Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
BOOTLE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BOOTLE. Cychwynwyd yr achos yma er's mwy na phed- air blynedd yn ol mewn ystafell fechan yn Balliol- road, gan nifer o aelodau Great Mersey-street, Liverpool, ac wedi cynalYsgol Sabbothol a phreg- ethu yn achlysurol dros ychydig, rhoddwyd llyth- yrau gollyngdod yn rheolaidd i ryw 34 o aelodau i ymffurfio yn eglwys yn y lie, y rhai a gorffolwyd gan y Parchn W. Roberts a J. Thomas, D.D. Buont dan gryn anfantais oblegid anghyfleusdra y lie y cyfarfyddent, ac wedi symud i'r neuadd gyfleus yn Merton-road yr oedd yr ardreth blyn- yddol yn faich trwm. Teimlid fod anhawsder i gael tir at adeiladu heb dalu yn ddrud am dano, yn ychwanegol at yr ardreth flynyddol, heb gael rhyw ddylanwad i fyned yn uniongyrchol at brif oruchwyliwr Iarll Derby, oblegid yr Iarll yw perchenog yr boll wlad oddiamgylch. Yr oedd Dr Thomas a Mr Roberts wedi bod gydag ef yn ymofyn tir rai blynyddoedd yn ol, ond yr oedd rbyw rwystr i gael y tir a geisient y pryd hwnw. Yn nechreu y flwyddyn hon gwnaeth yr eglwys yn Bootle gais atynt ar iddynt fyned eilwaith ar yr un neges, a'r hyn y cydsyniasant yn ebrwydd, a chawsant addewid ddioed am dir ar gongl Uni- versity-road, Trinity-road, un o'r manau goreu a allesid ddymuno; a chyn pen pythefnos yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Cafwyd ef heb unrhyw dal, ond yr ardroth flynyddol, ac y mae hono yn rhes- ymol iawn. Mae digon o dir wedi ei ddyogelu i godi capel eang ar gongl yr heol, yr un heol ag y mae capeli y Methodistiaid a'r Wesleyaid ynddi yn barod, ond ychydig yn nwch i fyny, ac o gymaint a hyny yn well ar gyfer y dyfodol. Pen- derfynwyd codi ysgoldy y tu ol i'r capel, gan gadw y tir yn y ffrynt at y capel, ond y mae gwyneb yr ysgoldy i University-road. Mao yr ysgoldy yn un nodeaig o gyfleus, yn mesur 44 troedfedd wrth 27 oddifewn, a festri a phob cyfleusderau ereill yn nglyn ag ef. Nis gellir dymuno lie mwy man- teisiol, ac nid aeth yr holl draul, gan gynwys ei ddodrefniad a'r cwbl, ond rhyw .£500. Agorwyd ef nos Sadwrn, Gorphenaf 28ain, pryd y decbreu- wyd y gwasanaeth gan y Parch W. Roberts, ac y pregethodd y Parch J. Thomas, D.D. Boreu Sabbotb, am 10, pregethwyd gan y Parchn J. Davies (B.), Bootle, a W. Nicholson. Am 2, gaa y Parchn Ishmael Evans (W.), a H. Rees, Caer. Am 6, gan y Parchn H. Rees a W. Roberts. Nos Lun, pregethodd y Parchn H. Ivor Jones, Llan- rwst, a W. Davies, Llandilo; a'r nos Wener di- lynol pregethodd y Parchn G. Ellis, M.A., Bootle, a D. M. Jenkins. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae yr eglwys fechan yn Bootle yn dechreu yn ei phabell newydd o dan amgylchiadau hynod o ffafriol, a thrwy gydweith- iad dynion, 6 dan fendith Duw, gellir dysgwyl fod dyfodol llewyrchus i'r achos yma.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLAWENYDD genym cUieall fod y brawd ieuanc Mr D. W. Vaughan, Crugybar, gynt o Goleg Aberhonddn, ond yn bresenol yn Airedale, wedi enill ysgoloriaeth Brown yn y coleg hwnw, yr hon sydd yn .£G5 y flwyddyn am dair blynedd. Hyderwn y llwydda i enill rhagor o rai cyffelyb, ac i ddringo ar hyd grisiau anrhydedd. LLAWENTDD genym ddeall fod Mr William Thomas Jenkins, mab y Parch W. C. Jenkins, Cydweli, wedi pasio yn Ilwyddianus y Preliminary Examination of the Pharmaceutical Society of Great Britain, yr hon a gynaliwyd yn ddiweddar yn Nghaerfyrddin. Darfu i 16 bresenoli eu hunain yn yr arholiad, wyth o ba rai a basiodd. ROUGH ON RATS."—Y peth y dymunid am dano wedi ei gael. Gofynwch i'r Druggists a'r Grocers am "Rough on Rats," vr hwn a gliria allan lygod mawrion a bychciiu, chwilenod, roaches, gwybed, bugs gweiy, trychfilod, a tyrchod daear. BIychau,;7ie. a Is.
