Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Newyddion Cyffrcdinol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion Cyffrcdinol. Deallwn fod y Parch Mr Davies, Glynarthen, i fyuy yn Llundain y dyddiau hyn o dan yr ail operation. Yn mrawdlys Warwick, y dydd arall, traddodwyd un David Maclde i ddeng mlynedd o lafur penydiol am gynysr llofruddio ei wraig. Aeth yn llongddrylliad ar yr agerlong Teneglos ger Limerick nos Fercber diweddaf, a chyfrifir y golled yn £ 40,000. Diangodd y dwylaw oil Decbreu Awst, cymerodd dau ordeiniad Ie yn sir Aborteifi—Mr Davies o Gaerfyrddin yn Nhalybont, a Mr Parry o'r Bala yn Llanbadarn Faw". Yn Bradford, y dydd arall, traddodwyd un o'r enw Benjamin Taylor i dri mis o garchar, am osod cig anghyvihwys yn ci sausages. Mae ganddo siopau yu Liverpool, Llundain, Bradford, a manau ercill. Mae ynadon Dundee wedi penderfynu anrhydeddu larllod Rosebery, Camperdown, a Dalhousie, a rhyddid y fwrdeisdref, ar achlysur agoriad University College, Dundee, gan Arglwydd Rosebery yn mis Hydref. Ymddengys fod ymraniad wedi cymeryd lie yn mysg Ubyddfrydwyr Birmingham, a bod Undeb Rauicalaidd wedi ei ffurfio. Dywedir fod yn eu bwriad i ddwyn Mr Joseph Arch allan fel ymgeisydd Radicaiaidd yn erbyn Mr Muntz. Yn mrawdlys Sligo, dydd Gwener cyn y diweddaf, traddodwyd Edward Fcx, Patrick Cornelly, a William Draskin i lafur penydiol am ugain mlynedd am achosi marwolaeth un Thomas Gibbons, mab i head bailiff Arglwydd Ardilaun. Yn mrawdlys Abcrtawy, yr wythnos cyn y diweddaf, condcmniwyd dyn i farwolaeth am ladd ei wraig ycliydig amser yn ol yn Mlaenrhondda. Cymeradwy- odd y rheithwyr ef i drugaredd, am nad oedd prawf ei fod wsedi rhagfwriadu. Deallwn erbyn hyn yr arbedir ei fywyd. Dywedir fod Michael Kavannah, Joseph Hanlon, a Joseph Smith, y tystion yn erbyn llofruddion Arglwydd Cavendish, wedi troi eu gwynebau, neu gael eu hanfon i'r Dwyrain pell. Pan gyrhaeddasant borthladd Melbourne, gwaharddodd y Llywodraeth hwynt i ddyfod i dir. Druain ohonynt, i ba le yr iint ? Dygwyd gweithreuiadau y British Medical Con- ference i derfyniad yn Liverpool dydd Gwener cyn y diweddaf, gan ohirio i Exeter Hall, Llundain, Awst 17eg. Pasiwyd pende^fyniidau yn ffafr cael cartref i feddwon, yn erbyri dileu deddf y clefydau beintus, a thros ei chario Illan gyda mwy o fanylwch. Mao dros 65b o bersonau archolledig i wahanol raddau gan y ddaeargryn yn Ischia wedi eu eymeryd i ysbytai yn Naples. Bu farw amryw wedi cyrhaedd yno. Yr ydys wedi cael rhai teuluoedd cyfain yn fyw mewn dadfeilion, wedi bod yn gladdedig am dri a phedwar diwrnod. Yr oeddynt mor wan, fel nad oes gobaith am einioes rhai ohonynt. Y cyfrifiad diweddaf a gaed o farwolaethau o'r cholera yn yr Aipht oedd, yn y 24 awr diweddaf bu farw yn Cairo 310, ac yn yr holl fanau 715. Felly, 1,025 mewn diwrnod a noswaith. Meithrinir gobaith cryf y bydd i godiad yr afon Nile cffeithio yn ddaionus. Y mac yn awr yn codi, ac yn uwch o bedwar cufudd nag y bydd yn arfer bod yr adeg bon o'r flwyddyn. Pan dderbyniwyd y newydd o lofruddiaeth Carey yn Dublin, cyffrowyd y ddinas drwyddi gan lawenydd. Cyneuwyd