Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
«•*=-- III ,, , w Cynwysiad.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
«•*=-- III w Cynwysiad. Hysbysiadau 12 Ymylon y Ffordd 3 Cymanfa Liverpool a Birkenhead 4 Stockton-on- Tees-Cysegrysbail 5 Ad-dremarGyfarfodyddyrUndeb. 6 Caerfyrddin a'r Cylchoedd-Trehiirris 7 Mr Bright a'r Fasnach Feddwol 8 Athrofa Goffadwriaethol Aberhonddu 9 Troedyrhiw, Merthyr-Llawer mewn Yebydig 10 Gohebiaethau-Genedigaethau, &c. 11 Y Wers Rhyngvvladwriaethol 12 Hysbysiadan 13, 14, 15, 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. L. R.-Diffyg gofod ydyw yr unig- reswm na ym. ddangosodd y llith. Bydd rhan ohono yn ein rhifyn nesaf yn ddiffael. MewnLlaw.—Byr Ymweliad a'r Deheubarth-Hawl- iltu Hynafiaetbol y Cymry-Eglwysi Gweigion—Ar Bon y Twr-Gwaelod Gwlad Myrddin-Taith i'r Undeb-" Morgans, Sammah Eglwys Annibynol Llanboidy-Dau Sabbath gydar Saeson-Athrofa Annibynol y Bala (C.N.), &c., &c- CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR AM 1884. DAN OLYGIAETH Y PARCHN B. WILLIAMS, CANAAN, AC R. W. GRIFFITH, BETHEL. Pris Is. 6c., gyda rhwymiad hardd a llogellau; a 6c. mewn Wan. BYDD, megys arfer, yn cynwys yr holl gyfnewidiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneyd yn gywir a chyflawn. Cofier ein rheolau sylfaenol—1. Ni roddir enwau gweinidogion nac eglwysi newydd i fewn heb gymeradwyaeth Ysgrifenydd y Cyfundeb y perthyna y cyfryw iddo. 2. Ni roddir enwau pregethwyr cynorthwyol newydd i fewn heb gymeradwyaeth gweinidog yr eglwys mae yn nelod ohoni; ac os na fydd gweinidog yno, bydd yn ofynol cael cymeradwyaeth diaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o'r dechreuad, ac wedi dwys ystyriaeth, yr ydym wedi penderfynu glynu wrthynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev B. Williams, Kilvey-terrace, Swansea, erbyn Medi 27ain, 1883; a phob archebion i Mr William Hughes, Printer, Dolgelly. GREAT WESTERN RAILWAY. EXCURSION TO LONDON. International Fisheries Exhibition. ON SATURDAY, September 22nd, a cheap fast Excursion Train for LONDON will leave MERTHYR at 11.0 p.m., Hirwain 11.25, Aberdare 11.35, Mountain Ash 11.45, Quakers' Yard 11.55, Llancaiach, 12.5 a.m. (Sunday morning), Crnmlin (High Level) 12.25, Pontypool (Clarence-street), 12.40, and Pontypool Road 12.50 a.m.; to return from Pad- dington at 11.5 p.m. on September 24th. For fares see Special Bills. J. GRIERSON, General Manager. KING'S HEAD, ST. CLEARS. SALE OF LIVE STOCK, HOUSEHOLD FURNITURE, BREWING UTENSILS, &c. MR GRIFFITH THOMAS has been instructed to S KLL BY AUCTION, at the above place, on Friday, September 28, 1883, the following Live Stock, Household Furniture, and other Effects, the property of Mrs Margaret Thomas, who is retiring from business consisting of 5 Milch Cows, 1 Heifer, 2 Calves, 5 Pigs a quantity of Household Furniture, comprising Mahogany and other Tables, Mahogany Hair-bottomed Chairs, Dressing Table and Washstand, Iron and other Bedsteads, Mattress, Looking Glass, Cupboard, Jugs, Ware, Roasting Jack (quite new), Books, Tea Trays, Bear Casks, Taps, and all Brewing Utensils; Churn, Butter Tub, Buckets, Ladders, &c. Sale to commence at I p.m. punctually. Credit on conditions. ( Bishop's C)urt, St. Clears, September lltli, 1883. Yn y Wasg, pris SwUt, ADRODDIAD o GYFARFODYDD YR UNDEB YN FFESTIlSnOO. Anfoner yr Archebion i-Rev J. B. PARRY, Llansamlet, Swansea.
