Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD OHWAETEEOL MYNWY.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD OHWAETEEOL MYNWY. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Ebenezer, Pontypool, ar y dyddiau Llun a Mawrtli y 3ydd a'r 4ydd o Fedi. Bu cynadledd am 10.30 dydd Mawrth. Wedi dewis Mr R. Humphreys, Troedrhiwgwair, yn gadeirydd, ac i'r Parch J. Griffiths, Casnewydd, weddio, darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, a phenderfynwyd 1. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Seion, Rhymni, a'r Parchn D. M. Davies, Farteg, a J. Hughes, Pontypool, i bregethu ar y pynciau. Y blaenaf ar Addoli," a'r olaf ar fater a roddir iddo gan eglwys Seion. 2. Nad yw Mr Hughes, gynt o Blaenafon, yn cael ei ystyried o byn allan yn aelod o'r Cyfundeb hwn. 3. Fod y Gynadledd hon yn datgan ei cbydym- deimlad dwysaf a'r Parch Dr Rees, Abertawy, yn ei gystudd diweddar, ac yn llawenhau fod gobaitb iddo gael adferiad buan i'w nerth a'i iechyd arferol. 4. Ein bod yn dymuno i'r Cyfarfod Chwarterol gael ei gynal o hyn allan yn ei ben ddull arferol, sef y Gynadledd am 2.30 y dydd cyntaf, a pbreg- ethu yn yr hwyr, a dranoeth trwy y dydd, os bydd yn bosibl. 5. Fod y Parch W. Griffiths, Cendl, i fyned trwy y sir dros y Genadaeth y flwyddyn nesaf. 6. Fod y Parch J. Hughes, Tredegar, i gael llythyr gollyngdod i undeb Brycheiniog ar ei symudiad i Pennortb. Drwg genym golli Mr Hughes, dymunwn iddo gael cysur a llwyddiant yn ei le newydd. 7. Penderfynwyd argraffu cylcblytbyr yn Gym- raeg a Saesoneg, yn cynwys ystadegaeth yr cglwysi yn y Cyfundeb, pris ceiniog, a dymuniad am i'r eglwysi ei brynu fel y gellir talu treuliau yr argraffu. I MODDION CYHOEDDUS. Am 7 o'r gloch nos Lun, dechreuodd y Parch J). M. Davies, Farteg, a phregethodd y Parchn E. I). Evans, Bethesda, Brynmawr, yn Gym- raeg; a J. B. Williams, Rehoboth, Brynmawr, yn Saesoneg; a J. Hughes, Pennorth, yn Gymraeg. Am 2, dydd Mawrth, dechreuodd y Parch J. Griffiths, Casnewydd, a phregethodd y Parchn J. Jones, Mynyddislwyn, yn Saesoneg; ac E. Powell, Tredegar, yn Gymraeg. Am 6, dechreuodd y Parch J. Morris, a phregethodd y Parchn D. LI. Williams, Mach- Z, cn, yn Saesoneg ar y pwnc, sef Dyledswvdd aelodau crefyddol i fynychu moddion gras ac B. Humphreys, Troedrhiwgwair, yn Gymraeg, a J. Morris, Pontygof, yn Saesoneg. Cafwycl cyfarfodydd da iawn, a phrcgethau grymus, a derbyniad croesawus gan y cyfeillion. W. WILLIAMS, Ysgrifenydd.

AD-DIIEM AR GYFARFODYDD YR…