Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

GWALLAU JEITHAWL POBLOGAIDD.

All BEN Y TWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

All BEN Y TWR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONRDDIGiox,-Wedi hir ddystawrwydd a llonydd- weh i chwi drafod helyntion senoddol, colegol, eistedd- fodol, a Chyfarfodydd Undebol, y mae arnaf awydd blino dipyn arnoch eto yn awr ac eilwaiih. Yr hyn a'm tarawodd a. synedigaeth y dydd o'r blaen ydoedd gweled dau genad hedd DRANOETH Y FBWYBR. Yr oedd eu hymddangosiad yn tynu sylw pawb o'r bron, a chawsant gydymdeimiad y inwyafrif o ddigon. Nid oedd eisieu bod yn sylwedydd craffus iawn i we'ed ci bod yn galed anaele arnynt, oblegid yr oedd ou gwynebau chwyddedig yn greithiau a ddygasai brofion diamheuol ojgreulondeb y frwydr. Ymosodwyd ar y ddau genad yn hollol gowardaidd. Nld ydyw hanes gweithrediadau yr Invincibles eu hunilin yn amlygti mwy o ddicliellion cyfrwysddrwg a dialeddol nag yd- ocdd eiddo y gelynion dan sylw ar y ddau genad hedd. Meibion tangnefe-d ydynt hwy, a chenadwri yn llawn tangnefedd sydd garcldynt yn wasfcadol er hyuy, ym- osodwyd arnynt mewn lie dyeithr pan oeddynt yn dcithwyr a phererinion mewm cymydogaeth cstronol. Ymosodwyd arnynt pryd nad oedd declaration of war wedi ei gyhoeddi, riac unrhyw arwyddion am y fatli both felly yr oeddynt yn hollol amddifad o alia irn. dditlynol. Gwahoddwyd hwy i orphwys ac i adenill riprth, wedi cerdded i-iilldirocdd lawer i amcatiion nad oes gan angyliou y nofoedd deilyngaeh ac anrhydeddus- ach gwaith, sef gwasanaethu y Brenin mawr yn Efengyl ei Fab. Wedi i'r ddau gonad ymddiosg a pbarotoi cyflwyno eu hunain i freichiau hynaws cwsg, buan yr argyhoeddwyd hwy eu bod yn nghanol gwrthryfelwyr ymosodol a digofus. Amgylehynwyd hwy gan gatrod- an cryfion a phrdiadoI yn y gwaith o ddefnyddio eu harfau gwaedlyd. Yr ooddent wedi ymlarld llawer brwydr ar y macs hwnw o'r blaen. Barnai y ddau genad fod y reserves i gyd wedi en galiv allan, a'r pen- sioners hefyd, gan amledd eu rhif. Bu yn frwydro ffyrnigwyllit o'r cychwyniad i'r diweddlad, a gweil o lawer iawn oedd di"-ed(liad peth na'i dcloc!rouail yii y cyaylJtiad yma. Tystiolaetha rhai ddylasai fod yn gwybod fod swn symudiad y catrodau yn marchio i'r frwydr i'w glywed yn eglur^ry papyr a hongiai yu llac ar furiau yr ystafell. Buodd y ddau genad yn ceisio amddifl'yn eu forts yn ddewi, gan ddefnyddio pob tactics hen a diweddar, o amser Hannibal yn ar- wain byddinoedd Carthage hyd Syr Garnet yn Tel-el- Kebir ond nid oodd dim yn tycio-y gwylliaid coch- ion a fuddugoliaethai. Gwelai y ddau genad weithian fod ymladd A, hwy yn troi allan yn hollol aflwyddianus, er colli llawer o waed o bob ochr. Penderfynwyd codi a ffoi o diriogaethau y gelyn a'r ymddia'ydd, oblegid yr oedd dyfod i gytundeb hedd weh allan o'r cwestiwn yn awr. Nid yn hir y buwyd cyn cael allan fod eisieu gofal a phwyll i wneyd hyny hefyd, oblegid nid oedd defnydd goleuni arfaes y frwydr. Yr oedd yn rhaid i un o'r ddau genad wrth spectol, am ei fed yn anffodus yn methu gweled yn mhell ond buan yr argyhoeddwyd ef fod rhai o'r cadfridogion wedi cymeryd ei spectol i fod yo field glass er gwylio a chomandio yn yr ym- drechfa galed. Yr oedd gan y cenad arall nythgod (satchel) byehan i fod yn yr ystafell, ond metliai ei gael He yr oedd wedi ei adael. Ond wedi liir chwilio daethpwyd o hyd iddo, yn cael ei Insgo ymaith gan ysbeilwyr rliytel. Cafwyd y spectol hefyd wedi hir fanylu, ond yr oedd gwaith mawr gwneyd arni cyn iddi ddyfod mor wasanaethagar