Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DYDD MEROHER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD MEROHER. Am 7 o'r gloch y boreu, yn nghapel Salem, Rhiw, cynaliwyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch J. Davies, Taihirion. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. Williams, Llandilo, Penfro. Yna agorodd y Cadeirydd y Gyfeillach, gan ddyweyd :— Mae pob gwir Ann'bynwr yn lkwenyehu wrth weleJ yr TJndfb Cynulleidfaol Cymreig yn troi allan yn llwyddiant mor effeithiol. Nid y lleiaf ei gwasanaeth o'r boll gyfartodydd yn n: Jyn a'r Undeb, yw y Gyfeillaeh, a hyderwn na bydd yr un heddyw yn ol i un o'r rhai blaenorol. Mae llawer o siarad ac ysgrif- enu wedi bod o bryd i bryd am y modd goreu i dd°wyn yn mlaen ein cyfeillaehau crefyddol yn effeithiol. Yinddengya i mi mai ua o brif amcanion sef'ydliad y gyfeillaeh ydoedd hyn, e iel cyflcusdra i weled paeffaith a dylanwad oedd y gwirioneddau a wrandawsid o'r aroithfa wedi gael ar broffeswyr crefydd. Y ptegethau diweddaf wrandawsid fyddai testynau yr ymddyddan- ion, ac nis gallesid cael un cynilun mwy effeithiol er cyrhaedd yr amcan. Gallesid felly tsid yn unig ddy- ogelu smrywiaetli yn y gwahanol gyfeillichau, ond yn mhoLJ un ohonynt a diau y profent yn foddion addysg ao a ieiladaeth y saint mewn crefydd. Ceir ambell un yn awyddus i osod ryw gangen o'r athrawiaeth yn des- tyu ym ddydd an, at u ryw fater peaododig i siarad arno, tra y m.ie ereill yn selog dros gael adno a nodi rhai yn mliim l!aw i siarari atlJi. Oad pa cymecid y preg- ethan yn destynau ymddyddanion y cyfeillachau, dyegelid y pethau hyn oil, ac y mae yn ddiamheu y sicrheid hefyd rai o brif ameanion pregethiad yr Efengyl. Galwai sylw at wirioneddau yr areithfa fel y byddai y gwrando yn well, a byddai yn debygosicrhau myfyrdod arnynt yn 01 liaw, fel nas gellid felly lai na chynyddu mewn crefydd. Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, fel y byddo dy gynydd yn eglur i bawb." Nid oes bregeth braidd yn pasio na eliid cael defnyddiau cyfeillach adeiladol a buddiol oddiwrthi, ond i ni fod yn yr ysbryd priodol yn gwrando. Mae ambell un fel y prif copyn yn gallu sngno gwenwyn oddiwrth bob peth a glyw, tra y mae ereill fel y wenynen yn sugno met oddiwrth yr un pethau. Pe iawn ystyrid cyn cychwyn ar y ffordd i, ac wedi cyrhaedd yr addoldy, byddai yn help i ni ddal ar y gwirionedd, "Pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw°P" Nid yn unig y mae cyfrif i fod o'r modd yr ydym yn gwrando, ond ni a dderbyni wn y cymhwysderau angenrheidiol er cyfarfod ag amrywiol a gwahanol amgylchiadau bywyd, a gweithio allan egwyddorion crefydd yn ei hwyneb yn y fath fodd y gogoneddid ein Duw, y llesolid ein cyd-ddynion, ac y derbyniem ni ein hunain wir a sylweddol ddaioni. Priodol mewn cyfeillach fel hon yw nodi mater, a nodi rhywra,i i draethu arno. Mae y mater y gelwir ein sylw ato heddyw yn un pwysig, priodol, a gwir angen- rheidiol i draethu arno. Gwyddom fod eydgynulliad rheolaidd, cyson, a phrydlon, i'r moddion, yn tueddu i ddylanwadu yn ddaionus ar yr eglwys, y gwrandawyr, a'r gymydogaeth. Mewn oedfa lie y gallwyd dywedyd, Yr ydym ni yma oil," y tywalltwyd yr Ysbryd Glan cyn y diwedd, ac aehubwyd pob gwrandawr oedd yu wyddfodol. Ar ol hyny, darllenwyd Papyr gan y Parch E. Owen, Clydach, ar "Y PWYS 0 FYNYCHU MODDION CREFYDDOL foeect Y Sabboth." Ehaid i ni ohirio Anerchiadau y Parch J. Silin Jones, Llanidloes Mr Thomas, Llanelli, ac ereill, hyd yr wythnos nesaf. Yr oedd y Papyr a'r siarad fu arno yn bob peth allesid ei ddymuno, a da fuasai i'r esgeuluswyr fod yn bresenol. Am haner awr wedi naw o'r gloch, yr oedd capel Jerusalem eto yn orlawn. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch Jonah Morgan, Cwmbach, Aberdar. Wedi canu penill, esgynodd y Parch W. Edwards, Aberdar, Cadeirydd yr Undeb am y flwyddyn, i'r areithfa, i draddodi ei Anerchiad, o'r hyn y mae a ganlyn yn grynodeb o'i sylw- edd, ar YR EGLWYS A'R OES YR YDYM YN BYW YNDDI." FRODYR A Thadau, — Gwn yr esgusodwch y sylw—i mi mae yn fwy nag anrhydedd i gael sefyll yn y fan hon heddyw, canys yr ydwyf yn cael fy hun nid yn unig yn maagre fy ngenedig- aeth, ond yn y man lie clywais son gyntaf erioed am enw fy Ngwaredwr. Mae triugain mlynedd o adgofion cysegredig yn ymwthio i fy meddwl. Mae swn molianu a gweddio tadau a mamau yr achos yn y lie, yn enwedig ar y cae ger llaw, yn fyw yn fy meddwl y fynyd hon ond maent hwy oil wedi blaenu, a minau, yr hynaf yn fyw o'u holynwyr, yn sefyll ger eich bron y dydd hwn. Yr wyf yn cofio dydd y pethau bychain ar yr achos yn y lie ond wele y bychan yn fil, a'r gwael yn genedl gref. O'r Ar- glwydd y bu hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni. Ond rhaid i mi ymatal, a ffrwyno fy nheimlad personol, canys mae mwy na Ffestiniog yn y gynulleidfa fawr hon. Anbawdd fyddai cael testyn mwy dyddorol i ni, canys yr ydym yn byw ae yn bod yn mhob un o'r ddau. Y peth ydym ni ydynt hwythau mae eu delw hwynt arnom ni, a'n delw ninau arnynt hwythau, a thrwom ni gosodant eu delw ar eu gilydd. Mae buddiantau y naill yn gymhlethedig yn y llall. Eto, mae i bob un ohonynt ei fodolaeth a'i arbenigion priodol ei hun. Nid yr Eglwys yw yr Oes, ac nid yr Oes yw yr Eglwys. Er hyny, inaent yn byw yn gymaint yn eu gilydd ac i'w gilydd, fely mae yn nesaf i anmhosibl dynodi ter- fyn gwahaniad y uaill oddiwrth y llall. Tri angenrhaid Eglwys ydyw swyddogaeth reolaidd, annibyniaeth rydd, ac undeb serch a chalon. Mae y blaenaf yn hanfod ei threfn, yr ail yn hanfod ei rbyddid, a'r trydydd yn hanfod ei nerth a'i chydweithrediad, a rhaid i'r tri dyfu allan o'r Eglwys ei hunan. SWYDDOGAETH EGLWYSIG. Nid yw yn bosibl i'r Eglwys wneyd ei gwaith yn gyflawn ac effeitbiol heb Swyddogaetb. Deil yr hell wireb Gymreig yn yr Eglwys yn gystal ag yn y byd Y peth sydd waith i bawb, nid yw waith i neb." Mae perthynas yr Eglwys a hi ei bun, yn gystal a'i phertbynas a'r Oes, yn galw am iddi fod yn fanol ac yti glir yn nghylch pob ffurf o'r Swyddogaeth. Ni ddylai mewn un modd edrych ar y Swyddogaeth fel math o ddirprwyactb. Hanfod Swyddogaeth ydyw bluenori a chanol- eiddio gweithrediad yr Eglwys ond nid ydym 0 wrth hyny i feddwl nad oes gan Eglwys bawl i ffurfio Swyddogaeth a dewis swyddogion, os yn ei doethineb y barna y gall, wrth ymddiried ar- weddion neillduol o'i gwaith i bersonau neillduol, ddwyn yr holl waith yn mlaen yn fwy cyflawn ac effeithiol. Ond wrth hyny dylai edrych ar y Swyddogaeth yn rhaa ohoni ei hun, ac nid yn allu ar wahan na thuallan iddi ei bun. Wrth hyny y mae yr Eglwys yn y Swyddogaeth, a'r Swyddogaeth yn yr Eglwys. Ond y peth y dymunwn ei wasgu at ystyriaeth yr Eglwysi ydyw fod y Swyddogaeth yn hanfod Eglwysyddiaeth y Testament Newydd, a bod yn rhaid i'r Eglwys wneyd defnydd ohoni yn ei holl ffurfiau cyfansoddiadol cyn y gall wneyd ei gwaith yn gyflawn ac effeithiol ar yr Oes. Gofynir weithiau, pa un ai gwas yr Eglwys, neu was Duw ydyw y gweinidog ? Myn rhai mai gwas yr Eglwys ydyw, a dim