Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA. (CYL'ANSODDLAD NEWYDD). Cynaliwyd Pwyllgor Gweithiol yr athrofa uchod yn y Bla:yr 11 eg cyfisol, a'r Cyfarfod Blynyddol y 12fed. Yn absenoldeb y Cadeir- ydd am y flwyddyn (Mr J. Hughes Jones, Aberdyfi), cymerwyd y gadair yn y Pwyllgor gan Mr N. Ilees, Cacrdydd. ac yn y Cyfarfod Blynyddol gan Mr C. R. Jones, U.H., Llan fyllin. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch T. Lewis, B.A., Prifathraw Mr ,1. Parry, Trysor- ydd Parch T. It. Davies, Ysgrifenydd; Parch W. E. Hughes, Dolgellau Mr W. noyd Parry, Grammar School, Wyddgrug. Arholwyr yr ymgeiswyr, Parchn J. A. Roberts, B.D., Caer- gybi; D. Roberts. Wrexham; O. Thomas. ,v M.A., TrefFynon D. Oliver, Treffynon J. M. Rees, Pentrefoelas H. P. Jenkins, Wern, Ys- talyfera; J. Pritchard, Druid; Mr S. Evans Bangor; Mr D. Ll. Lloyd, U.K., Plasrueim, Ffestiniog Parchn I-1. Jones, Birkenhead O. Jones, Pwllheli; Mri L. J. Davies, Llanuwch- llyn E. Jones, Elgar, Talybont; Parchn T. Roberts, Wyddgrug; J. C. Jones, Penygroes; D. S. Jones, Cana II. W. Parry, Chwarelgoch E. M. Edmunds, Croesoswallt; Mr E. W Evans, Dolgellau Parchn J. M. Jones, Caer- gwrle; R. W. Griffith, Bethel; R. Rowlands, Treflvs; Z. Mather, Abermaw; R. Thomas, Glandwr; Cadben Toy, Fronhculog, Llangoll- en; Mri W. T. Rowlands. Tanycoed; J.. Cadwaladr, Ffestiniog J. J. Jones, Ffestiniog; J. Williams, Manchester, &c. Dechreuwyd yn y ddau eisteddiad o'r Pwyll- gor gan y Parchn II. P. Jenkins, Wern, a J. M. Rees, Pentrefoelas, ac yn y Cyfarfod Blynyddol gan y Parch T. Roberts, Wyddgrug. Dangosai Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gweithiol fod gwaith y flwyddyn wedi bodyn dra llwyddianus yn mliob ystyr. Mae Mr Lewis a'r myfyrwyr wedi mwynhau iechyd rhagorol ar hyd y flwyddyn, a dengys Adroddiad yr Arholwyr, y Parchn J. A. Roberts, B.D., ac O. Thomas, M.A., fod cynydd -tra dymunol wedi cael ei wneyd. Mae y myfyrwyr canlynol wedi ymgy- meryd a gweinidogaethu yn ystod y flwyddyn: —Mr H. W. Parry, yr eglwys yn Chwarel- goch, Bethesda, Arfon; Mr E. M. Edmunds, yr eglwysi Seisonig yn Maesbury, &c., Croesos. wallt; Mr W.O.Owen, yr eglwys yn lcn- ybont-ar-ogwy; Mr J. Evans, yr eglwys yn Nelson, Morganwg. Y mae Mr D. B. Evans yn bwriadu ymsefydlu yn fuan yn weinidog yr eglwys Seisonig yn y Wyddgrug, a Mr D. B. Hughes, yr eglwys yn Connah's Quay a Llan- eurgain. Mae Mr E. E. Roberts hefyd yn debyg o ymsefydlu yn fuan mewn eglwys Gymrcig yu yr Unol Dalaethau. Nid yw y myfyrwyr ereill yr oedd eu tymhor ar ben yn Mawrth diweddaf wedi sefydlu mewn eglwysi, ond y mae tebygolrwydd y bydd iddynt wneyd hyny yn fuan. Fel hyn, gwelir fod y sefydliad yn parhau i wasanaethu yr oglwysi. Derbyniwyd y pedwar ymgeisydd oeddynt wedi eu cymeryd i mewn ar brawf hefyd, a dangosent hwythau eu bod yn gwneyd