Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

DYDD MEROHER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(Pa had o tudalen 5.) Eglwys wneyd ei gwaith yn gyflawn ac effeitbiol ar yr Oes heb bob un o'r ddau. Mae yr Eglwys ei hunan yn Undeb. Nid oes un elfen gryfach na mwy bywiol yn perthyn i'w chyfansoddiad, na dim yn fwy hanfodol i roddi bywyd a nerth yn ei gweithrediad. Rhaid ei bod felly cyn y buasii ei Phen a'i Phriod, ar yr awr mwyaf cyfyng yn ei hanes, yebydig cyn marw-awr trosglwyddo gofal y gwaith sydd i gael ei wneyd ar yr Oes i'r Eglwys—yn myned ar ei liniau i weddio ariddynt fod oil yn un. Yr oedd ei Dad ac yntau wedi ymlapio mewn undeb i wneyd y rban a berthynai iidynt hwy o'r gwaith cyn hyn ac nid rhyw uudeb serch a chariad, yn guddiedig yn nghalon y Personau Dwyfol yn unig, oedd eu hundeb, heb fllurf na chynllun. Yr oedd Ef yn gyflawn o'r gynlluniaeth mwyaf perffeithiedig-o'r cyngher tragywyddol beibio i waith yr Ysbryd yn cyfiawn- han yr ymgnawdoliad, yn ei ddisgyniad ar yr Ail Berson, megys colomen yn y bedydd, fel arwydd weledig o'i gysegriad i'w ran ef o'r gwaitb, yn gystal a chymeradwyaeth y Tad ohono, yn y llef glywedig o'r nefoedd, "Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd," hyd at ei lef ef ei hun ar Galfaria, pan yn rhoddi i fyny yr Ysbryd i'w Dad, ac y dywedodd Gorphenwyd." Nid yw yr Eglwys yn berffaith at ei gwaith heb Undeb a rhaid iddi wrth ffurf weledig i'w Hundeb rhaid iddi wybod ei bod yn un-" Y rhai hyn a wybu mai Tydi am hanfonaist i." Pel hyn mae Undeb yn elfen fyw mewn Eglwysyddiaeth, ac yn beth y rhaid ei wneyd yn weledig i'r byd a'r Eglwys. Nid yw yn werth dim fel undeb calon a serch i'r Eglwys heb ffurf i'w wneyd yn weledig, a chyn- 11 y llun i alluogi yr Eglwys i wneyd defnydd ohono ya ei gweithrediad ar y byd. Ond wrthymsymud ? un ffurf i'r llall-o ffurf Annibyniaeth Eglwysig i ffurf Undeb Eglwysig, mae yn bwysig i'r Eg- lwys ofalu na byddo yn gosod y naill ffurf i wrth- weithio y llall dylai ddal y glorian yn gywir, ac eirych ar fod perffaith cydbwysiad rhwng gallu y naill ffurf a'r Hall yn ei gweithrediad. Cewch yr Eglwys weithiau yn gwneyd camddefnydd o'r ddau. Mae ei Hannibyniaeth ar rai adegau wedi ei harwain i dryblith o annibendod, a'i Hundeb ar adegau ereill wedi ei gwneyd y gallu mwyaf gorthrymus a threisiol ar wyneb yr holl ddaear. Ond ni chewch hi byth heb fod y ddwy ffurf yn elfenau byw yn ei gweithrediad. Dylai yr Eg- lwys fod yn glir ar y mater pwysig hwn nid tm Eglwys nac un Enwad, ond yr holl Eglwysi a'r hall Enwadau, canys mae enwadaeth ei hun yn awgrymu nad yw yr Eglwys yn un. Mae yr Oes hon yn dryblith o gyffroadau Eglwysig ac nid ydym ninau yn dianc mwy nag ereill. Mae yn ifaitii. nas gallwn ei gwadu, bod y ddwy