Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

TMTLOU Y FFOKDD -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TMTLOU Y FFOKDD Nos Sadivrn, Medi 15fed. YMDDENGYS mai PREGETHU CYFADDAS L'R OES oedd y mater yr ymdriniwyd fig cf mewn cyfarfod neillduol yn Sasiwn Bangor. Nid y pregethu mwyaf cymeradwy a phoblog- aidd gan yr oes, ond y pregethu sydd yn fwyaf cyfaddas iddi, ac angenrheidiol. Yn ol yr adroddiad a welais, gallwn feddwn fod yr ymdriniad a gafwyd ar y mater yn un rbagorol, ac y mae pawb yn gwybod fod y testynyn un amserol iawn. Dywedai I)r Hughes, Liverpool:— Pan yr oeddym yn ieuanc nid oedd ond dau allu yn ymladd am feddiant o'r wlad—Crist a'r diafol; crefydd a'r dafarn. Nid oedd ond dau le i ddenu y bobl, y capel a'r dafarn; ac o dru- garedd darfu i ni ddewis y capel. YD y capel yr oedd y difyrwch penaf i'w gael; yno yr oedd pobpeth. Cyhoeddiad gwr dyeithr o'r Deheu- dir drwy y wlad oedd yr amgylchiad penaf acw, gan nad pwy a fyddai y gwr dyeithr, os byddai yn dyfod o'r Deheudir; ond mor wahanol ydyw yn awr Mae yma lawer o bethau ereill wedi dyfod i mewn i'r canol, ac y mae yn anhawdd gwybod pa bethau ydynt. Mae cyfarfod llen- yddol yn y fan hon, eisteddfod yn y fan arall, ac 9; arwest," beth bynag ydyw hwnw, mewn He arall. O ie, a fancy fair yn rhywle nrall. Nid wyf yn dyweyd dim yn eu herbyn, er y rhaid i mi ddyweyd nas gwn pa beth yw yr arwest yna. Ond mae yma lawer o bethau wedi dyfod i mewn i'r canol—cymdeithion gwareiddiad uchel yr oes, mae yn debyg (chwerthin) ond y maent yn llithie meddwl yr ieuainc oddiwrth dduwinyddiaeth a gweinidogaeth y Gair, tra nad oedd yn yr hen amser ddim i dynu bryd ein pobl ieuainc. Disgynai Mr D. Charles Davies yn lied drwm ar y bri mawr a roddir ar hanesynau (anecdotes) mewn pregethau, ac oblegid hyny y defnydd helaeth a wneir gan breg- ethwyr ohonynt. Dyma un sylw a wnaeth :— Pa fath bregethu yw y mwyaf priodol i'r oes ? Yr oedd efe yn gwybod pa fath bregethu sydd yn fwyaf poblogaidd gan yr oes, ond a oeddynt hwy yn myned i ymostwng at yr oes, at yr hyn oedd yn boblogaidd gan yr oes, er mwyn gwneyd daioni i'r oes. Yr oedd efe wedi sylwi mai yr hyn oedd yn fwyaf poblogaidd gan yr oes ydoedd hanesynau..Nid oeddynt yn deall geiriau cyffredinol; ao os oeddynt yn myned i bregethu i'r bobl, rhaid cael hanesynau. Y modd tebycaf, mwyaf cymhwys i ddyn efengylu i luaws y gwrandawyr ydyw drwy hanesynau; os byddant yn ddigrifol, goreu oil. Ond ai hyn yw y pregethu i'r oes ? Pa faint yn well ydyw o hyn yw y cwestiwn. Nid yw banesyn cywir a tharawiadol a ddywedir er egluro neu ddyfnhau y gwirion- edd a draethir mewn un modd i'w gon- demnio. Mae y ffordd gyfaddasaf i ddwyn y gwirionedd yn eglur i'r rban fwyaf o fedd- yliau. Ond y mae llenwi pregeth a hanes- ynau cyffroadol, a'r rhan fwyaf obonynt yn dra amheus, ac yn ami yn annaturiol, yn unig er mwyn cynyrchu rhyw fath o argraff ar y gwrandawyr, yn hollol anheilwng, ac yn rhwym o ddarostwng pregethu yn ngolwg dynion meddylgar. Petb diweddar, mewn cvmhariaeth, ydyw y defnyddiad helaeth a wneir yn awr o hanesynau mewn pregethau, ac ni byddai pregethwyr ieuainc byth yn meddwl am ddyweyd hanesyn. Ystyrient y buasai byny yn ddarostyngiad arnynt. Yn fy nghof cyntaf ychydig o bregethwyr a 0 fyddai yn adrodd hanesynau yn eu preg- ethau ac yr wyf yn cofio yn dda fod Caled. fryn yn dyweyd am un o'r rhai mwyaf medrus o'n pregethwyr poblogaidd mewn defnyddio hanesynau, ac un o'r rhai a rodd- odd fwyaf o fri arnynt, Pregethwr anectod- awl ydi o." Gwelais adeg yr oedd adrodd penillion yn un o'r pethau mwyaf poblog- aidd mewn pregethau, ac ni chlywid odid zn bregetb byth, yn enwedig gan bregethwyr y Gogledd, na byddai rhes hir o benillion ynddi. Ein beirdd enwog a. ddygodd hyn i mewn gyntaf, ac adroddai rhai ohonynt ddarnau I barddonol weithiau nes gwefreiddio cynull- eidfaoedd. Ond gweithiwyd byny i eithaf- ion, nes yr aeth agos pob pregethwr i geisio adrodd barddoniaetb, ac i feichio eu preg- ethau a gormod o benillion, nes y trodd ar chwaeth y cynulleidfaoedd. Edrychai llawer yn ddiflas pan ddechreuid adrodd barddon- iaetb, a brawycbid rhag ambell i bregethwr oblegid y swm dirfawr o benillion a adroddid ganddo a gwn am un hen gymeriad gwreiddiol mewn cynulleidfa a gOdlti ac a ai allan, pan ddechreuai y pregethwr adrodd penillion. Mae gorweithio unrhyw beth yn ei wnoyd yn boenus. Nid oes dim vn fwy prydfertk a tbarawiadol na dernyn "tlws o farddoniaeth yn achlysurol; ond y mae beichio pregeth a phenillion, pa mor dda bynag y byddont, yn anghydweddol ag am- can pregethu, ac yn troi yn raddol ar chwaeth cynulleidfa. Y chydig o farddon- iaetb, mewn cymhariaeth, a adroddir gan bregethwyr yn awr ond y mae hanesynau yn boblogaidd iawn, acyn ddiau fod gormod o redeg ar eu hoi. Hapus iawn ydyw hanes- yn, byr, cywir, a tharawiadol, fyddo yn galw sylw at y gwirionedd, ac yn help i'w egluro a'i ddyfnhau ond y mae hanesynau amheus, a ddywedir yn unig er peri cyffroad, yn ddarostyngiad ar urddas y pwlpud, ac yn gwbl anghyfaddas i angen yr oes. Yr oeddwn wedi meddwl cyfeirio at Ddadorchuddiad Cofgolofn Rowlands, Llan- geitho, a marwolaeth yr hynafgwyr parchus Peter Spence a Charles Jupe ond rhaid en gadael heibio, gan y cymer y gweddill o hanes Society Gyffredinol Cymanfa Liver- pool gryn lawer o Ie; ac y mae y pethau a draethwyd mor rhagorol ac mor amserol, fel y byddai yn dda ganyf i'r anerchiadau oil gael eu darllen yn bwyllog ac ystyriol. LLADMEEYDD.

CYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.