Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Cynwysiad. 1
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. 1 Hysbysiadau 1, 2 Ymylon y Ffordd 3 Athrofa Annibynol y Bala 4 Newyddion Cyffrediuol-Llawer mewn Ychydig 5 Myned i'r Undeb-Dau Sabboth gyda'r Saeson 6 Morgans, Saiftmah "—Dowlais—Llanelli 7 At ein Gohebwyr—Yr Wythnos 8 Mesurau Dyfodol 9 Llith o China oddiwrtb y Parch W. Owen 10 Gohebiaethau 11 Adolygiad y Wasg 12 Hysbysiadau 13, 14, 15, 16
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Arfoniwr.—Dichon bellach mai cystal gadael pethau fel y maent. Ar yr un pryd dylech gofio fod yn an- mhosibl i ddynion gan ea llygaid rhag gweled dylan- wadan pendefigol ac Eglwysig mewn amgylchiadau o'r fath. Os na ddaw peryal o'r cyfeiriad a ofnir, goren oil, ond byddai yn barion i'r Ymneillduwyr gadw eu llygaid yn agored. iJiT Mae amryw wedi anfon atom i ymofyn, pa beth Bydd wedi dyfod o Watcyn Owain P" Dymuna yr awdwr arnom ddywcyd, fod ganddo ychwaneg o'i hanes, ac y cyhoeddir y gweddill mewn nifer o ben- odau cyn diwedd y flwyddyn bon. Undeowr.-Mae y mater yn un cynil iawn i'w drafod trwy y Wasg. Nid oes yr un ddeddf yn erbyn yr byn a awgrymwch, ond pe dadlenid ef yn ein colofn- au, dichon y tybiti rhywrai ein bod yn gwneyd hyny yn ffafr person neu bersonan neilldool. Gwell i chwi a'r "lluaws cyfeillion y dywedwch sydd yn cydym- deimlo a. chwi ddyfod i ddealldwriaeth A'ch gilydd, a gwneyd y gwaith yn ddystaw a didwrw; ond dylech fod yn sicr fod addfedrwydd lied gyffredinol cyn gwneyd dim. Ysgrifenydd Eglwys yrJLber.—Pa sawl gwaith ydych am i'r Hysbysiad ymddangos r Is. 6c. fydd y pris am unwaith, a Is. am bob tro ychwanegol. Un o blant Saron.-Yr ydych yn gwneyd cam ag awdwr yr ysgrif pan yn dyweyd mai cyfieithiad yw o'r Merthyr Express. Yr oedd yr ysgrif yn ein swyddfa wythnos o leiaf cyn iddi ymddangos yn y papyr hwnw, a diffyg lie ydoedd y rheswm na buasai wedi ymddangos yr un wythnos. Ymwelydd t'r lle.-I'r fasged, gan na ddarfu i chwi ymddiried i ni eich enw priodol a'ch cyfeiriad. Evan Felix.—Yn ein nesaf. Meivn Llaw.—Menai Bridge-Caerphili-Aberafon- LIandilo-Penclawdd-Cyfarfod Ymadawol y Parch D. M. Lewis, M.A., Hirwaun-Cyfa, fod Ordeinio yn Nahwmparc Chwarel Goch Bargoed Porth- dinorwig-Marwolaeth Mr O. Picton Davies, Aber- teifi-Talgartb-LIythyr oddiwrth y Parch Morris Thomas, o'r India—Cyfarfodydd, &c., &c.
« PEN Y CHWARTER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
« PEN Y CHWARTER. Gyda'r Rhifyn hwn o'r TYST anfonir y biliau am y chwarter sydd yn diweddu yr wythnos hon. Dymunir ar ein derbynwyr wastadhau eu cyfrifon gyda'r Dosbarthwyr, fel y gallont hwythau wastadhau eu cyf- rifon gyda'r Cyhoeddwr. Mae rhai o'n Dosbartbwyr heb dalu dim er's blwyddyn; ac ni anfonir y papyrau iddynt yr wythnos nesaf os na fyddant wedi anfon tal i ni er- byn wythnos i heddyw. Hyn o eglurhad i'r Derbynwyr os na dderbyniant y papyrau oddiwrth y Dosbarthwyr. Medi 26ain, 1883. Y CYHOEDDWR.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY JLJ' 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. KING'S HEAD, ST. CLEARS. SALE OF LIVE STOCK, HOUSEHOLD FURNITURE, BREWING UTENSILS, &c. MR GRIFFITH THOMAS has been instructed to SKLL BY AUCTION, at the above place, on Friday, September 28, 1883, the following Live Stock, Household Furniture, and other Effects, the property of Mrs Margaret Thomas, who is retiring from business consisting of 5 Milch Cows, 1 Heifer, 2 Calves, 5 Pigs a quantity of Household Furniture, comprising Mahogany and other Tables, Mahogany Hair-bottomed Chairs, Dressing Table and Washstand, Iron and other Bedsteads, Mattress, Looking Glass, Cupboard, Jugs, Ware, Roasting Jack (quite new), Books, Tea Trays, Beer Casks, Taps, and all Brewing Utensils; Churn, Butter Tub, Buckets, Ladders, &c. Sale to commence at 1 p.m. punctually. Credit or conditions. Bishop's Court, St. Clears, September 11th, 1883.