ENGLYNION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENGLYNION Er cof am Mr Hugh Davies, 6, Brook Row, Bangor, yr hwn a fu farw Mai 27ain, 1883, yn 64 mlwydd oed. HWN aeth o ing, drwy byrth angau,-i wlad Oludog, ddiboenau Yno o hyd gwna fwynhan Yn dirion nef fwynderau, Hir rodiodd ar hyd rydiau—yr afon A'i rbyfedd geulanau Yn ei oea ca'dd ami groesan, A'i hawyr ddwys i'w bruddhau. Er hyny, ar Grist a rhinwedd,—ei farw Fu' rym hyd y diwedd Hwn a'i lawn oedd iddo'n hedd Yn ei gur a'i drugaredd. Oedd Gristion hawddgar, astud,—a nofiai Yn ei nefoi olud A loes drom siom ei symud, Ei ddwyn i'w feid heddyw'n fud. Melns mae heddyw'n moli—ei Geidwad Bendigawl uwch cyni; Diolch am waed a'r golchi "— Ion a'i drefn, yr Un yn dri. Hugh Davies welir yn dyfod—allan 0 briddeliau'r beddrod Difyr ar nefol dafod I'w cnw gl&n rhydd nefawl glod. Conwy. HOBIN WYN.
ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR MR. j JOHN GRIFFITHS, LLANBEDR, GER NARBERTH. UNWAITH eto wele angeu I Wedi tynn ei gleddyf llym, Gan drywanu'n mlodau'i ddyddiau J Un oedd gyfaill anwyl im' Trwm yr ergyd i'w gyfoedion, Trwm i'r eglwys, felly mae, Ond i'r t :ulu trwmach loesion, Galar, griddfan, gofid, gwae. Melus gofiaf am yr ade.J Pan yn chwareu yn y pant, Dringo'r rhiwiau serth dan redeg J Fel chwim cwig pan yn blant; Gwrando llais y mwyn gantorion A delorai uwch y graig, Dal y pysg ar fron yr afon Lifa'n "gyson tua'r aig. Dedwydd treulio'm oriau lawer Ddysgu lion ganiadau serch, Dysgu'r anthem nefol seinber, Dringo rhivviau'r ganig erch O mor gyflym hedai'r oriau Pan yn ngwres y mawl a'r gaa Haf fwyneiddiaf i'n calonau Yn y gauaf heb un tan. Ust pa beth yw'r i&s oernadau Glywaf yn yr awel Ion ? Yn ei oerllyd gerbyd—angeu Aeth i ffwrdd a'm cyfaill John. Beth, ai breuddwyd yw'r cyhoeddiad ? Ai dychymyg noeth a gwan ? Na mae'n ffaith, ond anhawdd dirnad, Marw, druan, ddaeth i'w ran.. Codi wnaeth fel haul y boreu Ar fawreddog foreu haf, Brysio'n mlaen dros lawrlas ddyddiau 'N lencyn heini, gwridgoch, braf. Ond eyn cyrhaedd ei feridian, 'Maflodd angeu yn ci law, Gan ddiffoddi haul oi fywyd, Aeth pg ef i'r ochr draw. 'Roedd yn fachgen pur, diniwed, Heb ddim Did na nwydan cas, Heb ddim malais drwg na syched I ddigofaint, crch diras 'Roedd yn addfwyn iawn, a thyner, Yn garedig, hawddgar, lion— Llawn parodrwydd ar bob amser Wneyd a allai ydoedd John. Bu yn aelod bynod ffyddlon Yn y dosbarth Ysgol Sul, Chwareu ran wnai ef yn tryson Heb ragfarnau dall a chul. 'R,occld yn deall trefn y cadw Yn ei holl agweddau llawn, Amcan Iesu Grist yn marw Ar Galfaria er gwneyd lawn. Ond fel un o filwyr Seion Yn y gan rhagorai ef, Cami nes gwefreiddio dynion Wnelai a'i soniarus lef. Pwv a leinw'r adwy lydan Wnard gan an Yeu yn ein Cor ? Cclnai of is-alaw'r gydgan, Chwydda'i lais fel ton y mor. Gwag- o John fydd cor Brynseion, I Chwithig iawn fydd gwcl'd y fan Lle'r eisteddai ef mor gvson Ar yr oriel gantor gan Heddyw chwydda/r gan drag'wyddol Draw yn yr ybbrydol fyd, Haleliwia yn oes oesoedd IR Oen a'i prynodd of mor d irud. Nac wylwch, berth'nasau, nac wylwch, ferch Seion, Wrth golli y dewrion o rengoedd y gild, Symudant o'r ddaear i blitli yr angylion, I fyw-byth i farw, na 'madael a'r wlad Cant hedeg trwy fydoedd afrifed y Duwdod, I ganfod prydferthwch a chariad heb ddig, A chanu am gynllun i achub gan Drindod, A chanfod yr Oen yn y wlad lie y trig. OSSIAN LLAMBED.