Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

GOGLEDD CEREDIGION.

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

CAERDYDD.

YMA AC ACW YN MON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMA AC ACW YN MON. Treuliais yr wythnos ddiweddaf gan rodio yma ac acw yn hen ynys anwyl fy nhadau, a gwelais ar y daith hon rai pethau a ystyriaf yn werth' y drafferth o'u hanfon at wasanaeth darllenwyr parhaus y TYST A'R DYDD. Dydd Gwener, y 3ydd cyfisol, rhoddodd y Parch R. Williams (Hwfa Mon) wledd ragorol o de a bara brith i ddeiliaid ei Ysgolion Sabbothol yn Llanerchytnedd a Hebron. Daeth tyrfa luosog yn nghyd, ac yn mysg y cwmni llawen gwelsom y Parchn H. Rees, Caev T. Evans, Amlwch; O. L. Roberts, Penarth; ac R. Evans, New Inn. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Miss Roberts a Miss Nellie Roberts, Bryn Hwfa, yn cael eu cynorthwyo gan amryw foneddigesau parchus ereill o'r dref. Yn Bryngwran y cynaliwyd Cyfarfod Chwar- terol Mon y tro diweddaf, sef ar y 7fed a'r 8fed cyfisol. Daeth tyrfa dda yn nghyd i'r Gynadledd am ddau o'r gloch y dydd cyntaf. Ni buom erioed mewn cyfarfod mwy tangnefeddus a heddychol, ac yr oedd y pregethu a'r cynull- eidfaoedd dranocth yn bobpeth a allesid ei ddymuno. Drwg genym gofnodi mai methiant perffaith mewn ystyr arianol fu Eisteddfod Gadeiriol Mon eleni, yr hon a gynaliwyd yn y Gaerwen ar y 9fed a'r lOfed. Yn anffodus, y diwrnod cyn yr wyl aeth y pavilion i lawr yn deilcbion, ac yr oedd y tywydd hefyd yn hynod o anffafriol, fel na.3 gallasai lai na bod yn fethiant yn yr ystyr yma ond sicrha y beirniad ni ei bod yn llwyddiant perffaith gan belled ag yr oedd y cyfansoadiadau yn myned. Yr Anturiaethwr oedd testyn y gadair. Daeth pedwar o gyfansoddiadau i law, a dyfarnwyd eiddo Gaerwenydd yn fuddugol, ac yn berifaith deilwng o'r wobr. Gwnaeth y Prif- fardd Hwfa ei ran yn rhagorol fel beirniad, ac yr ydoedd ei anerchiad o'r Orsedd boreu Gwener y peth goreu a glywsom erioed ar y fath achlysur. Yr oedd Tanymarian a Gaerwenydd yn bynod ddoniol fel arweinyddion. Dygwyddodd damwclin ofnadwy i gapel yr Hen Gyfansoddiad yn Nghaergybi dydd LInn di- weddaf. Syrthiodd y talmaen i lawr, a lladdwyd tri o ddynion. Un ohooynt ydoedd Mr Joseph Jones (Iolo Mon). Cydymdeimlir yn fawr thculuoedd y rhai a laddwyd. Gan y credaf y bydd eich gofod yn brin yr wythnos nesaf, ymataliaf yn awr y tro hwn. Gwjronjtab.

- BALA.

Advertising