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. Diwedd yr wythnos ddiweddaf, bu farw yn ngorsaf yr heddgeidwaid Ruabon watch- maker o Liverpool, a dydd Sadwrn cladd- wyd ef yn y rhan gysegredig o gladdfa gy- hoeddus y lie heb un math o wasanaeth crefyddol. Nid oedd neb yn bresenol ond yr undertaker a'r torwr beddau. Cyfarfu y Bwrdd Claddu yn union, a phenderfynwyd galw sylw Bwrdd y Gwarcheidwaid at y mater. Ceir clywed rhagor am hyn eto. Cyrhaeddodd Mr a Mrs Gladstone orsaf Caer ychydig wedi saith o'r gloch nos Sadwrn diweddaf. Er na wyddai yr awdur- dodau gyda pha gerbydres y deuai, yr oedd canoedd o ddynion yn yr orsaf yn ei ddys- gwyl, a derbyniwyd ef gydag arwyddion di- gamsyniol ei fod yn ddwfn yn serch y trig- olion. Ymddangosai yn gryf ac iach fel un parod at waith, ac nid fel un yn plygu o dan faich 74 o flynyddoedd. Yn nghyfarfod Pwyllgor Eisteddfod ddi- weddaf Caerdydd, dydd LIun diweddaf, mynegodd Mr D. Tudor Evans, yr ysgrifen- ydd, y byddai i dreuliau a derbyniadau yr Eisteddfod fod tua X4,500, gyda gweddill bychan, ond nid oedd sicrwydd am hyny, gan fod y cyfrifon heb eu cwblorphen. Mae sefyllfa pethau yn well na'r dysgwyliad ar y dechreu, pan y taenwyd y gair y buasai diffyg o LI,500 neu £ 2,000. Bendithion anmhrisiadwy i'r wlad yw sefydliadau meddygol cyhoeddus, ac yn ar- benig y rhai sydd ar gyfer doluriau ac an- hwylderau neillduol. Pum' mlvnedd yn ol, sefydlwyd yn Abertawy Eye Hospital, a dywed yr adroddiad am y deuddeg mis fod 961 o ymgynghoriadau wedi cymeryd lie, 442 wedi derbyn triniaeth feddygol, a bod 51 o operations wedi eu cyflawni. Oni buasai sefydliadau fel hyn, nis gallasai y mwyafrif o'r dyoddefwyr gael cymhorth meddygol o gwbl. Collodd dyn ei fywyd y dydd arall mown ffordd erchyll. Ymddengys ei fod am fyned gyda'r trcn, a'i fod yn ddiweddar. Pan welodd fod y tren yn dyfod, rhedodd a'i holl egni; a chan fod rhes faith o risiau yn ar- wain i'r orsaf, methodd a sefyll ar waelod y grisiau, a throsodd yr aeth i'r rheilffordd ar hyny yr oedd y peiriant ar ei warthaf, a chwalwyd ef o dan yr olwynion. Ymddengys fod offeiriad Pabaidd o'r enw John Banks wedi dianc o Liver- pool yn ddiweddar i'r Cyfandir, fel y tybir. Yr oedd yn ddyn o ddylanwad mawr, ac o ymddiriedaeth yn y cylch y troai yn- ddo. Yr oedd yn ei feddiantZSOO a berth- ynent i ysgol oedd o dan ei ofrl. Wrth gwrs, aeth a'r £ 800 ganddo, a dywedir ei fod wedi cymeryd merch ieuanc i fod yn gydymaith iddo i gydfwynhau yr ysbail. Cyfarfu Cynghor y Brifysgol yn Nghaer- dydd y Llun diweddaf i berffeithio y trefn- iadau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs Dr Hoggan yn gosod allan y priodoldeb o gael boneddiges neu ddwy ar y Cynghor ond gan fod y trefniant yn ei berthynas a'r Cynghor yn derfynedig, nis gallesid dilyn ei hawgrym. Derbyniwyd cynygiad Prifysgol Llundain, fod arholiadau y matriculation i gael eu cario allan yn Nghaerdydd fel un o'r canolfanau. Gohiriwyd eto benodiad Pro- ffeswr Germanaidd, ac apwyntiwyd Dr J. W. James, Bristol, yn demonstrator mewn Fferylliaeth. Nid oes prawf eglurach o fod y wlad hon yn rhy lawn o drigolion, na'r ffaith fod cy- nifer o ymgeiswyr yn rhuthro