tanau mawrion mewn gwahanol fanau yn y ddinas. Gan gymaint y rhialtweh a'r dinystr a wnaed ar feddiahau i gael tanwydd i borthi y coelcerthi, bu raid i'r heddgeidwaid gyfryngn, a chymerwyd amryw i'r ddalfa, ac y mae rhai ohonynt wedi cael tri mis o garchar. Mae strike y gweithiau tan yn Lloegr yn pirhau ar raddfa belaeth. Penderfynodd meistri y gweithiau sydd ar waith gynorthwyo meistri y gweithiau sydd yn segur yn herwydd y strike trwy osod treth arnynt eu bunain ond gan fod y draul hono yn gymaint a thair mil o bunau yn yr wythnos, y mae cwyno mawr yn mysg llawer. Mac y strike yn nosbarth Smithwich ar ben, a'r dysgwyliad yw y bydd pawb o bob tu wedi cael digon arni yn fuan. Mae un Mr Simmons gyda Syr Claude de Crespimy wedi llwyddo i groesi o Ffrainc i Holland mown awyren inewn ychydig oriau. Cawsaut daith blescrus beb un ddamwain, a yolygtaoedd aunesgrifi idwy tra yn nofio uwch y cymylau 17,000 o droedfeddi uwchlaw y ddaear. Dywedant ei bod yn oer arswydus yn y pellder hwnw oddiwrth eu hen fam, y ddaear, ond fod y plpser a gawsant a'r golygfeydd a weisant yn ddigon o dal am yr anturiaeth. Trodd Eisteddfod Ceii-ewydd allan yn Uwyddiant perffaith--o < £ 40 i < £ 50 o elw. Da oedd genym weIod Tanyuiarian mor hwyliog a chryf hir oesiddo. 0 bump o gorau, Cov Horeb enillodd y L)25 a baton. Da genym liefyd oedd gweled y Parch Mr H uws, Beulah, yn fuddugol ar y prif draethawd allan o dileg o gystadleuwyr. Tystiai y beirniaid-Idrisyn a'r Parch Mr Griffiths, Llangranog—fod y traethawd buddngol yn un o'r pethau goreu ddarllenasant erioed yn Gymraeg, ac y dylesid ei gyhoeddi ar unwaith yn llyfr. Heb laesu dwylaw, parheir i chwilio dadfelion Casamicciola am gyrfc y lladdedigion. Nid oes neb yn dysgwyl y ceir neb allan yn fyw bcllach, or eu bod wedi d'od o hyd i rai fuont megys yn eu bcddau am 110 o oriau ac eta yn fyw. Cesglir yr hall betlmu gwcrthfawr-r-aur, arian, a geraau—i ystordai o dan ofal y Llywodraeth. Dywedir liefyd fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi gwaharddiad i ai I adoiladu y dref, am \r ystyiianfc y He YII rhy bcryglua i fod yn breswyifa dynion. Mae Yntbcrawdwr ac Ynihero ires Awstria wedi aufon cunad o gydymdeimlad a'r Bteciti Huuibart. gydag 20,000^. tuag at y drysorfa gyaorth- wyol.
Newycldion o Ogledd Cymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newycldion o Ogledd Cymru. yw Swm contract gwaith dwfr newydd Bethesda ydyw d £ 13,000. Agorwyd Chvb Diwygiadol Caernarfon yn ffurfiol i dderbyn aclodau dydd Llun cyn y diweddaf. Bn Cymdeilhas Ddaearegol Llundain ar ymweliad a. Chaernarfon a'r cyffiniau ddydd Gwener yr wythnos o'r blaen. Mae rhyw ddyhirod annoeth wedi bod yn ymbleseru mewn tycu i lawr ran heiaeth o'r garn sydd ar gopa Plynlimon. Yn Eisteddfod y Trawsaoed, a gynaliwyd dydd Litin yr wythnos ddiweddaf, enillodd cor o Groesos- wallt wobr o £25. Daliodd Mr D. Dewi Davies, Towyn, 24 o'r pysgod a elwir bass mewntair awr, sjyda'i wialen, a'i linell, ac un bluen. Pwysai y cyfan o'r pysgod dros gan' pwys. Dywcdir fod boneddwr yn nghymydogaeth Bansor wedi addaw anrhea o 300 o gyfrolau tuag at sefydlu llyfrgell