Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MESURAU DYFODOL.

YI YSGOL SABBOTHOL.

CWM RHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWM RHONDDA. Cyfarfod Pregethu Bodringallt.—Cynaliwyd yr uchod ar yr 8fed, y 9fed, a'r lOfed cyfisol, pryd y gwasanaethwyd gan Mr Thomas, Merthyr; Mr Thomas, Groeswen; a Mr Rees, Aberdar. Caf- wyd cynulliad lluosog iawn, ac yr oedd y pregethu yn rymus a dylanwadol. Ymddengys fod yr eglwys hon yn gwneyd ymdrech arbenig eleni i dynu i lawr ran o'i dyled drom. A gallwn feddwl wrth yr argoelion y llwydda yn ei hymdrech. Mae golwg ddymunol a llewyrchus ar yr eglwys hon, a phob peth yn dyweyd fod Mr Evans yn ei le. Oyfarfod Pregethu Carmel, Treherbert.-Cynal. iwyd hwn ar yr 16eg a'r 17eg cyfisol. Gwasan- aethwyd ynddo gan Mr Jones, Merthyr, a Mr Hough, Merthyr. Yr oedd arogl esmwyth ar yr holl wasanaeth. Mae eglwys Carmel yn ystyried ei hun yn fam i eglwysi Annibynol rhan uchaf y Cwm, ac mae golwg batriarchaidd arni. Mae yn dirf ac iraidd, ac yn adnewyddu ei nerth fel yr eryr. Llwyddiant iddi, ac i'w gweinidog llafurus. Cyfarfod Pregethu Trewilliam.-Cynaliwyd hwn eto yr un dyddiau, pryd y gwasanaethwyd gan Mr Evans, Llangynwyd, a'r "Efengylesau." Yr oedd myn'd anghyffredin ar bobpeth yno. Byddai yn burion i mi ddyweyd yma, fel rhwng crom- fachau, i'r "Efengylesau" hyn, yn cynwys hefyd Miss Cranogwen Rees, fod yn Treorci yr wythnos bon yn cynal cyfarfodydd diwygiadol. Yr oedd y cynulliadau yn Iluosog iawn; felly y clywais. Ac mae yn debyg iddynt ddal llawer—"rhai da a rhai drwg." Hyderwn nad aiff llawer yn ol eto i'r llyn. Ond mae y rhai drwg yn sicr o fyn'd o ran hyny. Tafler hwynt yn eu hoi, Dyna wnaed gynt. Cyfarfod Pregethu ac Ordeinio yn Cwmparc.—Yr 16eg a'r 17eg cyfisol, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan Mr Jones, B.A., Aberhonddu; Mr Evans, Melincrythan; Mr Williams, Merthyr; Mr Jones, Mynyddislwyn a Mr Williams, Brynmawr. Yn nglyn a'r cyfarfod am 2 o'r gloch dydd LIun, cyn- aliwyd cyfarfod urddo Mr>To Da vies, o GolcgAher- honddu, yn weinidog yr eglwys. Yr oedd yn bresenol Jones, Aberhonddu Williams, Merthyr Rees, Treherbert; Evans, Melincrythan Morris, Ton; James, Porth; Davies, Treorci; Jones, Mynyddislwyn; Jones, Ferndale (Seisonig) Jones, Tynewydd Roberts, Nantymoel; George, Dinas; Edwards, Treorci; Henry, Maerdy; Davies, Tynewydd Mr Williams, Brynglas Mri Davies a Price, Aberhonddu; Griffiths a -Rees, Caerfyrddin; Evans, U.C.W., &c. Yr oedd fod cynifer yn bresenol yn dangos fod eglwys ffyddlon Cwmparc a'i gweinidog ieuanc yn anwyl iawn yn serch 11 u mawr. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr Rees, Treherbert. Holwyd y gofyniadau arferol a'r arwyddion, &c., gan Mr Morris, Ton. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr Roberts, Nant- ymoel. Rhoddwyd siars i'r eglwys gan Mr Jones, Tynewydd, a siars i'r gweinidog gan Mr Jones, Aberhonddu. Mae Mr Davies yn dechreu ei wein- idogaeth dan amgylchiadau cysurus iawn-yn mynwes ei eglwys, a hono yn un o'r rhai mwyaf egniol a ffyddlon yn y Cwm ac mae yn sicr y ceir gweled arwyddion buan fod Mr Davies yn taio i'r lie. Bendithied Pen mawr yr eglwys yr undeb a llwyddiant mawr. GOHEBYDD.

CEUGYBAR A LLANSAWEL.