ag yr arferai fod cyn y frwydr. Onid ydyw yn ddifrifol o both fod dynion yn cael eu harwain i'r tath Ie i gael eu cigyddio gan y fath cannibals sydd yn cael eu cenedlu a'u magu yn Hoches- feydd budreddi a egoulusir eu glanhau gan fenywod a ymhonant eu bod yn housekeepers, pryd mewn gwirion- odd ydylasent alw ca hunain yn bug breeders and preservers. Dywedir mai y modd y difawyd y bloidd- iaido'r wlad hon oedd drwy wobrwyo yr hwn a ddygai benglog blaidd a, swm penodedig o arian. Yr oedd un o'r ddau gonad mewn awr wan yn y frwydr yn dyweyd y dylasai pob gwraig a wahoddasai ddynion dyeithr i ffau'r gwylliaid cochion i goll ei phen ond yr'oedd yr olwg siriolwcdd a wehtis arno y dydd o'r blaen yn dyweyd y buasai yn mhell o gynorthwyo cario y ddeddf i wcithrediad. Os ydyw yr Indiaid wedi penderfynu difa y dywalgwn a'r creaduriaid rheibus am eu bod yn ysglyfaethu a'u poeni, paham, yn ol yr un egwyddor, na cbyfyd pob housekeeper i ymlid y gwylliaid pig- yddol hyn allan o'r byd ? Gwelais a chlywais genad hedd y dydd o'r blaen na fuasai y chwilod uchod yn poeni dim arno. Ei enw ydyw PHONOGRAPH. Y maoe' yn myned dros y wlad tie ei gwahoddir "yn gy faiII" i'r Parch J. Davies, Abercwmboy, a rhyng- ddynt ill dau y maentyn gwneuthur pcthau anhygoel. Nid ydyw y cyfaill" byth yn colli ei gwsg, na chael gwely damp, na tlieimlo dim oddiwrth golynau y gwylliaid, na dim o'r cyfryw. Dywedodd un ganoedd o llynyddoedd yn ol, er fod "cymaint ysgatfydd o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar." Yn mhhth y gwahanol ryvvogaethau yna y mae'r cyfaill," ac y mas yn mhell o fed yn aflafar. Clywsom ef yn bloeddio morswynol a hyglyw fel y dygid yr Hen Flaenanerch I'n cof. Y mae gan y eyfaill ei adnodan dewisedig i'w bloeddio, megys, Dyrebafaf fy Ilygaid i'r mynyddoedd, o'r lie y daw fy nghymhorth. Fy nghymhorth a ddaw oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear." Hefyd dywedai, Anwl cariadus brodyr," gyda holl nicety a refinement Seisonigyddiaeth curadyddiaeth mwyaf defosiynol yr oes. Clywsom ef hefyd yn canu yn soniarus, Bydd myrdd o ryfeddodau," &c., ac 0 gariad,'O gariad," & gyda chymaint o wyliadwriaeth a phe buasai o dan arweiniad Tanymarian. Yr amean teilwng sydd gan Mr Davies a'i gyfill ydyw talu y ddyled drom sydd ar gapel prydferth Abercwmboy ac er cyrhaedd yr amcau y maent wedi derbvn llawer o gefnogaeth a sirioldeb haelfrydig, a hwythau, hyd y clywais i, yn rhoddi cyflawn foddlonrwydd yn mhob lie yr ymwe'ant ag ef. Yr wyf yn gweled wrth yr ystorm yn y Western Mail fod ESGOB LLANDAF wedi tynu dosbarth lluosog am ei ben oherwydd iddo wrthod caniatau etholiad un Mr Sparling i fywioliaeth Pontfaen (neu Bont-y-lon). Edliwia rhyw Sais yn chworw i'r Es\(ob Lewis ei fod yn cael ei lywodiaethu gan ragfarn cenedlaethol; olld ymddongys i mi mai I teimlad cenedlgarol a chrefyddgarol sydd amlycaf yn y golwg. Pa synwyr sydd mewn iieillduo dyn i was- anaethu yn mhethau cysegredig crefydd yn mhlith dynion nad oes unrhyw gydrhywdeb cydrhyngddo a'r bobl mewn iaith a thoimlad ? Chwareu teg i'r Esltob Lewis gobeithio y caiff nerth i amddiffyn iawnderau y rhai sydd o dan ei ofal yn ddewr hyd nes y dug Mr Dillwyn farn i fudduKoliaeth yn Nadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth, ac y rhoddir i'r bobl lais aeawdurdod i etbol y sawl a ddewisont i weinyddu yn y pethau sanctaidd. Hyd hyny, Hold the fort, Bishop Lewis, we are coming.—Yr ei,,docii, &c., SYLWEDYDD.

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.

Y BEIBL YN YR YSGOLION DYDDIOL.