cynydd boddhaol. Daeth un-ar-bymtheg o ddynion ieuainc i sefyll arholiad am dderbyniad, ac allan o'r rhai hyny derbyniwyd wyth ar orawf. Cyfnewid- iwyd ychydig ar reolau derbyniad myfyrwyr, fel ag i'w dwyn i gyfateb yn well i'r eynydd mawr sydd wedi ei wneyd mewn addysg elfenol drwy y wlad. Teimlai y cyfarfod fod llafur ymroddgar y Prifathraw Lewis yn hawlio iddo well cydna- byddiaeth nag a roddir iddo, a phenderfynwyd codi 925 yn ei gyflog. Diau y bydd hyn yn galondid mawr iddo, gan mai ewyllys y Pwyllgor, ac nid ei ddymuniad efydoedd. Etholwyd rhai i welthredll ar y Pwyllgor Gweithiol am y flwyddyn ddyfodol, a diolchwyd yn gynes i'r Pwyllgor oedd yn myned allan am ei ffyddlondeb. Diolchwyd hefyd yn arbenig i'r Prifathraw, y Cadeirydd, y Trysorydd, yr Archwilwyr, a'r Meddyg (Dr Jones, Bala), am eu gwasanaeth ftyddlon a llafurus. Bydd Adroddiad Blynyddol o'r casgliadau a'r tnnysgrifiad^u allan yn fuan. Mae trefniadau Jlhai cghvysi ydynt yn flyddlawn iawn gyda chasglu yn gyfrywjnas gellir gosod cu casgliact. el au i mewn yn yr Adroddiad eleni. Bydd coffad manwl am eu caredigrwydd yn yr Adroddiad nesaf. Diolchir i bawb sydd wedi cynorthwyo y sefydliad, ac ymdrechir yn barhaus i'w wneyd yn fwy o allu er daioni. Mae y myfyrwyr yn awr ar gychwyn i'w teithiau casglu, ac y mae genym bob hyder y rhoddir iddynt yr un der- byniad caredig ag y maent bob amser wedi ar- fer gael. T. R. DAVIES, Ysg. Blaenau Ffestiniog, Medi 14eg, 1883.
BYR YMWELIAD A'R DEHEUBARTH.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BYR YMWELIAD A'R DEHEUBARTH. Er nad wyf arferol o gofnodi hanes fy ymweliadau a. gwahanol leoedd ac eglwysi, tueddir fi i wneuthur eithriad o'r ymweliad byr a delais yn ddiweddar a, rhyw ychydig o fanau yn y Deheubarth. Gadewais Wrexham, yn nghwmni fy merch ieuengaf, yr hon a ddychwelai i'r coleg yn Abertawy, ar foreu Gwener. Yr oedd yr hin yn hafaidd a hyfryd, ein cyd-deithwyr yn bobl sobr a siriol, a phobpeth o duedd i wneyd yn un ddymunol. Tra yr arosem ychydig yn ngorsaf Hereford, daeth Miss Tucker, un o athrawesau y coleg, i mewn i'r un cerbyd a ni. Mereh ieuanc o Gaerloyw yw Miss Tucker, hynod o foneddigaidd, ac o feddwl cryf a bywiog. Deallwyf ei bod yn athrawes ragorol. Wedi cyrhaedd Rhymney Junction, a chanu yn iach a Carrie, gwelais wyneb siriol fy hen gymydog, y Parch W. Griffiths, yn awr o'r Bargoed, yr hwn nghyda'i nith fechan oedd wedi dyfod i'm cyfarfod. Cefais daith ddymunol heibio i Ysgol Ramadegol Pengam i'r Bargoed, a chroesaw calon gaD Mrs Griffiths a'i mam wedi cyrhaedd yno. Pregethais yn yr hwyr i gynulleidfa hynod o astud. Mae y Bargoed yn liawer prydferthach lie nac oeddwn wedi dychymygu am dano. Mae yn lie cymharol newydd, tai da, a phob arwyddion fod dyfodol llwyddianus iddo. Da genyf weled fy nghyfaill Mr Griffiths a'i bobl mor gysurus, a'r