Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLEG DEHEUDIR CYMETJ.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG DEHEUDIR CYMETJ. PENODIAD ATHRAWON. Cyfarfu y Cynghor yn Neuadd y Drcf, Cacrdydd, dydd lau diweddaf, i'r dyben o benodi athrawon i'r coleg. Cymerwyd y gadair gan Arglwydd Aberdar, ac yr oedd yn bresenol Deon Llandaf, Archddeon Griffiths, Barnwr B. T. Williams, Mr L. Tyler, Parch D. Edwards (Casnewydd), Mr J. T. D. Llewelyn, Parch A. Tilly, Mr L. Williams, Mr G. C. Thompson, Parch J. Walters, Mr L. Davies, Mr Sonley Johnstone, Mr L. Carr, Dr Roberts, Ponty- pridd; Parch N. Thomas, Caerdydd; Mr W. Graham, Casnewydd; Mr W. L. Daniel, Merthyr Mr W. Conway, Pontypool; Parch D. Evans, Eglwysnewydd; Dr Edwards Prif Athraw Jayne, Llanbedr; Parch D. Young; Parch J. C. Jones; a Phrif Athraw y Coleg, Mr Viriamu Jones. Mae'n hysbys i'n darllenwyr fod y Cynghor wedi hysbysu yn y newyddiaduron er's amryw wythnosau am bersonau cymhwys i lanw y gwahanol gadeiriau. Derbyniwyd nifer luosog o geisiadau am y gwahanol gadeiriau, a phenod- wyd pwyllgor neillduol i'w hystyried, yn nghyda'u tystiolaethau, a dethol nifer o'r goreuou yR mhob dosbarth i ymddangos o flaon y Cynghor. Etholwyd y boneddigion canlynol dydd Iau diweddaf. THE GREEK CIIAIE. Yr oedd 19 wedi cynyg am lion, a dowiswyd 5 i ymddangos o flaen y Cynghor. Mr T. F. Boberts, Ysgolor o St. John's College, Oxford, ocdd y boneddwr ddewiswyd. Er nad yw ond 23 oed, yr oedd iddo dvstiolaethau o'r dosbarth bhienaf oddiwrth foneddigion o ddysg ac ymddiried o'i gymhwysderau i lenwi y gadair. Deallwn mai un genedigol o Towyn, sir Fcirionydd, ydyw, ac y medra siarad Cymraeg a Saesoneg gyda hwylusdod. Cyflog, E-300. LATIN PROFESSORSHIP. Yr oedd 28 o ymgeiswyr, a dewiswyd 5 i ymddangos o flaen y Cynghor. Mr J. Wardale, H.A., Cynirawd o Clare College, Cambridge, a ddewiswyd. Ei oed yw 25. Cyflog, £ 300. LOGIC AND PHILOSOPHY. Yr oedd 15 o ymgeiswyr, a dewiswyd un i ymddangos, sef Mr Andrew Seth, cynorthwywr i'r Proffeswr mewn Logic, Metaphysics, a Philosopy, yn Edinburgh, yr hwn a etholwyd yn unfrydol. Ei oed yw 26. Cyflog, £300. MATHEMATICS AND ASTRONOMY. Yr oedd 21 o ymgeiswyr, a dethol wyd saith i ymddangos. Mr Henry William Lloyd Tanner, M.A., Oxon., oedd y boneddwr a ddcwiswyd. Oedran, 32. Cyflog, £300, ENGLISH LANGUAGE, LITERATURE, AND HISTORY. Yr oedd 18 o ymgeiswyr, a dewiswyd 2 i ymddangos. Mr William Paton Ker, Cymrawd o All Souls College, Oxford, gafodd ei benodi. Oedran, 28. Cyflog, £300. CHEMISTRY. Yr oedd 18 o ymgeiswyr, a dewiswyd 4 i ymddangos. Mr Claude M. Thompson, M.A. "(Cantab.), B.Sc. (Lond.), a ddewiswyd. Oedran, 28. Cyflog, £300. BIOLOGY. Yr oedd 9 o ymgeiswyr, a dewiswyd 2 i I ymddangos. Mr W. Newton Parker, F.Z.S Darlithydd ar Biology yn Ngholeg Aber- e., ystwyth, gafodd ci benodi. Oedran, 26. CyHog, £ 300. DARLITHYDD CYMREIG. Yr oedd 4 o ymgeiswyr, a dewiswyd un i ymddangos, sef Mr Thomas Powell, M.A., Golygydd Y Cymmrodor, yr hwn a ddewiswyd yn unfrydol. Cyflog, ;£100. Un genedigol o sir Frychciniog yw Mr Powell. CERDDORIAETH, Yr ocrLl 11 o ymgeiswyr am y swydd o 3)«!as'iii.hydJ ar Gerdiloriaoth. Cyflog, £ 100. AIr Clement Templeton, B.A., a ddewiswyd. PHYSICS. Etholwyd Mr W. S. Hensley (10th Wrangler) i'r swydd. GERMAN. Yr oed'd 10 o ymgeiswyr, ond gohiriwyd y penodiad hyd gyfarfyddiad nesaf y Cynghor. Mae yn wybodus fod Prif Atbraw wedi ei benodi er's rhai wythnosau, sef Mr Viriamu. Jones, mab i'r di weddar Barch Thomas Jones, Walter's-road Chapel, Abertawy ac yn ol pob tebygolrwydd, mae ganddo staff ragorol o is-athrawon, a da genym ganfod yn eu plith ddau Gymro lieblaw y Prif Athraw. Hydcrwn fod dyfodol llwyddianus i'r sefydliad.

CYFARFOD CHWARTEROL BRYCHEINIOG.

CANAAN, ABEBTAWY.