Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Cyfarfodydd, &e,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfodydd, &e, PANTYCRWYS. — Cynaliwyd cyfarfod blyn- yddol yr eglwys hon dydd Sa.bboth a nos Lun, Awst y 26:tin a'r 27ain. Y dewisedigion eleni oeddent Mr William Griffiths, Pantycrwys, di- weddar fyfyriwr o Goleg Caerfyrddin, yn awr o Goleg Cenadol Llundain, &c. Yn ei absenoldeb dewiswyd E. Glandwr Davies, a'r Parch D. Bowen, Hermon. Dyna y cenadon, a chafwyd pregethau grymus ac effeithiol. Yr oedd y cynulliadau mor lluosog fel y gorfuwyd cynal oedfa. ddau o'r gloch y Sabboth yn yr awyr agored. Dochreuwyd y cyfarfod nos Luu gau Mr John M. Henry, Cymer, Macsteg. Ffrwyth lawer gaffo ei gasglu a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. WERN, YSTALYFERA. Cynaliodd yr egiwys Annibynol uchod ei gwyl de blynyddol poi,thyriol i'r Ysgol Sabbothol, dydd lau, y Cd, cynfisol. Bwriadwyd cynal yr wyl ar un o gaeau Mr Evans, Gilfaeb-yr- haidd, ond oblcgid gerwindeb yr hin y boreu hwn, tyb- iwyd mai doethach oedd ei gynat yn vestri y capel. Bu dros dri chant yn cyfranogi o'r dantcithfwyd arlwyedig, a thybiem wrth yr olwg siriol ar y gwyddfodolion eu bod wedi mwynhau eu hunain yn rhagoroi. Erbyn fod y te drosodd yr oedd y gwlaw wedi cilio, a'r haul yn tywynu yn. siriol fel y toimlid awydd am ychydig o fwynhad adloniadol yn yr awyr agored. I'r pcwyl lnrnw aeth y Parch 11. P. Jenkins, gweinidog parehus yr eglwys at Mr R. Ilowson perchenog y g"e;thiall haiarn Ystalyfcra, i ofyn am fenfcbyg y crichct ficld dros y prydnawn, yr hwn gais a ganiatawyd gyda pha- rodrwydd. Mac y boneddwr hwn bob amser yn ddiar- ebol am oi haelioni a'i garedigrwydd tuag at y gwahan- ol enwadau yn y lie. Cawsom bleser mawr wrth weled y plant a'r bobl icuainc ar y cao yn mwynhau eu hun- ttin mor dda gyda'J hadloniadau diniwed. Mae yn dda gonym weled eglwys ac Ysgol Sabbothol Inosog y Wern mewn gwedd mor lewyrchus, a'u bod hwy a'u gweinidog talentog a pharchus yn cyd-dynu mor dda, ac mor anwyl a'u gilydd.-Un o'r lle. BETHESDA, TONGWYNLAS. — Cynaliwyd cyf- arfodydd blynyddol y capel uchod eleni ar y Sul a'r Llun, Medi 2il a'r 3ydd, pryd y pregethwyd gan y Parchn Edwards, Mountain Ash Evans, Star-street, a Williams, Roath, Caerdydd. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, y pregethau yn rymus, a'r casglia iau yn dda. Gobeithio y bydd effeithiau dymunol yn canlyn y cyfarfodydd hyfryd a gafwyd. BARGO ED.-Cynaliodd eglwys Annibynol Calfaria yn y He uchod eu cyfarfodydd blynyddol eleni ar y dyddiau Sul a Llun, Medi yr 2il a'r 3ydd, pryd y gwasanaethwyd ar yr achiysur gan y gweinidogion canlynol Y Parchn J. Thomas, Soar, Merthyr; a T. Hoas, Ebenezer, Sirhowi. Yr oedd yr hen efengyl am y groes yn ei bias, a'r traddodiid ohoni yn bur fel y mae yn yr Iesu, a theimlad y frawdoliaeth wedi codi mor uchel nes y teimlem fel Pedr gynt, mai da oedd i ni fod yno, am fod yr Arglwydd gyda'i weision. Hy- derwn y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear yn nghalonau llawer o wrandawyr oedd yn bresenol. Cawsom gyfarfod a hir gofir genym, ac yr oedd yn amlwg fod y gweinidogion a'r gynulleidfa dan ddylan- wad yr Ysbryd Glân. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon g-an y Parch J. Thomas, a'r Parch T. Rees a Mri J. Williams, Bargoed, a J. Davies, New Tredegar. Casglwyd yn ystod y cyfarfod ychydig dros £41. Mae yn dda genym weled fod gwedd mor llewyrchus ar yr achos Annibynol yn y lie hwn. Mae yn ymddangos fod dvfodol dysglaer o flaen yr eglwys hon. MYNYDD SEION, CASNEWYDD. — Dydd Snl, Medi 2il, cynaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod preg- ethu blynyddol yn y lie uchod, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn D. S. Davies, Llanfyllin, y boreu am 11, a'r hwyr am 6 yn Gýmraeg-, ac am haner awr wedi 2 gan y Parch D. Davies, gweinidog y Bcdyddwyr yn Saesoneg. Cafwyd pregethau grymus, gwrandawiad astud, a chynulleidfaoedd lluosog. Ni welsom gynnll- eidfaoedd yn gwrando yn fwy astud ac yn mwynhau y weinidogaeth yn well, a hyderwn nad aiff yr had da a hanwyd yn ofer a chasgliadau rhagorol iawn. Ar nos Lun, Medi 3ydd, cawsom y pleser o wrando ar y Parch D. S. Davies yn traddodi ei ddarlith ragorol ar O'r Caban Coed i'r Palas Gwyn." Nid oes eisieu canmol y ddarlith na'r darlithydd, y mae yn ddigon adna- byddus. Cymerwyd y gadair gan y Parch D. Davies, yr hwn a draddododd araeth wresog ar y pwnc. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn J. Idrisyn Jones a John Griffiths. Bydded bendith yr Arglwydd ar ddyfodiad Mr Davies i Casnewydd. Melys, mors eto.- W. E. EBENEZER, ABERCYNFFIG. — Cynaliodd yr eglwys uchod ei huchelwyl flynyddol eleni ar y Sal a'r Llun yr 2il a'r 3ydd o fis Medi. Y cenadon fu yma yn ein gwasanaethu oeddynt y Parchn D. Jones, B.A., Abertawy; M. C. Morris, Ton a T. R. Williams, Dowlais. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y brodyr uchod yn nghyda'r Parcbn J. Williams (M.C.), It. John (B.), W. G. Evans, Coity, a Mr W. Williams, Llangynwyd. Trodd y tywydd braidd yn anffafriol, ond cafwyd cynnlliadau lluosog, gwrandawiad astud, a phregethau grymus. Yr oedd y tide wedi codi yn uchel iawn erbyn nos Lun. Hyderwn y bydd y cyfar- fodydd byn yn ddechreuad cyfnod newydd ar grefydd yn y gymydogaeth. Yr oedd y saint wrth eu bodd, y gwrthgilwyr yn teimlo eu hangen, a'r gwrandawyr yn eael eu dwysbigo, a'n gweddi ddidwyll ni ydyw ar i'r dy:anwad barhau yn ddaionus ar yr eglwys a'r wlad yn gyff'redinol.—Iorwerth.
MARWOLAETH MARWOOD, Y DIENYDDWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH MARWOOD, Y DIENYDDWR. Bu Marwood, y dienyddwr cyhoeddus, farw prydnawn dydd Mawrth diweddaf yn ei breswyl- fod yn agos i Eglwys y Plwyf yn Horncastle, yn 63 mlwydd oed, wedi gwasanaethu y swydd am ddeuddeg mlynedd. Gweinyddodd y waith gyntaf fel dienyddwr yn 1871 yn Lincoln, a'r tro di- weddaf yn Llundain rhyw bythefnos cyn ei farwolaeth. Bu farw dipyn yn sydyn, ac aeth y si allan fod rhywbeth a fynai yr Invincibles o'r Iwerddon a'i farwolaeth; ac i'r dyben o gael sicrhad o achos ei farwolaeth, cynaliwyd treng- holiad ar y corff, a thystiai y ddau feddyg a gyrchent ato yn ei gystudd mai yr achos oeddynt congestion of the lungs a'r clefyd melyn. Cobbler ydoedd wrth ei alwedigaeth cyn bod yn olynydd i Calcraft. Mae wedi gadael gweddw a chryn lawer o eiddo ar ei ol. Deallwn fod amryw bersonau eisoes wedi apelio at yr awdurdodau am y swydd o ddienyddwr cyhoeddus. Dywedir fod amryw o bentref Eccles- field, yn agos i Sheffield, yn ymgeiswyr, a bod un ohonynt yn crynhoi tystiolaethau i brofi ei gyfaddasder i'r swydd. —
