Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

RHYDYBONT A CHAPEL NONI. -

LLANGLYDWEN A'R CYLCHOEDD.

MAENCOCIYEWY N.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAENCOCIYEWY N. Saif y lie uchod yn rhanbarth isaf sir Gaer- fyrddin, ger llaw dyffryn Ihardd Clwydwen. Gan fod yn y gymydogaeth hon lawer o dderbynwyr y Tyst, credwyf na fuasai ychydig fodfeddi o hanes y lie ddim yn annerbyniol. Y Riban Glas. — Bu y doniol a'r athrylithgar Plenydd yn y gymydogaeth, a chawsom ein breintio a chyfres o'r darlithiau mwyaf rhagorol. Gellir dywedyd am dano yn ddiwrthwynebiad a diragfarn, ei fod yn wr cadarn fel darlithiwr. Ycbydig ydyw nifer y rhai hyny nad ydynt wedi cymeryd yr ardystiad dirwestol dan ei weinidog- aeth Iwyddianus. Plentynaidd yw yr wrthddadl a glywir yn y rhauau amaethyddol, "na fedr y dirwestwyr weitbio cystled ar feusydd y cynhauaf a'r bobl hyny sydd yn defnyddio y ddiod feddw- ol." Mae bellach wedi myn'd yn ormod o'r dydd i neb gredu hynyna. Clywais fod un o'r bodau hyn ar fwriad cyfansoddi darlith ar y rhinweddau perthynol i gwrw, a diau y bydd iddo roesaw calon yn nhemlau Bacchus i gyhoeddi ei anathema uwchben Byddin y Riban Glas. Dywedir hefyd mai arwydd ei ganlynwyr fydd riban coch. Cred- wyf fod rhywbeth yn lied awgrymiadol yn y lliw coch iddynt. Dywedodd un o'r sychedigion hyn wrthyf yn ddiweddar, nad allai gydymffurfio a darpariaethau anfeddwol y Riban Glas, oherwydd fod hyny yn niweidiol i'w gyfansoddiad gwanaidd. Carwn yn fawr gael gwybod ganddo, a ydyw cym- hwyso gin, &c., yn ei fwyd, yn anhebgorol er sicr- hau ciniaw dda, os felly, unaf yn ddioed a'r "cocbiaid." Gjistadleuaeth cwn defaid. —Dygir hyn oddiam- gylch yn fuan, fel yr ydym yn arferol o wneyd yn flynyddol. Saif y gymydogaeth hon yn uchel fel un sydd yn magu y rhywogaeth oraf o'r rhai hyn, ac yn mhlitb y prif fagwyr mae enw John Phillips yn adnabyddus iawn. Cafodd y dydd o'r blaen gi rhagorol o sir Aberteifi gyferbyn a'r gys- tadleuaeth uchod, ond drwg genyf hysbysu, nad ellir ei ollwng yn rhydd, oherwydd iddo larpio amryw ddofaid yn y gymydogaeth. Teffynaf y tru hwn ar hyn. Khoddaf bancs y gystadleuaeth y tro nesaf. Bet.

--------------LLANDILO.

CWMAFON.