achos mawr yn cynyddu yn eu mysg. Peth pwysig i weinidog yw cael dynion synwyrol a da yn ddiaconiaid. Treuliais y Sabboth yn eglwys henafol Penmaen. Mae amgylchiadau y gymydogaeth hon wedi dirfawr newid er pan y bum yn treulio Sabboth yma o'r blaen, a thrwy hyny y mae rhif y gwrandawyr wedi lleihau gryn lawer. Gwelais fedd fy lioffus gyfaill, y Parch Ellis Hughes, a chyda ei weddw a'i blant ef y gwnaethum fy nghartref yno. Dydd Llun, cefais yr hyfrydwch o fod mewn cyfarfod blynyddol yn Penrhiwceibr, a gwrando yn pregethu ar y Parchn J. Evans, Nelson J. T. Evans, Bodringallt; a D. M. Jenkins, Liverpool. Yr oedd y gwrandawyr yn lluosog, a'r pregethau yn rymus ac eff'eithiol. Cymyd- ogaeth newydd gynyddol yw hon. Mae y capel yn un tra chyfleus, a'r achos, o dan weinidogaeth effro a llafurus fy nghyfaill ieuanc y Parch R. Thomas, yn hynod o lewyrchus. Casglwyd tua chari punt at leihau dyled y capel erbyn nos y cyfarfod. Nos Fawrth, cefais yr hyfrydwch o bregethu yn Mhontypridd, ac er nad oedd y brawd hynaws a charedig, y Parch W. I. Morris, gartref, cefais dderbyniad hynod o groesawgar gan ei bobl, a threuliais ychydig o amser yn hynod o ddedwydd yn eu mys^. Y peth rhyfeddaf o waith celfyddyd a welais yno ydyw y bont fwiiog dros yr afon. Nos Ferclier, ccfais oedfa gysurus a hyfryd yn y Groeswen. Dyma y tro cyntaf i mi dalu ymweliad a'r esgobaeth eang a dedwydd hon, a da iawn oedd genyf gael cylieustra i ffurfio cydnabyddiaeth'a'r gweinidog llafurus, y Parch Tawelfryn Thomas, a'i briod hawddgar, awen- yddol, yr Lon, fel y deallwyf, a ddoillia o linach yr emynwr enwog o Bantycelyn. Boreu dydd lau, treuliais ryw gymaint o amser yn y fynwent wrth y capel—y gladdfa Annibynol ean-af a phrydferthaf yn Nghymru. Yma yr huna torf fawr o rai a fuont unwaith o wir les a bendith i'r byd, ac yn eu mysg luaws o weinid- ogion y Gair, megys y Parchn Walter Thomas, olynydd y Parch W. Wroth, Llanfaches GrifEth I-lughes; Moses Rees; Lemuel Smith, Pentyrch; J. D. Williams, Caerdydd; J. Jones, Ehydri; W. M. Rees, Eglwysnewydd; D. J. Beynon, Llanerchymedd leuan Gwynedd; y prif-fardd Caledfryn, ac ereill. Drwg genyf nad oes un gofgolofn er dynodi y fan lie y gorphwys y diwygiwr boreuol Walter Thomas. Hefyd, y mae beddfaen Lemuel Smith wedi syrthio i gyflwr hynod o druenus, a'r llythyrenau wedi eu cwbl symud ymaith gan fysedd erwm yr ystorm. Gresyn na byddai i ryw gyfaill i'r pregethwr ieuanc atlirylithgar hwn gymeryd ychydig o ofal am ei fedd. Y mae beddfaen J. D. Williams yn gofyn am adnewyddiad, a da oedd genyf ddeall fod aelod parchus o eglwys r Groeswen yn bwriadu talu am lanhau y bedd- faen hwn, yn rgliyda cholofn ardderchog fy nghyd-fyfyriwr a'm cyfaill awenyddgar leuan Gwynedd. Tra yn sefyll wrth fedd y bardd a'r lienor campus leuan,- rhedodd y llinellau canlynol i'm meddwl:— Wrth