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CANWCH YN DDA! SIARADWCH YN DDA!- Stile JJougkty's foice Xoecnpe wedi cael ei werthfawrogi-yn fawr gan glcriswyr, cantorion, ae'enwopfion crcill am yn agos i 40ain mlynec1d. Khydd jjlirdcr a gloevvder i'r llais JusNr LIND.—" Y mae yn bleser mawrgonyf, mor bell ag y ;n;iu l'y jnlivoliad ynnivneil, i ftiidaniliau y <lYMlOlacth sydd mor WflVcdinol yn tt'afi- y Lazcnges a barotoir gcnycb chwi" (Miles Doughty). 6c, Is, 2s Gc, 5s. a Us -yn rhydd trwy y llytliyrdy. 7c, Is 2c. &e. G ofymveh i eli CylTeiydd am danynt. NK W HKJi Y a'i FKIBIOX 1, Kiiij,' Edward street, Llundain, li.O. Selydhvyd yn v fl\vyddynl746. y
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Hefyd, bu yn flaenor y gan am flynyddau. Yr oedd o dymer addfwyn, ysbryd heddychlawn, a cbyfarch- iad siriol, ac yn meddn ar ddawn gwoddi tnhwnt i'r cyffredin, a bob amser yn gynes. Dywedai yn ei ddyddiau olaf nad oedd yn ofni msrw. Y dydd Gwener canlyno], claddwyd ei gorff yn mynwent Eglwys Ystradfellte. Cyn cychwyn, gweinyddwyd gan y Parch D. B. Griffitbs, Penderyn, ac yn yr Eglwys a'r fynwent gan y Parch J. L. Morgans, curad. Yr oedd yn 70 oed. Gadawodd dri brawd- un o ba rai sydd ddall, ac nn arall yn A wstralia-ac un chwaer i alaru ar ei ol. lleddwch i'w lwch.- Givilym Hepsta. THOMAS.—Awst 25ain, Sarah, gwra.ig John Thomas, Waungoch, Cendl, yn 41 mlwydd oed. Mae ei pbriod, pedwar o blant, a'i mam wedi cu gwneyd trwy yr amgylchiad trist hwn yn deuln galarus. Bu yn dyoddef cystudd blin am dros flwyddyn gyfan, ond yr oil mewn addfwynder ac ymostyngiad ewyllysgar i drefn Rhagiuniaeth Duw. Yr oedd wedi bod yn aelod ffyddlon, ymroddgar, a defnyddiol yn eglwys Carmel oddiar pan yn ieuanc. Bu yn selog a gweithgar gyda'r Ysgol Sabbothol tra y gallodd, a th imiai yn fawr dros lwydd.iant achos y Gwaredwr. Yr oe ;d y grefydd dda hon yn dwyn ffrwyth gwerthfawr i'w phrofiad yn niwedd ei hoes. Dywedai mai peth anhawdd iawn ganddi oedd teimlo yn foddlori i ymadael a'i thenlu, a rhoi ei phiant bach i ofal Rhagiuniaeth ac eto, er iddi deimlo yn anhawdd, cafwyd prawf diamheuol ei bod wedi cael cymhorth i wneyd hyny. Yn wir, y mae teimlad chwith iawn o'i cholli, oblegid un o'r gwragedd caredicaf a pharotaf i wneyd pob cymwynas yn ei gallu ydoodd yn sr holl wlad. Cerid hi yn anwy I gan gylch eing yn y gymydogaeth, a theimlir yn siomedig i weled ei lie yn wag. Claddwyd ei chorff yn mynwent Carmel y dydd Mawrth canlynol. Daeth tyrfa fawr at en gilydd ar yr achiysur, ac yr oedd teimladau galarus yn cael eu dangos ar ruddiau itmlun. Gweinyddwyd yn oi hangladd gan y Parch W. Griffiths, ei gweinidog. Daeth cor y capel yn nghyd yn bur gryno, a chariwyd emynau amryw, a'r cmyn hwnw wrth y bedd, ar gais yr ymadawcdig, sef yr ail benill yn Rhif 358 yn Llyfr Stephen a Jones— A oes neb o'm hen gyfeillion A ddaw'n ddiddig gyda mi ? &c. Tiriondeb iddi hi oedd fod Rhagiuniaeth wedi cynal ei mam, a'i ga.Iluogi i weini iddi hyd y diwedd ond yr oedd ei marwolaeth er hyny