ffurf Eglwysig yma yn pori cyffro ac anghydfod yn ein plith. Byddai yn ddynol ynom ei gyfaddef, acyn Gristionogol ynom i wneyd pob ymgais yn ein gallu i'w gyfarfod yn heddwch a chariad yr Efengyl, a myned ar ein gliniau i weddio am i Ysbryd yr Arglwydd ei ymlid ef ycuaith. Llarld ein Hannibyniaeth fyddai yn ddifodiant i ni, a ILtdd ein Hundeb a'n cydweithrediad a'n gwnai yn rhy ddigalon i gymeryd ein safle yn yr Oes, ac yn rhy weiniaid i wneyd gwaith Eglwys ar yr Oes. Mie ffurf weledig mor hanfodol i Undeb ag ydyw defod i addoliad Eglwysig, neu y sianel i'r ffrwd. Aldefwn yn rhwydd y gall nad yw yr Undeb Cynulleidfaol byd yma wedi cymeryd y ffurf oreu a mwyaf cydweddol ag Annibyniaeth rydd, ac nad yw ar hyn o bryd yn y dwylaw goreu i'w weithio allan er lles cyffredin ond os ydyw yn elfen han- fodol yn Eglwysyddiaeth y Testament Newydd, ac felly wedi ei fwriadu i fod o gynorthwy i'r Eglwys wneyd ei gwaith ar yr Oes, yn hytrach na'i gondemnio, dylid rhoddi gwell ffurf iddo, ac os geilir, gofalu bod hono yn fwy rhydd a chyd- we idol ag Annibyniaeth yr Eglwys. A dyweyd y lleiaf, mae Undeb yn ddigon pwysig i'r Eglwysi ei gymeryd i'w hystyriaeth ddifrifolaf, a dylid edrych arno yn deg ac uwchlaw rbagfarn, yn wyneb gwirionedd, a rhyddid, a hawl yr eglwysi i farnu drostynt eu hunain. Ond cyn ymsymud yn mhellach, dylem gymeryd sylw o'r Oes yr ydym yn byw ynddi, fel y gallom ddeall yn fwy clir y gwaith sydd gan yr Eglwys i'w wneyd ar yr Oes. Ond peth anhawdd ydyw rhoddi darnodiad boddhaol 0/ Oe8. Mae hi yn rhywbeth ag sydd yn dyfod i mewn yn ddiarwy- bod i ni, ac yn myned allan o dan ein dwylaw. Rhaid i'r Eglwys weithian gydio yn ei gwaith a thaflu ei chalon iddo, mae y byd mawr o'i blaen, a chenedlaeth drofaus i wynebu arni. Ni faidd orphwys nes y clywo yr angel yn dywedyd, "Aeth teymasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef." Ac ni raid iddi ofni y gwaith, cauys dywedodd yr Hwn a'i galwodd iddo., Wele, yr ylwyffl gyda chwi bob amser byd ddiwedd y byd. Amen," A :soreu oil os yw Duw gyda DÎ. Eto, cyn y gall wneyd ei gwaith yn effeithiol, rhaid iddi gyfaddasu ei hun ato, er ei galluogi i gyfarfod a phob agwedd o'r Oes. Nid yw yn bosibl iddi wneyd ei gwaith yn gyflawn heb hyn. 1. Rhaid ei chael yn Eglwys bur i gyfarfod a Ilygredd yr Oes. 2. Ehaid ei chael yn Eglwys gref: ac ewyllysgar i wneyd gwaith yr Oes. 3. Ehaid ei chael yn eglwys haelionus a doeth i gymeryd gofal sefydliadau yr Oes. 4. Ehaid ei chael yu Eglwys gadarn yn y ffydd i gyfarfod A, amheuon ac anffyddiacth yr Oes. 5. Rhaid ei chael yn Eglwys ysbrydol i gyfar- fod a gor-ddefodaeth yr Oes. 6. Rhaid ei chael yn Eglwys oleuedig i gymeryd gofal addysg yr Oes. 7. Rhaid ei chael yn Eglwys rydd ac ymchwil- gar i gyfarfod a darganfyddiadau yr