yn union am bob swydd a lie geir yn wag, hyd yn nod am y swydd o grogwr cyhoeddus. Dywedir fod dros 1,200 o ymgeiswyr am y swydd hon. Mae y dewisiad wedi ei ymddiried i Uehel Sirydd Llundain ac Uchel Sirydd Middlesex. Tynwyd y nifer i lawr gan- ddynt i 20, yna i 5, ac yn awr y mae y gystadleuaeth am y rhaff angeuol rhwng y pump hyny. Beth na wna dynion am arian ? Mae Mr Shaw a'i briod, y cenadwr a gymerwyd i'r ddalfa gan Lyngesydd Ffrainc yn Tamatave, wedi cyrhaedd Llundain, ac mewn cyfarfod a gynelir dydd Iau yn Exeter Hall, ceir o'i enau ef ei hun hanes gweithrediadau y Ffrancod yn Madagascar, pa drosedd proffesedig a gyflawnodd efe, am yr hwn y cymerwyd ef yn garcharor i un o longau rhyfel Ffrainc, pa driniaeth a dder- byniodd tra yn y ddalfa, a pha fodd y cafodd ei ryddhad. Yr oedd Mrs Carey a'i phlant, a'r tystion yn achos O'Donnell, llofrudd James Carey, yn yr un llong. Nid dymunol i'w teimladau yn ddiau oedd cael cwmni y fath deulu ar eu mordaith, ond ni fydd hyny yn anfantais i boblogrwydd y cyfarfod yn Exeter Hall. Gwnaeth Llyngesydd Ffrainc weithred oedd yn drosedd yn erbyn Mr Shaw ei hun, yn erbyn Cymdeithas Genadol Llundain, ac yn erbyn Llywodraeth Prydain, a gelwir ar Lywodraeth Ffrainc i wneyd iawn i'r naill a'r Hall. Hawlia Mr Shaw iawn am garchariad anghyfreithlon hawlia y Gymdeithas ad-daliad am y golled a wnaed iddi trwy garchariad Mr Shaw, a'r draul afreidiol achosodd hyny iddi; ac y mae gan y Llywodraeth air i'w ddyweyd y wrth Ffrainc am daflu ohoni i garchar un o'r deiliaid Prydeinig. Dysgwyliwn am ad- roddiad Mr Shaw cyn pasio barn. Bydd yn llawenydd gan ein darllenwyr ddeall fod ein cydwladwr enwog, Mr Henry Richard, A.S., wedi derbyn lies mawr drwy ei ymdaith ar y Cyfandir, a'i fod yn cael ei anrhydeddu yn mhob man ar gyfrif ei lafur diflino o blaid cyflafareddiad cydrhwng- cenedlaethol yn lie rhyfel. Mewn cynadledd a gynaliwyd ar y mater yn Milan, yr ail wythnos o'r mis hwn, darllenodd Bapyr galluog yn dangos cynydd yr egwyddor yn mysg gwahanol genedloedd, yr hwn a dderbyniwyd gyda brwdfrydedd. Yn y flwyddyn 1873, pan ar ymweliad a Milan ar yr un neges, anrhydeddwyd ef a gwledd ardderchog gan brif foneddigion y ddinas. Ar y 13eg o'r mis hwn, cyhoeddodd un o brif bapyrau y ddinas ddarlun ohono, a dywed ei fod fe ddichon yn crymu ychydig yn fwy nag ydoedd yn 1873, ond fod ei yni, tan ei galon a'i dafod, a'i ffydd yn y da a'r gwirioneddol yn aros. Cyflwynwyd iddo Anerchiad gan Freemasons y ddinas, yn yr hon y datganant eu cydymdeimlad llwyraf ag achos heddweh, ac y sicrhiiut ef y gall gyfrif eu boll frawdoliaeth fel ei gymdeith- ion a'i ddysgyblion. Wrth ddychwelyd o Itali, bwriada Mr Richard dalu ymweliad it Paris, i gael cydymgynghoriad a chyfeillion heddwch yno. Dysgwylir y dychwel i Lundain tua diwedd y mis hwn. Derbyniwyd writ am etholiad Man- chester boreu dydd Mawrth diweddaf. Y mae y Maer wedi penderfynu ar ddydd Sadwrn nesaf fel dydd yr enwi, a dydd Iau am y pleidleisio.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
—- +. I^TRhoddircyfarwyddiadau e^lur gyda'r Diamond Dyes at lifo Mwswgl, Gwellt, Wyau, Ifoti, Gwallt, &c. 6c. Cedwir hwy gan Fferyllwyr.