Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

TROEDYRHIW, MEETHYE. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TROEDYRHIW, MEETHYE. Gwlacldoedd mewn perthynas u Saron.— Dydd Llun, Medi 20fed, cynaliodd eglwys Saron ei gwledd flynyddol. Daeth tyrf'a luosog iawn yn nghyd i yfed o ffrwyth y ddeilen deuluaidd, ac i fwyta y bara brith ac os ydoedd y rhif a fu yn bwyta ac yn yfed yn arwydd o elw, diau y bydd gan yr eglwys elw da-mwy nag un flwvddyn er's amser maith. Felly y byddo. Hwjr yr un dydd, cynaliwyd cyngerdd, pryd y dadganodd amryw heblaw y cor yn feistrolaidd a chymeradwyol iawn. Llywyddwyd gan y gweinidog. Ar ol taIn diolehgarwch i bawb am eu gwasanaeth, ym- adawyd yn weddaidd a llawen.-Dydd Llun, Medi 27ain, ydoedd dydd gwledd Ysgol Sabbothol yr eglwys. Daeth o 400 i 500 yn nghyd, a gorym- deithiwyd yn 11u banerog trwy brif heolydd y dref dan ganu yn beraidd a nerthol, nes swyno yr holl drigolion nad oeddynt wedi ymuno, a'u tynu allan i ben eu drysau ac i benau'r heolydd. Yna aetbpwyd i fwynhau y wledd o ddeilen deuluaidd a bara brith at Troedyrhiw Farm, a chafodd pawb ddiwrnod o lawenydd diniwed diail. Ar ol gorphen gyda'r te, diolchodd Mr Evans, y gwein- idog, mewn araeth wresog i Mr Williams a'r tenlu am eu caredigr.wydd mawr a phur yn rhoddi y cae goreu oedd ar y ffertn, a hwnw yn llawn adladd i'r plant a'r bobl ieuaine i chwareu, ac am ffrynt y palas i fwynhau y te. Eiliodd Mr T. James, a chydnabyddodd Mr Williams mewn araeth yn berwi o garedigrwydd. Canodd y cor amryw donau ac un anthem ar gais Mr Williams. Felly terfynwyd dydd gwledd yr Ysgol Sul am eleni. Priodas, Marwolaeth, a Chladdedigaeth.—Dydd LInn, Medi 3ydd, priododd Mr John John, mab Mr John ac Ellen John, DyfPryn, Troedyrhiw, a Miss Mary Ann Hopkins, ysgolfeistres, Aber- canaid, yn Soar, Merthyr. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch R. Evans, Saron, Troed- yrhiw. Dyna'r briodas. Y farwolaeth.Kh.wa.gG a 7 o'r gloch y nos yr un dydd, bu farw Mrs John, anwyl briod Mr John B. John, arweinydd y canu yn Saron, Troedyrhiw, a mam y priodfab, yn 45 mlwydd oed Dyma dy llawenydd yn y boreu yn dy galar cyn nos Y mae'n wir fod yr ymadaw- edig wedi bod yn nychu am tua blwyddyn, ond, er hyny, bu farw yn bur annysgwyliadwy. Cododd dydd Llun, a bwytaodd ei bwyd fel arfer, gan eistedd wrth y bwrdd i wneyd hyny gyda'i phriod hoff ond bu farw yr amser uchod ar ei heistedd yn y gadair. Y mae teimlad y lie yn rhedeg yn lli at Mr John a'r p&r ieuanc. 0! mor gyfnewidiol yw dull y byd. Merch ydoedd yr ymadawedig i Mr a Mrs Owen Roberts, y rhai ydynt yn aros hyd yr awrhon, ae yn byw yn Unol Dalaethau America. Symudasant o Ebenezer, Llanddeiniolen, i Aberdar tua 40 mlynedd yn ol, ac oddiyno i'r America. Priododd ein hanwyl chwaer a Mr John B. John, ac felly arosodd yma. Derbyniwyd hi yn aelod pan yn 15 mlwydd oed gan y diweddar Barch Joshua Thomas, Salem, Aberdar, a bu gyda chrefydd yn ddidor hyd angeu. Y mae ysgrifenydd y llinellau hyn yn ei hadwaen er's 18 mlynedd i'r mis hwn. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf rhinweddol ag y gallesid weled. Yr oedd ganddi dalent i siarad, ond nid oedd bytb yn ei defnyddio i ymyraeth a materion rhai ereill, a byth ni cheid hi wedi ei dal mewn chwedlau ac ymrafaelion cyffredin ac anorphen. Yr oedd yn un o dymher naturiol fywiog, siriol, a llawen; ond ni welid hi un amser yn ymollwng ac anghofio ei sefyllfa, na'i rhyw, na'i chrefydd. Yr oedd ganddi allu neillduol i fod yn llawen gydai rhai fyddai lawen, ac i wylo gyda rhai fyddai yn wylo. Anaml y gwelir neb ag oedd yn gallu myned i mewn mor drylwyr i lawenydd ei pherthynasau, ei chyfeillion, a'i chymydogion, ac hefyd i'w gofidiau a'u galar. Ni aughofia yr ysgrifenydd ei charedigrwydd yn scfyll i fyny y nos i wylied ei blant bychain pan oeddynt oil yn cael eu dirdyau gan y pas, a phan y bu un anwyl iawn ohonynt farw ohono ond y mae'n rhaid ymatal, rhag myned a gormod o Ie. Cymerodd yr angladd le y dydd Sadwrn canlynol, pryd y daeth tyrfa luosog o bobl barchus yn nghyd i anfon ei chorff i gladdfa Aberfan. Dar- llenodd a gweddiodd y Parch L. P. Humphreys, Abercanaid, yn elleithiol cyri cychwyn y corif. Canodd y cor yn doddedig amryw donau ar hyd y ffordd, a chafwyd ancrchiad byr gan ei gweinidog ar lan y bedd, a hyny am fod y dorf yn llawer rhy luosog i allu myned i'r capel a gweddiodd am fendith ar yr amgylchiad er dwyn pawb oedd yn bresenol i efelychu y cymeriad dysglaer oedd yn' cael ei chladdu, ac am nerth i'w phriod a'i pherthynasau oil i beidio galaru fel rbai heb ob iith dros yr hon oedd wedi huno yn yr Iesu. Yna canwyd emyn ymadawol, ac ymadodd un o'r angladdau mwyaf parchus a welwyd yn Nhroed- yrhiw er's llawer o fiynyddoeid. Heddwch i'w liwoh. Y mae cydymdeimlad dwfn a Mr John B. John trwy'r lie. Ei Gwmiaoe.

Llawer Mewn Ychydig.

Advertising

. Cyfarfodydd, &c, -.---.-