fedd leuan Gwynedd, rwy'n sefyll ynbrudd Yn nghanol dystawrwydd y meirwon, A dengys y gwlithyn a leitha fy ngrudd Beth ydyw dwys deimlad fy nghalon Mor ryfedd a thywyll yw trefn rasol Daw— Fy nghyfaill yn farw, a finan yn fyw. Fel seren oleuwen yn mynwes y nen Dros dymhor byr, byr, y llewyrchodd, Ond drosto llaw angou a daenodd ddu len, A'i oleu ysblenydd a guddiodd Daeth nos dros ei fywyd, tywyllodd ei wedd- Yn nghanol ei fawredd disgynodd i'w fedd. Dyn gweithgar oedd leuau-ei enaid oedd lawn 0 awydd i wneuthur daioni; Fel bardd a phregethwr, hynodrwydd ei ddawn A ddygai y miloedd i'w hoffi Llafuriodd yn ddiwyd, cyflawnodd Sawr waith, Enillodd enwogrwydd er bered ei daith. Fel gwron dros rinwedd genethod ei wlad, Ar adeg orbwysig y safodd, A chyda medrusrwydd erch ddichell a brad Eu gorwael ddirmygwyr ddynoetbodd A'i enw am oesoedd a swnir mewn serch Drwy Gymru fynyddig gan lawer lan ferch. Mae'r golofn fawreddog addurna ei fedd Yn dyst o'i anrhydedd a'i fawr-lri, Ac yma gorphwysa'i gorff Uuniaidd mewn hedd I aros dydd mawr y cyfodi Ac os g-well" finau drwy ras yn y nef, Bydd melns c..cl yno gyfeillach ag ef. Wedi canu yn iach a. Tawelfryn a'r Groeswen, treuliais ychydig amser yn mysg adfeilion hen Gastell Caerphili, ac yn yr hwyr pregethais yn Ebenezer, Caerdydd. Mae yr achos crefyddol yn ymddangos yn dra llewyrchus yma. Der. byniwyd amryw i aelodaeth eglwysig y noson hono. Tcilynga Caerdydd gael ei galw yn brif dref Cymru. Dydd Gwener, treuliais rai oriau gyda'm cyfeillion caredig yn y Bargoed, ar fy nhaith i Fochriw, lie y pregethais yr yr hwyr. Bum yn dra chysurus yno gyda Mr Jones, masnachydd, a'i deulu caredig. Dydd Sadwrn, ar ol crwydro ychydig ar hyd y bryniau gyda'r meddyg ieuanc addawol Dr Davies, troais fy ngwyneb tua Hirwaun, lie y treuliais y Sabboth gyda chyfeillion y Taber. nacl. Mae yr achos newydd hwn yn llawn gweithgarwch, y gwrandawiad yn dda, a'r canu yn swynol dros ben. Teimlwyf yn ddiolchgar i Mr T. Phillips a'i deulu am eu mawr garedig- rwydd. t, Boreu dydd Llun, cefais yr hyfrydwch o dreulio peth amser yn nghyfeillach y Parch D. M. Lewis, M.A., mab fy nghyd-fyfyriwr y Parch E. Lewis, Brynberian. Dedwydd yw y tad sydd wedi ei fendithio a'r cyfryw fab. Nos Lun, pregethais yn Penrhiwceibr, a derbyniais garedigrwydd y Parch R. Thomas a'i briod hynaws a siriol. Dydd Mawrth, dychwelais adref, wedi mwyn- hau fy hun yn fawr ar y byr ymweliad hwn a'r Deheubarth. IEUAN o LEiN.
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. MICHAELMAS TERM, 1883. ENTRANCE EXHIBITIONS. 1. II. W. Hughes (Cwm Rhondda), private study. 2. J. Owens, The Commercial School, Aberystwyth. 3. H. White, The Grammar School, Aberystwyth. 4. J. Morgan, Ardwyn School, Aberystwyth. ARDWYN SCHOOL SCHOLARSHIP. Evan Evans, Ardwyn School. E. P. JONES, Registrar. September 18,1883.