Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y M Y L O ]ST Y FFORDB.

CvVMAPON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CvVMAPON. Cynaliwyd cyfarfodydd neillduo y Parch W. II. Recs (Llechryd gynt), i'r rraes cenadol, yn v He uchod, dydd Mercher, Awst 15fed. Yn y pryd- nawn dechreuwyd yn hynod o efieithiol gan y Parch W. Thomas, Rock, Cwmafon. Ehoddwyd desgrifiad dyddorol o faes ilafur dyfodol Mr Eees gan y Parch Mr Gilmore, M.A., cenadwr sydd wedi dychwelyd am dro o China, ar hwn sydd yn bwriadu myned yn ol yr un pryd a Mr Rees a'i deulu. Holwyd y g'ofyniadau arferol gan y Parch W. Rees, Ffynon Taf, ewythr y cenadwr newydd, ac atebwyd hwy yn feistrolgar a dylanwaad iawn nes yr oedd y lie yn foddfa o ddagrau. Offrym- wyd yr urdd-weddi gan y Parch O. Thomas, Brynmair, a rhoddwyd siars i Mr Rees gan Proff Lewis, Bala. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr James Davies, cyn-faer Aberafon. Dechreuwyd gan Miss Griffiths, Dow- Inis a siaradwyd gan Mr D. Walters, Coleg Aberhonddu Parchn D. G. Evans, Wern, Aber- afon Davies, Widnes Levi Rees, Llanharan Henner Thomas, Salem, Aberteifi Rees, Ffynon Taf; W. B. Morgan, Maesteg; Proff Lewis, Bala, a 0. Thomas, Brynmair. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Parch E. Roberts, Seion, anrheg o Feibl Cymraeg hardd, a Ilyfrau ereill, yn nghyda phwrs o arian i Mr Rees, fel arwydd o'r parch ato ef, a pharch yr oglwys sydd o dan ei ofal tuag ato. Gwnaeth hyn fel ef ei hunan, ac nid anghofir ei sylwadau tlws ar yr hen Feibl Cym- raeg yn fuan gan y rhai oedd yn bresenol. Cyd- nabyddodd Mr Rees y rhodd mewn dull toddedig iawn. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn profi yn eglur fod gan bobl dda Cwmafon barch rnawr i Mr Rees. Yr oedd yno gynulleidfaoedd lluosog iawn, llawer yn colli eu gwaith er mwyn bod yn bresen- ol. Dygwyd tystiolaeth uchel iawn i Mrs Kees hefyd gan y rhai oedd yn ei hadwaen, a rhaid ei fod yn hyfryd i deimlad ei thad (Mr B. Harrison, Coedpoeth), yr bwn oedd yn bresenol, glywed ei ferch yn derbyn y fath ganmoliaeth. Bendith y nef fyddo ar y ddau, ac ar ei merch fechan. PHILOS.

Advertising