genedlaethol mewn cysylltiad a Clioleg y GogJedd. Daethpwyd o hyd i graig lechi newydd yn ddiweddar yn y Crown Quarry, Dolgellau. Ymddengys ei bod o radd ragorol, ac mae niter ychwanegol o ddwylaw wedi dechreu yno. Mae yr is-bwyllgor a apwyntiwyd yn Nghaer i dynu allan gyn nun cyfansoddiad Coleg y Gogledd wedi cyf. arfod y Gwener cyn y diweddaf yn un o ystafelloedd Ty y Cyffredin. Cynaliwyd unfed Gylchwyl ar bymtheg flynyddol Castell Harlech dydd lau yr wythnos hon. Y prif leiswyr oeddynt Miss Annie Mariott, Eos Morlais, Mr Lucas Williams, a Mr Dyfod Lewis. Dydd Gwener cyn y diweddaf, lladdwyd Mrs Rachel Jones, gwraig David Jones, Queen's Head Wharf, wrth grocsi y reilffordd yn aaos i Trallwni. Ym- ddengys ei bod hi, druan, yn fydrlar. Ymfudiaeth i'r Talaethau Uncdig ydoedd testyn darlith yn Jerusalem, Ffestiniog, nos Fawrth cyn y diweddaf, gan Mr J. W. Jones, o'r America. Llyw. yddwyd gan Mr Rees Roberts, goruchwyliwr chwareli. Yn Llys Heddgeidwadol Sirol Caer, y dydd o'r blaen, cyhuddwyd George Williams, Dinbych, o symud gwartheg o Pulford yn groes i'r rheolau Ileol, ac erlyn- wyd John Arthur Wooiridge, ei feistr, am drosedd cyiFelyb. Da ydyw cael ar ddeall fod y cnydau yn y siroedd Gogleddol yn fwy addawol nag y buont er's amryw flynyddoedd. Bydd y cnydau o wenith, haidd, ceirch, a ffa, mewn rhai manau, dros y cyfartalwch. Ym- ddengys fod cnwd helaeth o bytatws hefyd. Nid yn ami y gwelir yr hyn a gymerodd Ie yn Nghroesoswallt dydd Sul cyn y diweddaf, sef dwy bregeth yn cael en traddodi gan Mr W. T. Allen, A.S. dros Newcastle, yn nghyfarfodydd blynyddol y Wcsleyaid yn y lie uchod. Trueni mai eithriadol yw hyn. Gwerthwyd y Cambrian Mines, yn ddiweddar, gan Mr O. Daniel, arwerthydd, i gwmni am £800. Credir y gweithir y mwnau gan y cwmni newydd. Ychydig ByayddoeddynoI,Murnwyd cwmoi gyda iilOO.OOO or gweithio y mwnau hyn, y rhai nad oeddynt fwy o wcrth nag ydynt yn awr. Yr wythnos ddiweddaf hysbyswyd fod marwolaeth wedi dygwydd yn Llanfyllin trwy cholera; ond sicr- liawyd yn benderfynol wedi hyny mai diarrhoea cy- ffredin ydoedd, ac nad ydoedd yn un o'r tri amgylch- iad y cyfeiriwyd atynt gan Syr Charles Dilke yn y Ty Cyffredin y dydd o'r blapn. Cynaliodd Wesleyaid Dolgellau nodachfa yn Ystaf- elloedd Cyhoeddus y dref yr wythnos ddiweddaf. Agorwyd y bazaar ddydd Mawrth gan Mr C. R. Williams, Dolymelynllyn Hall; dydd Mercher, gan Syr R. H. Wyatt; a dydd Iau, gan Mr R. Sorton Parry, Hyde Park, Llundain- Llwyddodd y boneddigesau ieuainc canlynol o'r Ladies' College, Bryntysilio, Caernarfon, i basio arhol- iad y College of Preceptors :—Miss J. Owen, Ffestin- iog; Miss Lloyd, Rock Ferry; Miss Pugh, Caernar- fon; Miss Howden, Manchester; a Miss Griffith, Rhostryfyn. Dengys hyn anrhydedd mawr i Miss Rees fel ysgolfeistres. Ymddygiad crouLnvn ac annvnol sydd wedi dyfod i oleuni yn agos i Dolgoed, sir Feirionydd. Ymddengys fod ci defaid wedi bod yn bwyta bwyd rnoch perthynol i ffermdy cyfagos, a tlirwy hyny wedi cynhyrfu digof- aint y perchenogion gymaint nes iddynt afaelyd yn y creadur, ac wedi cylymu o'i amgylch gadachau wedi eu gwlychu mewn paraffin, gosodasant