadwy yn datgan eu bod wedi gweled Cetewayo yn fyw. Yn mhwyllgor cyflenwad protestiodd Mr J. Morley yn gryf yn erbyn mcddianiad hir-barhaol o'r Aipht, yr hyn oedd yn creu teimlad o anymddiriedaeth yn mysg Galluoedd mawrion Ewrop. Eglurodd Mr Gladstone nad oedd yn mwriad y Llywodraeth i alw ein milwyr o'r Aipht nes cwblhau y trefniadau angenrheidiol er sicrhau ar seiliau cedyrn hedd- weh i'r wlad hono.

TY YR ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.

TY Y CYFFREDIN.

CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.

Advertising

----------_.I' Cyfarfodydd,…

Advertising