Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DYFFRYN NEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYFFRYN NEDD. Adroddiad yr Undeb.—Mae amryw bethau wedi dygwydd yn y cwm hwn yn ystod yr wytlmosau diweddaf gwerth eu croniclo, oud bowia y gohob- yddion arferol a'r holl ddarllenwyr wrth gael y fath adroddiad rhagorol o weithrediadau yr Undeb yn Ffestiniog. Da genym ddeall fod dosbarthwr ymroddgar yn Resolven yn ddiwyd eleni, fel y llynedd, yn casglu enwau derbynwyr i Adroddiad yr Undeb. Onid ellid, ac oni ddylid gwneyd rhywbeth felly yn mhob cymydogaeth ? Ni wyddai llawer am y fath lyfr, ac ereill a wyddcnt ni theimlent i ddanfon yn special am gopi; ond wedi cael dosbarthwr i o.fyn, mae amryw yn barod i roddi eu henwau, ac ereill, wrth ddangos cynwysiad yr Adroddiad, a chymhell ychydig arnynt, yn gwneyd yr un peth. Ac yr ydym wedi clywed rhai yn dyweyd na chawsant well gwerth swllt erioed." Credwn na fydd yr Adroddiad eleni yn ol i'w ragflaenoriaid penaf. Nid yn unig na ddylai cvhoeddi y fath lyfr gwerthfawr yn flynyddol fod yn golled, ond enill a.rianol i gynorthwyo i gyfarfod a. threuliau yr Undeb, mae arnom eisieu hefyd i greu darllen- wyr pethau da-gwasgaru mwy o wybodaeth fuddiol, a cbynorthwyo y bobl i feddu syniadau cliriach am egwyddorion crefydd, trefniadau eglwysig, a nodweddion ein Henwad. Cyfarfodydd Pregethu.- Y n ddiweddar, cynaliodd eglwys yr Addoldy, Glyn-nedd, ei chyfarfodydd haner-blynyddol pregetbu a chasglu at ddyled y capel. Cafwyd cynulliadau Iluosog y Sul, ond yr oedd yn "ddydd o gynbauaf" y Llun, fel nad ooddynt mor lluosog. Yn wyneb y "cynhauaf brith" a geid y pryd hwnw, ni fcid ar y bobl am fod gyda'r gwair ac.nid yn yr uchelwyl. "Make your hay while the sun shines yn mhob ystyr. Pregethwyd yn neillduol o bwrpasol ac effeithiol gan y Parchn C. T. Thomas, Groeswen, a D. S. Evans, Aberdar; a chasglwyd yn agos at y marc at ddyled y capel.-Sul a Llun, Medi 2il a'r 3ydd, cynaliodd Methodistiaid yr Ynysfach eu cylchwyl flynyddol, a chasglent at draul adgyweirio a glanhau Seion. Mwynbawyd gweinidogaeth ddylanwadol y Parchn D. H. Williams, Cas- newydd; J. P. Walters, Cwmtwrch; a J. Prichard, Amlwch. Blin neillduol genym nad oedd yr hybarch o Amlwch yn iach ar ei ymweliad a'n dyffryn ni, ond cafwyd bias mawr wrth wrando ar ei weinidogaeth ef a'r brodyr ereill. Dadleuai y Parch M. Thomas, gweinidog y lie, am gasgliadau da, ac na ddylai yr un achos edrych yn well nag achos y Gwaredwr, na'r un person ymddangos yn fwy o foneddig na Cheidwad pechadur. Gwelai ef welliant yr amseroedd yn y patronage a gawsai y tafarndai, lluosogrwydd yr excursions ar pleserdeithwyr, llawnder y railway stations a'r platforms, bywyd y marchnadoedd, &c., a gofynai yn ddifrifol a oedd yr achos goreu yn derbyn ei ran briodol o'r gwelliant hyn? Ni chlywsom beth oedd y response. Hyderwn ei fod yn deilwng, ac y teimla "pobl yr Arglwydd," "saint y Goruchaf," a'r "breninol had," eu rhwymedigaeth a'u honour yn fwy-fwy yn y peth hwn, yn ol y llwyddo Duw hwy. Marwolacthau.-Er wedi cyrhaedd yr oedran teg o agos 82, blin fydd gan ei holl gydnabod ddeall nad ydyw Mrs Jones, gweddw Mr Owen Jones, Brynrhos Cottage, Bryncaws, mwy i'w gweled ar dir y rhai byw." Bu farw dydd Mawrth, Awst Meg, a chladdwyd hi wrth Tabor, Bryncaws, y y dydd Gwener dilynol. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth angladdol yn y ty, yn y capel, ac ar y fynwent gan y Parchn D. Jones (M.C.), Aber- dulais J. Roberts, Maesyrhaf T. Thomas, Mumbles; D. Morgan, Resolven; W. Davies, Bryncaws ac R. W. R., Ystradgynlais. Teimla y cymydogion eu bod wedi colli hen gy my doges heddychol a chymwynasgar, yr eglwys aelod ym- roddgar a llawen, plant a llu o wyrion fam a mamgu dyner a gofalus; ac yr oedd ei thy yn wastad yn llety y fforddolion, ac yn arosfan gweision y Duw Goruchaf. Arosed Duw yn y teulu, ac ymnertbed y galarwyr yn y gras sydd yn Nghrist Iesu.Er bod yn y gwaith dydd Llun, Awst 27ain, bu Thomas Howells, ger y Lamb and Flag, Glyn-nedd, farw yn foreu dydd Gwener, Awst 30ain. Nid oedd yn gryf er's tipyn, ond daeth y diwedd yn sydyn ac annysgwyl- iadwy, ac efe tua'r 69 oed. Yr oedd yn ddyn crefyddol er's blynyddoedd, ac yn flvenor yn eglwys yr Addoldy. Yr oedd yn ddyn a fawr berchid; a daeth y Parch D." G. Davies, ei weinidog, bob cam o sir Aberteifi er gwcinyddu yn ei angladd, yr hwn a gymercdd le dydd Llun, Medi 3ydd. Mae yr eglwys yn Nglyt-nedd wedi colli llawer iawn o ddynion da y blynyddoedd diweddaf hyn, ond y mae yr achos eto yn myucd rhagddo. PEKEEIN BYCHAN.

Alt DAITH I CHINA.

Family Notices