Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

------CWM li-HONDBA.

FFYNON TAF.

LLANSAWEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANSAWEL. Da genym gael cyfleusdra i gofnodi llwyddiant yr Ysgol Eamadegol yn y lie hwn eleni eto. Er fod yr athraw cyfrifol a pharchus wedi cael llawer o drallod i'w deimlad yn marwolaeth ei anwyl briod, ac wedi rhoddi llawer o'i amser i ddwyn allan gofiant teilwng a gwir dda i'r diweddar Barch E. Jones,Crugybar, eto ni wnaeth laesu dwy- law gyda gwaith yr athrofa, ac ni chiliodd Ffawd oddiwrth ei lafur diflino. Yn ychwanegol at y ddau fu yn llwyddianus am dderbyniad i Lan- gollen, sef D. W. Hopkins a S. G. Bowen, y mae pedwar ereill wedi sicrhau safleoedd anrhydeddus ar eu derbyniad i'r gwahanol golegau yn yr wyth- nosau diweddaf, sef E. Williams i Trefecca, T. H. Price i Hwlffordd, J. S. Evans a D. E. Jones i Gaerfyrddin. Dymunwn lwyddiant eto i'r brodyr teilwng hyn. Hefyd y mae yn bleser genym grybwyll am lwyddiant rhai o'r hen fyfyrwyr. Mae Mr E. Davies wedi myned yn anrhydeddus a difwlch drwy ei daith atbrofaol yn Llanbedr, yn drydydd ar lechres teilyngdod fel ysgolhaig, ac yn ail yn y meddiant o'r B.A. Nid yw eto ond prin 19eg oed. Mae Mr D. W. Vaughan wedi enill ysgoloriaeth Brown yn Airedale-£65 am dair blynedd, a Mr H. Lewis wedi enill yr ail wobr yn ei ddosbarth yn Ngholeg Caerfyrddin. Mae y ffeithiau hyn yn siarad cyfrolau. Yma yn unig y buont yn derbyn eu haddysg barotoawl. Mae yn bleser genym fel ardalwyr i weled hen fyfyrwyr teilwng y sefydliad yn esgyn i binaclau uchel dysgeidiaeth, ac yn brysio i deml anrhydedd. Mae swn torf eto yn esgyn ystlysau y mynydd. Dy- munwn o'n calon hir oes i Mr Evans i wneuthur daioni, a llwyddiant mawr i'r myfyrwyr yn eu galwedigaeth. SAWELIAN.

[No title]

ABERTEIFI.

EISTEDDFOD CEINEWYDD.

Advertising