Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
PENIEL, ABERiERON, A'l GWEINIDOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENIEL, ABERiERON, A'l GWEINIDOG. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FoNEDDMiON,—Diaa fod enw y Parch William Evans, Peniel, Aberaeron, yn adnabyddus i fwyafrif Annibynwyr Cymreig Lloegr a Chymru. Y mae y parch a delir iddo gan yr Enwad y perthyna iddo yn fawr a chyffredinol. Y mae wedi cyrhaedd y safle an- rhydeddus hon mewn Nordd gyfreithiawn. Y mae rhai wedi gwthio eu henwau i sylw y cyhoedd, ac wedi d'od i ryw fesur yn boblogaidd, heb fod ganddynt deitl cyf- reithlawn i'r cyfryw gyhoeddnsrwydd. Ond am y Parch W Evans, y mae ei safle yn yr Enwad wedi ei gyrhaeddyd heb unrhyw ymgais o'i du ef. Gallu yw yr eiddo ef a fynai ymguddio mewn dinodedd, a chwenychai dreulio allan o fewn cylch ei gymydogaeth ei hun ond y mae y byd Annibynol o gwmpas er's dyddiau bellach wedi gweled ei ardderchogrwydd, ac wedi ei osod yn y sefyllfaoedd uchaf mewn anrhydedd a fedd yr Enwad yn Nghymru, a hyny oil heb unrhyw awyddfryd nac nchelgais o'i du ef, eithr yn gwbl ac yn hollol oblegid y gwerth sydd yn perthyn iddo fel dyn a phregethwr. Nid yw y defnyddiau ag sydd yn gyffredin yn gwneyd poblogrwydd yn amIwg ynddo ef, ac eto y mae yn boblogaidd nid hylithrwydd ymadrodd, nid pereidd-dra llais, na llywodraeth perffaith arno mewn un modd sydd wedi rhoddi arbenigrwydd arno. Y mae i fesur mawr yn amddifad o'r holl bethau sydd ar unwaith yn denu y lluaws, oblegid hyn yr ydym yn cyfrif fod y maen sydd yn sylfaen ei gymeriad cy- hoeddus o ddefnydd gwerthfawrocach na'r cyffredin, a'r adeiladwaith arno yn fwy trwyadl a pharhaol. Pe gosodasid arnom i symio i fyny mewn dau ymadrodd ddirgelwch dylanwad ei gymeriad a'i Iwyddiant, dy- wedasem mai tryloewder cymeriad, a'i gydnabyddiaeth ddamcaniaethol a phrofiadol o wirioneddau mwyaf ysbrydol yr Efengyl ydynt. Y mae y Beibl, yn ychwanegoi at nodi allan wir clfenau rhagoriaetb, yn cymeradwyo yn ogystal barhad yn y cyfryw. Y mae eisieu mwy o ager ar gyfer taith faith na thaith fer. Y mae llawer cymeriad wedi ymddangos am ysbaid byr fel comed yn neillduol o ddysglaer, yr hwn pe arosasai ar yr wybren am ganrif a gollasai gryn lawer o sylw ac edmygedd y byd. Y mae Mr Evans yn esiampl neillduo), yn wir, eithriadol iawn o barhad mewn dylanwad, ac o gynydd mewn defnyddioldeb; ac at byn y dymunem alw sylw eich darllenwyr, ac yn enwedig aelodau capel Peniel, Aberaeron. Y mae'r byd o gwmpas fel yn chwilio am gyflens- deran i wneyd tystebau, ac i bentyru clod ar rywrai, teilwng neu anheilwng; ac eto nid yw y ffaitli fod llawer heb arbenigrwydd neillduol yn perthyn iddynt yn cael eu cydnabod yn rheswm dros adael y gwir deilwng yn ddisylw. 