ond hyny tra y dadleua ereill mai gwas Duw yn unig ydyw, ar gyfrif ei neillduaeth i'r swydd gan Dduw. Y syniad Ys- grythyrol, fel yr ymddengys i mi, ydyw ei fod yn was i bob un o'r ddau. Dywed Paul, Gwnaeth- um fy bun yn was i bawb;" ac mewn man arall, Paul, gwasanaethwr Iesu Grist." Ac nis gall gweinidog fod yn was Duw heb fod yn was i Eglwys Dduw, nac yn was i'r Eglwys heb fod yn was Duw yr Eglwys ac yn wir, ni ddylai yr Eglwys wneyd gwas o neb, ond yr hwn a wnaed gan Dduw yn weinidog eymhwys y Testament Newydd. annibyniaeth. Y peth a olygwn ni wrth annibyniaeth Eglwys ydyw ei bod fel Eglwys yn deyrnas gyflawn ynddi ei hun, heb fod o dan deyrnged i un gallu tuallan iddi ei hun. Gelwir ni fel Enwad yn Annibynwyr a Chynulleidfaolwyr mae y blaenaf yn gosod allan safiad ein Heglwysi i'r byd oddiallan, a'r ail eu safiad iddynt eu hunain. Yn ol y blaenaf mae gallu llywodraethol yr Eglwys yn yr Eglwys ei hunan; yn ol yr ail yr ydym yn dwyn yn mlaen achosion yr Eglwys ynddi hi ei hun. Yr ydym mor annibynol ar y peth a elwir yr Enwad Anni- bynol, ag ydyw yr Enwad o annibynol ar enwadau ereill. Gwir fod genym y peth a elwir Undeb Cynulleidfaol; ond nid ydyra yn cydnabod hawl yr Undeb i lywodraethu ein Heglwysi, nac mewn un modd i ymyraeth a'u hachosion mewnol. Ac T diwrnod y gosoda ein Heglwysi eu gydarau dan iau Undeb neu Gynadledd, neu gyn- I y rychiolwyr Eglwysi, peidiant a bod yn Eglwysi Annibynol. Gallwn uno a'n gilydd i gydym- gynghoriad, ond nid i ddeddfu nac i lywodraethu, ein gilydd. Mae dau wyneb i Annibyniaeth. Un ydyw hawl Eglwys i weithrediad rbydd ynddi ei bun y llall ydyw bawl Eglwys i gydweithrediad y tuallan iddi ei hun. Mae y naill mor hanfodol i Annibyn- iaeth rydd a'r llall. Ychydig o werth a roddwn ni ar Annibyniaeth a'm galluogai yn unig i gadw draw allu estronol rhag ymyraeth a'm bawliau personol, os amddifada fi o'm hawl i gydweitbred- iad tuallan i mi fy hun. Mae hawl cydweithred- iad rhydd mor bwysig i mi ag ydyw rhydd weith- rediad personol. Mae cymaint o berygl i Annibyniaeth i fod yn gaeth iddi ei hun, ag ydyw iddi fod yn gaeth i ddylanwadau tuallan iddi ei hun. Dywedir fod rhywfath o bryf yn ngwledydd y dwyrain mor annibynol fel yr a i mewn i'w dy, a chau arno ei hun, fel nad all ef fod o wasanaeth i ereill, nae ereill fod o wasanaeth iddo yntau. Ond nid fel yna yr wyf fi yn deall Annibyniaeth; yn hytrach o lawer edrychaf arno y ffurf oreu i alluogi yr Eglwys i rydd-weithrediad ynddi ei hun, a thu- allan iddi ei hun, pan wrth hyny y teimla y gall wneyd ei gwaith yn fwy cyflawn ac effeithiol ar yr Oes. Ac, i m tyb i, Annibyniaetb ydyw y ffurf oreu o boll ffurfiau Eglwysig yr Oes i rydd- weithrediad oddifewn, a chydweithrediad oddi- allan. Gogoniant Annibyniaeth ydyw ei bod yn alluog i ymgadw o eithafion unigaeth ar y naill law, ac eithafion undebaeth ar y llaw arall Mae mor alluog i gydweithrediad ag ydyw i weithred- iad personol; gall doddi calon i galon, ac ar yr un pryd gadw cyfanrwydd ei anianaeth ei hun yn mhob gweithred. Mae yn ffurf, ond nid yn or- ffurfiaeth. Wrth hyny, mae yn fwy hyblyg ac yn lIai trafferthus i'r Eglwys wneyd defnydd ohono er ei gallaogi i wneyd ei gwaith ar yr Oes. UNDEB. Awgrymasom yn barod mai dau eithafion Eglwysyddiaeth ydyw Annibyniaeth ac Undeb. y 11P; 3'11 banfodol i gadw cvfanrwydd ei rhydd-weithrediad, a'r Hall yn hanfodol i gadw cysondeb ci chydweithrediad, o-^nys nis gall yr (Parhad yn tudalon C a 0.)

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEie.