UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIGr. CYFARFODYDD BLYNYDDOL YN FFESTINIOG, AWST 21AIN, 22AIN, A'R 23AIN, 1883. (Parhatl 0'1' Rhifyn diwcddof.) CYFEILLACH YN SALEM, RHIW. AR ol darlleuiad y Papyr ar "Y pwys 0 fyn- yclui moddion crefyddol boreu r Sabboth, ar- weiniodd y Parch J. Silin Jones, Llanidloes, yr ymddyddan arno, gan AdjJ)Tey&—(lym wedi gwraado gyda llawer o fudd a mwynhad ar bapyr rhagovol Mr Owen. Ymddengys ei bod yn ffaith ddiamheuol fod llawer o broffeswyr crefydd yn esgeuluso moddion crefyddol boreu y Sabboth, ac yn ddiau hyn barodd i'r Pwyllgor benodi Mr Owen i gyfansoddi a darllen papyr ar y pwnc. Tebyg befyd y gall llawer ohonom ddwyn tystiolaeth i gywirdeb y ffaith alarus hon. Mae yn ofid genym fod gwrandawyr yr Efengyl yn esgeuluso moddion crefyddol boreu y Sabbath; ond mawr yw ein gofid a'n cywilydd wrth gyfaddef fod hyn yn wir- ionedd am rai sydd yn proffesu pethau gwell-yn proffesu oariad at Grist a gwasanaeth iddo. Mae esgeuluswyr moddion crefyddol boreu y Sabboth yn halogi Dydd yr Arglwydd. Gorchyrayn Gair Duw ydyw, "Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth." Ond y mae y dosbarth hwn yn cofio lawer yn well pa fodd i dreulio y rban oreu o'r dydd sanctaidd i orweddian a chysgu, neu i rod- iana ar hyd y ffyrdd a'r meusydd. Maent yn achwyn yn fynych iawn, os nad yn ddieithriad, fod rhyw afieehyd yn eu cymeryd nos Sadwrn, ac llad ydynt nemawr gwell hyd hwyr y S.ibboth, pryd y tuimlant fod yr afieehyd yn dechreu en gadael. Rhyw epidemic rhyfodd iawn ydyw. Nid oes gan feddygon y wlad hon ddim cyfrif am dano yn llyfrau eu physigwiiaeth. Ond pafoddbynag, orbyn boreu y Llim, syn yw dyweyd, maent yn holliach, ac yn gallu codi am bod war, neu chwccb, neu saith o'r gloch y boreu i fyned at en gwahanol orchwylion-" tin i'w faes ac arall i'w fasnach tra yr oedd yn anmhosibl y dydd blaenorol fod yn yr addoliad am ddeg nen haner awr wedi dog o'r gloch—yr oeddynt yn rhy glaf. Os bydd ffair mown tref neu bentref, nid yw y clefyd hwn byth yn en cymeryd y pryd hwnw gwelir hwy yno yn berffaith rydd oddiwrth y clefyd rhyfedu yn foreu iawn ac yn hwyr. Dosbarth o grefyddwyr sydd yn rhedeg ar ol y byd ydynt, and yn cerdded yn gloff ryfeddol wrth geisio rhyw lun ddilyn yr Jesu-mor gloff nes y byddo hwyr y Sabboth wedi d'od cyn y gallont hwy gyrhnedd yr addoldy ac felly y mae nid moddion crefyddol boreu y Sab- both yn unig yn cael eu hesgeuluso, ond moddion crefyddol prydnawn y Sabboth hefyd. Truenus yw meddwl fod cyfanrif ein Hysgolion Sabbothol drwy y wlad yn llai na chyfanrif ein haelodau eglwysig, tra y mae llawer o'r rbai sydd yn myn- yehu ein Hysgolion Sabbothol, wrth gwrs, yn wrandawyr yn unig. Ac nis gallwn lai.na meddwl nad wrth ddrws y dosbarth swrth a chysglydhwn, sydd yn methu dyfod i'r moddion foreu y Sabboth, y mae y peth yn gorphwys. Y mae y bobl hyn yn blwm wrth lodrau gwisg Seion Duw, ac yn rhwystr iddi yn ei boll ymdreebion i byrwyddo teyrnas eu Harglwydd yn mlaen a dyrchafn ei ogoniant ef. Gyfeillioc, a gaiff y byd ei wasan- aethu gan grefyddwyr gyda mwy o ymlyniad ac aberth na'r Arglwydd Iesu ? A gwyd y dyn am bedwar neu chwech o'r gloch y boreu ddydd Llun i ddilyn ei alwedigaetb, ac a fydd yn ormod gan- ddo godi yn ddigon boreu i ddyfod i'r moddion crefyddol boreu y Sabbcth ? 0 gwrided, eywil- yddied y cyfryw byth Codai ein Gwaredwr ben- digedig yn foreu, a hi yn blygeiniol iawn, ac nid gormod ganddo ydoedd trenlio y nos drwyddi ar lothrau yr Olewydd neu ryw fanau ereill i weddio ar ei Dad, ac a ydyw yn ormod o drafferth ac aberth i um-liyw un sydd yn proffesu cariad ato a gwasanaeth iddo, godi yn ddigon boreu unwaith bob wythnos i ddyfod yn brydlon i'r moddion crefyddol yn moreu y dydd sanctaidd ? Na ato Duw Drwy gydsyniad cyffredinol, boreu y dydd yw yr adeg oreu o lawer i addoli yr Arglwydd. Mae y meddwl yn fwy bywiog a rhydd oddiwrth bob rhwystr. Ac os na cheir moddion y boreu, ni bydd fawr o flas, ond odid, ar y moddion cref- yddol weddill y dydd. Nid priodol yn wir yw i'r rbai sydd yn proffesu cariad at Grist fod yn mhlith ei elynion yn lialogi ei ddydd sanctaidd. Yr oedd ) y brenin Dafydd yn penderfynu deffro yn foreu i folianu Dnw-" Deffro y nabl a'r delyn minau a ddellroaf yn foreu." Yr oedd y balmydd am ddeffro y wawr o wyll y nos i gael goleuni i addoli ei Dduw. Yr oedd am godi yr haul o'i ys- tafell euraidd yn y dwyrain, gan angerdd ei deimlad i wasanaethu yr Arglwydd. Mae Milton y bardd wedi benthyca y syniad ganddo-" I will awaken the morning Minan a ddeffroaf y boreu." Gadewch i ninau geisio deffro y boreu, a cbysegru gwlith y wawr i wasanaeth ein Duw. Y mae esgeuluswyr moddion crefyddol boreu y Sabboth yn amddifadu eu hunain o lawer o fen. dithioa ysbrydol. Pa fanteision bynag syad o fynychu moddion crefyddol, y maey dosbarth hwn yn amddifadu eu hunain o'r oil ohonynt foreu y Sabboth. Y mae yn dra sier fod drain a mieri ac ysgall a'r dyn dioglyd, swrth, yn myned gyda'u gilydd, ac fe welir fo^angen^tlodi, a^harpiau yn brydol hefyd yn colli llawer o fendithion cref- yddol. Nis gellir dysgwyl i'r cyfryw gynyddu yn ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Maent yn colli llawer gwledd felus, ac arlwy fras yn mhresenoldeb y Brenin Iesu. Yn maes y dyn deffro a diwyd y mae cyfoeth yn gor- wedd—"Enaidy diwyd a wneir yn fras." Mae esgeuluswyr moddion crefyddol boreu y Sabboth yn amddifadu eu hunain o lawer o gyfleusderau euraidd i wneuthur daioni. Mae hen gladdfeydd ein gwlad yma ac acw yn llanw i fyny, ac y mae eisieu cemeteries newydd yn barhaus. Gwelir angladd rbywun neu gilydd yn myned ar hyd yr heol neu y ffordd beunydd. Cludir dynion gan angeu y tuhwnt-iln gallu ni i wneuthur dim da- ioni iddynt byth. Os yw crefyddwyr yn cysgu y mae angeu yn effro, ac y mae arnaf ofn y bydd gwaed llawer ohonynt yn gorwedd wrth ddrws esgeuluswyr moddion crefyddol boreu y Sabboth. Y mae o bwys dirfawr mynychu moddion crefydd- ol boreu y Sabboth, oblegid y mae y rhai sydd yn eu hesgeuluso yn gosod eu bywyd ysbrydol yn agored i berygl mawr. Maent yn cysgu yn ngwlad y gelyn, ac nis gall lai nabod ynberyglus. Bydded i ruadau y "llevv rhuadwy," yr hwn nad yw byth yn cysgu nac yn hepian, eu deffroi o gwsg mor ddinystriol. Ni buasai Saul yn huno mor dawel yn Hachilah pe gwybuasai fod Abisai yn ysgwyd ei waywffon uwch ei ben, yn luirod i w binio "wrth y ddaear. Nid mor felus y buasai Samson yn cysgu ar lin Dalilah pe gwybuasai ei bod hi ar fedr ei fradychu i'w elynion, ac y buasai y Philistiaid yn tynu ei lygaid, yn ei wneyd yn gaethwas truenus, ac yn wrthddrych eu gwawd a'u dirmyg hyd ei farw. Mae esgeuluswyr modd- ion crefyddol yn cysgu yn ngwlad y gelyn, ac felly y maent yn peryglu yn fawr eu bywyd ys- brydol. Ac mi debygwn fod geiriau yr r"iJU yn dyfod atynt gyda grym neillduol—" Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yr ydwyf yn ei ddywedyd wrth bawb, Gwyliwch." O na cheid rhywun o dan ddylanwad Ysbryd Duw i ddeffroi y bobl hyn—rhywun tebyg i John Elias neu Williams o'r Wern,- 1 roddi gwefreiddiad—i feddau Crefyddwyr dideimlad, Ac a mawr lwydd, Cymru wlad Ddolenwi tt'i ddylanwad. Dilynwyd cf gan Mr II. Thomas, Llanelli. Dywododd,- Y mae Duw yn teilynguyr oil o'r dydd Sabboth i'w wasanaeth." Y Sabboth a wnuethpwyd er niwyn dyn," ac y mae yn gaffaeliad anmhrisiadwy i'r tenln dynol. Y mae Awdwr natur wedi dar- paru y Sabboth yn hamdden briodol ac angen- rheidiol or adgyfnerthu y corff. Beth fyddai golwg ein gwlad heb yr un Sabboth P M6r heb yr un glan iddo, neu nos heb un gobaith am wawr- ddydd; yr holl weithfeydd yn eu llawn waith- pob poth ar ei eithaf, a'r natur ddynol yn cael ei difa heb yr un atalfa. Ond Duw a drefnodd y Sabboth er mwyn i'r covil a'r meddwl gael gor- phwysdra oddiwrth eu llafur avferol. Y mae cylymu y meddwl wrth yr un peth yn wastadol yn ei anmharu a'i wanhau. Byddai y meddwl hyuy a gaffai ei gadw yn hollol gyda phethau y bywyd hwn mewn sefyllfa druenus iawn. Mae y bajobotfa. wedi ei roddi er i'r ysbryd gael ymbortbi ar fara y bywyd ac y mae yn sicr o fod yn gam a r enaid i beidio defnyddio yr boll ddydd er ei lesoli yn ysbrydol. Mae y meddwl yu fwy bywiog a gaf- aelo-ar yn y boreu nag unrhyw ran o'r dydd, ac felly y mae yn rhwyddach i addoli. 0, mor hyf- ryd yw codi ar foreu Sabboth i ddarllen Gair Duw a'i fyfyrio, nes llanw y meddwl a pbethau da, a dwyn y meddwl a.'r ysbryd i deimlad crefyddol ac addoliadol. With wneyd hyny mae yn rhwydd- ach o lawer i fyned i'r moddion cyhoeddus na pboidio, a myned befyd mewn awydd i gyfarfod ag Arglwydd y Sabboth. Mae ésgeuluso y modd- ion boreu y Sabboth yn golled fawr i'r dyn ei.hun, am nad yw yn gwneyd y goreu o'r rhodd nefolaidd yma o fvvynhau'y dydd sydd yn cnedigacthframt iddo ef a'i deulu. Bydd y teulu ar wasgar drwy yr wythnos gyda eu gwahanol orchwylion, heb weled eu gilydd, efallai, o gwbl, yn enwedig yn y boreu, 1 1-1 felly nid ydynt yn cael cymdeithasu au gilydd; ond y mae y Sabboth yn rhoddi cyfleusdia iddynt i gydgwrdd o gylch yr ailor deuluaidd yn ddifwlch ac os gwneir hyny, byddir yn sicr o fyned i'r moddion cyboeddus. Pe bai gweitbwyr Cymru ddim ond yn ystyried y fath fendith ydyw y Sab- both iddynt hwy a'u teuluoedd, ac i gymdeithas, byddent bob boreu Sabboth yn y moddion cy- boeddus yn diolch i'n Tad nefol am dano. Mae yn Ysgrythyrol i fynychu moddion crefyddol boreu y Sabboth. Codai ein rhieni cyntaf yn foreu ya ngardd Paradwys cyn myned ar gyfeiliorn oddi- wrth Dduw. Yr ydym yn cael i'r Arglwydd fyned i cliwilio am danynt gydag awel y dydd, ac nid eu gadael hyd y i^rydnawn cyn myned ar eu hoi i'w cysuro a'r addewid o Had y wraig. Felly mae Duw yn dysgwyl i ninau gysegru boreu yr oes a boreu y Sabboth i'w wasanaethu yntau yn ei gysegr. Yr oedd Abraham a'r patriarehiaid Moses, Josua, a'r proffwydi, Crist a'i apostolion, yn bur ofalus am godiad boreuol ar y Sabboth. Aberthent y boreuol yn gystal a'r prydnawnol aberth. Yr oedd Pedr yn pregethu am naw o'r gloch y boreu, a bu tywalltiad helaeth o'r Ysbryd Glân yn y cyfarfod hwnw. Ac wedi i Pedr ac loan gael eu gwaredu o'r carchar cyffrediu gan yr angel, hwy aethant yn foreu i'r deml. Ni fwriadodd Duw y Sabboth i gael ei esgeuluso mewn gorweddian ac ymblethu dwylaw i gysgu. Nid oes un dyn wedi cyrhaedd eymeriad uchel fel crei'yddwr os yn esgeuluso presenoli ei hun yn y moddion boreu Sabboth. Mae hefyd yn bwysig i fynychu moddion gras boreu y Sabboth, am fod segurdod a difaterwch yn y boreu yn achosi mus- grellni a diogi y rhan sydd yn ol o'r dydd. Ychydig o ddaioni sydd yn cael ei wneyd gan ddynion sydd yn gorwedd yn y boreu; maent yn teimlo heb ysbryd at waith Duw, nac ytnroad at unrhyw orchwyl, ond yn ddifater a marwaidd, os na fyddant yn cointach a grwgnach ar sefyllfa crefydd, heb ystyried mai ynddynt hwy a thrwy- ddynt hwy mai yr achos ei fod felly i raddau pell. Mae yn bwysig hefyd am ei bod yn ddyled- us ar ddyn i fod yr un mor egniol ac ytndrechgar gyda pbethau crefyddol ag ydyw gyda ei waith tymhorol. Nid felly y mae gyda miloedd yn bresenol mae yn rhaid iddi fod yn gyfieus iddynt fyned i'r cwrdd, neu fod gwr mawr dyeithr yno yn pregethu, nen nad allant dreulio y boreu mewn rbyw ffordd arall drwy fyned i weled golyg- feydd, ac inspectio gwabanol weithfeydd a pheir- ianau; mae yn rbaid i bob peth fod yn fantoiaiol iddynt cyn yr tint i'r moddion cyhoeddus. Clyw- ais fasnachwr sydd yn ymdrechgar iawn gyda ei fasnach yn dyweyd yn ddiweddar nad allai yr un contractor fyned i'r cwrdd yn yr wythnos bob beryglu ei hun i fyned yn fethdalwr; ond dywedai gyda°bost ei fod ef yn rhoi yr oil o ddydd Sul i Dduw, fel pe bai byny yn fantais fawr i Dduw ac yn aberth iddo yntau. Sylwch mor fywiog mae boll symudiadau pawb ar ddiwrnod gwaith-y fath ymdrech i godi mewn pryd—mor frysiog y rhodiant i fod erbyn yr amser. 0, mae yna enill neu golled arianol yn dibynu ar hyny, gan byny y maent o ddifrif. Ond mae yn wahanol iawn boreu Sabboth, pan y mae y Meistr mawr yn gorcbymyn i ni ei addoli ef, yr hyn yw ein rhesymol wasanaeth. Ond beth yw y rheswm fod y fath esg-eulusdra gyda moddion crefyddol boreu y Sabboth, yn enwedig mewn ardaloedd a threfydd poblog a gweithfaol? Oblegid fod llawer o ysgafnder a difaterwch wedi meddianu pobl grefyddol fel dynion ereill mewn cysylltiad a'r Sabboth, gan benderfynu mwynbau eu hunain rywffordd prydnawn a nos Sadwrn byd yn hwyr iawn. Arosa rhai ar hyd yr heolydd i siarad, ereill mewn tafarnau neu glybiau, ereill i ffwrdd gyda gwibdeithiau neu ryw fwyniant arall a fydd yn taro eu chwaeth, ond yr hyn fydd yn ami yn taro yn erbyn teimlad a thuedd crefydd. Yr ydym yn methu deall pa fwyniant sydd mewn sefyll ar hyd yr heolydd nes eu llanw fel ffair bob nos Sadwrn, Byddai diwyllio y meddwl trwy ddar- lien llyfrau da a llenyddiaeth grefyddol yn fwy o les iddynt o lawer mewn meddwl a chorff. Mae sefyll am oriau ar hyd yr heolydd ar nos Sadwrn, fel y gwneir gan ddynion crefyddol, yn eu han- addasu i fyned i'r cwrdd boreu Sabboth. Peth arall sydd yn sicr o fod yn atalfa i fynychu moddion gras boreu Sabboth yw yr arferiad o siopa ar nos Sadwrn. Ceir gweled y wraig yn myned i'r siop ar nos Sadwrn, ac yn fynych iawn yn llusgo ei phlant bychain gyda hi, fel pe bai yr unig adeg sydd i'w gael i wneyd hyny; ac fe fydd yn hwyr, efallai yn haner nos, arnynt yn dychwelyd. Pa amser y gallant fyned i orphwys