Oes. Mae y pethau hyn oil yn anhraethol bwysig i'r Eglwys. Nid yw yn bosibl iddi wneyd ei gwaith ar yr Oes hebddynt; a buasai yn ddymunol genyf allu manylu ar y naill a'r llall, ond ni chaniata amser. Wrth hyny, rhaid i mi gyfyngu fy hun am ychydig o amser yn mhellach at rai o'r pethau a ymddengys i mi yn fwyaf nodweddiadol o'r Oes yr ydym yn byw ynddi, ac felly yn teilyngu sylw neillduol ac arbenig yr Eglwys. DATGUDDIAD. Yr arwedd uchaf a phwysicaf mewn Eglwys- yddiaeth ydyw Datguddiad. Dyma ei ddechreu a'i ddiwedd; nid yw yr Eglwys yn neb na dim hebddo. Heb ei Datguddiad ni byddai gwaban- iaeth rhyngddi hi a'r Oes. Collai awdurdod ei chenadwri dygid hi i lawr i fod yn gydradd a rheswm dynol. Nis gallai fod ei chenadwri yn Ddwyfol, nac yn uwch mewn awdurdod na rheswm yr Oes ei hun, ond mor bell ag y mae yn Ddad- guddiad o ewyllys Duw i'r Oes. Peidia bod yn Eglwys ac yn deyrnas Dduw ar y ddaear, ac yn gorfforiaeth ysferydol i gadw rheolaeth dros y cnawdol a'r gwrth-ysbrydol yn yr Oes. DUWINYDDIAETH. Nis gall dim fod yn fwy cysegredig i'r Eglwys na'i Duwinyddiaeth, canys trwyddo ef y mae hi yn rhoddi ffurf weledig i'w syniadau am feddwl Crist, al phob agwedd o'i datguddiad. Mae ef, fel athraw, yn dysgu ae yn dwyn yr Oes at Grist. Os ydyw yr Eglwys i arwain yr Oes mewn dim yn fwy na'i gilydd, diau mai ei Duwinyddiaeth ydyw hwnw, canys iddi hi yr ymddiriedwyd am ymad- roddion Duw, a hi yw colofn a sylfaen y gwirion- edd am Dduw; a rhaid iddi dynu ei Duwinydd- iaeth nid o gredo Pab, na chynghor, na Chalfin, na Luther, ond o lygad y ffynon—y Gair a'r dyst- iolaeth-y gwirionedd fel y mae yn yr lesu, yn athrawiaeth bur a iachus, er porthi yr Oes a'r bara a ddaeth i waered o'r nef. Canys os bwyty neb o'r bar,! hwn, efe a fydd byw yn dragywydd." Dylai yr Eglwys chwilio celloedd dyfnaf dadgudd- iad Dwyfol am ei Duwinyddiaeth, fel Luther yn chwilio hen lyfrgell Augsburg, ac wedi ei gael, danio yr Oes ag ef. Nis gall fod ei Duwinydd- iaeth wedi ei ddihysbyddu, ac os nad yw, paham nad ellir dwyn allan ryw wirionedd newydd, neu arwedd newydd o hen wirionedd, a wefreiddia y byd a'r Eglwys ? Ond cyn y gall wneyd hyny, rhaid iddi ei wisgo hyd ag y gall yn ffurf ymad- roddion iachus Gair Duw. Nis gallaf fi yn fy myw weled nad yw mor gyfreithlon i'r Eglwys ddwyn ei Duwinyddiaeth i ffurf cyfundiaetb, fel y gwneir ag aidysgiaeth, ac athroniaetb, neu ryw "aeth" arall. Gallai hyny fod yn gynorthwy iddi ei wneyd yn fwy deallad wy i'r Oes, ac yn gynorthwy i'r Oes ei dderbyn. Addefaf fod hwn yn dir cynil, canys mae yn bosibl i'r Eglwys roddi gormod o'r wedd ddynol arno, canys syniad yr Eglwys am yr athrawiaeth, ac nid yn angenrheid- iol yr athrawiaeth ei hun, ydyw ei Duwinydd- iaeth. Mae cryn wahaniaeth rhwng ein Duwin- yddiaeth