0 bob lie dan haul, Aberaeron, mor bell ag y mae profiad ugain mlynedd yn myned, yw y tlotaf am gydnabod llafur a gwobrwyo ffyddlon- deb. Dichon nad oes yma, nemawr yn ilafurus nac yn ffyddlawn, ond gadawaf i'eh darllenwyr farnu ai nid yw hen weinidog sydd yn ymylu ar berffeithrwydd yn ngwydd dynion, ao wedi treulio adnoddau bywyd maith a chyfoethog mewn gallu a defnyddioldeb yn ngwasanaeth Icsu Grist, yn teilyngu arwydd o deiml- adau gwresocaf yr eglwys tuag ato ? Os ca Mr Evans fyw ddwy flynedd eto, ac y mae pob arwydd y bydd ddwy-ar-bymtheg, bydd wedi bod yn weinidog yn Peniel haner can' mlynedd. Dyma gyf- nod jubili pob dyn a sefydliad. Y mae meithder y cyfnod, ar wahan oddiwrth bob teilyngdod, bron a bod ynddo ei hun yn ddigon o reswm dros arwydd syl- weddol o deimladau da. Nid oes angen dadleu y cwestiwn—yr ydym wedi dyweyd gormol eisoes. Mae digon o Annibynwyr led-led y Dywysogaeth a fuasent yn ei theimlo yn fraint i gael cyfranu at unrhyw gyn- Ilun a'i amcan i anrhydeddu ein hathraw a'n tad ond credaf mai braint ei eglwys ef ei hun yw cael gwneyd hyn. Y mae yn wir nad oes angen dim daioni arno ef, ond byddai yn foddion gras i'r eglwys, yn esiampl deilwrig ar gyfer y dyfodol, ac efallai yn foddhaol i'w deimladau yntau sydd yn unig jawn ar derfyn ei oes. Hwyrach fod llawer eisoes yn meddwl am hyn. Gadawer fod; hwyrach, er hyny, y bydd pawb yn maddeu i mi am alw sylw yn brydlawn at y mater.- Ydwyf, yreiddoch yn ddiffuant, CADWGAN.
Y DIWEDDAR BARCH G. JONES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWEDDAR BARCH G. JONES, CEFNCBIBWB. At Olygivyr y lJyst aW Dydd. FONEDDIGION,-Dymnnaf gywiro gwall a cham- gymeriad ag sydd yn yr ysgrif a ymddangosodd yn y TYST A'R DYDD am Awst lOfed mewn perthynas i'r person a enwyd uchod. Dylasai nifer y blynyddoedd y bu yn Cefncribwr a'r cyleh fod yn 26, yn lie 20, fel ag y mae wedi ymddangos. Gwall y wasg oedd hyny. Gwnaeth yr ysgrifenydd gamgymeriad hetyd drwy ddyweyd mai dau o blant oedd ar ei ol. Cawsom wybod ar ol byny fod ganddo dri. Heblaw a enwyd, mae ganddo fab o'r enw Evan Abel Jones, yr hwn sydd mewn busnes yn Melbourne, Awstralia. Gan fod ystadegaeth yn y cwestiwn, mae yn bwysig fod yn gywir. W. G. EVANS.
- AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD. FONEDDIGION,—Darllenais gydarchryn ddyddordeb sylwadau Lladir.erydd ar Weinidogion fel gwranda- wyr." Yn ddiau hwynt-hwy fel rheol ydynt y gwran- dawyr sal-,tf o bawb, --i'r nes.,Lf atynt yw y crachfeirdd a'r man 1c nor ion sydd ar byd a lied ein heglwysi. Gobeithio y bydd yr ysgrif y cyfeiriwydati, a'r sylwad- au ar Ymyl y Ffordd, o les iddynt fel corff o bob], ac i minau fel un ohonynt, canys y mae yn gywilyddus gweled rhagfarn a champau drwg yn d'od i'r golwg yn nglyn a gwaith mor gysegredig a phregethu yr Efengyi sanctaidd. Y mae un peth ag yr wyf yn ystyried fod gweinidog- ion yn euog ohono ag y dylid ei godi i'r gwynt, hyny yw, cymeradwyo cymeriadau anheilwng i sylw eglwysi ar ol idclynt ddangos yn ddigon amlwfj nad ydynt yn deilwng o sivudd esgob. Un rheswm fy mod yn ysgrifenu yw, fod tair ncu bedair o engreifftiau o hyn wedi cymeryd lie yn ddi- weddar yn ein Henwad ni, ac yr oodd yn syn genyf weled brodyr parchns a dianaf yn rhoddi eu presenol- deb mewn cyfarfodydd seTydlu, pan y dylasent wybod mai cymeriadau pwdr oedd gan