Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Y PARCH. DAVID R. THOMAS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH. DAVID R. THOMAS, BEVIER, MISSOURI, AMERICA. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDBIGION, — Mae y brawd uchod oherwydd cysylltiadau amgylchiadol wedi ymsefydlu yn ein plith ni yn Penrhiwceibr, ac y mae yn agored fel or blaen i ddorbyn gwahoddiadau i bregethu. Gan fod y brawd yn adnabyddus, nid oes angen i ni ddyweyd dim mewn ffordd o gymeradwyaeth, ond yn unig hysbysu y cyhoedd ei fod at wasanaeth eglwysi fydd mewn angen supplies. Pawb fydd am ei wasanaeth, anfonwch i'r cyfeiriad canlynol :-Rev. D. R. Thomas, 80, Glantaf- street, Penrhiwceibr, Mountain Ash. Dymunwn iddo bob llwyddiant i wneuthur daioni yn ei gylch presenol. Carmel. R. THOMAS.
COLEG ABERHONDDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG ABERHONDDU. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd., FONEDBIGION,—Byddaf yn ddiolcbgar iawn i chwi am fod mor garedig a chaniatau i mi drwy y TYST i unioni gwall sydd yn Report y Coleg uchod. Gyferbyn ag enw y Parch E. Lewis, Felindre, y mae y swm o 2?. 6c. yn lie 10s., felly y mae 7s. 6c. yn llai ar gyfer Mr Lewis nag a ddylasai fod, end cyfrifer yr holl swm yna gwelir fod 7s. 6c. yn ormod yn nghyfanswm casgl.. iad ei cglwys, ac y mae hyn yn brawf fod yr arian wedi eu trosglwyddo yn ddyogel i'r Pwyllgor. Drwg genyf am y gwall, ond y mae yn dda genyf nad yw yn dwyll. Maddeued Mr Lewis i mi. Y CASGLWR,
SARON, TREDEGAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SARON, TREDEGAR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Ychydig amser yn ol cefais y fraint o dreulio Sabboth yn y capel uchod, pryd y pregethwyd gan y gweinidog, y Parch E. Powell. Yr oedd yn preg- cthu yn hynod o hwyliog, ac yn ol pob ymddangosiad yn f:adael argraff briodol ar feddyliau y rhai oedd yn ei wrandaw, ac erbyn y gyfeillach nos Sul, cafwyd gweled dan yn rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Yr oodd amryw bethau yn ngtyn a'r eglwys yn tynu fy sylw. Yr oedd yno brydlondeb canmoladwy, y diaconiaid i gyd (nifer o ddeuddeg) yn eu lie i'r amser penodedig bob oedfa, yr hyn yr wyf yn en gymeradwyo yn fawr, sef gweled blaenoriaid eglwys Dduw yn rhoddi esiampl i'r aelodau pa rai ag oedd yn dilyn eu hoi, oddigerth ychydig nifer, a'r nifer hyny fel y cefais allan, oeddynt yn byw agosaf i'r capel. Peth arall, yr oedd yno gana da, y cor wedi ymgynull gyda'u gilydd ar yr esgyn. lawr, a phob Ilais wedi eu lleoli yn eu lie priodol, fel na byddai yno un gymysgedd i bcri unrhyw ddisgord yn y canu. Yr oeddynt yn eael- ca harwain gan Mr W. Charles, yn cael ei gynorthwyo yn chwareu yr offeryn gan Miss Alice Griffiths, Park-place. Yr wvthnosddi- lynol cynaliwyd wythnos o gyfarfodydd gweddïo i ofyn ar i'r Arglwydd i bresenoli ei hun yn eu plith y Sab- both, sef eu gwyl gasglu, ac fel y mae yr Arglwydd yn barotach i gyflawni, nag yr ydym ni i ofyn, felly yma, ete a ddaeth, nid yn unig erbyn y Sabboth, ond yr oedd pob arwydd ei fod yn ol ei addewid yn y canol ac yn bendithio drwy y cyfarfodydd. Yr oedd hi wedi mvne i yn hen hwyl y Cymru i waeddi ac Amen,' a'r