MR. BRIGHT AR FASNAOH FEDDWOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MR. BRIGHT AR FASNAOH FEDDWOL. CHLYWSOCH chi 'rioed mo JOHN ELIAS yn pregethu," meddai yr Hybarch WILLIAM ROBERTS, Amlwch, unwaith wrth bregethwr poblogaidd, sydd eto yn fyw. "Chlywais i mo JOHN ELIAS!" meddai y pregethwr mewn syndod, Do, ugeiniau o weithiau." Naddo," atebai Mr ROBERTS yn bwyllog. Chlywsoch chi 'rioed mo JOHN ELIAS, Mr ELIAS glywsoch chi." Dyna y sylw a ddaeth i'm cof wedi darllen araeth ddiweddaf Mr BRIGHT yn Birmingham yn ngtyn a'r fas- nach feddwol. Mae gwahaniaeth dirfawr J rhwng Mr BRIGHT y gwladweinydd gochel- gar sydd yn llefaru yn y dyddiau hyn, a'r J JOHN BRIGHT oedd yn areithio yn gynhyrf- us ddeugain mlynedd yn ol, nes gyru cynulleidfaoedd mawrion yn angerddol yn erbyn deddfau gormesol y dyddiau hyny. Mae y rhai sydd yn ei gofio yn y cyfnod bwnw, neu a ddarllenodd ei areithiau y pryd hyny yn gweled yn eglur ei fod wedi newid yn ddirfawr. Nid ydym yn dyweyd ei fod wedi cyfnewid yn ei olygiadau a'i egwyddorion ond y mae wedi cyfnewid yn ddirfawr yn ei ddull o'u gosod allan ac y mae y cynllun a gymeradwya i gyfarfod gorfaeliaeth y fasnach feddwol yn y dyddiau hyn yn wabanol iawn i'r modd y cyfarfyddai a gorfaeliaeth deddfau yr yd a'r gaethfas- nach gynt. Pan y cynygid arosod yr hyn a elwid yn fixed duty ar yr yd, cynhyrfai ei holl enaid, a dywedai y buasai yn well gan- ddo gael ei alltudio i'r pegynau na rhoddi i fyny i'r fath beth. Nid oedd dim a'u bodd- lonai ond eu llwyr ddiddymiad, a'u diddym- iad diamodol. Yn ei frwydrau yn erbyn y gaethfasuach, ni feddyliodd JOHN BRIGHT erioed am ddysgu yr athrawiaeth, fod y Llywodraeth yn rhwym o amddiffyn y fas- nach a noddir ganddi. Ond yn y cyfnod hwnw, pan yn angerddol ei ysbryd, ac yn cael ei gyfrif yn eithafol yn ei olygiadau, ac yn chwyldroadol yn ei gynlluniau yr aeth yn oracl y werin, ac yr edrychid i fyny ato fel prif amddiffynwr hawliau y bobl. Mae ei holl ddysgeidiaeth am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd cyhoeddus yn nglyn a'r gaethfasnach, a deddfau yr yd, a rhyfel, yn wahanol iawn i'w ddysgeidiaeth bresenol yn ngtyii a'r fasnach feddwol; ac y mae yn anhawdd genym feddwl hyd yn nod yn awr y cymeradwyai yr un mesurau er rhoddi i lawr fasnach yr opium yn China ag a gy- meradwyir ganddo i roddi i lawr y fasnach feddwol yn y wlad yma. Mae Mr BRIGHT y dyddiau diweddaf hyn wedi myned yn hynod 0 ochelgar a cheidwadol yn ei ber- thynas a'r fasnach feddwol, ac yn dra eiddigus dros fuddianau y rhai sydd ynddi, ac yn ofni rhoddi hyd yn nod yn Haw y bobl, yn y rhai y mae ganddo bob amser y fath ymddiried, ormod o awdurdod drosti. Nid yw yn foddlawn i'r bobl gael dewis byrddau neillduol i'w rheoli, ond myn drosglwyddo yr awdurdod i ddwylaw eorfforaethau cy- 2;6 hoeddus, ond myn hefyd osod terfyn i'w gweithrediadau hwythau. Nid ydynt at eu rhyddid i roddi i lawr y fasnach yn hollol, hyd yn nod pan y byddo y bobl yn galw am hyny; ond yn unig eu tynu i lawr i ryw nifer neillduol. Nid ein hamcan ydyw beirniadu ei gynllun yn anuniongyrchol, ac nid ydym ychwaith ar hyn o bryd yn dadleu dros