y dynion oedd yr eglwysi wedi alw i'w blaenori mewn pothau cysegr- edig. Y rheswm arall yw, ddarfod i eglwys o Forganwg ysgrifenu y llythyr canlynol ataf yn ddiweddar, yr hwn a lefara drosto ei hun Anwyl Syr,-Bu ■ ■ ■■■ ■■ yn supplio yn ————— dair gwaith, ac y mae y rhsn luosocaf o'r eglwys yn frwdfrydig am ei gael yn weinidog. Y mae yn hollol ddyeithr yma, ond cawsom rai awgrymiadau nad yw ei gymeriad yn dda, a gosodwyd arnaf fi i wneyd ym- chwiliad i'r mater. Ysgrifenais at amryw o weinidog- ion y cylch yna, ac y maent oil mor angharedig a pheidio rhoddi un wybodaeth i mi yn ei gylch. Nod- ant rywun arall i ysgrifenu ato, a dywedant nad ydynt yn gwybod dim am dano. Yr ydym ninau yn credu fod genym brofion diamheuol nad ydynt mor anwybod- us ag y mynant i ni gredu eu bod. Yn mysg ereill ys- grifenais at ei weinidog (lie y codwyd ef), ond ni chef- ais un ateb. Byddwn yn wir ddiolchgar i chwi os byddweh mor garedig a rhoddi i ni ryw wybodaeth am ei gymeradwyo neu ei anghymeradwyo, yn ol eich gwybod- aeth bersonol am dano, a rhoddi eich rheswm am y naill a'r UitJI. Mae y Sabboth nesaf wedi ei nodi gen- ym i benderfynu y peth, am hyny taer ddymunaf arn- och i roddi ateb yr wythnos hoc.—Yr eiddoch yn gywir, i Mi ysgrifennis yn ol ar tinwaith i ddyweyd yn onest fy marn am dano, heb na digter na dad), a phenderfyn- odd yr eglwys na fynent ddim ohono. Credwyf y dylid bod yn llawer mwy gonest o berthynas i bethau fel hyn, oblegid mater o dragywyddol ganlyniadau yw i flaidd rheibus gael gofal diadell o ddefaid dros y rhai y bu Crist farw.—Ydwyf, &c., BUGAIL.
Cyfarfodydcl, &c.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfodydcl, &c. GLANTWECH.—Nos Sabboth, Awst 12fed, tra- ddododd y Parch W. T. Davies, gweinidog Bethel, ei bregeth ymadawol. Yr oedd y capel yn llawn o'r gwahanol enwadan, ac yr oedd yn amtwgfod rhywbeth anarferol yn bod, oblegid mynych y gwelid y dagrau yu treiglo dros ruddiau y bobl; ond pan ddaeth y pregethwr at haner ei bregeth, torodd i lawr yn hollol, a threuliwyd y gweddill o'r cyfarfod i wylo a cheisio canu, "Dan dy fcndith wrth ymadael," &c. Bu Mr Davies yma yn ymdrechgar, llwyddianus, a pharchus neillduo) am dros saitli mlynedd, a gallem feddwl with agwedd y gynulleidfa wrth ymadacl y buasai yn dda gan bawb iddo aros yma hyd angen. Ond rhaid ymadael, ac o hyn allan nid Davies, Glantwrch, ond Davies, Ebenezer, Llanelli, fydd y cyfeiriad adnabyddir ef. Wei, wrth ymadael, dymunwn bob llwydd iddo yn ei le newydd.—Givrandaivr. BETHEL, BUY NCROES.—Nos Fawrtb, Awst llwydd iddo yn ei Ie newydd.—Givrandaivr. BETHEL, BUY NCROES.—Nos Fawrtb, Awst 7fcd, traddodwyd pregeth angladdol yn yr addoldy uchod i'r diweddar Barch W. R. Williams, Llanelltyd, gan v Parch Edward James, Nefyn, oddiwrth Heb. ix. 27, 28. Yr oedd sylwadau Mr James yn dra phwrpaso! ac effeithiol. Bydd yn dda gan gyfeiilion liuosog y diweddar weinidog ienanc yn Meirion glywed hyn, a theimlant, y mae yn sicr genym, yn ddiolchgar i Mr Jaiies, TV. D. E. LLANLLLI, BRYCHEINIOG.