Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

GOGLEDD CEREDIGION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOGLEDD CEREDIGION. Cynaliwyd Undeb Canu Cynullcidfaol Anni- bynwyr y cylch uchod yn Aberystwyth, dydd Mawrtb, Awst 14eg, am 2 a, 6 o'r gloch y pryd- nawn. Yr oedd nifer luosog wedi dyfod yn nghyd o Talybont, Salem, a'r cylchoedd, erbyn cyfarfod y prydnawn, fel yr oedd yno gynulleidfa luosog; ac erbyu yr hwyr yr oedd y capel yn orlawn. Yr oedd y rbaglen yn cynwys 24 o do a an o Ail Lyfr Stephen. Yr arweinydd oedd y Parch E. Stephen, Tanymarian. Gwnaeth ei waith yn ardderchog. Yr oedd yn taflu bywyd i'r holl gann, a rhoddodd gymeradwyaeth uchel i'r canu. Yr oedd y corau yn rhoddi boddlonrwydd neill- duol iddo. Canwyd amryw o'r tonau", megys Bryn Calfaria, Hendre, Twrgwyn, a Delyn Aur, gyda hwyl neillduol, yr holl gynulleidfa yn cyduno. De- chreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn D. G. Davies, Talybont, a J. Davies. Bethesda. Chwareuwyd yr harmonium gan Mri Kemp, Talybont, a Spurway, Penybono, Salem. Gobeithio y bydd y Gyrnanfa hon yn symbyliad i wella y canu cynulleidfaol yn y cylch, fel y byddo un o ranau mwyaf pwysig addoliad y cysegr yn cael sylw priodol. Byddai yn briodol iawn fod un neu ddwy o chants yn cael en harfer erbyn y cwrdd nesaf, ac yn cael eu harfer yn y gwasanaeth ar y Sabboth, fel y byddo mwy o amry wiaeth yn y gwasanaeth. Ofnwn fod gormod o unffurfiaeth yn ein haddoliad. Y mae eisieu i'r gynulleidfa deimlo fod ganddynt hwy ran yn y gwasanaeth, a thrwy roddi mwy o sylw i'r rhanau arweiniol, a'r gynulleidfa yn uno yn gyffredinol yn y gwasanaeth hwn, y mae cael hyn. Byddant felly yn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth, ac nid yn dysgwyl yn gwbl wrth y pregethwr. Cafodd pawb eu boddloni yn y Gymanfa hon, a'n dymuniad yw am iddi barhau yn sefydliad blynyddol.

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

CAERDYDD.

YMA AC ACW YN MON.

- BALA.

Advertising