Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CAESFYEDDIN A'R CYLCHOEDD.

TREHARRIS.

TABERNACL, SCIWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TABERNACL, SCIWEN. Cyfarfod Sefydliad. — Cynaliwyd cyfarfodydd sefydliad y Parch D. Lloyd Morgan, yn y lie uchod, ar y dyddiau Mercher a Iau, Modi 5ed a'r 6ed. Pregethwyd nos Fercher gan y Parchn LI. E. Jenkins, Blaenafan a R. Rowlands, Aberuman. Am 10, dydd Iau, pregethwyd ar natur eglwys Gristionogol, gan yr Hybarch W. Evans, Abcr- aeron. Wedi hyny, gofynwyd yr arwyddion oddi- wrth yr eglwys a'¡ gweinidog o'u dewiE-itd o'a gilydd, gan y Parch R. Rowlands, ac yna gweddi- odd Mr Rowlands yn daer am fendith yr Ar- glwydd ar yr undeb. Ar ol hyn traddodwyd siars i'r gweinidog gan y Parch D. Williams, 11 hydy- bont. Am 2 30, pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch L. Jones, Ty'nycoed. Wedi hyny pregethodd y Parch H. Davies, Cwiuaman, Aberdar. Nos Iau, pregethodd Mr Rowlands, Aberaman, a Mr Evans, Aberaeron. Gwasan- aethwydyn y rhanau arweiniol gan y Parchn J. Edwards, Castellnedd D. Morgan, Resolven, ac ereill. Cafwyd oedfaon hynod lewyrchus, cynull- eidfaoedd lluosog iawn drwy ystod y cyfarfodydd, a rhwyddineb ac arddeliad neillduol ar y preg- ethau, &c. Yr oedd pregethau neillduol y cyfar- fodydd gan Mr Evans, Mr Williams, a Mr Jones yn nodedig o bwrpasol a tharawiadol. Da genym weled Mr Morgan yn deehreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau mor gysurus ac addawol. Mac ef a'i briod ieuanc hawddgar yn ymddangos yn gv.-eddu y lie i'r dim, ac y maent yn mynwes yr eglwys. Dymunwn i'r undeb fod yn ddcdwydd, llwydd- ianus, ac o hir barhad. Cafodd Mr Morgan a'r eglwys y pleser o roddi deheulaw cyindeithas i chwech o'r newydd y Sabboth diweddaf, a chroes- awu ereill o dir gwrthgiliad i gymundeb yr eglwys. Gobeithiwn nad yw hyn ond megys dechreu.

AGORIAD PENYGROES, PENFRO.

CAPEL ANNIBYNOL SALE M. LLANYMDDYFRI.