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaeihau, Priodasau, &6. DATAEH SYXiW.-—Ein tclorau am gyhoodrli Barddoniaeth yn sysyllticdiff a lianea Gcnedigaeth, I'riodas, nou Farwolaeth yw tair ceiniog y Hindi. PRIODASAU. WILLIAMS-WILLIAMS.-Awst 8fed, yn Ebenezer, Abertawy, gan y Parch J. Williams, Trehafod (ewythr y priodfab), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch T. Eynon Davies, Mr J. Gwilym Williams, commercial traveller, Caerdydd, a Miss Gertrude Ellen Williams, Professor of Music, Abertawy. JONES—WILLIAMS.—Awst 8fed, yn Park road, Liver- pool, gan y Parch D. M. Jenkins, Mr Hugh Jones â. Miss Mary Williams-y ddau o Liverpool. THOMAS—HUGHES.—Awst lleg, yn Park-road Liver- pool, gan y Parch D. M. Jenkins, Mr W. J. Thomas, wyr i'r diweddar Hybarch Jones, Amlwch, & Mrs Sarah Hughes—y ddau o Liverpool.
! MARWOLAETH A CULADDEDIGKETI-I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH A CULADDEDIGKETI-I Y PARCH W. R. WILLIAMS,. LLAN ELLTYD, GER DOLGELLAU. Dydd Mawrth, Gorphenaf 24ain, terfynodd y brawd Nyddton ac anwyl uc'nod ei yrfa wedi cystudd trwm a maith, yn mhreswylfod ei rieni, Mr a Mrs Robert Williams, Penllech, Sarn Feillteyrn, Lleyn, yn 32 mlwydd oed. Wedi cyrhaedd oedran ymneillduodd oddiwrth ei alwedigaeth foreuo!, gan ymsefydlu yn Nghael-dydd yn Ysgol Ramadegol Mr Lewis (yn awr Proff. Lewis, B.A., Bala), er derbyn yr addysg angen- rheidiol i'w alluogi i ddechreu ar gwrs Colegawl Caer- fyrddin. Bu yn efrydydd ffyddlawn a diwyd, a thyst- iolaeth un o'i athrawon ydyw, ei fod yn arfer pob diwydrwydd er diwygio a diwyllio eihunyn ngwahanol gangenau gwybodaeth. Yn ystod y flwyddyn 1878 derbyniodd alivad oddiwrth yr eglwysi yn Llanelltyd, Borth, Ganliwyd, a Llanfachreth, sir Feirionydd, yr hon a atebodd yn gadarnhaol, gan ddechreu ar ei wein- idogaoth ac ymsefydlu yn eu plith. Nodweddid ef fel gweinidog yr Efengyl a ffyddlon- deb trylwyr i'w swydd gysegredig. Yn wir, teithiodd trwy gylch ei daith weinidogaethol yn y Borth, Llan- elltyd, Ganliwyd, a Llanfaohreth, pan yr oedd yr allar ol yn dangos gwendid a nychdn ) mawr, a'r am- gylchiadau yn galw am orphwysfa i'w natur lesg. Yr oedd yn ddyn caruaidd, ac yn llawn o natur dda, a thystiolaothai ysgydwad ei law dderbyniad cynes i mewn i'w serchiadau- Dydd Mawrth, yr 31ain eynflsol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i fynwent eglwys biwyfol Bryncroes. Daeth cynulleidfa luosog a pharchus yn nghyd, yn cynwys y gweinidogion, pregethwyr, a chynrychiolwyr eglwysi ei ofal canlynol :-y Parchn E. James, Nefyn R. Hughes, Abersoch J. C. Jones, Penygroes J. G. Jones, Ceidio; Roberts (B.), Rhoshirwain W. Williams (W. C. Gwilvm ab Gwilym Lleyn), Treuddyn, ger Wyddgrug Mri W. Williams, Hebron D. Griffiths, Bethel; W. Evans, Bryncroes; a'r Mri Robert Williams, Borth Evan Francis, Llan- elltyd a Griffith Price, Llanfachreth. Gwasanaeth- wyd wrth y ty trwy ddarllen a gweddio gan y Parch R. Hughes, Abersoch, a thraddodwyd anerchiad byr a phwrpasol i'r amgylchiad gan Mr Griffith Price, Llan- fachreth. Yn yr eglwys blwyfol gweinyddid gan y Parch David Owen, y periglor, yr hwn a haedda gan- moliaeth neb el, yn gymaint a'i fod wedi caniatau i'r Parch J. C. Jones, Penygroes, ddarllen 1 Cor. xv., sef rhan o'r gwasanaeth yn yr eglwys Hefyd, gwasan. aethodd y Parchn D. Owen, ac E. James, Nefyn, wrth lan y bedd. Dangos A-yd caredigrwydd mawr gan gareiigion yr achos yn Bryncroes, a'r lluaws cymydogion caredig yn yr ardal, i'r dyeithriaid oedd wedi ymgasglu i ddangos eu teyrnged o barch olaf i weddilHon ein hanwyl frawd Mr Williams. Yr oedd ffyddlondeb y brodyr R. Williams, E. Francis, a G. Price yn dyfod yr holl ffordd o sir Feirionydd yn siarad yn uchel am gymer- iad eu diweddar weinidog, a chredwn y bydd hyn yn foddion cynaliaeth i Mr a Mrs Williams yn eu trallod dwfn a'u colled drom, yn nghyda'r teulu oil. Credwn fod y cyfnewidiad iddo ef yn enill, a'i fod wedi cyrhaedd y cartref dedwydd y soniai am dano yn ei fynydau olaf, a bydded fod Duw pob daioni trwy yr amgylchiad i'r teulu yn nerth a geleuni i'w galluogi yn yr ystorm i ymostwng i'r Ewyllys Ddwyfol addaw- odd, fel Job gynt, Yr Arglwydd a roddodd, a'r Ar- glwydd a drlygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Mae y Parch E. James, Nefyn, wedi addaw yn gar- edig draddodi ei bregeth angladdol yn Bryncroes ar un o'r nosweithiau dyfodol- Bydd hwn yn wasanaeth y teimla llaweroedd y bydd ya westh gwneyd ymdrech i fod y,n bresenol. ac oi. ryfeddein glywed na bydd Bryn- croes y iiosou huno yn gyrehfaa pobloedd lawer iawn. CYFAILL.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr oil oedd yn bresenol y tri diwrnod cyntaf yn gwneyd cyfanswm o 23,399. Yr oedd hefyd yn bresenol dydd Iau, y dydd olaf, o 12,000 i 14,000. Cyfarfu Pwyllgor Arianol yr Eisteddfod, dydd Sadwrn i dafiu golwg dros y treuliau a'r derbyn- iadau, ond gan fod amryw gyfrifon heb dd'od i law, nis gallesid rhoddi gwybodaeth gywir, ond morl agos ag y gallesid gwybod, mae y treuliau wedi myned dros 5,000p, a'r derbyniadau tua 4,000p. Ofnir y bydd eisieu tua l,000p. i wneyd i fyny y diffyg. Gwariwyd 800p. ar y datganwyr a'r orchestra yn unig. O'r tair Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, Eisteddfod Merthyr yw'r unig un gliriodd ei ffordd, a chael rhai canoedd o bunau yn ngweddill. GWELLIANT GWALL, Yn ein rhifyn diweddaf, dywedasom mai Dewi Haran gafodd y wobr flaenaf o lOp. 10s., a Daniel Owen (Ap Rhydderch), Llanharan, gafodd yr ail wobr o 5p. 5s. am y traethawd goreu ar Hen Yswain Llanharan." Fel arall y dylasai fod, Ap Bhydderch. gafodd y flaenaf, a Dewi Haran yr ail.