canu mawl yn cael ei ddyblu a'i dreblu. Nos Iau, caf- wyd cyfeillach grefyddol ar y diwodd, pryd y daeth un brawd a dwy chwaer i ymofyn am loches ihag y dyin- hcstl yn holitau'r graig, a chododd brawd ar ei draed i liysbysu i'r eglwys i fod amryw o'r chwiorydd a ym- uuodd a. hwy yn ddiweddar yn ceisio ganddo i erfyn ar i'r c.'lwys weddyo yn daer ar i Dduw i achub en gwyr rhag y gelyn. Yr wyf wedi cael ar ddeall iddynt yn ystod y pedwar cymuudeb diweddaf dderbyn dennaw o aelodau yn ychwancgol at yr eglwys, ac y mae ganddynt amryw eto yn dysgwyl am ei lie y cymuudeb nesaf. Ewch yn inlaen gyda'r gwaith da ydyw fy nymuniad i, a chy- mered yr eglwysi hyny nad ydynt wedi declireu yr un gwaith esiampl oddiwrtbych. Ond dyma yr wyl fawr wedi dyfod, sef Sul a LIun, yr 2il a'r 3ydd o Fedi, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion J. Miles, Aberystwyth a W. T. Hughes, Penycae. Yr oedd yr hin yn anffafriol iawn, er hyny cafwyd cynulliadau Iluosog, a'r pregeth- wyr yn eu hwyliau goreu. Cafwyd casgliadau da ar y cyfan, a phob arwydd fod Duw yn eu plith. Nos Sul, o flaen Mr Miles, dechreuwyd yr oedfa drwy adrodd y chwechcd benod o'r Holm aid gan Mary E. Arthur, geneth fcchan 11 oed yn gampus o dda. A chan fy mod yn Annibynwr mor frwd, cliwiliais i mewn i hclyntion yr eglwys hon, a chefais allan i'r achos gych- wyn gyntaf yn Tredegar trwy i rai o drigoiion sir Gaerfyrddin i glywed fod yma gyflog da i'w gael yn ngwaith haiarn y lie, yr bwn a gychwynodd yn 1802, a phregethwyd i'r ychydig Annibynwyr hyny gan un o'r enw Mr Thomas o Benmaen, a dywedant y byddent yn cynal ei moddion cyhoeddns yn yard y seiri coed yn nhy un o hen achau Mrs Watkins, Castle-street, ac y byddent ar eu cymundebau yn arfer cerdded i Pen- maen, pelldcr o wyth milltir, peth dyeithr iawn i ni grefyddwyr yr oes hon. Byddent rai prydiau yn myned i T# Solomon, Blaenau, bryd arall i'r Groeswen. Yn 18W), dywcdir Iddynt gynal yr achos ynuhyun o'r 'dynt L, enw Edmund James. Er nad oeddynt ond bychan mewn nifer, eto i gyd nifer weithgar ac egnïol iawn oeddynt dros achos eu Gwaredwr. Buont mor weith- gar nes iddynt yn 1819 gyfodi capel iddyut eu hunaiu, yr hwn a agorwyd yn mis Mai o'r un flwyddyn. Yn 1821, ordeiniwyd y Parch Robert Morris i ddyfod i'w gweinidogaethu, yr hwn a fu yn ymdrechgar yn eu plith hyd ei farwolaeth yn 1825. Yn 1827 daeth y Parch Hugh Jones (Cromwel o Went) i'w bugeilio, yr hwn a barhaodd yn ei swydd am ddeunaw mlynedd gyda gradd helaeth o Iwyddiaut, ac ar ei ol ef yn 1845, daeth yr anfarwol fardd Ieuan Gwynedd, yr hwn a fu yn ffyddlawn fel gweinidog hyd nes methodd ei nerth a'i iechyd. Y nesaf a ymwelodd i'w bugeilio hwy ydoedd y Parch D. Evans, yr hwn a ddechrenodd yn 1849, ar ei ol ef wele Saron wedi cael ei breintio eto a dysgawdwr mawr yn Israel, sef yr enwog a'r anfarwol Barchedig D. Hughes, B.A., yr hwn a ddechreuodd ar ei weinidogaeth yn 1855. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth fe dynwyd yr hen Saron i'r llawr, a chyfodwyd Saron newydd yn eu lie, pryd y casglwydar ei hagoriad y swm o X167 Is. 32-c. Yr oedd Mr Hughes yn ddyn cymeradwy gan ei aelodau, ac yn wr parchus gan bob dosbarth yn y gymydogaeth. Ar ol marwolaeth Mr Hughes rhoddodd yr eglwys alwad un- frydol i'r Parch E. Powell, o'r Brychgoed, Brycheiniog, yr hwn a gydsyniodd a'r cais, ac a ddechreuodd ei bugeilio yn 1876. Y mae Mr Powell wedi bod ac yn parhau i fod yn weithiwr caled er pan y mae wedi sefydlu ei hun yn eu plith, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond hefyd yn mhob canghen o symudiad daionus, yn enwedig gyda'r symudiad dirwestol. Y mae yr oglwys hon yn rhifo dros 300 o aelodau, heblaw y gwrandawyr, a'r Ysgol Sabbothol rhywbeth yn debyg. Bydded i Ysbryd yr Arglwydd barhau i aros yn eu plith ydyw gweddi a dymuniad FAENOLOG.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaethau, Priodasau, &e. DAJilER SYLW.Ein tolerau am gyhooddi Barddoniaeth yn •rysylltiedig a haues Genedigaeth, l'riodas, lieu Farwolaeth yw tair eciuiog y llincll. GENEDIGAETH. THOMAS.—Medi 14eg, priod y Parch T. C. Thomas, Groeswen, ar fab, ei cliyntafanedig. PRIODASAU. EVANS—JOHN.—Medi 18fed, yn Soar, Merthyr, gan y Parch J. Thomas, Mr Taiiesin H. Evans, Cefn, a Miss Elizabeth John, Glebeland-street, Merthyr. Boed iddynt hir ddyddiau a dedwyddwch lawer yw dymuniad eu cyfeillion lluosog. DAYIES—MOBRIS.—Medi 15fed, yn nghapel Annibyn- ol yr Albany, Hwlffordd, trwy drwydded, gan y Parch W. Morlais Davies, Abergwaun, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J. Benson Evans, gwein- idog y He, Mr Evan Davies, draper, Anchor House, Abergwaun, a Miss Ruth Morris, merch Mr David Morris, factory, Cwm, Abergwaun. Hir oes, a gwenau nefoedd a daear ar ei hyd fyddo iddynt. MARWOLAETHAU. WILLIAMS. — Medi 12ed, yn 30 mlwydd oed, Mrs Williams, priod Mr Thomas Williams, Windmill- terrace, Abertawy. Hi ydoedd merch henaf Mr Leyson, un o ddiaconiaid Canaan. Bu farw ar ened- igaeth baban, a chladdwyd hi a'i baban yr un di- wrnod yn yr un bedd. Yr oedd yn un o'r gwragedd ieuainc mwyaf crefyddol, ac yn un o'r mamau mwyaf anwyl a gofalus. Taflodd ei marwolaeth brudd-der dros yr holl ardal, ac amlygir y cydymdeimlad dwys- af â'r perthynasau. Bu farw dan bwyso yn hollol ffyddiog ar ei Gwaredwr. Derbyniwyd hi yn aelod gan Dr Jones, Cincinnatti, pan oedd yn weinidocr yn Hermon, ac yn supplyo yn Cannan, a chafodd y fraint o ddilyn yn ffyddlon i'r diwedd. Y dydd Sadwrn canlynol ymgasglodd torfluosog a pharchus, a gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch B. Williams. Gadawodd briod caredig, pedwar o blant bach, a llu mawr o gyfeillion mewn galar trwm. Bydded yr Arglwydd yn dyner ohonynt oil. DAVIES.— iVIedi Sred, Mr Evan Davies, Black Lion Hotel, Talybont, yn 70 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Bethel y dydd Mawrth caniynol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn D. G. Davies, Talybont, a J. Davies, Bethesda. Daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd Ila-xer o rinweddau yn prydferthu cytneriad yr ymadawedig. Yr oedd yn ddyn da, ac er wedi marw y mae yn Ilefaru eto." Yr oedd yn ddyn pwyllog, o farn addfed, ei gynghor yn werth gwrando arno bob amser. Yr oedd yn ddyn tawel, heddychol ei ysbryd, nid oedd yn hoff o gynhyrfiadau, ac y mae eglwys Bethel wedi cael colled wrth ei gladdu, un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd. Bu yn ffydd- Ion iawn gydag achos Iesu Grist yn ei fywyd-bu yn ddiacon am 43 mlynedd, ac yn Ysgrifeny'dd yr Ysgol Sul am flynyddau lawer. Yr oedd ei dy a'i gerbydau at wasanaoth yr eglwys. Yr oedd bob amser yn barod i wasanaethu crefydd. Enillodd iddo ei hun air da. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiadau dyfnion, ac yr oedd ganddo reswm am y gobaith oedd ganddo. Bu yn cerdded am flynyddoedd o Tre'rddol i Taly- bont bob Sabboth, yn rheolaidd yn holl gyfarfodydd yr eglwys. Yr oedd ei egwyddorion yn werth ganddo wneyd aberth er eu mwyn. Nid oedd yn son llawer am ei Annibyniaeth, ond y mae ei fywyd yn siarad yn uwch o lawer na thrwst y rhai sydd yn son yn barhaus am hyny. Y rhinweddau oedd yn pryd- ferthu ei gymeriad a fyddo yn aros yn ei hiliogaeth, ei blant, a'i wyrion ar ei ol. Arosed crefydd yn y tculu, a'r allor gyfododd of fyddo yn aros, a mwg yr aberth yn esgyn yn arogl peraidd ger bron Duw bob dydd. EVANs.-Medi 2il, yn 80 mlwydd oed, Mr William Evans, neu, fel ei gclwid yn gyffredin," William Evan," GyfeiHion, Pontypridd. Ganwyd ef mewn anedd.dj bychan o'r enw Cambridge," yn mhlwyf Pentyrch. Got oedd o ran ei alwedigaeth. Cych- wynodd ei yrfa grefyddol pan tua 37 mlwydd oed yn yr Efail Isaf. Yr nn pryd ag ef derbyniwyd ei briod Serena, yr hon y mae coffa am dani hyd hedd- yw, er wedi ei chladdu er's blynyddoedd fel gwraig dduwiol, o allu meddyliol cryf, a phwyllog. Yr oeddynt yn mhlith y rhai cyntaf i gychwyn yr achoa yno. Yn mhen rhai blynyddoedd symudodd ef a'i deulu i fynu i'r Gyfeillion, tua milltir a baner yr oehr ucbaf i Bontypridd yn Nghwm Rhondda, lie y buont yn cadw siop. Bu hefyd yn cadw y Post Office am dros ugain mlynedd. Cyrchent oddiyno i'r Cymer, ond wedi rhai blynyddoedd gan fod y frawdoliaeth grefyddol yn cynyddu yn y lie, a'r ffordd ychydig yn mhell i'r Cymer, penderfynwyd cychwyn aebos ae adeiladu capel yn yr Hafod. Llafuriodd yn ddiwyd i'w gael i ben, a ohafodd fyw i'w weled wedi tain am dano. Llawenhaai i weled yr achos yn llwyddo, nea bod angen am le mwy na'r "tycyntaf" i addoli. Wedi ei ddechreu awyddai am gael byw ychydig wythnosau i'w weled yn cael ei agor, ond nid felly yr ewyllysiai ei Dad nefol, a pblygai yntau yn dawel i hyny. Yr oedd fel Eli a'i fryd yn fawr ar arch Duw, ac yn neilldnol am ei ffyddlondeb a'i ddiniweid- rwydd a'i dymher arabaidd a hynaws. Cyfansodd- odd ddarnau tyner o farddoniaeth, a gellid ysgrifenu orthygl ddifyr yn cynwys y rhai hyn, a'i hynodion, a'i ddywediadau. Fel henuriad a diacon enillodd air da, a chafodd eglwys Dduw a'r weinidogaeth ef yn ffyddlawn i'w ymddiriedaeth. Cafodd iechyd da drwy ei oes, clafychodd ychydig ddyddiau cyn ei farw, a nos Sabboth yn mhen UgAill mlynedd yn union i agoriad yr addoldy cyntaf gorphenodd eiyifa yn dawel a hyderus. Y dydd Iau canlynol, cludwyd y rhan oedd farwol ohono i fynwent yr Efail Isaf. Dechreuwyd y gwasanaeth yno gan Mr Lewis Lewis (M.C.), myfyriwr o Bodringallt, a phregethodd y Parch J. Williams, Trehafod, oddiar Salm xci. 14-16. Terfynwvd trwy weddi wrth y bedd gan y Parch J. Davies, Tdihirion. Cafodd gladdedigaeth anrhyd- eddus, a gall y rbai sydd yn galaru ar ei ol, alara nid fol rhai heb obaith.