dan wrtho. Yn ei ingoodd rhedodd y ci i'w d £ yn Dolgoed, ond bu farw cyn cyrhaedd, wedi ei lesgi i'r esgyrn. Mae'r dyhir- wch wedi ei gyflawni er Mai 6ed, ac nid yw ond wedi dyl'od ailan yn raddol.J Ofnadwy ydyw clywed am gampau tri llanc ieuanc, dyl'od ailan yn raddol.J Ofnadwy ydyw clywed am gampau tri llanc ieuanc, 13, 14, a 16 oed, yn Ruabon, yn tori i mewn i fasnach- dy Mr Randies, grocer. &c., y Sul arall. Ymddengys iddynt yr haf diweddaf ladrata asyn, rhyw gymaint o luniaetb, a llenlieiniau, a myned a ewersyllu am am- ser ar fynyddoedd Berwyn, gan ddychwelyd i'w car- trcfi pan ddiweddodd ea hymborth. Gobeithient allu cario yn mlaen eu beid lgarwch yr haf hwn eto trwy dovi i mewn i'r lie uchod, gan gymeryd pob math o luniaeth, yn nghydaphibau myglys, slippers, a dillad bcchgyn. Safai yr ieuerigaf tuallan i'r siop, wedi ei arl'ogi a dagr, tra yr oedd yr ysbeiliad yn myned yn mlacn gan y llcill, a chanddynt hwy lawddryli llwyth- cdig. Wedi bicrhau yr oil, diangasant amrai dydd- iall ond cyu i<ldynt gyrhaedd y niynyddocdd daliwyd hWYlJt gau yr boddgeidwaid, a daethpwyd o hyd i lawer o nwyddau wedi eu hystorio mewn chwareli geryg.
Adolygiad y Wasg.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Adolygiad y Wasg. DYFKOEDD SILOAM: NEU, BYB-GOFIANT A MAKW- NAD Y PAItCH E. EIIBDYDD THOMAS, Siloam, Pontirgothi, Swydd Gaerfyrddin, gan John Myrddin Thomas, yr Wyddgrug. Mae y cofiant yn fyr, ac eto yn cynwys yr oil allesid ei ddyweyd am ddyn ieuanc o gymeriad dysglaer, addawol o ddefnyddioldeb yn nj;weinidogaeth y Gair, ond a dorwyd i lawr yn mlcdau ei ddyddiau. Peth pur anghyffredin yw i ddyn ieuanc gael ei urifdo yn weinidog i'r eglwys yn yr hon y derbyniwyd of, ac heb fod allan ohoni o adeg ei dderbyniad hyd adeg ei urddiad. Gosododd hen oglwys barchus Slonm an- rhydedd arni ei hun wrth anrhydeddu nn o'i meibion. Yn mhen ychydig fisoedd wedi dechreu ar ei weinidog- aetb, clafychodd, a chyn pen y flwyddyn yr oedd yn ei fedd. Ail adroddiad o'r cofiant yw y farwnad, a gwnelailes i ddynion ieuainc yr eglwysi ddarllen hanes bywyd y cymeriad prydterth hwn. Nid yw pris y cofiant a'r farwnad ond cbwecheiniog, ac y mae y llyfryn wedi ei droi allan yn ddestlus gan Mr J. Ll. Morris, Wyddgrug. YCHYDIG EIRIAU AT FAMAU PLANT. Argraffedig gan J. Williams a'i Fab, Llanelli. Pris Ceiniog. Cyfieithiad o'r Saesoneg yw y llyfryn bychan hwn, aear y cyfan y mae y cyfieithiad yn naturiol ac ystwyth. Mae yr awdures yn wraig i un o'r Aelodau Seneddol Cymreig, ac yn un sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn addysg a iawn ddvgiad i fyny yr oes sydd yn codi. Dengys y llyfiyn ei bod wedi yra- gydnabyddu a'r dosbarth gweithiol, a thra yn cydnabod yr anhawsderau sydd gan famau yn y dosbarth hwnw, oherwydd cyfyngder eu hamgylchiadau a bychandcr eu haneddau, i ddwyn plant o'r ddau rhyw i fyny yn weddus, rhydd gyfarwyddiadau syml a charcdig pa fodd i orchfygu y rhwystrau. Ceiniogwerth wertlifawr fyddai y llyfryn yn llaw pob mam sydd a nifer o blant bychain ar yr aelwyd. CiESAB AND GOD; OR, THE BISLE AND THE STATE FUND, by the Rev Edward Davies, Rhymney. Argraffw