Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

Advertising

.WYDDGRUG.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WYDDGRUG. Cyfarfod Blynyddol. — Dydd Sabboth, Medi 23ain, cynaliodd yr eglwys Seisonig yn y lie uchod ei chyfarfodydd blynyddol, pryd y cymer- wyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch H. Elvet Lewis, Buckley, a Mr Hywel Cynon, Aberdar. Cyfarfod Ordeinio.- Y Llun dilynol, cymerodd cyfarfod ordeinio Mr D. R. Evans, o Goleg Anni- bynol y Bala, yn yr un eglwys. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch Owen Thomas, M.A., Holy- well. Traethwyd ar natur eglwys gan Profl Lewis, B.A., Bala. Gofynwyd y gofyniadau gan y Parch H. Elvet Lewis, pa rai a atebwyd yn gryno ac effeithiol gan Mr Evans. Offrymwyd yr urdd- weddi gan y Parch H. J. Haffer, Wrexham, a rhoddwyd siars i'r gweinidog gan y Parch D. B. Hooke, Llundain. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddua, pryd y cadeiriwyd gan Mr C. Rocke, Wrexham. Dechreu- wyd y cyfarfod gan y Parch W. Gwilym Rees, Flint. Cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd, a'r Parchedigion canlynol :—J. H. Hughes (lenan o Leyn), Wrexham; W. Tiller, Wrexham; D. B. Hooke, Owen Thomas, M.A., E. M. Edmunds, Oswestry a H. Elvet Lewis, Buckley, Gorfod- wyd amryw o'r brodyr i ymadael cyn bod y cyfar- fod drosodd, er mwyn dal y tron i fyned i Chester, Wrexham, &c., ac yn eu plith y Cadeirydd, pryd y llanwyd ei le gan y Parch Roger Edwards, Mold. Rhoddodd Hywel Cynon ddwy g&n deilwng ohono ei hun yn y cyfarfod cyhoeddus. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Miss Edwards a Mr J. H. Adams. Cafwyd lunch am un o'r gloch, a thd am haner awr wedi pedwar, pryd y cafodd y dyeithr- iaid a phawb eu gwala a'u gweddill. Yr oedd amryw o weinidogion yn bresenol heblaw y rhai a gymerodd ran yn y gwasanaeth, a myfyrwyr o Goleg y Bala. Cafwyd oyfarfodydd ardderchog o'r dechreu i'r diwedd, a naws nefolaidd ar yr holl ymwneyd. Arosed Duw yn ei dangnefedd a'i gariadgyda'n hanwyl frawd yn y lie. B. R.

CWM RHONDDA.

O'M LLYFRGELL.