yn ddyrnod drom i deimlad ei mam oodranus. Bydded yr Arglwydd yn dirion ohoni yn ei thrallod, a dymunwn yr un peth i briod ein chwuor ymadawedig a'i blant bob un. WILLIAMS-—Awst 25ain, yn 31 mlwydd oed, ar ol misoedd o gystudd trwm, yr addfwyn a'r rinweddol Mrs C. Williams, anwyl briod Mr J. R Williams, prif beirianydd gweitiifeydd Rhymni. Claddwyd hi y dydd lau canlynol yn mynwent yr Eglwys, pryd y gweinyddwyd yn y ty gan y Parch R. E. Peregrine, B.D., ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan Canon Evans. Bu yr ymadawedig yn aelod ffyddlawn a- pharchua o eglwys Annibynol Seion am flynyddau, a bu ei chartref cysurus yn "Jety fforddolion i lawer o weinidogion yr Efengyl, a diau y bydd yn chwithig iawn gan lawer o'r cyfryw glywed fod y garedig Mrs Williams wedi disgyn i ddystltwrwydd y bdd. Bu farw, fel y bu fyw, a'i gobaith a'i hymddiried yn yr Iesn. Y nos Sabboth canlynol, traddodwyd pregeth augladdol iddi yn Seion i gynulleidfa luosog, pryd y canwyd pedair o'i dewisol emynaa gyda theimlad dwys. EVANS.-Awst 3.Vdd, yn 5G oed, Mrs Evans, priod y Parch D. M. Evans, Salem, Llandilo, o apoplexy. Teimlai yn iach fel arfer yn y boreu, ond cyn diwedd y dydd yr oedd wedi huno yn yr angeu. Claddwyd ei gweddillion marwol ddydd lau yn mynwent Salem. Darllenwyd a gweddiwyd cyn eychwyn y corff gan y Parch W. R. Davies, Bethlehem. Yn y capel, dechreuwyd gan y Parch W. Bowen, Herrnon. a phregethwyd oddiwrth Job xiv. 20 (y rhan olaf) gan y Parch J. Thomas, B.D., Capel Isaac a gweinydd- wyd wrth y bedd gan Mr Edwards, Llandilo. Yr oedd Mrs Erans yn wraig, serchog, gariadlawn, yn anwyl gan yr holl gymydogaeth. Bydded yr Arglwydd yn nawdd i'n brawd yn ei drallod.- Cymydog. DAVIES.—Medi 4ydd, Mary, anwyl briod Mr David e Davies, Penygors, Llangyfelach, achwacr y Parch D. C. Harris (Caeronwy), yn 35 mlwydd oed. Gadawodd bump lieu chwech o blant ieuaiilc-nll yn mis ocd-i alar u on colled ar oi hol. Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith." COLE.—Medi 4ydd, yn nby ei merch a'i mab-yn.. nghyfraith—Mr a Mrs Dixon, fferyllydd, Rhymni— Mrs Gwenllian Cole, gweddw y diweddar Mr W. Colp, masnachydd coed, Merthyr, yn 88 mlwydd oed. Bu yn aelod ffyddlon a dichlynaidd am flynyddau lawer yn Ynysgan. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn yr Hen Gape!, Cefncoodycymer. Gweinyddwyd ar yr achiysur gan y Parch P. W. Hough, Ynysgau. Yr oedd yr ymadawedig yn un o breswylwyr henaf Merthyr, wedi ei geni, ei magu, a byw trwy ei hoes yn y dref. BBABYN.—Awst 2Gaiti, Mrs Margaret "Drabvn (mam- yn-nghyfraith y Parch T. Davies, Llanelli) ar oi amryw fisoedd o gystudd, yn 78 mlwydd ced. Claddwyd hi yn mynwent Eglwys St. Paul's, Llanelli; y dydd Mercher canlynol- Gweinyddwyd yn y ty gan y Parchn W. Hughes (B) a T. Johns, ac ar Ida y bedd gan y Parchn D. Lewis ac R. A. Bertram. Yr oedd yr ymadawedig yu hen ddysgybles i'r Arglwydd ac iddi air da yan b.iwl>, a chaii y Gwirionedd ei hun. Diangodd ei henaid o'r corff ar foreu Sabboth, ac aeth i wlad y Sabboth tcagywyddol. STRPHENS,-Awst 29.iin, yn 59 mlwydd oe 1, Mary Stephens, morwyn Ml Aubrey, Llamndwrn. Yr oedd wedi bod yn ei wasanaeth am yn agos i 24 o flynyddoedd. MARWOLAETH A CHLADDEDfGAETH