Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

O'M LLYFKGELL. -

SABBOTH LLAWEN,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SABBOTH LLAWEN, Ü'R SAESONEG. Y FFAITH yw, y mae y Sabboth, ac fe ddylai fod, yn llawen a hyfryd ac yn wir nis gallwn yn gwbl ei wneyd yn wahanol; pe y ceisiem. Mae yn agoryd yn llawen, yn neillduol ar adeg heulog bresenol yr haf, ac y mae y bobl yn ym- ddadebru i'r ymwybodolrwydd o'i ddychweliad a theimlad cyffelyb i'r hyn sydd yn ein galluogi i glywed swn cerddediad cyfaill anwyl pan y byddo hyd yn nod o bell yn dynesu tuag atom. Y mae yr adar yn canu yn llawen, ac y mae hyd yn nod swn gorphwysiad yn y gwynt yn mysg y coed. Mae'n achos gorfoledd i feddwl am ddeffroad rhai lluddiedig y ddaear ar foreu Sabboth, a phwy a wyr nad yw llawenydd ei blant mewn rhyw fodd yn foliant cymeradwy i galon fawr gariadlawn y Tad nefol. Ni raid i'r gwyr droi allan at eu gwaith, ac Did yw y gwra- gedd a'r un prysurdeb arnynt; cysurir a chalonogir hwynt a gweinidogaeth fendigedig seibiant, ac y mae amser i gusanu y plant, ac 1 edrych pa fodd y mae y planhigion sydd yn y ffenestr yn tyfu, ac i wenu a chauu. Y mae amser i wedd'io hefyd, ac onid yw yn bosibl fod rhai calonau anghynefin, yn y llawenydd a'r cysur o'r cariad at gartref, yn anfon i fyny at Dduw y fath feddylddrych ag y mae Ef yn gwneuthur mwy o iawer ohono nag a wnaem ni? Ymddengys fel pe byddai prydferthwch newydd yn disgyn ar wynebau y bobi pan y mae yn Sabboth. "Ni bydd fy mam yn groes heddyw, am ei bod yn Sabboth; nid yw yn arfer dwrdio llawer ar y Sabboth," meddai yr un bychan. Y fam, druan, buasai hi mor falch a'r plant ohyny. Eisteddai deg ohonynt o gylch y bwrdd ciniaw, ond y mao yr un ystafell yn lanach nag arfer, mae'r gwr da gartref, a'r icuengaf end un ar ei liniau, ac y mae wythnos gyfan o heulwen yn ymwasgu i'r Sabboth hwnw. Y mae miloedd ar filoedd yn teimlo hyn, y rhai a gynhyrfir i addfwynder a diolch- garwch yn unig drwy ddyfodiad y dydd. Yn y masnachdai a'r ystordai y maent drwy yr wyth- nos, mor brysur fel nad oes ganddynt o'r braidd amser i ystyried a ydyw yr haul yn tywynu, neu i wybod a ydyw yr awyrgylch yn las, a'r adar yn canu. Ond i gael dydd cyfan, y mae hyn yn gyfoeth o oriau sydd yn esmwythlawn a phrydferth ac ysbrydoledig ac felly maent yn rhoddi heibio y gwg a'r don sarug, yr anfodd- lonrwydd a'r tristwch, ac yn troi eu hunain tuag at ddylanwadau lliniaraidd y Sabboth. Ond dydd Duw ydyw y Sabboth, ac oherwydd ei fod ef yn ei wneuthur yn llawen y mae felly mewn gwirionedd. Tra y mae y mab eto yn mhell, y mae y Tad yn dyfod i'w gyfarfod. Pa beth vdyw ei angcn? Ai maddeuant? Mae'n eiddo iddo cyn ei ofyn, a'r wisg oreu, a'r fod- rwy, a'r wledd a'r llawenydd ydynt i gyd yno hefyd. Yr ydym yn barod i ddyweyd ar bryd- iau nad yw y Iluaws yn pryderu dim am gref- ydd, ond pwy ydym ni fel y barnem ? Duw yn unig a wyr faint sydd yn ymwthio tuag ato o ran y meddwl, yn hiraethu, yn angenu, trwy dawelwch y Sabboth. Nid ydynt yn yngan yr un gair wrthym ni am hyny -pa raid iddynt ? Hwyrach nad ydynt yn dyweyd yr un gair wrtho Ef; ond y mae Ef yn deall, ac os ydynt hwy yn synu o ba le y mae y llawenydd yn tarddu, pa beth y mae Ef yn wneyd ond gwenu a dysgwyl yn sicr y deuant i wybod ryw ddydd ? Ac yn sicr bydd nifer ychwanegol yn ymgyntill i'r fan y ccnir ei glod Ef. Gyda'r tafarnau yn nghauad, a'i ddorau Ef yn llydan agorcd, a'i dy Ef wedi ei wneyd yn gartrefcdaw y bobl i fewn. Ond peidier a throi yn alarus ac undonog, yr hyn y mae Ef wedi ei wneyd yn llawen. Ni ddylai dim yn felancolaidd fod yn ngwasanaeth mawl. Ni cheisia neb ganu Arglwydd, fath druenus dir yw hwn, Heb gynyrcb dim daioni. Ni ddylai yr un arweinydd canu ddewis ton lusgaidd, nad yw yn Ilwyddianus i ddim ond i yru y bobl i gysgu. Dylai parch a llawenydd sefyll law yn llaw i gyfarfod yr addolydd wrth ddrws y cysegr, a gobaith ddylai fod yn y gweddïau, a llawenydd yn yr emynau, a rhyw- beth ysbrydoledig yn y bregeth. Ac fe adawa y dorf anlluddiedig'y lie y mae gorphwysdra a heddwch a syniadau o Dduw wedi eu rhoddi, gyda dymuniadau am fywydau gwell, a phender- fyniadau a raid yn ddiamheu gynyrchu gweith- rediad. Ac os bydd i'r Hen, hen stori" gael ei thraethu yn dda, bydd arnynt eisieu dyfod i'w chlywed eilwaith, oherwydd y mae yn mhob calon eisieu, nad oes ond y ifordd yma i'w gyf- arfod. Y mae Crist mor angenrheidiol i'r byd yn awr ag erioed, ac y mae y bobl yn gwaeddi allan am dano. Y fath gyfleusderau gwerth. fawr sydd i'r rhai oil a wyddant y modd i wneuthur y goreu o Sabboth llawen. OWAIN AP TOMOS.

[No title]