-Dydd Sul, Awst 12fed, cynaliodd eglwys Siloam ei chyfarfod blynyddol mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol, pryd v awein- yddwyd gan y Parchn Rees, Sirhowi, a Williams, Brynmawr. Dechreuwyd am ddftu o'r gloch fan Mr Samson, Brynraawr, ac am chwecb gan Mr S. Morgans, Stockton-on-Tees, hen aelod o'r lie hwn. Yr oedd yr hen Efengyl am y Groes yn ei bias, a'r traddodiad ohoni yn bur fel y mae yn yr Iesu, a thcinlacl y frawdoliaeth wedi eodi mor uchel IJOS y teimlem, fel Pedr gynt, mai da oedd i ni fod yno, am fod yr Arglwydd gyda'i weision.—Boreu y Llun canlynol, gallesid yn hawdd gwybod fod rhywbeth neillduol i gymeryd lie, gan y gwelid yr hen a'r ieuunc yn tynu i lawr at lan y gamlas yn Gilwcrn, lie yr arosai y bad yn barod i'w cludo ar ei wyneb i Langatwg. Cychwyn- asom dan ganu o Gilwern am 11 o'r boreu, a chyrhaeddasom Llangatwg yn ddyogel. Ylla posod- wy(1 y byrddau mewn trefn gan y morched a'r gwragedd siriol a benodwyd i woini arnom am y dydd. Yr oedd yn dda genym v^eled ein parchus v/einidog mor ymdrechgar a diwyd i osod y plant yn gysurus. Ar ol le, aethom i gwr arall o'r cae i f'wytih ui ein hunain mewn chwareuon difyrus hyd tua G o'r gloeli, pryd y dychwe'isom yn hyfryd—yr hen a'r ienanc yn cydano i gauu, a phawb yn ymddangos yn we idaidd ac addas, RC yn deilwng o'r Ysgol Sabbothol. Llwyddiant iddi, yw ein dymuniad.—lago Fychan. T RE HARRIS.—Dydd Sul, Awst 12fed, bu y Parch D. Onllwyn Brae?, Y stalyfera., yn pregethu yma. Traddcdai y genadwri am angeu y Groes gyda nerth a dylanwad, no hyderwn y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear yn nghalonaa llawer o wrandawyr oedd yn bresenol- Nos Lun drachefn, cawsom y pleser o'i wrando yn traddoni un o'i areithian peniiiamp ar ddirwest mewn cysylltiad a, Byddin y Riban Glas. Er fod y fydd in we-li marw, neu y milwyr wedi cefnu a diosg y wisg las er's llawer dydd, mae'n dda genym ddyweyd fod ein sel a':) brwdfrydedd wedi eu tanio o'r newydd wedi clywed Mr Brace yn dyweyd am drueni ein gwlad trwy y fasnach felldigedig o werthu diodydd meddwol, yn nghyda'n dyledswyddau ninau fel proffeswyr enw mor sanctaidd a phur ag enw ein Harglwydd Iesu Grist. Nid oes genym end dymuno o'n calon ar i Mr Brace barhau i arcithio yn erbyn y drwg sydd yn anrheithio e:n gwlad a'n Hoglwys. Wedi gorphen yr araeth, daeth arnryw yn mlaen i ardystio a gwisgo y Riban Glas.—Un oedd yno. CLYDACH.—Nos Sadwrn, Awst lleg, yn nghapel y Methodistiaid, traddodwyd darlith rajorol ar "Yr Electric Light a'r Phonograph," gan y Parch J. Davies, Abercwmboy. Mae y darlithiwr yn egluro ei bwiic yn rhagorol, ac yn dwyn y aiafcer ger bron, nes y mae pawb yn ei ddeall. Yr oedd y g-olcnni yn eglur a thanbaid, a'r phonograph wrth ei fodd yn adrodd emynau ac adnodau, a chanu !)on a lleddf, nes taro pawb a syndod i feddwl fod pciriant yn medru dyweyd geiriau yn eglnr a dealladwy. Deallwyf fod Mr Davies yn dechreu ar waith y ganaf. Mae'r dydd wedi byrhau bellach, fel mae'r goleuni yn cael chwareu teg. Dyma ddarlith ddy la i pobl ddarllengar ein gwlad fynu ei clilywed. Mae yn cynwys gwybodaeth ragorol ar bwnc sydd yn ymgodi i fyny mor 2yflym a dim sydd yn ein gwlad. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni.- Qwrandaiur. CALF ARIA, RAVEN HILL.—Nos Sadwrn, Awst He?, bu y Parch T. P. Evans, Pontardulais, yn darlithio yn y capel uchod ar Bod yn Briod." Llyw- yddwyd gan Mr W. Rees. Cawsom ddarlith addysg- iadol a digrifol dros ben. Yr oedd yr elw at gynorthwyo bachgen ieuanc gyfarfyddodd damwain yn ngweithiau y Fforest Fach. Hyderwn y gwnaed swm so low iddo, ac y by !d y ddarlith o lea mawr, yn enwedig i icuenctyd.-Amicus. CAPEL COFF A D W RIAETHOL Y GO HE BYDD, LLUNDAIN.-Awst 15fed, mwynhawyd t6-parti, darpftredig gan y chwiorydd Mrs Evans, Stoke Nowington, a Miss Gittins, Kenninghall-road. Wedi hyny cafwyd cyfarfod adioniadol ac adeiladol dan lywyddiaeth medrus Mr Jones, Comtnercial-road. Traddodwyd anerchiad barddonol gan Mr E. M. Edwards, ac anerchiadau gan Mri Griffiths; Edwards, Deptford George S. Evans, &c. Cafvvyd cystadleu- aeth ddifyrus mewn darlleniad difyfyr, a gwlodd gerddorol gan Mri Humphrcys a Roberts, ac adroddiad neillduol o dda gan y chwacr dalentog Miss Powell. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Jones, Stoke Newington, yn ei wae'odd, a therfynwyd y cyfarfod yn brydlawn, gyda dymuniad ar i'r cyfeillion yn Ngwlad y Brynian beidio ein goliwng dros gof. Iaith ein calon ar ein hymadawiad oedd, Melus, rnoes mwy.E. M. Edwards.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaeihau, Priodasau, &c. DAf/TER RYriW.-—Hin telcrau am ffyhoeddi I'.ai'dcloniaclh yn prysyJltiedifj a !Janc., Gcncdigaofclj, X'riodas, nca FarwoJacth yw tair ceiuioff y llincll. PRIODAS. DAVIES-EVANS.—Awst 15fed, yn Penarth, Ma'ldwyn, gan y Parch 0. Lewis Roberts, y frweinidog, Mr T. Watkin Davies, Gelligason, ■ Miss Sarah Jane Evans, Rhiwhiraeth. Eiddanwn i'r ddau lawer o ddedwyddwch a chysur. MARWOLAETHAU. LEWIS.— Awst 12fed, yn 68 oed, yr hen chwaer dirion Jane Lewis, yn nhy ei hunig ferch, Maenllwyd, Ehydri, ger. Caerphrli. CafoJd gystudd blio, a dyoddef'odd yn dawel ac aniyne'idgar, gan roddi gofal ei benaid i'r Gwr a brott< sodd am 2G mlynedd. Berbyniwyd hi yn aelod yn Adulam, Machen, gan y Parch W. Eussell, o ba le y symudodd ei haelodaeth i Ebenezer, Ehydri. Yr oedd gonestrwydd a chared- igrwydd yn llincllau amlwg yn ei chymoriad, a theimlir yn hiraethna yn herwydd ei cholli. Y dydd lau canlyr ol, wedi darllen a gweidïo gan y Parch D. T. Evans, gweinidog parchus Ebenezer, wrth y ty, hcbryngwyd ei chorff i Eglwys y plwyf, Ho y gwasanaethwyd gan y Piu-oh W. Williams, ficer Bcdwas. Wodi hyny, gosodwyd oi rhan farwol yn ngwydd torf luosog o gyfeiilion i orwedd yn mhriddell oer y beld, lie y gorphwysant yn dawel hyd y boreu Bydd doran beddau y byd Ar un gair yn agoryd. —Logos. WiLMAMS.—Awst 15fed, Mr Henry yu 63 oed. Yr oedd yr ymadawedig yn ddiaeon yn eglwys (Jwmbwrla er ei sefydliad yo 1861. Claddwyd ef yn Sketty ar y ISfet. Gweinyddwyd ar yr achlysnr gan y Parchn T. D. Joucf, Plasmarl, a D. Jones, Cwmbwrla.