MR JOHN JONES, SALEM, TRELYN. Brodor o Eglwysbach, Glandyfi, oedd yr yrnadawedig. Pan yn 23 ced, gadawodd ardal ei enedigaeth, gan gyfeirio tua mynydioedd Gwent a Morganwg, ac ymsefydlu yn Rhymni. Yr oedd Rhymni y pryd hwnw yn newydd, a llawcr o wyr nerthol-wedi gwrteithio eu meddylian yn dda yn yr Ysgol Sabbothol -wedi dyfod i arcs yno o siroedd Aberteifi, Caer- fyrddin, a PJienfro. Yr oedd y bobl yraa yn hynod gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac yn mhlith y rhai hyny yr oedd John Jones yn hoffi bod a dywedodd lawer gwaith ei fod yn ddyledus iawn iddynt am v wybodaeth oedd yn ei feddiant. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol yn Seion, Rhymni, gan y diweddar Barch W, Watkins, a pharhaodd felly yu ddiysgog hyd derfyn ei oes. Wedi priodi a dechreu codi teulu, symudodd o Rhymni i gymydogaeth Bargoed, ac oddiyno wedi hyny i Trelyn. Bu fyw y rhan fw.) af o'i oes grefyddol yn eglwys Salem, yn addysgn yn ffyddlon yn yr Ysgol Sul, ac yn gweinyddn gyda dwysder, difrifoldeb, a tbaerineb yn ng-hyfarfoiydd yr wythnos. Gwyr yr eglwys yma yn dda fel y bu. yn rhybuddio, yn dysgu, yn cynghori, ac yn ymbil ar rodio ohoni yn addas i'r alwedigaeth ei ealwyd iddo. Cafodd gymhelliad gan y brodyr yn Salem i arfer ei ddawn fel pregethwr, a chredwn iddo wneyd ei oreu yn yr ystyr hyny, or y buasai yn well iddo gael ei anog i ddechreu flynyddoedd lawer yn gynt. Yr oedd yr elfen brcgethwrol yn gryf iawn ynddo. Er's ychydig amser yn ol bu ci gyfeillion wrth y gwaith o gyflwyno tysteb iddo, ond ni feddyl- iasom y pryd hwnw fod ei ddiwedd mor agos. Cafodd y trydydd ergyd o'r parlys oddeutu 9 o'r gloch nos Sul, Awst 2Gain—yn mhen dwy flynedd a haner i'r adeg pan darawyd ef y tro cyntaf—yr hyn roddodd derfyn ar ei yrfa ddaearol oddeutu sa.ith o'r gloch y nos Lan canlynol yn 67 mlwydd oed. Yr oedd Abiathar Jenkins ac yntan yn ymddyddan â'u gilydd yn ngliylch Geiriaduron Jones, Penybont, a Hughes, Tredegar, pan darawyd ef, ae ni lefarodd mwyach. Nid oeddem yn dysgwyl rbyw b^'ofiad uchel ganddo wrth farw pe buasai yn gallu siarad a ni, oherwydd yr oedd hwnw yn uwch na'r cyffredin ganddo trwy ei fywyd. Y dydd Gwener canlynol, ymgynullodd lluaws i'r gladdedigaetli. Wrth y ty, darllenodd a gwcdd'iodd y Parch R. Griffiths, Cefn, Merthyr, yn hynod effeithiol. Canwyd ar hyd y flordd o'r ty i'r capel newydd yn Trelyn. Dochreuwyd y gwasanaeth yn yr addoldy gan y Parch W. G. Williams, Penarth; preuethodd y Parch T. Llewellyn, Mountain Ash; a therfynwyd trwy weddi gan y Parch D. T. Evans, Rhydri. Wedi gosod y corff mewn be,id yn mynwent hen gapel Salem, anerchwyd y gynulleidfa drachrfn gan y Parch W. Griffiths, Bargoed, a gweddiodd y Parch J. Jones, Mynyddislwyn. Ar gais y teulu galarus, rhoddwyd yr emynau allan, a threfnwyd yr angladd gan y Parch A. T. Jenkins, Ferndale. Yr oedd yn bresenol hefyd Mri W. a E. Beddoe, Nelson J. Wiliiams a J. Evars, Bargoed; ac ereill rhy luosog i'w henwi. Terfynwn yn ngeiriau y Parch W. Williama, Abercarn, am John Jones—" Drwg genyf glywed am ei farwolaeth. Cafodd gystudd hir a phoenus mae yr orphwysfa yn felus yn awr. Dymunwn nawdd ac amddiffyn y Nefoedd ar y weddw a'r plant." Fleur-de-Lis. JOSHUA JJLNXINS.