ABERAERON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERAERON. Bu Ysgol Ramadegol y lie nchod, yr hon sydd dan ofal athrawaetb y Parch J. W. Rees, B.A., dan arholiad cleni eto fel arfer. Arholwyd hi cleni gan Proff Lewis, B.A, Bala,iyn y ca> genau canlynol :— Groeg, Lladin, Saesoneg a Chymraeg, ac Euclid, a da oedd ganddo ddwyn y dystiolaeth fod y gwaith a wnaed ynddynt gan y myfyrwyr yn anrhvdedd i Mr Rees. Yr oedd yr atebion oil yn lied gywir, ond fod pedwar yn rhagorol, ac yn tra ragori ar y lleill, sef eiddo D. R. Jones yn y Groeg, D. Williams yn y Lladin (Virgil), J. Llewellyn yn y Gymraeg, a W. L. Owen yn y Saesoneg. Arholwyd hefyd yn Mhum' Llyfr Moses ac EfeDgyl Marc gan y Parch W. O. Edwards, ficer, yr hwn hefyd a roddodd uchel gymeradwyaeth i'r papyrau a anfonwyd i fewn. Dywedai fod ymroad mawr wedi cael ei wneuthur gan Mr Rees, yn ogystal a chan y myfyrwyr, cyn y buasent yn alluog i roddi cystal atebion yn fyr ac i bwrpas i'r gofvniadau. Yr oeddynt yn mhell uwchlaw ei ddysgwyliad. Dydd Gwener, Awst 31ain, daeth lluaws o foneddigesau a boneddigion yn nghyd i gael clywed y result yn cael ei ddarllen, ac yn eu plith yr oedd y foneddiges barchns, Mrs Lewis, Llanaeron, yr hon a gyfranodd lnaws o lyfrau hardd yn anrhegion i'r rhai blaenaf fel cyd- nabyddiaeth iddynt am eu hymroad. Y rhai canlynol oedd y rhai a gafodd eu gwobrwyo ganddi :-D. R. Jones, Talysarn, yn y Gramadeg Groeg a Lladin D. Williams am Virgil W. L. Owen, Llanon, am Spel- ling a Gramadeg Seisonig; J. Llewellyn am yr Essay Cymreig; D. P. Jones, a J. Jones, yr ail, y ddau o Llanddewi-Aberarth, am Euclid; E.Lloyd, Dihewyd, am dictation a'r llawysgrif oreu E. T. Evans, Cei. newydd, am Cassar E. Evans, Aberaeron, am Geo- graphy; O. W. Parry, Llanberis, am y Pnm' Llyfr Moses. Nid oedd gwobrwyon yn cael eu rhoddi am y cangenau ereill a arholwyd. Wedi i Mrs Lewis orphon gyda rhanu y gwobrwyon, cafwyd anerchiad byr a phwrpaso! i'r myfyrwyr, fel anogaeth iddynt i ddal ati eto, gan Mr Edwards, a chefnogwyd Mr Rees yn wresog i ddal yr un mor ffyddlon eto yn y dyfodol, gau fod ei ysgolheigion yn troi allan cystal ac mor llwydd- ianus. Ychydig amser yn ol bu yn II wyddianns i basio deuddeg- mewn daeareg yn y Science and Art Depart- ment. Wedi talu diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i Mrs Lewis am ei phresenoldeb ac am ei charedigrwydd, ymadawodd pawb, feddyliwn, wedi eu llwyr foddloni.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CKUGYBAII.—Nid anenwog yw y lie hwn ar gyfrif y dynion ieuainc, galluog, ac ymroddgar, a godir ynddo i wasanacth y cyhoedd. Mae yn bleser genym weled enw y cyfaill addawol, Mr W. Morgan Williams, Borthyn, wyr i'r diweddar Barch E. Jones, yn mysg y rhai llwyddianus yn y Preliminary Law Examination. Llwyddiant iddo i wasgu ar sodlau ei frodyr hynach yn ffordd defnyddioldeb aC anrhydedd. Yn Ysgol Rama- degol Llansawel-y bu Mr Williams yn parotoi ar gyfer yr arholiad. BucHurAiEA."—GweIIhad newydd a chyflym o boll anhwylderau y lleisw a'r arenau. 4s. Gofynwch am dano i'r Druggists. Prif Swyddfa-L'un tain, No. 1, King Edward-street.