yd gan G. J. Jacobs, Minerva Printing Office, Rhymney. Pris Swllt. Mae teitl y llyfr dyddorol ac amsrrol hwn yn dynodi ei gynwysiad-" Eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw." Y cwestiwn esyd yr awdwr o'i flaen i'w ateb ydyw hwn-" A ydyw yn iawn-a ydyw yn gyson a rhyddid cydwybod mewn crefydd—i orfodi unrhyw ddyn, trwy rym cyfraith wladol, i ddal i fyny (uphold) y gyfundrefn o ddarllen y Beibl ac addysg Feiblaidd mewn Ysgolion Byrddol ? Ei ateb pendant ydyw, Nac ydyw." A phrofi hyny ydyw baich 34 o erthyglau cynwysedig yn y llyfr. Mae hwn yn gwestiwn sydd wedi cynhyrfu y wlad er 1870, pan ddygwyd i fewn ac y pasiwyd Mesnr Addysg Mr Forster, yn cynwys Adran 25ain, yr hon sydd yn gosod y Byrddau Ysgol at eu rhyddid i ddwyn y Beibl i fewn i'r Ysgolion Byrddol neu beidio, fel yr ewyllysiont. Nid ydym wedi petruso o'r dechreu-ad i ddatgan ein barn yn glir ar y mater hwn, a hyny yw, ei bod yn d.osedd ar ryddid cydwybol, ac yn anghyson ag addysg yr Ysgrythyrau, i orfodi dyn trwy gyfraith i dalu ffyrling tuag at bwrcasu Beibl iddo ei hun na neb arall, neu tuag at ddysgu y Beibl i blant na phobl mewn oed. Yn hyn yr ydym yn cwbl gredu fel awdwr y llyfr hwn. Cymer yr awdwr olwg eang ar yr egwyddor wirfoddol mewn crefydd, ac olrheinia hi mewn dull cywrain a medrus yn hanes crefydd yn y Beibl o'r dechreuad hyd ddyddiau Crist a'r Apostolion. Nid ydym An gallu myned mor bell ag ef bob amser yn nghymhwysiad ei ddyfyniadau o'r Hen Destament, ond nis gallwn lai nag edmygu ei fedr a'r freshness byw sydd yn ei ddull o drafod y darnauhyny. I'r Anghyd- ffurfwyr hyny sydd hyd yma heb ddyfod i gyflawn oleuni ar y pwnc pwysig hwn, ac y mae llawer felly yn onest yn eu golygiadau a cbydwybodol yn eu gweith- rediadau, cymeradwywn y llyfr i'w sylw fel moddion efFeithiol i symud y ein oddiar lygad eu meddyliau. Darileiiasai y llyfr i ni yn fwy dymunol pe bna-ai yn fwy llednais ei ysbryd a llai flippant ei dafod pan yn cyfeirio nad ydynt yn gweled lygad yn llygad ag ef. er yn Anghydffurfwyr gonest a chydwybodol; ond hwyrach fod hyny yn codi oddiar ei sel dros yr egwyddor y dadleua drosti, a'i dymer bybyr, yn fwy nag i ddrwg-ysbryd ac am can i sarhau a dolurio teimladau yn ddiachos. Caiff y neb a ddarlleno y llyfr lawn dal am ei arian a'i lafur.
BETHESDA, TONGWYNLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHESDA, TONGWYNLAIS. Y mae y capel uchod wedi cael ei adgyweirio, ei liwia, a'i baentio, fel y mae yn un o'r capelau harddaf yn y gymydogaeth yn awr, ac ar y Sabboth, Awst 5fed, yr ail agorwyd ef, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn T. Anthony, gwein- idog y lie; D. G-. Rees, Eglwysnewydd; W.'Eees, Glandwr; a D. Roderick (B.), Tongwynlais. Cafwyd cynulliadau lluosog a chasgliadau da. Llwyddiant i'r gweinidog gweith^ar a'r eglwys heddychol i lanw en capel prydforth a dynion a fyddant byth yn gadwedig. W. RHEs.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
--+- BUCHUPAIBA."—Gwcllhad newydd a cliyflym o holl auliwyidei-au y Ileisw arenau. 4;. Gbfvnwch am dano i'r Druggists. Prif Swyddfa—Llundain, No. 1, King Edward-street.