yn yr Oes hon a Duwinyddiaeth Dr Owen, tywysog y duwinyddion, a'i gydoeawyr ddau can' mlynedd yn ol ac mewn llawer o bethau, os nad yw wedi cyfnewid yn hollol, mae wedi ei osod mewn diwyg hollol newydd yn gymaint felly, fel mai o'r braidd yr adnabyddai ein tadau rai o'r athrawiaethau ag oedd yn ddigon pwysig haner can' mlynedd yn ol i gynhyrfu yr Oes a'r Eglwys yn eu cylch. Oad yr ydym yn honi, or hyny, nad oes un enwad ar y cyfan wedi dula dirgelweh y ffydd ac unoliaeth yr athraw- iaeth yn fwy cyflawn a dilwgr na ni. Mae Anni- byniaeth ein Heglwysi wedi bod yn fanteisiol i ni gttdw allan bob gallu estronol o'r athrawiaetb, fel y credir hi yn ein plith, yn gystal ag unrhyw allu I estronol arall. Mae ein Dnwinyddiueth yn gysegredig yn ein golwg. GWYDDONIAETH. Mae Gwyddoniaeth wedi dyfod yn allu cryf yn yr Oes yr ydym yn byw ynddi. Nid oes odid ddim yn gosod ei har^raff yn ddyfuach ar yr Oea. Hona ei ddarganfyddiadau gael sefyll yn gyfochr- og a Dadguddiad Dwyfol, a'u bod yn ogyfuwch, os nad yn uwch, mewn awdurdod nag ymadrodd- ion Duw a ymddiriedwyd i'r Eglwys er ei galluogi i wneyd ei gwaith ar yr Oes. Mae yncynhyrfu yr Oes, a'r byd yn myned ar ei hoi. Ac, yn wir, mae eisoes wedi tafiu yr Eglwys ei bun i lesmair o bryder. Mae hi fel un yn ofni am ei lie a'i chrefydd. Dylai yr Eglwys gydnabod yn an- rhydeddus wasanaeth Gwyddoniaeth. Mae wedi bod eisioes yn gynorthwy anhraethol iddi wneyd ei gwaith mae wedi dangos mater a meddwl yn fwy clir ac i well mantais nag y gwelwyd hwynt erioed o'r blaen; ac a chaethiwo mater yn fwy cyfiawn o dan reolaeth ac at wasanaeth meddwl. Ond methiant Gwyddoniaeth ydyw cyfleusdra yr Eglwys, a gwendid Gwyddoniaeth ydyw cryfder yr Eglwys. Canys mae hi yn gallu cwrdd yr Oes gan ddywedyd, Un Duw sydd, ac un Cyfryngwr rhwng Duw a dynion." Mae hi yn taflu cyfryng- oliaeth dros y gagendor, a chyda dolen ei Dad- guddiad yn cydio dau ben bodolaeth wrth eu gilydd. Felly, rhwng Dadguddiad a Gwyddon- iaeth, yr ydym yn cael y Creawdwr a chreadig- aeth--byd o fater a byd o feddwl ac ysbryd. Yn y pethau hyn mae yr Oes yn byw ac yn bod. Gwaith mawr yr Eglwys, pan y mae yr Oes yn nofio ar gefnfor bodolaeth, ydyw taflu eichyfryng- oliaeth drosto rhag iddi suddo rhwng dau for gyfarfod, y materol a'r ysbrydol, na myned yn adfail rhwng amheuon Gwyddoniaeth a dirgelwch ac anhawsderau Dadguddiad. DOGMA. Nid oes odid ddim yn fwy condemniol a gwrth- odedig yn yr Oes rydd ac ymchwilgar hon na Dogmatyddiaeth; ac eto, o'r braidd y ceir dim yn teyrnasu gyda mwy o rwysg. Ceir ef yn ami yn eistedd yn frenin ar gadeiriau Duwinyddol yr Oes, ac mor ami a hyny yn dal awenau Athron- iaeth a Gwyddoniaeth yn ei law. Ond mae dau wyneb i Ddogma fel i bob peth arall; mae y naill yn gyfreithlon a goddefol, a'r llall yn anghyf- reithlon ac mae dau ystyr i'r gair-un ydyw, gwirionedd mewn tyb, a'r llall ydyw gwneyd gwirioaedd o'r dyb. Mae gwyneb yr ystyr flaenaf at y dyn ei hun, a gwyneb yr ail at ereill. Ystyr y gair Dogma ydyw, "ymddengys i mi," neu, 11 fel hyn y gwelaf." Felly, cyhyd ag y byddo Dogma yn ymgadw yn y fan yna, nis gellir ei gondemnio, canys y mae bawl gan bob dyn i ben- derfynu pa beth sydd wirionedd yn ol fel yr ym- ddengys iddo ef, a chystal bawl a hyny i gymhell y peth sydd yn ol ei dyb ef yn wirionedd ar ereill. Y peth sydd yn gamweddus a gwrthodedig mewn Dogma ydyw, ei bod yn dirgymhell tyb o wirion- edd, yn lie gwirionedd ei hun. Dichon nad oes neb yn fwy dwfn yn y camwcdd hwn nag Eglwys Ehufain, canys oherwydd fod anffaeledigaeth yn gorfforedig yn y Pab, a'i fod ar gyfrif hyny, yn ganolfan uchaf ac unig ganol- fan awdurdod yr Eglwys, gwna ddirgymhell ei chredo ei bun o'r gwirionedd fel peth o ogyfuwch awdurdod a'r gwirionedd ei hun. Ac yn wir, nid rhaid i ni fyned mor bell a Rhufain i chwilio am y fath Ddogma; gellwch ei gael yn y ferch Eglwys yn Lloegr, yn gystal a'r fam Eglwys yn Ehufain. Gall fod rhai o'i ewinedd wedi eu tori, a rhai o'i ddanedd wedi eu tynu cyn ei rhoddi yn ngweithred unffurfiaeth Siarl yr Ail, ddau can' mlynedd yn ol; ond y mae ef ei hunan yna mor fyw ag erioed, ac, hyd y darllenais i ei hanes, mae ei ddanedd gosod yn y pedair credo ar bynitheg ar hugain wedi bod yn llawn mor beryglus a galluog i frathu ymaith hawliau dynion i ffurfio credo iddynt eu hunain a'i danedd gwreiddiol yn an- ffaeledigaeth Ehufain. 0 leiaf, mae uchel hon- iadau yr offeiriadaeth, pan yn gwadu Eglwysydd- iaeth yr Eglwysi rhydd o bob cyfundeb crefyddol, a hyny yn uuig am nad allant, oberwydd cyd- wybod, osod eu gyddfau o dan iau ortbrymus un- ffurfiaeth sefydledig y wlad, yn peri i mi ofyn i mi fy hun weithiau, Beth pa bai gan gi brathog ddanedd, a buwch foel gym ? Gwn fy mod yn defnyddio iaith gref, ond nid oes un iaith yn rhy gref i gondemnio traha yr ymgais o fyned rhwng dyn a Duw, ac a'i hawl i farnu drosto ei hun am wirionedd, pa un bynag ai gan anffaeledigaeth Rhufain neu unffurfiaeth Lloegr y gwneir hyny. Ac yn wir, mae yn bosibl y dylwn ddyfod yn nes adref eto. Gall cadeirydd undeb, cynadledd cymanfa, swyddogion Eglwys, neu Eglwys ei huuan, ddirgymhell eu tybiau eu hunain yn He gwirionedd ar eu haelodau ae ar y byd oddiallan, o dan berygl esgymundod, yn gystal ag un pab bach na mawr. Ac y mae Dogma yn yr Eglwysi rhydd yn fwy atgos, os nad yn fwy peryglus nag y i unman. Ac yn wir, mae perygl yr Oes hon oddiwrth Ddogma bron yn anhygoel, yn enwedig Do,,tii-,L y Wasg, canys ni faidd neb gyuyg na gwirionedd na thyb i sylw y r Oo3, gan nad pa mor rydd a chydwybodol y g hyny, heb fod