Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

------CWM li-HONDBA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWM li-HONDBA. Mae tymerau pobl y Cwm hwn, a'u cymeryd at eu gilydd, yn bob peth ond dymunol y dyddiau byD, ac mae rhesymau digonol dros hyn. Un rhcswm, a'r penaf, efallai, yw, fod y "Barry Scheme" wedi methu—y Mesur wedi ei daflu allan. Tro tila iawn yw hwn, wir. Mi ddywed- ais "pobl y Cwm a'u cymeryd at eu gilydd." Yr wyf wrth hyn yn cau rhai allan. Yn gyntaf, yr wyf yn cau allan rhyw dyrfa fechan sydd dan fawd ————— yn ngwaelod y Cwm. Ond mae y rhai hyny yn tyngu yn yr ysbryd chwareu teg iddynt. Yr wyf yn cau allan rhyw dyrfa fechan sydd yn gweithio yn Mhwll y Bute a'r Lady Margarate, yn nghymydogaeth Treherbert, hefyd. Ond mae yn bur siwr mai yr athrawiaeth Taw pia hi, boys," sydd yno hefyd. Yn wir, mae y cwpl hyn yn Treberbert yn gorfod saethu, chwifio baneri, a gwaeddi Hwre Bute byth er pan daflwyd allan y Barry Bill. Mi gewch wel'd y dychrynant Benpych i farwolaeth, ac y surant bob peth yn nghymydogaeth Treherbert gan eu nadau ofnadwy. Beth sydd ar y dynion, hawyr? Mae hen wr yn y gymydogaeth hon o'r enw Thomas Evan Dafydd, pan glywodd ef am eu mwstwr, dywedai gyda gwen wawdlyd, fod dyn- ion y Bute yn Treherbert yn rhostio yr helwriaeth cyn ei dal." "Nage," meddai hen frawd arall oedd ger llaw, rhyw gadw tipyn o swn mae y "Bute and Co." uwch ben yr helwriaeth ar ol ei dal; ond cyn y gallant ei rhostio, fe fydd wedi ei dwyn oddiarnynt, oblegid mae ras arall i redeg am dani yn yr eisteddiad nesaf, ac mi fyddant yn rhwym o'i cholli yn y ras hono. Ac mae gon' i adnod i brofi 'mhwnc," meddai yr hen wr yn ddefosiynol iawn—" Ni rostia y twyllodrus ei hel- wriaeth." Go dda, yr hen wr. Fel yna y try hi allan hefyd. Fel yna mae yn rhaid iddi droi allan. GOHEBYDD.

FFYNON TAF.

LLANSAWEL.

[No title]

ABERTEIFI.

EISTEDDFOD CEINEWYDD.

Advertising