unrhyw gynllun arall o weithredu, ond yn unig yr ydym yn dyweyd fod y cynllun a gymeradwya Mr BRIGHT er rheoli a chwtogi y fasnach feddwol, a'r gofal mawr a ddang- osir ganddo am fuddianau y rhai sydd ynddi, yn wahanol iawn i'r hyn a gymerad- wywyd gynt gan JOHN BRIGHT er rboddi i lawr fasnachau ereill yr oedd buddianau llawer o bobl yn ngtyn a hwy. Yr ydym bob amser yn teimlo fod Mr BRIGHT yn fwy niwliog ac anymarferol yn ei olygiadau yn ngtyn a rbeolaeth y fasnach feddwol nag unrhyw fater arall. Nid ydym yn gwybod yn sicr pa fodd y mae cyfrif am hyn. Mae ei gydymdeimlad mwyaf trwyadl ag ymdrechion cyfeillion sobrwydd yn ein gwlad, ac y mae wedi bod ei hun trwy ei oes yn llwyrymataliwr ymarferol, ac y mae gweled y farn gyhoedd wedi dyfod mor ffafriol i'r achos dirwestol yn peri llawenydd mawr iddo, fel y mae wedi dyweyd lawer gwaith; ond nid ydyw ef, mwy nag amryw ereill o hen ddirwestwyr aiddgar, yn rhyw glir iawn ar derfynau ymyriad y Llywodr- aeth a'r fasnach feddwol, ac y mae eu hym- ddiried wedi bod yn fwy mewn addysg a moddion moesol i roddi y drwg i lawr. Ond y mae yn anmhosibl i ymdrechion moesol wneyd y gwaith yn effeithiol tra y byddo y Llywodraeth yn noddi y fasnach, ac yn gwthio tafarnau ar gymydogaethau yn groes i farn ac ewyllys y bobl. Beth bynag am fuddianau y tafarnwyr, a pha ad-daliad bynag y mae yn deg iddynt ei gael, y mae un peth yn sicr, na bydd unrhyw fesur yn foddhaol, os na rydd yr awdurdod dros y fasnach yn hollol yn llaw y bobl eu hunain, a'r awdurdod hwn yn caniatau iddynt, os bydd addfedrwydd i hyny, nid yn unig i bihau eu nifer, ond hefyd i'w llwyr ddileu ac os nad ydyw hyny yn bollol unol a'r hyn a gymeradwyir gan Mr BRIGHT fel gwlad- weinydd pwyllog a gochelgar, yr ydym yn sicr ei fod yn hollol unol a holl ddysgeid- iaeth y gwerinwr poblogaidd JOHN BRIGHT.
ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU. Cynaliwyd Pwyllgor y sefydliad uchod yn Llyfrgell yr athrofa, dydd Mercher, Medi y 12fed, pryd yr agorwyd yr 'athrofa i waith y flwyddyu 1883-84. Yr oedd yn bresenol Mr J. Lewis, Gurry Manor (yn y gadair, yn absen- oldeb y Cadeirydd am y flwyddyn); yr Athrawon, y Trysorydd, Mri W. Beddoe, Nelson; D. W. Harries, Pont Senni; T. Henry, Ebbw Vale; y Parchn B. Williams, Canaan; Emlyn Jones, Treforris; It. T. Howell, Aberdar; J. B, Jones, B.A., Aber- honddu; R. Jones, Talybont; D. M. Lewis, M.A., Hirwaun; D. Silyn Evans, Aberdar T Rees, Sirhowy; W. C. Davys, Aberedw; a'r Ysgrifenydd. Etholwyd y Parch H. Simon, Westminster Chapel, Llundain, i anerch y myfyrwyr yn iMehefin nesaf, a cheisiwyd gan y Parch Emlyn Jones i'w cyfarfod mown cydymddyddan cyfeill- gar yn adeg eyfarfod y Pwyllgor yn Rhagfyr nesaf. Penderfynwyd anfon at amryw swydd- feydd i geisio ganddynt anfon i mcwn tenders am argraffu yr adroddiad am y ddwy flynedd nesaf. Etholwyd y Parchn D. Jones, B.A., Abertawy; J. B. Jones, B.A., Aberhonddu; a J. Lloyd Williams, B.A., Caerdydd, i arholi yr ymgeiswyr am dderbyniad i'r athrofa yn Mehefin nesaf. Pcnderfynwyd anfon cais at y Bwrdd Cynullcidfaol i ymgymeryd ag arholiad y myfyrwyr yn Meliefin 1884, a cheisio gan yr